CPAT logo
Cymraeg / English
Tirwedd Hanesyddol
Dyffryn Llangollen
Map o’r ardal cymeriad hon
Mwy Ffotograffau

Nodweddu’r Dirwedd Hanesyddol

Dyffryn Llangollen: Dinbren
Cymuned Llangollen, Sir Ddinbych, a Chymuned Wledig Llangollen, Wrecsam
(HLCA 1149)


CPAT PHOTO 1766-315

Ardal gymharol anghysbell o ffermydd gwasgaredig a choetir ar ffin Mynydd Eglwyseg, gydag olion chwarelu a mwyngloddio ar ddiwedd y 19eg ganrif a dechrau’r 20fed ganrif.

Cefndir hanesyddol

Mae darganfod bwyell socedog o’r Oes Efydd Hwyr ar Fron Fawr yn awgrymu defnydd tir cynnar ac efallai clirio coetir yn gynnar. Roedd yr ardal yn rhan o deyrnas ganoloesol gynnar Powys ac, o yn ddiweddarach yn y 12fed ganrif, roedd yn rhan o gyfran ogleddol ar wahân o’r deyrnas a elwid Powys Fadog. Ar ôl i’r Brenin Edward orchfygu Cymru ar ddiwedd y 13eg ganrif, roedd yn rhan o arglwyddiaeth mers Swydd y Waun. Ychydig sy’n hysbys am hanes y defnydd tir a’r anheddu yn y cyfnod cynhanesyddol diweddarach a’r cyfnod hanesyddol cynnar, er ei bod yn amlwg o Extent of Chirkland bod nifer o grwpiau teuluol yn ffermio’r ardal erbyn diwedd y 14eg ganrif. Roedd cynnyrch amaethyddol yn ystod y cyfnod hwn yn cynnwys magu moch, defaid a geifr, a thyfu ceirch, ac mae’n siwr bod y ffermwyr hefyd yn ymelwa ar borfeydd haf yr ucheldir ar Fynydd Eglwyseg, yn ogystal â phorfeydd is a mwy cysgodol y gaeaf yn y dyffrynnoedd. Fe barhaodd yr ardal i fod yn gymharol anghysbell, gyda ffermwyr rhyddfraint yn ei ffermio i raddau helaeth, er gwaethaf twf ffermio stad mewn ardaloedd cyfagos yn y 17eg a’r 18fed ganrif. Disgrifiodd Thomas Pennant ddyffryn Eglwyseg yn ei lyfr A Tour in Wales, a gyhoeddwyd ym 1783, gan ddweud ei fod wedi ei ‘adapted only for the travel of the horsemen’ a’i fod ‘chiefly inhabited (happily) by an independent race of warm and wealthy yeomanry, undevoured as yet by the great men of the country’. Mae eglwys ganoloesol yn Eglwyseg wedi’i nodi ar fapiau Saxton a Speed o’r 16eg a’r 17eg ganrif, ond mae’n ymddangos bod hon wedi diflannu erbyn 1808. Agorwyd ysgol-eglwys y Santes Fair, Eglwyseg, ym 1871 ac mae bellach wedi’i throsi yn annedd. Roedd capel Methodistiaid Calfinaidd hefyd yn bodoli i’r gogledd o Blas yn Eglwyseg yn y 1870au, sydd bellach yn adfeilion.

Nodweddion allweddol y dirwedd hanesyddol

Mae tarren galchfaen Creigiau Eglwyseg i’w gweld yn amlwg iawn ar y tir uwch, rhwng tua 100 a 470m uwchlaw lefel y môr, yn tremio dros y dyffryn ar ffin rhan uchaf afon Eglwyseg, sy’n cynnwys bryniau crwn amlwg llai Fron-fawr a Foel Eglwyseg. Sialau Silwraidd yw’r ddaeareg solet waelodol yn bennaf. Caeau bychain afreolaidd sydd i’w gweld gan fwyaf yn y dirwedd caeau, gyda rhai caeau mawr afreolaidd sy’n cynrychioli clirio coetir bob yn dipyn, yn ôl pob tebyg o mor gynnar â’r canol oesoedd cynnar ymlaen o leiaf. Ceir lleiniau troellog o goetir llydanddeiliog, gan gynnwys peth coetir llydanddeiliog hynafol, ar rai o lethrau mwyaf serth y dyffryn, gyda choetir conwydd modern o amgylch llethrau isaf Foel Eglwyseg, a blannwyd yn ail hanner yr 20fed ganrif. Defnyddir y rhan fwyaf o’r ffermdir amgaeedig ar gyfer pori heddiw, er ei bod yn amlwg o bresenoldeb glasleiniau ac olion grwn a rhych bod trin tir âr wedi bod yn arfer mwy eang yn y gorffennol. Mae yna hefyd ardaloedd cymharol helaeth o borfeydd garw heb eu cau ar gopa Foel Eglwyseg ac ar ystlysau gorllewinol Fron-fawr. Cynrychiolir terfynau caeau yn bennaf gan wrychoedd amlrywogaeth, yn aml gyda chyfran uchel o goed aeddfed, ond mae yna hefyd nifer o ardaloedd â waliau cerrig sychion.

Mae lonydd troellog cul yn mynd i’r ffermydd a’r tai gwasgaredig yn yr ardal. Mae nifer o bontydd cerrig bychain o’r 18fed ganrif yn goroesi dros nentydd Eglwyseg, megis honno ger Plas yn Eglwyseg. Roedd sawl rhyd dros y nentydd hyd ddechrau’r 20fed ganrif pan adeiladwyd cylfatiau ar nifer ohonynt i gludo’r dwr islaw’r ffordd. Mae’n amlwg fod rhai o’r ffermdai yn tarddu o’r 15fed i ddechrau’r 17eg ganrif. Roedd Ty-brith yn wreiddiol yn dy neuadd agored gyda nenffyrch wedi’u codi ar waliau rwbel cerrig, ac roedd Dinbren Isaf yn ffermdy ffrâm bren (â chysylltiad â chyn adeilad fferm â nenfforch) a orchuddiwyd yn ddiweddarach â cherrig, ac yna fe’i disodlwyd gan ffermdy o ddechrau’r 19eg ganrif. Mae ffermdai cerrig neu gerrig a phren diweddarach megis Ty-canol a Phlas Uchaf ar arddull mwy diweddar yr 17eg a’r 18fed ganrif, er ei bod yn debygol eu bod ar safleoedd cynharach. Felly hefyd ffermdy Plas yn Eglwyseg a adeiladwyd o’r newydd yn y 19eg ganrif ond sy’n gysylltiedig ag adeiladau fferm cynharach.

Dinbren Hall yw unig gynrychiolydd tai bonedd yn yr ardal nodwedd, ac roedd unwaith yn ganolbwynt stad fechan. Codwyd y ty hwn ar safle hyfryd yn tremio draw i gyfeiriad Creigiau Eglwyseg a Chastell Dinas Brân, sef safle ty cynharach unwaith eto, ac estynnwyd ef yn y 1790au. Ar un adeg roedd ganddo diroedd pleser a rhodfeydd coed.

Mae nifer o ardaloedd gwahanredol o ddiwydiant a phrosesu gynt wedi goroesi o fewn yr ardal, y rhan fwyaf yn dyddio o’r 18fed a’r 19eg ganrif. Harneisiwyd pwer dwr i weithredu melin flawd ar afon Eglwyseg yn y Felin yn y 1870au. Mae olion cyn weithfeydd llechi bach ar yr wyneb a dan yr wyneb i’w gweld ym Mhant Glas ac Aber-gwern, yr olaf o’r rhain mewn coetir conwydd yn rhannol erbyn hyn. Mae olion adeiladau prosesu wedi goroesi yn y ddwy chwarel, ac mae’r felin llechi gynt ym Mhant Glas bellach yn cael ei defnyddio at ddefnydd amgen. Roedd y ddwy chwarel yn weithredol ym 1870; caewyd Aber-gwern erbyn diwedd y 19eg ganrif a Phant Glas erbyn oddeutu 1920. Mae chwareli llai ar gyfer defnyddiau adeiladu, yn dyddio o’r 18fed ganrif a dechrau’r 19eg ganrif o bosibl, i’w gweld mewn mannau eraill yn yr ardal. Mae nifer o odynnau calch bychain, eto mae’n debygol o ddiwedd y 18fed ganrif neu ddechrau’r 19eg ganrif, i’w gweld ychydig islaw tarren galchfaen Creigiau Eglwyseg ac yn World’s End, lle ceir hefyd olion pwll plwm ac arian byrhoedlog a oedd yn cael ei weithredu rhwng y 1860au a’r 1880au.

Ffynonellau

Bradley 1898; Rhestrau Cadw o Adeiladau Rhestredig; Cofnod CPAT o’r Amgylchedd Hanesyddol; Cyngor Sir Ddinbych 2003; Edwards 1993; Hubbard 1986; Jones 1932; Pennant 1773; RCAM 1914; Richards 1991; Sherratt 2000; Smith 1988; Stephens 1986; Thomas 1908-13

I gael gwybodaeth bellach cysylltwch os gwelwch yn dda ag Ymddiriedolaeth Archaeolegol Clwyd-Powys yn y cyfeiriad hwn neu ewch i wefan Cyngor Cefn Gwlad Cymru yn www.ccw.gov.uk.