CPAT logo
Cymraeg / English
Adref Eto
Tirwedd Hanesyddol
Dyffryn Llangollen

Nodweddu’r Dirwedd Hanesyddol

Llunio Tirwedd Dyffryn Llangollen ac Eglwyseg


AMGYLCHEDDAU A FFINIAU

Y Dirwedd Naturiol

Dyffryn dramatig ag iddo ochrau serth, yn hollti trwy Fynydd Rhiwabon a Mynydd Llantysilio i’r gogledd, a Mynyddoedd y Berwyn i’r de yw Dyffryn Llangollen. Dyffryn hollt eang ydyw yn ei hanfod, a gafodd ei gerflunio gan symudiadau’r rhewlifoedd yn ystod y rhewlifiant diwethaf. Llechi a sialau Silwraidd yw cyfansoddiad Mynydd Llantysilio i’r gorllewin a Mynyddoedd y Berwyn i’r de, ac mae sialau Ordoficaidd i’r gogledd o Gyrn-y-brain. Strata gwaelodol o galchfaen Carbonifferaidd sydd i Fynydd Rhiwabon ar y llaw arall, a dyma sy’n ffurfio sgarp dramatig Creigiau Eglwyseg a Chreigiau Trevor, gyda haen o dywodfaen a Haenau o Lo yn eu gorchuddio, gan gynnwys tywodfeini a marlau, sy’n ymestyn i gyfeiriad Rhiwabon a Wrecsam ac sy’n brigo yng nghornel dde-ddwyreinol ardal yr astudiaeth. Mae llawr y Dyffryn rhyw 80-100 metr uwchlaw y Datwm Ordnans ac mae’r bryniau o’i amgylch yn codi hyd at dros 500 metr.

CPAT PHOTO 89-c-53

Golygfa o’r awyr o sgarp calchfaen Creigiau Trevor. Llun: CPAT 89-C-53.

Yn ystod yr Oes Iâ ddiwethaf, fe effeithiodd ddwy ddalen o iâ ar yr ardal gan gyfarfod ar hyd ffin ddwyreiniol ardal yr astudiaeth, fwy na heb, ac fe symudodd un i’r de o gyfeiriad Môr Iwerddon a’r llall o gyfeiriad mynyddoedd canol Cymru yn y de. Roedd iâ yn atal llif hen ystumiau’r afon rhwng Llantysilio a Glyn y Groes ac yn Nyffryn Pengwern i gyfeiriad y de-ddwyrain o Langollen, gan orfodi Afon Dyfrdwy i dorri sianelau newydd culach a thorri’r hen ystumiau afon hyn i ffwrdd. Fe arweiniodd symudiad yr iâ at wasgaru meini dyfod ac maent ar gael hwnt ac yma ar y bryniau o amgylch. Yn sgîl gwaith rhew wrth i’r iâ gilio cafwyd llethrau sgri ar waelod sgarp calchfaen Creigiau Eglwyseg. Yn dilyn y cyfnod rhewlifol diweddar, mae dyddodion llifwaddod wedi ymgasglu ar hyd llawr y Dyffryn lle gwelir hynt ymdroellog Afon Dyfrdwy.

Ychydig o astudiaeth fanwl a wnaed o hanes amgylcheddol cynnar y rhan hon o Ddyffryn Dyfrdwy a’r bryniau o’i amgylch. Fodd bynnag, mae’n debyg, fel yn hanes sawl ardal arall yng ngogledd Cymru, roedd dilyniant cyffredinol yn y cyfnod ôl-rewlifol yn dechrau gyda sefydlu coedwig bîn yn y cyfnodau cynnar oerach, ac yna datblygiad coetir llydanddeiliog helaeth gan gynnwys yn bennaf deri, llwyfenni, pisgwydd a chyll, a phrysgwydd bedw a gwern yn yr ucheldiroedd. Mae llawer o’r gorchudd coetirol gwreiddiol yma wedi ei glirio gan weithgareddau dyn ers y cyfnodau cynhanesyddol cynnar, er bod rhai ardaloedd o goetir llydanddeiliog hynafol neu goetir a ailblannwyd yn goroesi ar rai o lethrau mwyaf serth y bryniau a dyffrynnoedd y nentydd. Cofnodir ardaloedd mwy helaeth o goetir yn y 14eg ganrif. Gorweddai un goedwig o’r enw ‘Cwm-cath’ ar y tir uwch i’r de o Langollen, ac roedd coedwigwr Arglwyddiaeth Mers Swydd y Waun yn rheoli un arall o’r enw ‘Isclawdd’ yn ardal Froncysyllte a Threvor.

Y Dirwedd Weinyddol

O’r 7fed neu’r 8fed ganrif, roedd yr ardal yn rhan o deyrnas Gymreig Powys. Bygythiwyd ffiniau dwyreiniol y deyrnas yn ddiweddarach yn yr 8fed ganrif gan deyrnas Eingl-Sacsonaidd gyffiniol Mersia yr oedd Clawdd Offa yn derfyn iddi. Ychydig y tu hwnt i ffin ddwyreiniol ardal yr astudiaeth mae’r Clawdd. Codwyd Piler Eliseg, sef rhan isaf croes garreg ger Glyn y Groes, yn hanner cyntaf y 9fed ganrif gan Cyngen er anrhydedd i’w hen-daid, Eliseg, a oedd wedi aduno’r deyrnas trwy adfer tir yr oedd y Saeson wedi ei orchfygu. Mae lleoliad yr henebyn pwysig hwn ar ganolbwynt dyffryn llednant afon Dyfrdwy yn awgrymu presenoldeb stad frenhinol yma yn nyffryn Eglwyseg yn y 9fed ganrif.

CPAT PHOTO 1766-150

Codwyd Piler Eliseg gan Cyngen yng nghanol y 9fed ganrif i goffáu ei hen daid. Llun: CPAT 1766-150.

Ar farwolaeth Gruffudd Maelor ym 1191, isrannwyd Powys yn deyrnasoedd Powys Fadog yn y gogledd, a oedd yn cynnwys ardal Dyffryn Llangollen, a Phowys Wenwynwyn ymhellach i’r de. Roedd ardal y Dyffryn o fewn cymydau Nanheudwy i’r de, Maelor Gymraeg (Brwmffild) i’r gogledd-ddwyrain ac Iâl i’r gogledd-orllewin.

Madog ap Gruffudd etifeddodd y rhan o Bowys Fadog a oedd yn cynnwys cymydau Iâl a Nanheudwy. Ef oedd wedi sefydlu’r fynachlog Sistersaidd yng Nglyn y Groes ym 1201 a ddaeth yn ddiweddarach yn fynwent i’r llinach gyfan. Yn dilyn marwolaeth Madog ym 1236, etifeddwyd y deyrnas gan ei fab Gruffudd ap Madog Maelor. Adeiladodd Gruffudd gastell Dinas Brân yn y 1260au yn ganolfan weinyddol i’r deyrnas, cyn ei farwolaeth ym 1269.

Meddiannodd Edward I deyrnas Powys Fadog ym 1282 yn ystod concwest Cymru gan goron Lloegr. Peidiodd Powys Fadog â bod yn endid ar wahân wedi hynny, ac o’r adeg honno ymlaen, fe gollodd Dinas Brân ei arwyddocâd milwrol a gweinyddol. Rhoddwyd y tir i’r de o Afon Dyfrdwy, yn ogystal â’r rhan o Iâl a oedd yn cynnwys Dinas Brân a Glyn y Groes i’r gogledd o’r afon i Roger Mortimer, mab Roger, arglwydd Wigmore, ac wedi hynny daeth yn rhan o arglwyddiaeth mers Swydd y Waun, a gafodd ei rhedeg o Gastell y Waun. Rhoddwyd gweddill y tiroedd i’r gogledd o’r afon i John, iarll Warrene, gan ffurfio rhan o’r arglwyddiaeth mers newydd, sef Arglwyddiaeth Brwmffild ac Iâl, a weinyddwyd o Gastell Holt.

CPAT PHOTO 1766-321

Olion sgerbydol hen gastell canoloesol y Cymry, sef Castell Dinas Brân a godwyd y tu mewn i ragfuriau hen Fryngaer o Oes yr Haearn gan Gruffydd ap Madog yn y 1260au. Llun: CPAT 1766-321.

Aeth arglwyddiaethau mers Swydd y Waun, a Brwmffild ac Iâl trwy sawl pâr o ddwylo, ond rheolwyd hwy o hyd fel tiriogaethau annibynnol hyd y Ddeddf Uno ym 1536 pan ddaethant yn rhan o gantrefi y Waun, a Brwmffild ac Iâl yn y sir newydd, sef Sir Ddinbych.

Roedd Sir Ddinbych yn ffurfio rhan o sir newydd Clwyd a grëwyd wrth ad-drefnu llywodraeth leol ym 1974, ond ailgyfansoddwyd hi eto fel awdurdod unedol Sir Ddinbych wrth ad-drefnu llywodraeth leol ym 1996. Trosglwyddwyd cymuned Llangollen Wledig, yng nghornel ddwyreiniol ardal yr astudiaeth i Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam ym 1997.

O ran yr eglwys, mynachlog Sistersaidd Glyn y Groes (Llanegwestl) oedd yn rheoli strwythur plwyfol yr ardal. Mynachlog a sefydlwyd ym 1201 gan Fadog ap Gruffudd, rheolwr Powys Fadog, oedd hon, ac fe ddisodlodd nifer o blwyfi eglwysig yn yr ardal. Roedd gan yr abaty feddiannau helaeth ond gwasgaredig yn ne Sir Ddinbych, ac roedd yn dibynnu’n helaeth ar ddegymau. Roedd y rhain yn cynnwys degymau’r eglwysi a briodolwyd i’r fynachlog, sef eglwysi Llandysilio-yn-Iâl a Llangollen a sefydlwyd yn y 6ed neu’r 7fed ganrif o bosibl. Dichon mai eglwys Llangollen oedd mam eglwys cwmwd Nanheudwy. Cafwyd cyfnod hir o ddirywiad yng Nglyn y Groes cyn ei ddiddymiad ym 1536, yn ystod teyrnasiad Harri’r VIII.

Yn y 19eg ganrif, rhannwyd plwyf Llantysilio yn drefgorddau Coedrwg, Maesyrychain, Llandynan, Cymmo-Dupart a Chymmo-Traian (Brithdir). Roedd plwyf Llangollen yn cynnwys trefgorddau Trevor Isa, Trevor Ucha, Dinbren, Eglwyseg, Cysyllte, Llangollen Fechan, Llangollen Fawr, Llangollen Abad, Pengwern, Bache, Vivod, a Rhisgog.

(yn ôl i’r brig)