CPAT logo
Cymraeg / English
Adref Eto
Tirwedd Hanesyddol
Dyffryn Llangollen

Nodweddu’r Dirwedd Hanesyddol

Llunio Tirwedd Dyffryn Llangollen ac Eglwyseg


CYSYLLTIADAU DIWYLLIANNOL

Mae topograffeg ddramatig Dyffryn Llangollen wedi ysbrydoli traddodiad hir o gysylltiadau llenyddol a chelfyddydol ers dechrau’r cyfnod canoloesol cynnar sydd yn eu tro wedi dylanwadu ar y ffyrdd y canfuwyd a datblygwyd y dirwedd - ar ôl dylanwadu ar agweddau penodol ar ei threftadaeth bensaernïol, creu tirweddau dyluniedig a chadw’r nodweddion naturiol.

Llên gwerin a barddoniaeth y canol oesoedd

Fel mewn mannau eraill yng Nghymru, mae’n debyg mai yn y llên gwerin sy’n gysylltiedig â nifer o nodweddion naturiol sydd efallai’n tarddu o’r cyfnod canoloesol cynnar os nad ynghynt y gellir gweld y cysylltiadau diwylliannol cynharaf yn Nyffryn Llangollen. Mae hyn i’w weld amlycaf ar Graig Arthur a Chraig y Forwyn — enwau lleoedd sy’n gysylltiedig â dau o’r brigiadau amlwg ar sgarp calchfaen dramatig Creigiau Eglwyseg.

Mae’r cysylltiadau dilynol yn y cyfnodau canoloesol cynnar a chanoloesol yn cyfeirio’n bennaf at strwythurau neu adeiladau a grëwyd o fewn y dirwedd naturiol, ac a gododd yn aml trwy nawdd brenhinol neu eglwysig. Codwyd Piler Eliseg, sef rhan isaf croes garreg mewn lle amlwg yn nyffryn Eglwyseg, yn ystod hanner cyntaf y 9fed ganrif gan Cyngen er anrhydedd i’w hen-daid, Eliseg, a oedd wedi aduno’r deyrnas trwy adfer y tir yr oedd y Saeson wedi ei orchfygu. Ym 1696 fe gofnododd yr hynafiaethydd Edward Lhuyd yr arysgrif wreiddiol ar Biler Eliseg cyn iddi ddirywio i’w chyflwr presennol, lle nad oes prin modd ei darllen. Mae’r arysgrif ar yr heneb symbolaidd bwysig hon yn olrhain olyniaeth chwedlonol teulu brenhinol Powys o Frenin Gwrtheyrn ar ddechrau’r 5ed ganrif, Macsen Wledig ar ddiwedd y 4edd ganrif a bendith grefyddol Sant Germanus o Auxerre. Mae hi felly yn manylu ar hawliau gwleidyddol a thiriogaethol sy’n estyn yn ôl i’r byd Rhufeinig diweddar. Mae dadlau brwd ynghylch tarddiad yr elfen eglwyseg yn Afon Eglwyseg a Chreigiau Eglwyseg, ond cred rhai awdurdodau bod yr elfen honno’n tarddu o Eliseg.

Mae’n bosibl mai yn y 9fed neu’r 10fed cadwyn o gerddi o’r enw Canu Llywarch Hen y ceir y cofnod cynharaf o enwau lleoedd yn y dyffryn, sy’n cyfeirio at anheddiad Llangollen a’r bwlch a adwaenir fel Bwlch y Rhiw Velen i’r gogledd dros y mynyddoedd i Ruthun, gan sôn am fannau claddu meibion Llywarch.

Byddai’r bardd llys Einion Wan yn sicrhau cysylltiadau barddol pellach yn gynnar yn y 13eg ganrif. Mae ei gerddi sydd wedi goroesi yn cynnwys englyn sy’n cynnwys marwnad i Fadog ap Gruffudd Maelor, rheolwr cyntaf teyrnas Powys Fadog a isrannwyd. Sefydlodd Madog Abaty Glyn y Groes ym 1201, ac adeiladodd ei fab, Gruffudd ap Madog, Gastell Dinas Brân yn y 1260au, dau adeilad a fyddai yn ddiweddarach yn magu statws eiconig yn y rhanbarth.

Er gwaethaf ei fod wedi colli arwyddocâd gwleidyddol a strategol yn dilyn concwest Edward yn y 1280au, byddai Dinas Brân yn nodwedd mewn nifer o weithiau llenyddol ar ddiwedd y 13eg a’r 14eg ganrif. Mae’n ymddangos yn y rhamant rhyddiaith o’r enw Fouke le Fitz Waryn, sef llawysgrif a ysgrifennwyd mewn Hen Ffrangeg, sy’n dyddio o hanner cyntaf y 14eg ganrif ac sydd bellach yn y Llyfrgell Brydeinig, ond mae wedi’i seilio ar ramant farddonol o’r 13eg ganrif sydd bellach ar goll. Mae’r unig waith sydd wedi goroesi o eiddo’r bardd Cymraeg Hywel ab Einion hefyd yn dyddio o’r 14eg ganrif. Fe gyfansoddodd gân serch i Myfanwy Fychan o Ddinas Brân, sef merch ifanc a oedd yn rhan o un o ganghennau teulu Trevor. Dywedir i’r gerdd gael ei gadael mewn hollt mewn coeden dderw ar lethrau’r bryn a chyhoeddwyd hi am y tro cyntaf mewn cyfieithiad gan Thomas Pennant yn ei Tour in Wales. Dyma ran ohoni yn y Gymraeg wreiddiol:

Lluniais wawd, ddefawd ddifan, - traul ofer,
Nid trwy lafur bychan, Lliw eiry cynnar pen Aran, Lloer bryd, lwys fryd o lys Frân.

Byddai’r gerdd ganoloesol yn ysbrydoli’r gerdd Fictoraidd enwog, Myfanwy Fychan, gan y bardd John Ceiriog Hughes. Ysgrifennwyd y gerdd, gyda’i phwyslais ar safonau moesol, ar gyfer yr Eisteddfod a gynhaliwyd yn Llangollen ym 1858 a daeth yn fodel ar gyfer cerddi serch Cymraeg yn ail hanner y 19eg ganrif.

Yn ogystal â’i effaith eglwysig ac economaidd arwyddocaol, daeth yr abaty Sistersaidd yng Nglyn y Groes hefyd i fod yn ganolbwynt pwysig ar gyfer bywyd diwylliannol yn y rhanbarth yn sgîl nawdd y naill abad ar ôl y llall, a thrwy gysylltiadau â’r bardd Iolo Goch yn y 14eg ganrif a Guto’r Glyn a Gutun Owain yn y 15fed ganrif. Mae cerdd enwog gan Gutun Owain yn canmol haelioni Dafydd ab Ieuan, yr un abad a oedd wedi gofalu am y bardd Guto’r Glyn yn ei henaint:

CPAT PHOTO 1766-154

Olion yr abaty Sistersaidd yng Nglyn y Groes, a sefydlwyd gan y tywysog Cymreig Madog ap Gruffudd Maelor ym 1201. Mae Castell Dinas Brân i’w weld yn y pellter tuag at ochr dde’r llun. Llun: CPAT 1766-154.

Ef a bair llynnau o fyw berllanwydd
Ac o frag gwenith a gwiw frig gwinydd;
A gario’r gwenyn o gyriau’r gweunydd
Yn ei gaeredau a wna gwirodydd.
Y ffrwythau gorau, megis Gweirydd-Gryf,
O ddaear a dyf a ddyry Dafydd.

Y mudiad Rhamantaidd

Er eu bod bellach yn adfeilion, parhawyd i gyfeirio at Gastell Dinas Brân a Glyn y Groes mewn gweithiau a gyfansoddwyd yn y 16eg a’r 17eg ganrif a soniwyd amdanynt gyntaf gan hynafiaethwyr cynnar. Yn ôl John Leland, Hynafiaethydd y Brenin, a ymwelodd â’r lle rhywdro ar ôl 1534, ‘the castle of Dinas Brane was never a bygge thing, but sette al for strength in a place half inaccessible for enemies’. Crëwyd delweddau Rhamantaidd Cynnar o’r castell adfeiliedig mewn englyn gan Roger Cyffyn, y bardd o Sir Ddinbych, ar ddiwedd y 16eg neu’n gynnar yn yr 17eg ganrif, a welir wedi’i gyfieithu yn llyfr George Borrow, Wild Wales:
Gone, gone are thy gates, Dinas Brân on the height!
Thy warders are blood-crows and ravens, I trow;
Now no one will wend from the field of the fight
To the fortress on high, save the raven and crow.

Arweiniodd gwelliannau cyffredinol mewn cyfathrebu a chynnydd yn symudiadau’r dosbarthiadau elitaidd at ddibenion cymdeithasol a hamdden at ddyfodiad llawer o ymwelwyr â’r ardal o tua chanol y 18fed ganrif, ynghyd ag ymddangosiad cyntaf darluniau cyhoeddedig o Ddyffryn Llangollen, a oedd yn ddylanwadol wrth hybu delwedd ddarluniaidd o’i hynafiaethau a’i olygfeydd. Cyhoeddwyd engrafiadau o Glyn y Groes gan y brodyr Buck ym 1741–42 a chan S. H. Grimm ym 1770. Paentiodd yr artist o Gymro, Richard Wilson, sawl golygfa o Ddinas Brân oddeutu 1770, ac fe gomisiynwyd un ohonynt gan Syr Watkin Williams-Wynn, a’i ddangos yn yr Academi Frenhinol ym 1771. Roedd Wilson wedi astudio paentio’r dirwedd yn yr Eidal cyn hynny. Roedd dyffryn afon Dyfrdwy, gyda’i gefn gwlad ffrwythlon a’i gastell ac abaty adfeiliedig yn bwnc delfrydol ar gyfer tirweddau yn yr arddull Eidalaidd. Yn wir, awgryma dadansoddiad pelydr X o un o’i olygfeydd o Ddinas Brân ei bod wedi ei phaentio dros ddarlun o dirwedd Tivoli. Aeth John Ingleby ati i baentio llun dyfrlliw o’r dirwedd ger Llangollen gan gynnwys Glyn y Groes a Dinas Brân ac ym 1776, cyhoeddodd Paul Sandby Views of North Wales a oedd yn cynnwys darlun o Ddyffryn Llangollen o’r dwyrain, yn dangos castell Dinas Brân. Er gwaethaf y mewnlifiad ymwelwyr, parhaodd y traddodiad barddol cryf ymhlith beirdd brodorol megis y bardd o Sir Ddinbych, Jonathan Hughes (1721–1805), a anwyd yn ffermdy Ty’n-y-pistyll, Pengwern, ger Llangollen, cystadleuwr yn yr eisteddfodau a drefnwyd gan Gymdeithas y Gwyneddigion. Cyhoeddodd Hughes, yr ysgrifennwyd ei feddargraff gan ei gyfaill Twm o’r Nant (Thomas Edwards) sawl cyfrol o farddoniaeth yn ystod ei fywyd ac ychydig wedi ei farwolaeth. Daethai dylanwadau diwylliannol pennaf yr ardal o bellter, fodd bynnag, ac er gwaethaf gwelliannau i’r rhwydwaith ffyrdd tyrpeg, aeth rhai o’r ymwelwyr i drafferth i herio’r llwybrau mwyaf llafurus ac anturus y gallai’r ardal eu cynnig. Disgrifiodd Tour in Wales Thomas Pennant, a gyhoeddwyd ym 1783, ddyffryn Eglwyseg fel rhywle a oedd yn ‘adapted only for the travel of the horsemen’, gan ei fod yn

long and narrow, bounded on the right by the astonishing precipices, divided into numberless parallel strata of white limestone, often giving birth to vast yew-trees: and on the left, by smooth and verdant hills, bordered by pretty woods. One of the principal of the Glisseg rocks is honoured with the name of Craig-Arthur. That at the end of the vale is called Craig y Forwyn, or maiden’s rock; is bold, precipitous, and terminates with a vast natural column. . . . This valley is chiefly inhabited (happily) by an independent race of warm and wealthy yeomanry, undevoured as yet by the great men of the country.

Disgrifiodd y bryniau uwchlaw Froncysyllte fel rhai oedd ‘a prospect uncommonly great. The distant view is boundless. One side impends over a most beautiful valley, watered by the Dee; diversified with groves and bounded towards the end by barren and naked rocks, tier above tier’. Mae’r tai bonedd hynod hefyd yn cael eu disgrifio a’u canmol am y tro cyntaf yn y gweithiau hyn. Yn ôl Pennant ‘Trevor house makes a handsome appearance’ er bod y neuadd ag iddi fframwaith pren ym Mhlas yn y Pentre yn cael ei hystyried yn ‘grotesque ancient house, which gives variety to the scenery’. Ymddangosodd y disgrifiadau cyntaf o’r aneddiadau yn y Dyffryn hefyd yn y cyfnod yma. Disgrifiodd Pennant Langollen fel hyn:

a small and poor town, seated in a most romantic spot, near a pretty common watered by the Dee, which emblematic of its country, runs with great passion through the valley. The mountains soar to a great height above their wooded bases; and one, whose summit is crowned with the ancient castle ,Brân, is uncommonly grand. . . . I know of no place in North Wales, where the refined lover of picturesque scenes, the sentimental, or the romantic, can give a fuller indulgence to his inclination. No place abounds more with various rides or solemn walks.

Roedd Glyn y Groes i’w ddisgrifio fel ‘solemnly seated at the foot of the mountains, on a small meadowy flat, watered by a pretty stream, and shaded with hanging woods’, ac roedd engrafiadau o luniau dyfrlliw o Ddinas Brân, Glyn y Groes a Philer Eliseg gan Moses Griffiths i’w cyhoeddi yn Tour in Wales Pennant. Ymddangosodd engrafiad pellach yn dangos golygfa o Glyn y Groes a Chastell Dinas Brân yn Antiquites of England and Wales Henry Boswell a gyhoeddwyd ym 1786.

Roedd teithio dramor wedi dod yn beryglus yn ystod blynyddoedd olaf y 18fed ganrif oherwydd y Rhyfeloedd yn Ffrainc ac o’r herwydd roedd yn adeg pan fyddai llawer o’r darpar deithwyr yn chwilio am antur ym Mhrydain yn hytrach na mynd ati i drefnu Taith Fawr. Roedd nifer o gyhoeddiadau’n manteisio ar anghenion y farchnad newydd a chynyddol hon. Cyhoeddwyd A Map of the Six Counties of North Wales ym 1795 gydag engrafiadau gan Robert Baugh, a oedd yn cynnwys golygfa o adfeilion Abaty Glyn y Groes. Cyhoeddwyd engrafiad o Blas Llantysilo ym 1796 a gwnaed darlun o Biler Eliseg gan Thomas Rowlandson ym 1797.

CPAT PHOTO 1766-222

Plas Newydd, Llangollen, hen dŷ Merched Llangollen, Sarah Ponsonby ac Eleanor Butler, gyda Chastell Dinas Brân yn y pellter. Llun: CPAT 1766-222.

Yn ystod dau ddegawd olaf y 18fed ganrif, gwelwyd bod y Mudiad Rhamantaidd ledled Ewrop yn cofleidio’r Dyffryn yn llwyr. Erbyn y 1780au roedd Plas Newydd, bwthyn bach o gerrig o’r enw Pen y Maes ar y pryd, ar ymylon deheuol Llangollen, yn gartref i ddwy ferch hynod o Iwerddon, sef Eleanor Butler a Sarah Ponsonby, a gelwid hwy yn ddiweddarach yn Ferched Llangollen. Buont yn byw yno hyd eu marwolaeth ym 1829 a 1831 ac roeddent yn westywyr i glîc o gyfeillion a chydnabod enwog, gan gynnwys aelodau o deuluoedd bonedd o Gymry lleol, yn ogystal â phobl o oedd yn enwog ym Mhrydain a thrwy’r byd ym meysydd celf, gwleidyddiaeth a llenyddiaeth a oedd yn cynrychioli cenhedlaeth newydd o dwristiaid diwylliannol yn yr ardal. Roedd ymwelwyr â Phlas Newydd dros y cyfnod hwn o 40 mlynedd neu fwy yn cynnwys personoliaethau mor amrywiol ag Arthur Wellesly (Dug Wellington yn ddiweddarach), Dug Caerloyw, Y Tywysog Paul Esterhazy (gweinidog materion tramor Awstria), Syr Walter Scott, Robert Southey, Josiah Wedgewood, Charles Darwin, Richard Sheridan, a Syr Humphrey Davey. Yn nhiroedd Plas Newydd ym 1824, dan drem adfeilion mawreddog Dinas Brân, cyfansoddodd William Wordsworth y llinellau hyn am y castell adfeiliedig,

Through shattered galleries, ’mid roofless halls,
Wandering with timid footsteps oft betrayed,
The Stranger sighs . . .
Wedi hynny, byddai’n disgrifio ei ymweliad â Merched Llangollen mewn llythyr i’w gyfaill, Syr George Beaumont:
Called upon the celebrated Recluses . . . . We drank tea and passed a couple of hours with them in the evening, having visited the aqueduct over the Dee and Chirk Castle in the afternoon. . . . Next day I sent them the following sonnet from Ruthin, which was conceived, and in great measure composed, in their grounds.

Glyn Cafaillgaroch, in the Cambrian tongue,
In ours, the Vale of Friendship, let this spot
Be nam’d; where, faithful to a low roof’d Cot,
On Deva’s banks, ye have abode so long;
Sisters in love, a love allowed to climb,
Ev’n on this earth, above the reach of time!

The allusion to the Vale of Meditation in the above, would recall to the Ladies’ minds, as it was meant to do, their own good-natured jokes of the preceding evening . . .

Roedd Anna Seward hefyd yn fardd Rhamantaidd a ymwelodd â’r Merched yn ystod y cyfnod hwn. Wedi’r ymweliad fe gyfansoddodd y llinellau canlynol, a gyhoeddwyd wedi ei marwolaeth yn ei gwaith Llangollen Vale: with other poems:
Say, ivy’d Valle Crucis, time decay’d,
Dim on the brink of Deva’s wandering flood,
Your riv’d arch glimmering thro’ the tangled glade,
Your gay hills, towering o’er your night of wood,
Deep in the vale’s recesses as you stand,
And desolately great the rising sigh command.
Byddai etifeddiaeth Eleanor Butler a Sarah Ponsonby yn eu goroesi o flynyddoedd. Estynnwyd y tŷ ac ychwanegwyd gwaith pren coeth yn y 1880au gan berchennog diweddarach, Y Cadfridog John Yorke. Cafwyd gwelliannau i’w erddi gan gynnwys codi hafdy a phontydd addurnol ar draws nant Cyflymen y codwyd y tŷ ar ei glannau. Dywedir i Richard Llewelyn ysgrifennu How Green Was My Valley yn y tŷ ym 1924, ac roedd hefyd yn gartref i Gwmni Theatr Cenedlaethol Cymru yn y 1930au. Rheolir y tŷ a’r gerddi fel atyniad i dwristiaid heddiw. Byddai’r Parch Bingley yn nodi Plas Newydd ar ei daith ym 1798:
the charming retreat of lady Eleanor Butler and Miss Ponsonby, which, however, has of late years been probably too much intruded upon by the curiosity of the multitudes of tourists who every summer visit Llangollen. . . . These two females, delighted with the scenery around Llangollen, when it was little known to the rest of the world, sought here a philosophical retirement from the frivolities of fashionable life, erected a dwelling that commands a fine mountain prospect, and have resided here ever since.
Ysgrifennodd Bingley hefyd ym 1798 am Gastell Dinas Brân a chofnododd godi Traphont Ddŵr Pontcysyllte, ond nid oedd mor ganmoliaethus am nifer yr ymwelwyr â thref Llangollen: ‘in the summer time I have more than once found it very unpleasant, from the crowd of travellers that are constantly passing on the roads to and from Ireland, and from the number of . . . tourists’.

Byddai paentiwr tirluniau gorau Prydain, J. M. W. Turner, ymhlith yr ymwelwyr hyn oddeutu 1798 pan wnaeth fraslun o afon Dyfrdwy a Chastell Dinas Brân yn y cefndir. Ym 1808, lluniodd fraslun rhagarweiniol o Glyn y Groes, unwaith eto gyda Dinas Brân yn y cefndir. Daeth y braslun yn destun darlun dyfrlliw diweddarach â’i brif themâu yn cynnwys un o themâu canolog celf Ramantus y cyfnod, yn cyfosod bugeiles a labrwyr yn torri gwair yn y blaendir gyda golygfa naturiol sy’n cynnwys adfeilion yr abaty a’r castell yn y cefndir.

Roedd ymgyrch groch a drefnwyd gan nifer o bobl leol amlwg ar ddechrau’r 19eg ganrif yn erbyn diwydiannu yn ddylanwadol o ran cadwraeth y tir gwledig yn Nyffryn Llangollen yn y tymor hir. Roedd Eleanor Butler a Sarah Ponsonby wedi bod yn ymgyrchu ers amser maith yn erbyn agor chwareli lle byddent i’w gweld trwy eu ffenestri, ac yn yr un modd fe wnaethant ymgyrchu yn erbyn ffordd Caergybi Telford. Fe wnaethant gynnull eu ffrindiau a’u cydnabod gan gynnwys aelodau o’r bonedd lleol megis y teulu Myddleton, y teulu Mytton, y teulu Mostyn a’r teulu Williams Wynn, i wrthwynebu i adeiladu melinau yn Llangollen gan yr ystyrid hwy yn ‘ddinistriol’. Ysgrifennodd Eleanor Butler at Mr Thomas Jones o Blas Llantysilio i erfyn am ei gefnogaeth, gan fynegi ei phryder ynghylch ‘the Peace, Health and Morals of the Inhabitants’. Yn ôl y papurau newydd, roedd y merched wedi bygwth gadael Llangollen:

Lady Eleanor Butler, and her fair friend Miss Ponsonby, who have for so many years been the fair recluses of the Vale of Llangollen in Wales are going to leave their beautiful seat no longer a retreat from the ‘busy hum of men’, by two extensive cotton mills having been erected near their abode.
Erbyn haf 1804, fodd bynnag, fe’u cysurwyd â’r wybodaeth na fyddent yn cael eu goresgyn ‘neither by Buonaparte nor the Cotton mills’. Ni chynhwyswyd y gamlas yn eu hymgyrch yn erbyn diwydiannu, fodd bynnag. Roedd Y Fonesig Eleanor Butler a Miss Ponsonby ymhlith y grŵp o westeion pwysig a gafodd eu cludo ar y cychod camlas cyntaf i groesi Traphont ddŵr Telford ym Mhontcysyllte yng nghanol rhwysg y seremoni agoriadol ym 1805. Nid oedd rhai ymwelwyr diweddarach megis Richard Fenton a’i gyfaill Syr Richard Colt Hoare a oedd yn ymweld ym 1808 mor hoff o’r syniad, ac er eu bod wedi mynd ar daith ar y gamlas, eu barn oedd ‘though it may bring commerce to a Country, yet in a picuresque point of view disfigures it’. Heddiw, fodd bynnag, ystyrir y gamlas yn un o atyniadau anwylaf yr ardal.

Twf twristiaeth a bywyd diwylliannol yn y 19eg a’r 20fed ganrif

Byddai twristiaid o dras uchel, o Loegr yn bennaf, yn parhau i heidio i’r Dyffryn gydol rhan gyntaf y 19eg ganrif. Ymwelodd y ffisegydd ifanc, Michael Faraday, â Thraphont Ddŵr Pontcysyllte yn ail ddegawd y ganrif, gan sylwi ar yr arglawdd ar ochr ddeheuol y dyffryn ‘jutting out like a promontory’, ac ar ei phileri main o gerrig a oedd yn peri iddi edrych ‘light as a cloud’. Ymwelodd y traethodydd William Hazlitt ym 1823, ac ysgrifennodd ‘I went to Llangollen Vale, by way of initiating myself in the mysteries of natural scenery; and I must say I was enchanted with it . . . the valley was to me . . . the cradle of a new existence . . . on passing a certain point you come all at once upon the valley, which opens like an amphitheatre, broad and barren hills rising in majestic state on either side, with [quoting Samuel Taylor Coleridge] ‘green upland swells that echo to the bleat of flocks’ below, and the river Dee babbling over its stony bed in the midst of them’.

Ym 1829, ymwelodd y cyfansoddwr Almaenig Felix Mendelssohn, a fentrodd i gefn gwlad cyfagos i chwilio am noddfa rhag y telynorion a eisteddai ‘in the hall of every reputable tavern playing so called fold melodies — that is to say, dreadful, vulgar, out-of-tune, trash with a hurdy-gurdy going on at the same time!’ by venturing into the surrounding countryside:

yesterday afternoon I had already climbed to the top of a high mountain, with the ruins of a Roman citadel [Dinas Brân] at the summit, had looked far out into the blue distance, and down to the dark, lonely valleys below – then climbed right back down into one of these quiet valleys, in which the walls and windows of an old abbey are covered and overgrown with lovely green trees – the abbey is right next to a rushing, babbling brook, mountains and rocky cliffs are spread all around, the choir of the church has been converted into a stable, the altar into a kitchen, above the tops of the gables you can see the tops of the beeches towering in the distance which could be a chapter in themselves
Cyniga Samuel Lewis ddelwedd ddarluniaidd debyg o Ddyffryn Llangollen yn ei Topographical Dictionary a gyhoeddwyd ym 1833, gan baratoi’r ffordd ar gyfer y gwerthfawrogiad mwy poblogaidd o atyniadau’r ardal, a gynyddodd yn ddiweddarach yn y ganrif:
The situation of Llangollen on the mail coach road from London through Shrewsbury to Holyhead causes it to be enlivened by the daily passage of travellers; and its inhabitants derive considerable advantage from the number of persons who visit it in the summer season, and make this their temporary abode, for the purpose of enjoying the scenery of the neighbourhood, which is equally pre-eminent for its grandeur and sublimity, and for its picturesque and romantic beauty. The parish is very extensive, and the Vale of Llangollen is deservedly celebrated as containing, in proportion to its extent, a greater variety of interesting objects, and a more beautiful and striking combination of the milder and nobler features of pleasing and majestic scenery, than probably any other in the principality.
Daeth y brigiadau dramatig o Ddyffryn Llangollen i fod yn ffynhonnell rhyfeddod a dyfaliad daearyddol o’r 18fed ganrif ymlaen o leiaf. Ysgrifenna Thomas Pennant yn ei Tour in Wales a gyhoeddwyd ym 1783 am ‘astonishing precipices’ Eglwyseg ‘divided into numberless parallel strata of white limestone, often giving birth to yew trees’.

Llangollen oedd y man cychwyn naturiol ar gyfer y trawslun daearegol arwrol ar draws gogledd Cymru gan yr Athro Adam Sedgwick a Charles Darwin fis Awst 1831. Bwriadwyd ef yn bennaf i ddangos y camgymeriadau yn y Map Daearegol o Gymru a Lloegr a gyhoeddwyd gan George Bellas Greenough ym 1820, ac fe ddarparodd sylfaen i Darwin ar ‘how to make out the geology of a country’, ychydig cyn iddo ddechrau ar ei fordaith dyngedfennol ar y Beagle. Byddai bywyd diwylliannol lleol yr ardal yn cael hwb yng nghanol y ganrif. Cynhaliwyd yr Eisteddfod Genedlaethol yn Llangollen ym 1858 ac fel y nodwyd uchod, fe enillwyd y Goron Arian gan John Ceiriog Hughes (Ceiriog) am ei gerdd sydd bellach yn enwog, sef Myfanwy Fychan.

Roedd y diwydiant ymwelwyr yn cael ei hybu’n weithredol o’r 1880au ymlaen, a rhwng y cyfnod hwnnw a diwedd degawd cyntaf yr 20fed ganrif, gwelwyd cynnydd cyflym yn nifer y gwestai, y tafarnau a’r lletyau yn Llangollen. Manylwyd ar atyniadau’r ardal mewn nifer o gyhoeddiadau newydd megis Jones’s Picturesque Views a gyhoeddwyd ym 1880, sy’n caniatáu inni olrhain y gwelliannau a wnaed er budd yr ymwelwyr. Nododd Picturesque Guide Black, felly, ym 1870 bod yr ‘old and mean houses’ a arferai fod yn y dref yn ‘gradually giving place to modern and more handsome dwellings’. Ym 1898, ysgrifennodd yr awdur llyfrau teithio, A. G. Bradley, am Langollen, a oedd unwaith yn falltod yn y dyffryn: ‘the village has this long time ceased to be the unsophisticated Arcady whose deficiencies – matter nothing – since it is the situation and the surroundings which make it famous’. Eiddo John Ruskin oedd y ganmoliaeth orau y gallai awduron yr oes ei chynnig, pan wnaeth ddatgan bod ‘the Dee itself is a quite perferct mountain stream, and the village of Llangollen – one of the most beautiful and delightful in Wales’.

Roedd Castell Dinas Brân ac Abaty Glyn y Groes wedi bod yn atyniadau ers amser maith a phan ddaeth y gamlas ym mlynyddoedd cynnar y 19eg ganrif, ychwanegwyd teithiau ar y gamlas a’r llwybr prydferth i Raeadr y Bedol at y rhestr. Byddai’r atyniadau newydd a grëwyd i’r twristiaid yn y cyfnod hyd at ddegawdau cyntaf yr 20fed ganrif yn cynnwys Rhodfa Fictoria ar hyd lan yr afon yn Llangollen, camera obscura ac ystafell de yn adfeilion castell Dinas Brân, a Panorama Walk, yn uchel ar y bryn islaw Creigiau Trevor. Roedd dyfodiad y rheilffordd wedi dwyn masnach o’r gamlas ac wedi galluogi cychod pleser i fanteisio’n llawn arni. Daeth ymwelwyr undydd neu bobl yn aros am wythnos o wyliau, gan gyrraedd ar y ffordd, y rheilffordd neu gerdded ar draws Mynydd Rhiwabon, o’r trefi a’r dinasoedd diwydiannol yng ngogledd-ddwyrain Cymru a Chanoldir Lloegr. Erbyn diwedd y 19eg ganrif, roedd cymaint o ymwelwyr yn cyrraedd ar y trên o Ganoldir Lloegr yn enwedig fel bod platfform y rheilffordd wedi’i ymestyn ym 1897, a’r ystafell aros wedi’i hehangu. Darparwyd cyfleusterau ychwanegol yn Llangollen a’r ardal gyfagos er mwyn manteisio i’r eithaf ar y cynnydd yn y galw, a chafodd y cyfan effaith ar agweddau ffisegol yr amgylchedd, gan gynnwys y siopau, yr ystafelloedd te, y gwestai a’r lletyau. Roedd angen cerbydau â cheffylau yn eu tynnu, a bysus modur yn ddiweddarach, i gludo’r ymwelwyr i’w llety ac ar deithiau i Raeadr y Bedol neu Glyn y Groes. Daeth y Frenhines Fictoria ei hun i ymweld â Llangollen ym 1889 pan oedd y fasnach ymwelwyr Fictoraidd ar ei hanterth o bosibl, a chofnododd yn ei dyddiadur ei hymweliad â’r teulu Martin ym Mryntysilio yn ei erddi pleser oedd yn tremio dros Raeadr y Bedol:

drove up the beautiful wooded, mountain-girt, deep valley, dotted with villas and cottages, to Bryntysilio, the well-known residence of Sir Theodore Martin, who with Lady Martin received us as the door. The place is beautifully situated, and the house is furnished and arranged with the greatest taste. They showed us all their rooms and his study, with the table at which he wrote dearest Albert’s life. Had tea in the Drawing-room, during which a selected number of Llangollen choirs sang Welsh songs, in the pretty sloping garden. It is wonderful how well these choirs sing, being composed merely of shopkeepers and flannel weavers.
Cynhaliwyd y cysylltiadau llenyddol yn negawdau cynnar yr 20fed ganrif gan John Cowper Powys a ysgrifennodd ei Owen Glendower, a gyhoeddwyd ym 1940, yn rhannol yn adfeilion Glyn y Groes. Mae’r penodau cyntaf wedi’u gosod yng nghastell Dinas Brân a’i gyffiniau, drwy lygaid arwr ifanc Powys, Master Rhisiart:
There it was! There before him, towering up beneath a great bank of white clouds and against a jagged ridge of bare desolate rock, rose the castle of his imagination.

For some minutes he remained spell-bound, absolutely caught out of himself, lost to everything but that majestic sight. It was not less, it was more All ramparts ever built, all towers, all fortresses, all castles, seemed to him mere clumsy reproductions of the ideal perfection of Dinas Brân. It wasn’t that it was so large—and he could see clearly, even from this distance, that it was in a battered, broken condition—but it took into itself that whole hill it was built upon! Yes, that was the thing. Dinas Brân was not the stones of its human walls, not the majestic outlines of its towering embattlements, not its soaring arches and turrets and bastions; it was an impregnable mountain called up out of that deep valley by some supernatural mandate. It foundations were sunk in the earth, but they were sunk in more than the earth; they were sunk in that mysterous underworld of beyond-reality whence rise the eternal archetypes of all the refuges and all the sanctuaries of the spirit, untouched by time, inviolable ramparts not built by hands!

I raddau yn unig yr effeithiodd yr Ail Ryfel Byd ar ardal y dirwedd hanesyddol. Ail-leolwyd amryw o gwmnïau i Langollen yn ystod y rhyfel, gan ddefnyddio adeiladau nifer o’r hen felinau. Meddiannwyd Plas Llantysilio dros dro gan ddisgyblion ysgol a ddaeth yn faciwîs o Sir Amwythig, a daeth milwyr i Fryntysilio. Adeiladwyd ffordd fechan newydd ar draws Mynydd Rhiwabon o’r Mwynglawdd i World’s End i wella mynediad, a chodwyd caer danddaearol i’r Gwarchodlu Cartref ar Fwlch yr Oernant. Yn ystod 1941 y gwelwyd unig effeithiau uniongyrchol y rhyfel pan gyneuwyd rhannau helaeth o’r rhostir grug ar Fynydd Rhiwabon gan fomwyr y gelyn, a niweidiwyd rhannau o Blas Uchaf gan fom tân.

Daeth y cyfnod wedi’r Ail Ryfel Byd â nifer o newidiadau a welir yn yr amgylchedd ffisegol. Mae Llangollen yn adnabyddus bellach am yr Eisteddfod Gerddorol Ryngwladol a gychwynnwyd ym 1947, i hybu heddwch rhyngwladol, ac sydd bellach yn croesawu mwy na chwe mil o gystadleuwyr o dros hanner cant o wahanol wledydd sy’n cystadlu ar y canu a’r dawnsio. Cynhelid yr ŵyl ar y Cae Chwarae uwchlaw’r dref i gychwyn, ond yna fe symudodd i’w safle parhaol presennol ar dir a oedd unwaith yn eiddo i Fferm Penddol, ac mae adeiladau parhaol yno bellach. Disgrifiodd Dylan Thomas effaith yr ŵyl ar y dref yn ei blynyddoedd cynnar mewn sgwrs radio a ddarlledwyd ym 1953, ac a gyhoeddwyd wedi hynny yn ei Quite Early One Morning (1954). Disgrifiodd sut mae’n ‘spills colourfully, multilingually and confraternally into the streets of Llangollen and the surrounding countryside’.

Arweiniodd y cynnydd mewn ceir preifat a chau’r rheilffordd yn y 1960au, ar wahân i’r rhan sy’n cael ei rhedeg yn breifat i’r dwyrain o Langollen am beth pellter, at gynnydd yng nghyfran yr ymwelwyr undydd, a dirywiad yn y fasnach lletyau (ac fe droswyd llawer ohonynt yn dai preifat). Yn ei dro, fe arweiniodd hyn at bwysau am feysydd parcio yn y dref, gan gynnwys yr un sydd ar safle’r hen farchnad anifeiliaid yng nghanol y dref.

(back to top)