CPAT logo
Cymraeg / English
Tirwedd Hanesyddol
Dyffryn Llangollen
Map o’r ardal cymeriad hon
Mwy Ffotograffau

HNodweddu’r Dirwedd Hanesyddol

Dyffryn Llangollen: Llangollen
Cymuned Llangollen, Sir Ddinbych
(HLCA 1152)


CPAT PHOTO 1766-01

Tref farchnad fechan yn tarddu o’r canol oesoedd cynnar a’r canol oesoedd, sydd bellach yn ganolfan ymwelwyr ranbarthol bwysig sy’n ecsbloetio’r dreftadaeth ar ei chamlas a’i rheilffordd.

Cefndir hanesyddol

Mae tarddiad yr anheddiad cynharaf yn Llangollen yn ansicr, er y tybir bod eglwys wedi'i chysegru i Sant Collen wedi'i sefydlu yn y 6ed neu'r 7fed ganrif, ac mae'n bosibl ei fod wedi’i gladdu mewn cell-y-bedd a oedd yn bodoli fel adeilad ar wahân gerllaw’r eglwys hyd at tua 1749. Efallai y gwelir olion cysegr gwreiddiol o ail hanner y 12fed ganrif mewn darnau Romanésg sydd yn rhan o adeilad mwy diweddar yr eglwys. Erbyn blynyddoedd cynnar y 13eg ganrif, mae’n debyg bod incwm yr eglwys yn cael ei roi i’r abaty Sistersaidd yng Nglyn y Groes, a sefydlwyd tua 1201, ond ychydig a wyddys am natur yr anheddiad cnewyllol a oedd yn ôl pob tebyg yn bodoli yng nghyffiniau'r eglwys yn y cyfnod hwn. Mae lleoliad yr anheddiad yn strategol bwysig: mae’n rheoli croesfan bwysig afon Dyfrdwy a mynediad ar hyd dyffryn Dyfrdwy, er na fyddai byth yn ennill arwyddocâd milwrol.

Tua 1234, fe arweiniodd sefydlu pysgodfeydd newydd ar afon Dyfrdwy at wrthdaro â rhyddfreinwyr y dref. Mae’n debyg i ganolfan fasnachu leol gael ei sefydlu yma erbyn o leiaf y 1260au, yn dilyn adeiladu’r castell cyfagos yn Ninas Brân, a oedd yn ffurfio ffocws gweinyddol arglwyddiaeth Gymreig Powys Fadog. Peidiodd pwysigrwydd milwrol y castell yn dilyn goresgyniad Edward, ond fe barhaodd arwyddocâd economaidd y dref, ac fe roddodd y brenin yr hawl i Roger Mortimer gynnal marchnad wythnosol a dwy ffair flynyddol yma. Mae pont wedi croesi afon Dyfrdwy yn Llangollen ers o leiaf y 1280au. Codwyd y bont bresennol tua 1500, ond fe’i hatgyweiriwyd a’i hestyn sawl gwaith rhwng yr 17eg a’r 20fed ganrif. Ni wyddys ddim am ffurf a maint anheddiad canoloesol Llangollen, er ei bod yn amlwg i bŵer dŵr gael ei harneisio rhwng Llangollen a Phentrefelin ar gyfer melinau ŷd y mynaich a phandy erbyn y 14eg ganrif.

Disgrifiwyd y dref fel pentref gan John Leland yn y 1530au, a dywedodd Edward Llwyd bod ynddi ryw 70 o dai ar ddiwedd y 17eg ganrif, ond fe dyfodd yn gyflym rhwng diwedd y 18fed a dechrau’r 20fed ganrif mewn ymateb i ddyfodiad cangen o gamlas Ellesmere (1805), Ffordd Caergybi (1815), a’r rheilffordd (1861). Fe anogodd hyn y diwydiannau prosesu lleol, gan gynnwys prosesu llechi, gweithgynhyrchu brethyn a choed, ar sail pŵer dŵr, a’r twf yn y diwydiant ymwelwyr gan arwain at ddatblygiadau hapfasnachol yn rhannau deheuol a gorllewinol y dref yn yr 1880au a’r 1890au.

Yn sgîl dirywiad cyffredinol yn y diwydiannau prosesu yn ystod y cyfnod rhwng y ddau ryfel byd ac ar ôl yr ail ryfel byd, daeth nifer o gyn felinau a ffatrïoedd yn wag ac roeddent ar gael at amrywiaeth o ddibenion newydd. Seilir economi’r dref heddiw yn bennaf ar y diwydiant ymwelwyr, sy’n ecsbloetio'r dreftadaeth ar y gamlas a'r rheilffordd, ac mae'n ganolbwynt i achlysuron diwylliannol, gan gynnwys Eisteddfod Gerddorol Ryngwladol Llangollen.

Nodweddion allweddol y dirwedd hanesyddol

Mae tref Llangollen yn cwmpasu lled cyfan llawr y dyffryn, ar uchder o rhwng tua 90–140 metr OD i’r gogledd ac i’r de o afon Dyfrdwy. Yn ogystal â chynnwys craidd hanesyddol ac ardal adeiledig fodern y dref yn eu cyfanrwydd, estynnwyd yr ardal nodwedd tirwedd hanesyddol er cyfleuster i gynnwys rhai o'r ardaloedd cyffiniol gydag adeiladau a strwythurau sy'n ymwneud â hanes y diwydiant a’r drafnidiaeth ar ochr orllewinol y dref, cyn belled â Gorsaf Berwyn, ychydig islaw Rhaeadr y Bedol.

Gorweddai rhanbarth hŷn y dref i'r de o'r afon, ar hyd llinell Stryd y Bont, mae’n debyg, yn yr ardal rhwng yr eglwys a’r bont, lle gwyddys i’r marchnaty sefyll. Ychydig sy’n hysbys am y dyddodion archeolegol claddedig sydd wedi goroesi, a allai gynhyrchu gwybodaeth ynghylch hanes cynnar yr anheddiad. Ei threftadaeth adeiledig, sy'n dyddio yn bennaf o ddiwedd y 18fed i ddechrau'r 20fed ganrif ac sy'n dangos tarddiad a datblygiad y dref yw'r prif nodwedd hanesyddol erbyn heddiw.

Mae gwreiddiau cynharach i nifer o adeiladau, fodd bynnag. Mae gan rai fframiau pren ac maent yn dyddio o'r 16eg neu, yn amlach na hynny, o'r 17eg ganrif, sy'n awgrymu bod adeiladau'r dref gynnar yn rhai hanner coediog yn bennaf, ac yn perthyn mae’n debyg yn agos o ran ffurf i'r rhai yn y cefn gwlad o'i hamgylch. Pan ddechreuodd y dref ehangu ar ddiwedd y 18fed ganrif, byddai'r rhan fwyaf o'r gwaith adeiladu yn cael ei wneud naill ai mewn llechi llwyd a sialau lleol neu mewn brics a oedd wedi'u gweithgynhyrchu'n lleol, ac mae tu blaen y rhan fwyaf o'r adeiladau pren cynharach sydd wedi goroesi bellach wedi’i lunio o’r deunyddiau hyn.

Roedd y dref wedi dod yn bwysig fel canolfan fasnachol leol a phwynt aros ar y ffyrdd tyrpeg i Gorwen a Rhuthun erbyn canol i ddiwedd y 18fed ganrif, wrth i dafarndai a gwestai coets fawr fel Gwesty’r Royal (sef y King’s Head gynt) a Gwesty’r Hand gael eu sefydlu. Mae’n amlwg i ran bwysig o ailddatblygiad canol y dref ddigwydd yn y 1860au pan gyrhaeddodd y rheilffordd. Mae’r gwahaniaeth rhwng yr adeiladau hynny sydd â chraidd cynharach, a'r rheiny a godwyd yn gyfan ar ddiwedd y 18fed ganrif neu yn ystod y 19eg ganrif, yn bwysig, ac mae’n esbonio i raddau ffurf dra amrywiol a darluniaidd y dref.

Ei ffurf drefol, gyda chraidd masnachol amlwg, a strydoedd preswyl sydd wedi’u datblygu’n ddwys o’i amgylch, yw nodweddion pensaernïol cyntaf y dref; yn ail mae ei maestrefi bychain o'r 19eg a'r 20fed ganrif, o'r tai ar wahân a’r tai pâr sy'n ymestyn tuag at Bentrefelin ac i fyny’r llethrau ar ochr ddeheuol yr afon; ac yn drydydd, y stadau tai o'r 20fed ganrif sydd ar ochr ddwyreiniol y dref. Mae llawer o’r datblygiad trefol ar ffurf tai teras, yn amrywio o resi tai tri llawr yn yr arddull Sioraidd ar Stryd Berwyn a Stryd y Bont i resi byrrach o fythynnod. Mae hyn yn awgrymu trefniadaeth y gwaith adeiladu a welir ond yn anaml mewn cyd-destun gwledig; mae'n cynhyrchu cynllun ffurfiol y mae modd ei adnabod fel un trefol. Mae amrywiaeth hynod o arddulliau a deunyddiau hefyd yn nodweddu Llangollen, gan ddangos sut y tyfodd dros gyfnod sylweddol, â nifer o barau o ddwylo wedi cyfrannu at y twf. Mae’r adeiladau yn y dref yn wahanol i’r traddodiadau brodorol mewn sawl ffordd bwysig: mae cyfyngiadau plotiau adeiladu trefol yn arwain at gynllunio tai yn fwy cryno a thynn, gyda mwy o bwyslais, yn aml. ar uchder. Mae mwy o bwyslais ar arddull a manylion megis y manylion ar y ffenestr gothig yn Abbey Square a gwaith brics amryliw sawl adeilad ar hyd yr A5.

Crëwyd nifer o ardaloedd cyhoeddus tua throad yr 20fed ganrif — agorwyd Rhodfa Fictoria ym 1899 i goffáu Jiwbilî Diemwnt y Frenhines Fictoria, a’i hymestyn yn ddiweddarach i Riverside Park.

Mae’r dref hefyd yn cynnwys nifer o fathau arbenigol ar adeiladau o’r 19eg ganrif a dechrau’r 20fed. Yn eu plith mae sawl adeilad diwydiannol yn y dref, megis yr hen danerdy, a chyn-gapeli anghydffurfiol. Ceir enghreifftiau hefyd o bensaernïaeth fasnachol amlwg. Mae’r Hen Fanc yn Stryd Berwyn yn enghraifft dda o hyn: mae wedi ei adeiladu ar gornel, ac mae’r adeilad yn manteisio ar hynny gan fod iddo ffasâd cromlinog neilltuol, a phwyslais ar hen safle’r banc ar y llawr gwaelod. Mae yn y dref hefyd nifer o adeiladau dinesig, gan gynnwys neuadd y dref a gorsaf yr heddlu.

Ceir hierarchaeth gymdeithasol gymhleth yn adeiladau’r dref, pob un â'i daearyddiaeth ei hun. Mae’r tai o fewn y dref ei hun yn amrywio o’r fila ar wahân megis Siambr Wen, a’r tai teras sylweddol eu maint i’r bythynnod bychain.

Ffynonellau

Amgueddfa Llangollen 2003; Baughan 1980; Bingley 1814; Borrow 1862; Breese 2001; Cadw 1995; Rhestrau Cadw o Adeiladau Rhestredig; Cofnod YACP o’r Amgylchedd Hanesyddol; Edwards 1969; Edwards 1988; Edwards 1991; Ffoulkes-Jones 1980; Hubbard 1986; Lhwyd 1909-11; Jack 1981; Jenkins 1969; Jervoise 1936; Lewis 1833; Mavor 1971; Pennant 1773; Pratt 1997; Quartermaine ac eraill 2003; Radford a Hemp 1959; Thomas 1908-13; RCAM 1914; Roberts 2000; Sherrat 2000; Silvester 1995; Silvester 1999; Simpson 1827; Simpson 1853; Smith 1906; Smith 1988; Soulsby 1983; Thomas 1908-13; Thomas 1954; Williams 1990; Williams 2001; Wilson 1975.

I gael gwybodaeth bellach cysylltwch os gwelwch yn dda ag Ymddiriedolaeth Archaeolegol Clwyd-Powys yn y cyfeiriad hwn neu ewch i wefan Cyngor Cefn Gwlad Cymru yn www.ccw.gov.uk.