CPAT logo
Cymraeg / English
Adref Eto
Tirweddau Hanesyddol

Disgrifio Nodweddion Tirwedd Hanesyddol

Dyffryn Llangollen & Eglywseg


CPAT PHOTO 84-C-240

Nid yw'r gwaith o ddisgrifio nodweddion yr ardal Tirwedd Hanesyddol hon wedi dechrau hyd yma.

Mae'r disgrifiad canlynol, a gymerwyd o'r Gofrestr Tirweddau Hanesyddol, yn enwi'r themu hanesyddol hanfodol yn yr ardal cymeriad hanesyddol.

Yn Nyffryn Llangollen yng Ngogledd Ddwyrain Cymru ceir cyfuniad gweledol a thrawiadol o dirffurfiau naturiol noeth ynghyd nodweddion hynafol a modern o waith dyn.Yn geomorffolegol, hollt eang ywr dyffryn a gaiff ei oruchafu gan glogwyni calch uchel Mynydd Eglwyseg.Mae brig y clogwynin esgyn yn raddol mewn uchder o 300m uwchben SO yn eu safle mwyaf deheuol syn edrych dros ganol y dyffryn,i 450m uwchben SO yn eu safle mwyaf gogleddol syn edrych dros rannau uchaf dyffryn isafon cul Afon Eglwyseg.Ar ochr ddeheuol y dyffryn,maer llethraun esgyn yn serth i 400m uwchben SO ar hyd copar esgair syn rhannur dyffryn o ddyffryn Ceiriog ir de.

Mae llawr gwastad y dyffryn tua 100m uwchben SO ac maen cynnwys hynt troellog yr Afon Dyfrdwy, er yn Llangollen,maer dyffryn yn culhau ir hyn syn fwy nodweddiadol o ddyffryn afon,gan droin gyntaf tuar gogledd ac yna tuar gorllewin gan barhau y tu hwnt i ran y dyffryn a ddisgrifir yma.Yn edrych dros Langollen o gyfeiriad y dwyrain mae olion mawreddog Castell Dinas Brn,castell gwaith cerrig or Canol Oesoedd wedii leoli oddi mewn i waith cloddiog caer gynharach o Oes yr Haearn.Maer safle ar gopa bryn sip cn ag ochrau serth iddo sydd yn esgyn yn drawiadol i 329m uwchben SO o lawr y dyffryn,ac ar ei ben ceir adfeilion darluniadwyr castell a adeiladwyd gan Gruffydd ap Madog o bosibl,mab i sylfaenydd Abaty Glyn y Groes.

Lleolir Abaty Sistersiaidd Glyn y Groes ger cyflifiad afonydd Eglwyseg a Dyfrdwy ir gogledd o Langollen,ac fei sylfaenwyd gan Madog ap Gruffydd ym 1201 fel abaty ategol i Abaty Ystrad Marchell ger y Trallwng.Maer Abaty, sydd bellach yn adfail,yn nodweddiadol o nifer o sefydliadau Sistersiaidd a leolir mewn dyffrynnoedd afonydd diarffordd wediu hamgylchynu gan dir ffermio. Mae lln gwerin lleol yn cysylltu Glyn y Groes ag Owain Glyn Dw r a ddiflannodd tua 1410 ar l iw wrthryfel yn erbyn y Saeson fethu.Ychydig ir gogledd or Abaty lleolir croes anghyflawn Piler Eliseg ar fryncyn bychan crwn a oedd hwyrach yn feddrod yn Oes yr Efydd.Ar y groes ceir arysgrif mewn Lladin sydd bellach wedi treulio gormod iw darllen,ond yn l trawsgrifiad ohoni ym 1696, roedd yn dathlu llwyddiannau ty Powys ac yn cofnodi ir garreg gael ei chodi gan Cyngen er anrhydedd iw or-daid, Eliseg.

Ym mhen gogleddol dyffryn Eglwyseg,ym Mhen Drawr Byd,mae Plas Uchaf,plasdy trawiadol ffrm bren syn dyddio o 1563.Ir gorllewin o ddyffryn Eglwyseg,caiff ffin ogleddol y tirwedd ei oruchafu gan ehangder mawreddog Bwlch yr Oernant lle maer ffordd or diwedd yn dringo Mynydd Maesyrychen,heibio i chwareli llechi gwag y 19eg ganrif,tuag at Ddyffryn Clwyd.

Bu dyffryn Dyfrdwy yn brif ffordd gyswllt erioed a bun dyst i ddy feisiadau dilynol yn hanes cludiant. Y pwysicaf,o bosibl, yw cangen Llangollen o Gamlas y Shropshire Union, a adeiladwyd gan Thomas Telford ac a agorwyd ym 1805.Oi darddiad yn Rhaeadr Bwlch yr Oernant maer gamlas yn dilyn ochr ogleddol y dyffryn cyn croesir Afon Dyfrdwy dros ddyfr- ddyfrbont ddramatig Pontcysyllte, syn taflui chysgod dros ei chymar canoloesol a oedd yn carior ffordd dros yr Afon Dyfrdwy.Ym mhen gogleddol y ddyfrbont mae Glanfa Trefor lle, yn l y sn,yr arhosodd Telford yn ystod cyfnod adeiladur ddyfrbont.Roedd Telford hefyd yn gyfrifol am adeiladu Ffordd newydd Caergybi,yr A5 bellach,syn rhedeg drwyr dyffryn ac a ddynodwyd yn ddiweddar yn ffordd hanesyddol.

Gwelir creithiaur gorffennol diwydiannol hefyd yn y dyffryn. Bu chwarela yn digwydd yng nghlogwyni calch Eglwyseg ers canrifoedd ar gyfer cerrig i adeiladu ac fel ffynhonnell o galch.Roedd sawl gwaith plwm yn tyllun uniongyrchol ir clogwyn, ac mae olion y ddau ddiwydiant iw gweld o hyd. Ir gogledd orllewin ceir olion chwareli llechi,syn cynnwys incleinau a darnau o dramffordd ar arglawdd,tra caiff y de ei oruchafu gan gymhlethfeydd Cefn Mawr ac Acrefair (maer ddau y tu allan ir ardal a ddisgrifir yma ar hyn o bryd).

Lleolir Llangollen ei hun o boptur Afon Dyfrdwy gydar bont bwa,a adeiladwyd c. 1500 yn cysylltur ddwy ochr. Mae calon hanesyddol y dre ar yr ochr ddeheuol,o gwmpas yr eglwys a chroesfan yr afon.Daeth y datblygiadau diweddarach yn bennaf yn sgl y diwydiant gwln,a oedd yn defnyddio ffynhonnell ynni naturiol yr Afon Dyfrdwy i redeg sawl melin,ac yna yn ystod y 19eg ganrif gyda dyfodiad y rheilffordd a gaewyd i drafnidiaeth ym 1968 ond sydd bellach ar agor yn achlysurol i dwristiaid o dan yr enw Rheilffordd Dyffryn Dyfrdwy.Ar ymylon y dref y mae Plas Newydd,cartref Boneddigesau Llangollen a oedd yn noddwyr enwog y celfyddydau ar droad y 19eg ganrif ac a wnaeth lawer i hybu diddordeb newydd yn y diwylliant Cymreig. Mae Llangollen wedi cryfhaur traddodiadau artistig hyn ac maer dref bellach yn enwog ledled y byd am yr Eisteddfod Ryngwladol a gynhelir yno bob blwyddyn.

I gael gwybodaeth bellach cysylltwch os gwelwch yn dda ag Ymddiriedolaeth Archaeolegol Clwyd-Powys yn y cyfeiriad, hwn neu cysylltwch â gwefan Cyngor Cefn Gwlad Cymru ' ar www.ccw.gov.uk.