CPAT logo
Cymraeg / English
Tirwedd Hanesyddol
Dyffryn Llangollen
Map o’r ardal cymeriad hon
Mwy Ffotograffau

Nodweddu’r Dirwedd Hanesyddol

Dyffryn Llangollen: Dol-isaf
Cymuned Llangollen, Sir Ddinbych, a Chymuned Wledig Llangollen, Wrecsam
(HLCA 1153)


CPAT PHOTO 1766-300

Llawr dyffryn afon Dyfrdwy rhwng Llangollen a Phontcysyllte sy’n weledol drawiadol ag iddo ochrau serth gyda chaeau, maes golff a gerddi a pharcdiroedd amlwg.

Cefndir hanesyddol

Roedd darganfod nifer o eitemau cynnar yn yr ardal, gan gynnwys darnau o fwyeill cerrig o’r oes Neolithig ger Ty’n Celyn a Trevor Hall, a thlws Rhufeinig, unwaith eto ger Trevor Hall yn arwyddion o bosibl o anheddu a defnyddio tir yn y cyfnod cynnar yn y Dyffryn. Nid yw hyn yn syndod efallai o gofio safon gyfoethog y tir amaethyddol yn y fan hon. Yn hynafol roedd yr ardal o fewn deyrnas frodorol Powys ac wedi hynny o’r 12fed ganrif ffurfiodd rannau o gymydau Nanheudwy, yn arbennig i’r de o afon Dyfrdwy a Maelor Gymraeg i’r Gogledd o’r afon Dyfrdwy yn y gyfran ranedig ogleddol o’r deyrnas o’r enw Powys Fadog. Yn dilyn y goncwest Edwardaidd ar ddiwedd y 13eg ganrif, daeth y rhan fwyaf o’r ardal i’r gogledd o’r afon i fod yn rhan o arglwyddiaeth mers Brwmffild ac Iâl, a’r ardal i’r de o’r afon yn rhan o arglwyddiaeth mers Y Waun. Yn hanesyddol, bu’r rhan fwyaf o’r tir yn y dyffryn ym mherchnogaeth nifer fechan o stadau amlwg ers cyn yr 11eg ganrif efallai, a oedd yn gysylltiedig â theuluoedd hynafol megis y teulu Mostyn a oedd yn gysylltiedig â Phengwern a’r teulu Trevor a oedd yn gysylltiedig â Trevor Hall. Er mai prin yw’r ddogfennaeth o hyn, credir i faenorau mynachaidd a oedd yn perthyn i Abaty Glyn y Groes fodoli ym Mhlas Pengwern ac yng nghyffiniau Melin Trevor. Creadigaethau diwydianwyr lleol yn ystod ail hanner yr 19eg ganrif oedd nifer o’r tai mawr eraill, yn anad dim Plas Argoed, Ty’n-dwr, a Bryn Howel.

Nodweddion allweddol y dirwedd hanesyddol

Mae’r ardal nodwedd yn cynnwys llawr y dyffryn a’r tir is ar ochrau’r dyffryn y naill ochr i afon ddolennog Dyfrdwy i’r dwyrain o Langollen, ar uchder o rhwng 100–200 metrau uwchlaw lefel y môr a chan gynnwys cerlannau afon hynafol ac ystumllynnoedd. Er cyfleuster wrth ddiffinio ardaloedd nodwedd, mae hefyd yn cynnwys Dyffryn Pengwern, sef ystum creiriol afon Dyfrdwy a bryn arunig Pen-y-coed o’i flaen i’r dwyrain o Langollen. Fel tir pori wedi’i wella y defnyddir y tir yn awr, yn bennaf.

Mae’r ardal yn cynnwys clytwaith o wahanol gaeau mawr a bach afreolaidd eu siâp sydd, mae’n debyg, yn cynrychioli tir a gaewyd mewn cyfnod hynafol. Gallai ardaloedd bychain o lain-gaeau a ad-drefnwyd ar ymylon dwyreiniol a gogleddol Llangollen gynrychioli caeau agored canoloesol sy’n gysylltiedig â’r anheddiad cynnar. Mae’n ymddangos bod ardaloedd ar wahân o gaeau mawr a bach ag iddynt ochrau syth, yn enwedig yn Nyffryn Pengwern ac ar ben dwyreiniol yr ardal nodwedd yn cynrychioli ad-drefnu’r dirwedd, a oedd yn gysylltiedig â rheoli ffermydd stad ôl-ganoloesol. Gwrychoedd aeddfed yw’r rhan fwyaf o ffiniau’r caeau. Ymhlith y mathau amlwg eraill o dirwedd hanesyddol mae tirwedd Maes Golff Llangollen, ei erddi, ei barcdir a’i blanhigfeydd a ddyluniwyd yn ddiweddar, sy’n gysylltiedig â Trevor Hall, Plas Argoed a Thy’n-dwr, yn ogystal â’r rhai sy’n gysylltiedig â chyfathrebu yn y presennol ac yn y gorffennol, gan gynnwys ffyrdd, y gamlas, a’r rheilffordd segur.

Patrwm gwasgaredig o ffermydd, bythynnod a phlastai gwledig mawr sy’n nodweddu’r anheddiad heddiw. Gwelir olion strwythurau domestig statws uchel o’r 13eg ganrif i’r 14eg, gydag is-grofft cromennog ym Mhlas Pengwern, ond efallai bod y ffermdy tri llawr ym Mhlas yn y Pentref ag iddo ffrâm bren sy’n dyddio o ddechrau’r 17eg ganrif yn fwy nodweddiadol o draddodiadau adeiladu cynharach yr ardal. Cadwyd yr ysguboriau cerrig o ddiwedd yr 17eg ganrif a dechrau’r 18fed ym Mhlas Llandyn a Phengwern. Saif Trevor Hall ar safle hen blas teulu Trevor, ar ochrau’r bryn coediog yn tremio dros ei barcdir a’i erddi ffurfiol ei hun tua phen dwyreiniol Dyffryn Llangollen. Ailadeiladwyd y plas i raddau helaeth fel plasty brics tri llawr yn yr arddull Sioraidd gynnar gan y teulu Lloyd y trosglwyddwyd yr adeilad iddynt trwy briodas ym 1742. Mae cysylltiad rhwng y plas a chasgliad cyfoes o adeiladau domestig a fferm gyfoes ac o gyfnod cynharach yn Trevor Hall Farm a Chapel Trevor cynharach o’r 18fed ganrif. Adeiladwyd Cwm Alis fel tŷ sylweddol yn y 1770au ger y ffordd dyrpeg rhwng Y Waun a Llangollen, yn tremio dros Ddyffryn Llangollen. Roedd gwelliannau Telford i’r ffordd yn gynnar yn y 19eg ganrif yn golygu adeiladu waliau cynnal helaeth yn agos at y tŷ.

Mae grŵp o blastai gwledig a godwyd ar safleoedd darluniaidd yn y dyffryn i ddiwydianwyr ar ddiwedd y 19eg ganrif yn nodwedd unigryw yn yr ardal. Mae Plas Argoed, tŷ cerrig deulawr sylweddol ei faint sy’n tremio dros afon Dyfrdwy ar ymylon Froncysyllte yn dyddio o’r cyfnod Fictoraidd cynnar ac yn ddiweddarach na hynny yn yr arddull Elisabethaidd a’r Frenhines Anne. Mae ganddo gytiau cŵn, stablau, gerddi teras ffurfiol a thiroedd coediog ynghyd â llwybrau trwy’r coetir a hafdy ar sgarp afon Dyfrdwy a llyn ar y gorlifdir islaw, yn dilyn hynt hen ystumllyn. Codwyd ef ar gyfer y diwydiannwr o Almaenwr, Robert F. Graesser a oedd yn gysylltiedig â Bragdy Wrexham Lager a’r ffatri gemegolion yn Acrefair. Mae canolfan gymunedol bellach ar safle rhan o’r hen ardd lysiau. Plasty du a gwyn yr yn arddull Duduraidd a godwyd tua’r 1860au ar gyfer John Dickin, meistr haearn yw Ty’n-dwr ac mae bellach wedi’i drosi’n Hostel Ieuenctid yn ei thiroedd ei hun â lôn â choed ar y naill ochr iddi yn arwain ati. Adeiladwyd Bryn Howel a’i borthdy o frics ym 1896 fel cartref ymddeol i’r gweithgynhyrchwr brics a theils James Coster Edwards yr ieuengaf mewn arddull ffug Duduraidd, gan gyfuno nwyddau o odynnau’r teulu a rhai fframiau pren, ac mae bellach wedi’i drosi’n westy.

Mae’r Dyffryn yn cynnwys amrywiol elfennau pwysig yn ymwneud â hanes trafnidiaeth, a arweiniodd at ecsbloetio’r chwareli calchfaen a llechi gerllaw yn ddiwydiannol. Cwblhawyd cangen o Gamlas Ellesmere sy’n rhedeg ar hyd ymylon gogleddol llawr y dyffryn rhwng Trefor a Llangollen ym 1808, gyda nifer o bontydd cefngrwm wrth groesi’r ffordd. Adeiladwyd Ffordd Caergybi newydd Thomas Telford ar hyd ymyl ddeheuol y Dyffryn, gan ddechrau ym 1815. Am ryw 30 mlynedd, dyma’r prif lwybr cyfathrebu i Iwerddon a Llundain ac yn ôl, ac mae modd olrhain hen hynt y ffordd yma ac acw rhwng Llangollen a Froncysyllte. Mae rhai darnau o’r wal wreiddiol ar ochr y ffordd wedi goroesi, er mewn cyflwr gwael yn aml, ond ceir nifer o gerrig milltir mewn cyflwr da gyda phlaciau haearn bwrw nodweddiadol yn nodi hyn ar bileri cerrig byr. Agorwyd yr hen reilffordd rhwng Rhiwabon a Llangollen dan faner Cwmni Rheilffordd Dyffryn Llangollen ym 1861, unwaith eto ar hyd ymyl ogleddol y dyffryn. Fe ddisodlodd lawer o’r dulliau o gludo nwyddau a fyddai fel arfer yn cael eu cludo ar gychod camlas a cherti ceffyl, a pharhaodd hyd y 1960au ac oddi ar hynny, rhan yn unig o’r linell i’r gorllewin o Langollen sydd wedi ei chadw fel atyniad ymwelwyr.

Byddai inclein Creigiau Trevor, ychydig i’r gorllewin o Fryn Howel yn cludo calch o’r odynnau calch uwchlaw i lawr i’r cilfannau llwytho ar linell gangen benodol ar gyfer mwynau ar Reilffordd Dyffryn Llangollen. Harneisiwyd pŵer y dŵr ym Melin Trevor, a adeiladwyd o garreg yn y 18fed ganrif, sydd bellach yn dŷ.

Sources

Baughan 1980; Bingley 1814; Cofnod YACP o’r Amgylchedd Hanesyddol; Cadw 1995; Rhestrau Cadw o Adeiladau Rhestredig; Davies 1929; Gwasanaeth Cefn Gwlad Sir Ddinbych 2003b; Hadfield 1969; Hubbard 1986; Jones 1932; Pellow a Bowen 1988; Pritchard 1963; Quartermaine et al. 2003; Sherratt 2000; Smith 1988; Suggett 2001; RCAM 1914; Thomas 1998; Wiliam 1982; Williams 1974; Williams 1990; Williams 2001; Wilson 1975

I gael gwybodaeth bellach cysylltwch os gwelwch yn dda ag Ymddiriedolaeth Archaeolegol Clwyd-Powys yn y cyfeiriad hwn neu ewch i wefan Cyngor Cefn Gwlad Cymru yn www.ccw.gov.uk.