CPAT logo
Cymraeg / English
Tirwedd Hanesyddol
Dyffryn Llangollen
Map o’r ardal cymeriad hon
Mwy Ffotograffau

Nodweddu’r Dirwedd Hanesyddol

Dyffryn Llangollen: Cysyllte
Cymuned Wledig Llangollen, Wrecsam
(HLCA 1156)


CPAT PHOTO 1766-50

Ardal lle gwelwyd ehangiad yn y 19eg ganrif ac ar ddechrau’r 20fed, gan gynnwys chwareli calchfaen, llosgi calch a cerameg ddiwydiannol ynghyd â thai i’r gweithwyr cysylltiedig ar draws dyffryn Dyfrdwy i’r naill ochr o Draphont Ddŵr Pontcysyllte.

Cefndir hanesyddol

Yn ystod y cyfnod canoloesol cynnar roedd yr ardal o fewn teyrnas Gymreig Powys, ac o ddiwedd y 12fed ganrif roedd o fewn cwmwd Nanheudwy yn y rhan ogleddol o’r deyrnas oedd wedi’i hisrannu, o’r enw Powys Fadog. Ar ôl i’r Brenin Edward orchfygu Cymru ar ddiwedd y 13eg ganrif, roedd yr ardal yn rhan o arglwyddiaeth mers Swydd y Waun, ac yn y 14eg ganrif, mae’n bosibl ei bod yn rhan o fforest Isclawdd yn yr arglwyddiaeth. Cofnodir cymunedau amaethyddol brodorol Cymreig yng Nghysyllte am y tro cyntaf ar ddiwedd y 14eg ganrif. Yn dilyn Deddf Uno 1536, daeth yr ardal i fod yn rhan o Sir Ddinbych a oedd bryd hynny yn sir newydd sbon. Trosglwyddwyd rhan o’r ardal i Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam ym 1997.

Nodweddion allweddol y dirwedd hanesyddol

Mae’r ardal nodwedd yn cwmpasu ochrau gogleddol a deheuol dyffryn Dyfrdwy, gyda Thraphont Ddŵr Pontcysyllte yn y canol, ac mae’n cynnwys aneddiadau Trevor a Froncysyllte. Yn dopograffig, mae’r ardal rhwng 60 a 280 metr uwchlaw lefel y môr. Tywodfaen a phriddoedd cleiog sy’n gysylltiedig â’r Cystradau Glo wedi’u gorchuddio â chlog-glai a dyddodion llifwaddodol diweddar yng ngwaelod y dyffryn yw seiliau rhannau gogleddol a dwyreiniol yr ardal. Ym Mroncysyllte, ar ochr ddeheuol y dyffryn ceir un bloc ar ei ben ei hun o Galchfaen Carbonifferaidd. Defnyddir y tir heddiw ar gyfer tai yn bennaf, ond ceir hefyd rhai adeiladau a ddefnyddiwyd yn y gorffennol ar gyfer gweithgynhyrchu a phrosesu, ac ardaloedd sydd wedi’u neilltuo ar gyfer gweithgareddau chwaraeon o hamdden. Mae ardal tir pori ar lan ogleddol afon Dyfrdwy wedi’i chynnwys yn yr ardal hon oherwydd ei bod yn gefndir hanfodol i Draphont Ddŵr Pontcysyllte.

Mae’n ymddangos i groesfan bwysig ar draws afon Dyfrdwy ar y llwybr rhwng Y Waun a Wrecsam gael ei chreu am y tro cyntaf pan godwyd pont gerrig Pont Cysyllte yn y 1690au. Mae’r hynafiaethydd Edward Lhwyd yn sôn am y bont ar ddechrau’r 18fed ganrif, cyn iddi gael ei hailgodi’n sylweddol yn ddiweddarach y ganrif honno.

Rhoddodd dyfodiad y gamlas ac adeiladu Traphont Ddŵr Pontcysyllte rhwng 1795 a 1805 anogaeth fawr i’r ecsbloetio diwydiannol yn yr ardal, ac mae hyn wedi cuddio bron yn llwyr y dirwedd gynharach, a oedd mae’n debyg yn dirwedd ganoloesol o gaeau bychain afreolaidd eu siâp. Roedd odynnau calch ar lannau’r gamlas ar waith ym Mroncysyllte o ddiwedd y 18fed ganrif ymlaen, yn cynhyrchu calch at ddibenion amaethyddol a diwydiannol a gludwyd cyn belled â Swydd Gaer, Swydd Stafford a Chanoldir Lloegr. Y cerrig a fyddai’n cael eu cloddio yn chwareli Pen y Graig ar y bryniau uwchlaw Froncysyllte, ac a gludid ar gyfres o dramffyrdd ac incleins oedd yn cyflenwi’r odynnau, ac fe gynhyrchid y calch â glo a fewnforiwyd ar gychod camlas o faes glo Rhiwabon. Datblygodd yr anheddiad cnewyllol bychan ym Mroncysyllte, gyda’i fythynnod ar gyfer glowyr a gweithwyr yn yr odynnau, ei gapeli anghydffurfiol, ei eglwys a’i dai tafarn, yn ystod y 19eg ganrif, ar hyd Ffordd Caergybi Telford (A5) ac ar lethr y bryn i’r de. Gwelwyd dirywiad yn y diwydiant calch lleol tua diwedd y 19eg ganrif, er i gloddio am galchfaen barhau yn chwareli Pen y Graig hyd at y 1950au.

Arweiniodd adeiladu glanfa’r gamlas yn Nhrevor, ac agor Rheilffordd Dyffryn Llangollen yn y 1860au at ddatblygu canolbwynt gweithgaredd diwydiannol yma, ar lan ogleddol yr afon. Yn sgîl y ffaith fod priddoedd cleiog y Cystradau Glo ar gael o chwareli brig a phyllau dyfnach, a hefyd glo o Faes Glo Rhiwabon, cafwyd gweithfeydd brics a theils o tua’r 1850au ymlaen. Datblygodd gweithfeydd brics Tref-y-nant wedi hynny ar safle delfrydol ychydig i’r gogledd o lanfa’r gamlas ac wrth ochr y rheilffordd, gan gynhyrchu brics tân, potiau simneiau a nwyddau teracota addurnol i ddechrau. Yn ddiweddarach roedd y gwaith yn cynhyrchu pibellau carthffosiaeth gwydrog, oherwydd bod marchnad gyflym ei thwf ar eu cyfer yn dilyn pasio Deddfau Iechyd y Cyhoedd yn y 1840au a’r 1850au. Parhaodd y gweithfeydd hyn tan y 1950au ac yn dilyn hynny, fe ddymchwelwyd bron yr holl adeiladau a’r strwythurau ar y safle.

Yn ail hanner y 20fed ganrif, sefydlwyd gweithfeydd prosesu cemegol a diwydiannol yn rhan o ochr ddwyreiniol yr ardal, yn bennaf fel ‘cangen’ o gyfadail diwydiannol Monsanto, yng nghymuned Acrefair gerllaw.

Yn sgîl cau chwareli Pen y Graig ym Mroncysyllte yn y 1950au, rhyddhawyd tir a alluogodd yr anheddiad i ehangu gan gynnig tai’r awdurdod lleol i ddiwallu’r galw am dai i bobl a weithiai yng nghanolfannau diwydiannol cyfagos Acrefair a Chefn Mawr a oedd ar eu twf. Yn yr un modd, datblygwyd hen dir amaethyddol yn Nhrevor ar gyfer tai ar ddiwedd yr 20fed ganrif a dechrau’r 21ain ganrif.

Ffynonellau

Baughan 1980; Breese 2001; Burnham 1995; Rhestrau o Adeiladau Rhestredig Cadw; Ymddiriedolaeth Celfyddyd Gain Restredig Clwyd (heb ddyddiad); Cofnod CPAT o’r Amgylchedd Hanesyddol; DCMS 1999; Hadfield 1969; Harper 1902; Hubbard 1986; Jervoise 1932; Jones 1932; Lewis 1833; Lhwyd 1909-10; Martin 1999; Musson 1994; Owen a Silvester 1993; Pellow a Bowen 1988; Pratt 1990; Quartermaine ac eraill 2003; Quenby 1992; Sherratt 2000; Sivewright 1986; Williams 1999; Wilson 1975; Wrecsam 2003

I gael gwybodaeth bellach cysylltwch os gwelwch yn dda ag Ymddiriedolaeth Archaeolegol Clwyd-Powys yn y cyfeiriad hwn neu ewch i wefan Cyngor Cefn Gwlad Cymru yn www.ccw.gov.uk.