CPAT logo
Cymraeg / English
Tirwedd Hanesyddol
Dyffryn Llangollen
Map o’r ardal cymeriad hon
Mwy Ffotograffau

Nodweddu’r Dirwedd Hanesyddol

Dyffryn Llangollen: Pant-y-groes
Cymuned Llantysilio, Sir Ddinbych
(HLCA 1151)


CPAT PHOTO 1766-144

Ffermdir a gaewyd ers amser maith a ffermydd gwasgaredig yn nyffryn afon Eglwyseg, islaw Bwlch yr Oernant, gan gynnwys olion hanesyddol bwysig Piler Eliseg ac abaty Glyn y Groes ac olion arwyddocaol y diwydiant llechi.

Cefndir hanesyddol

Ceir tystiolaeth brin o weithgareddau cynhanesyddol yn hapddarganfyddiad bwyell socedog o’r Oes Efydd ger Pentre-dwr sy’n dyddio o’r 10fed ganrif CC ac o weithgareddau Rhufeinig yn y celc bychan o arian bath o’r ail ganrif OC ger Maesyrychen-bach. O tua’r 7fed ganrif, roedd yr ardal yn nheyrnas Powys. Codwyd Piler Eliseg, sef rhan waelod croes o garreg, ar fryncyn ar ganolbwynt yn y dyffryn yn hanner cyntaf y 9fed ganrif gan Cyngen, brenin Powys, er anrhydedd i’w hen daid, Eliseg, a oedd wedi aduno’r deyrnas trwy adfer tir a gymerwyd gan y Saeson. Mae lleoliad yr heneb bwysig ac anarferol hon, naill ai ar dwmpath claddu Eliseg, neu ar heneb gynhanesyddol gynharach, yn awgrymu bodolaeth stad frenhinol yma yn y dyffryn. Cofnododd Edward Llwyd yr arysgrif ar ddiwedd yr 17eg ganrif, ac fe fu hyn yn bwysig i’n dealltwriaeth o hanes cynnar teyrnas Powys. O 1191 roedd cwmwd Iâl o fewn y rhan ogleddol o’r deyrnas oedd wedi’i hisrannu o’r enw Powys Fadog. Rhoddodd Madog ap Gruffudd Maelor ran isaf dyffryn Eglwyseg i sefydlu abaty Sistersaidd arni. Gelwid y rhan hon yn Llanegwestl yn Gymraeg ac yn Valle Crucis yn Lladin, ac ar ôl y groes gynharach, Piler Eliseg yr enwyd yr olaf o leiaf. Roedd sefydlu’r fynachlog yn golygu symud nifer o drigolion Llanegwestl a’u hanfon i drefgorddau yng nghyffiniau Wrecsam, ac mae’n eithaf sicr y byddai wedi golygu ad-drefnu’r dirwedd yn y cyffiniau agos. Gweinyddid y tiroedd a roddwyd i’r fynachlog fel maenor fynachaidd ar wahân hyd at adeg Diddymu abaty Glyn y Groes ym 1537, ac roedd yn cynnwys fferm, melin ŷd ar afon Dyfrdwy ym Mhentrefelin a phandy ym Mhandy, i’r gogledd o’r abaty. Ar ôl i’r brenin Edward orchfygu Cymru ar ddiwedd y 13eg ganrif, fe ffurfiodd rhan ogleddol yr ardal ran o arglwyddiaeth newydd sbon y mers, sef Brwmffild ac Iâl tan Ddeddf Uno 1536, ac wedi hynny, roedd yr ardal gyfan yn rhan o sir a gafodd ei chreu o’r newydd, sef Sir Ddinbych.

Dechreuodd y diddordeb hynafiaethol yn hynafiaethau dyffryn Eglwyseg yn yr 16eg a’r 17eg ganrif. Cyn i ffordd dyrpeg Bwlch yr Oernant agor ym 1811 ar hyd ffordd dyrpeg gynharach dyffryn Eglwyseg, trwy Bentre-dwr y rhedai’r brif ffordd rhwng Llangollen a Rhuthun. Ym 1808, disgrifiodd Richard Fenton, yr hynafiaethydd, hi fel un serth iawn sy’n parhau felly am filltir a hanner, ac o ail hanner y 18fed ganrif dechreuodd rhai o briodweddau hardd Piler Eliseg a Glyn y Groes sicrhau eu bod yn safleoedd pwysig o ddiddordeb i dwristiaid cynnar yng ngogledd Cymru. Twristiaeth a ffermio bugeiliol yw prif gynheiliad yr economi lleol heddiw.

Nodweddion allweddol y dirwedd hanesyddol

Mae’r ardal nodwedd o fewn y tir caeëdig yn rhannau canol ac isaf dyffryn afon Eglwyseg a’i llednentydd, ar uchder o rhwng 90–390 metr uwchlaw lefel y môr, ac mae’n ei gwmpasu. Dyffryn serth a chul o darddiad rhewlifol ydyw, sy’n ymuno â dyffryn Dyfrdwy ychydig i’r gorllewin o Langollen. Sialau Silwraidd yw’r ddaeareg solet waelodol. Caeau sydd i’w gweld yn bennaf yn yr ardal nodwedd hon, ynghyd â rhai ardaloedd o brysg, coetir llydanddeiliog a phlanhigfa gonwydd. Caeau bychain afreolaidd eu siâp yn bennaf sydd yn rhan uchaf y dyffryn a chaeau mawr afreolaidd eu siâp sydd yn y rhan isaf yn bennaf. Mae’n debyg bod yr olaf yn adlewyrchu ad-drefnu’r dirwedd a ddigwyddodd pan sefydlwyd Glyn y Groes. Gwrychoedd amlrywogaeth yw’r rhan fwyaf o ffiniau’r caeau, ac mewn sawl achos, mae eu tarddiad yn hynafol. Tir pori wedi ei wella yw’r rhan fwyaf o’r defnydd tir modern, er bod glasleiniau’n dangos bod aredig ar gyfer cnydau grawn llawer yn fwy cyffredin yn y gorffennol.

Mae’r patrwm anheddu heddiw yn cynrychioli cymuned ffermio draddodiadol gyda chyfnod byr o ffyniant o’r diwydiant chwareli llechi. O ran anheddu, nodweddir y ffermio â nifer gymharol fechan o ffermydd, sydd wedi’u lleoli ar ymylon y bryniau yn aml. Mae cyfnod cynnar o adeiladu â phren i’w weld ym Mwlch-issa lle ceir enghraifft brin o ffermdy ffrâm bren o’r 17eg ganrif, mae’n debyg, wedi goroesi ynghyd â thai allan mewn cyfres o adeiladau cerrig diweddarach cysylltiedig gan gynnwys beudy ac ysgubor â fentiau awyr. Mae’r ffermdy o gerrig rwbel gwyngalchog ym Mhen-y-clawdd yn nodweddiadol o gasgliadau o adeiladau fferm a godwyd mewn gorwel adeiladu diweddarach. Mae’r adeiladau fferm o ddiwedd y 18fed ganrif a dechrau’r 19eg ym Maes-y-llyn yn arbennig o ddiddorol oherwydd eu bod wedi’u hadeiladu’n rhannol o waith cerrig a gymerwyd o Abaty Glyn y Groes yn dilyn Diddymiad y mynachlogydd. Gorwedd anheddiad cnewyllol bychan Pentre-dwr ar hen hynt y ffordd dyrpeg rhwng Llangollen a Rhuthun ac roedd wedi’i datblygu i raddau helaeth pan oedd y diwydiant llechi ar ei anterth yn y 19eg ganrif. Roedd yno unwaith ysgol, siop, swyddfa’r post, tafarndai, dau gapel o’r 19eg ganrif a nifer o hen fythynnod mwyngloddwyr. Mae’n debyg bod y rhes o fythynnod yn Abbey Terrace hefyd yn tarddu o adeg y diwydiant llechi, ac adeg cludo’r llechi i’r felin lechi ym Mhentrefelin.

Mae tystiolaeth yn enwau’r lleoedd yn awgrymu lleoliad hen bandai, gan gynnwys Pandy, ychydig i’r gogledd o Abbey Farm, a gymerai ddŵr o ffrwd yn tarddu o afon Eglwyseg peth pellter i’r gogledd o’r fan, ac mae’n debyg iddo gychwyn fel melin i’r fynachlog yn ystod y canol oesoedd. Nid oes dogfennaeth ar gael i nodi ei hanes diweddarach, ond mae’n amlwg iddo barhau hyd at y 1870au neu du hwnt i hynny; nodir lleoliad y deinturiau (rheseli sychu) ar fapiau’r Arolwg Ordnans a gyhoeddwyd ym 1875, ar y cae lle mae’r maes carafanau erbyn hyn ger yr abaty. Awgrymir bodolaeth pandy ychwanegol nad oes fawr o ddogfennaeth yn ei chylch gan yr enw Hen-bandy ar afon Eglwyseg ychydig dros gilometr i’r gogledd.

Mae sawl chwarel lechi gynnar ar ochrau’r bryniau, sydd mae’n debyg yn dyddio o’r 17eg ganrif, wedi goroesi yn y planhigfeydd coed yn hen chwarel Oernant islaw Bwlch yr Oernant a’r chwareli bach yn Y Foel i’r dwyrain o Bentre-dwr. Agorodd chwarel Craig Wynnstay i’r gogledd o Bentre-dwr ym 1886 a’i chau ar ddechrau’r 1900au. Pan agorwyd y chwareli mwy, ym Moel-y-faen, Clogau ac Oernant ar ochrau’r bryniau i’r gorllewin o’r ardal nodwedd yn ystod rhan gyntaf y 19eg ganrif, fe arweiniodd hyn at bwysau mawr ar y rhwydwaith ffyrdd lleol ac o ganlyniad, adeiladwyd system tramffordd geffylau drwy’r ardal nodwedd yn y 1850au. Trwy inclein a oedd yn rhedeg o dan bont ffordd ym Maesyrychen, arglawdd â wyneb o garreg ar hyd ochr prif ffordd Rhuthun, a thraphont tramffordd ar draws afon Eglwyseg, y cludodd y dramffordd ddeunyddiau i’r felin lechi ar lanfa’r gamlas ym Mhentrefelin.

Ar argraffiadau cynnar mapiau’r Arolwg Ordnans, dangosir tollborth ychydig i’r gogledd o Westy’r Britannia. Mae’r tŷ dŵr llesol yn yr arddull Gothig ar ochr y ffordd, gyferbyn â’r lôn i abaty Glyn y Groes yn ôl pob tebyg o gyfnod y gwelliannau i’r ffordd dyrpeg ar ddechrau’r 19eg ganrif.

Ffynonellau

Abse 2000; Bingley 1814; Borrow 1862; Burnham 1995; Butler 1976; Ymddiriedolaeth Celfyddyd Gain Restredig Clwyd Cadw (heb ddyddiad); Rhestrau Adeiladau; Cofnod YACP o’r Amgylchedd Hanesyddol; Davies 1929; Davies 1977; Gwasanaeth Cefn Gwlad Sir Ddinbych 2003b; Edwards 1985; Emery 2000; Evans 1995; Fisher 1917; Hill a Worthington 2003; Hubbard 1986; Jack 1981; Jenkins 1969; Jones 1932; Jones 1999; Knight 1995; Lewis 1833; Lhwyd 1909-11; Knowles a Hadcock 1963; Lord 2000; Martin 1999; Moore 2000; Nash-Williams 1950; Pennant 1773; Pratt 1987; Pratt 1995; Pratt 1997; Price 1952; Radford 1971; Radford 1974; RCAM 1914; Richards 1991; Roberts 2001; Robinson 1998; Shanes 1979; Sherratt 2000; Smith 1988; Stephens 1986; Williams 1974; Williams 1990; Williams 2001

I gael gwybodaeth bellach cysylltwch os gwelwch yn dda ag Ymddiriedolaeth Archaeolegol Clwyd-Powys yn y cyfeiriad hwn neu ewch i wefan Cyngor Cefn Gwlad Cymru yn www.ccw.gov.uk.