CPAT logo
Cymraeg / English
Adref Eto
Tirwedd Hanesyddol
Dyffryn Llangollen

Nodweddu’r Dirwedd Hanesyddol

Llunio Tirwedd Dyffryn Llangollen ac Eglwyseg


DIWYDIANT

Roedd y diwydiant cynnar yn gysylltiedig â harneisio pŵer dŵr a phrosesu cynnyrch amaethyddol lleol – melinau blawd a gwlân, ac roedd y rhwydwaith ffyrdd yn wael; arweiniodd gwelliannau mewn trafnidiaeth a datblygiadau mewn mannau eraill at alw am ddeunyddiau crai a gwelwyd datblygiad llechi, calch, ceramig, yr olaf yn seiliedig ar lo a fewnforiwyd, a bragu ar sail grawn a fewnforiwyd, a thrin lledr. Cafodd nifer o ddiwydiannau echdynnu a phrosesu eraill effeithiau llai ar y dirwedd (nas disgrifir mohonynt yn fanwl yma), er enghraifft y chwareli cerrig bychain a oedd wedi’u gwasgaru dros ardal eang ar gyfer adeiladu tai a waliau, y rhan fwyaf ohonynt yn dyddio o bosibl o’r 16eg i’r 18fed ganrif yn bennaf. Lleolwyd diwydiannau lleol eraill yn y 19eg a’r 20fed ganrif mewn tanerdai, melinau llifio, gweithiau nwy, argraffdai, gefeiliau a bragdai. Mae rhai adeiladau neu strwythurau sydd wedi goroesi yn parhau i gynrychioli rhai o’r rhain, yn Llangollen yn bennaf, megis yr hen danerdy yn Stryd y Neuadd ac ar Stryd yr Eglwys, hen Fragdy’r Sun ar Stryd y Frenhines a hen Fragdy Tanquery ar Stryd Berwyn.

Defnydd cynnar o bŵer dŵr ar gyfer melino ŷd a chynhyrchu tecstilau

Roedd llawer o’r diwydiannau cynnar yn defnyddio pŵer dŵr, yn fwyaf arbennig yn ardaloedd nodwedd tirwedd hanesyddol Vivod, Llangollen, Pant-y-groes a Dol-isaf. Roedd y melinau wedi’u lleoli ar lannau afon Dyfrdwy yn bennaf, yn ogystal ag afon Eglwyseg a nant Cyflymen i’r de o Langollen a mannau eraill. Mae’n ymddangos fod melinau ŷd dŵr wedi bodoli ers y 13eg ganrif, gan gynnwys y rheiny a oedd yn perthyn i Abaty Glyn y Groes y credir iddynt fodoli ym Mhentrefelin a Llangollen. Roedd melinau ŷd dŵr a melinau ar gyfer bwydydd anifeiliaid yn parhau i weithredu yn y 18fed, y 19eg ac ambell waith ddechrau’r 20fed ganrif yn Llangollen, Melin Trevor ar lan afon Dyfrdwy ac yn ddiweddarach ger adeiladau melinau Bache a Phengwern ar Nant Cyflymen ychydig i’r de o Langollen. Roedd tarddiad y diwydiant tecstilau yn yr ardal yr un mor gynnar. Mae’r elfen ‘pandy’ yn enw’r lle yn awgrymu rhai o’r safleoedd cynnar. Roedd y gair yn cyfeirio at fodolaeth pandai yn achos Pandy ychydig i’r gogledd o Abaty Glyn y Groes ac yn Hen-bandy ar lan afon Eglwyseg.

Daeth dyffryn Dyfrdwy, ac yn enwedig tref Llangollen, i fod yn ardal gweithgynhyrchu tecstilau pwysig yn ystod y 19eg ganrif, lle codwyd melinau mawr, fel rhai Swydd Efrog a Sir Gaerhirfryn. Yn y 1830au roedd yno dair melin fawr — Ffatri Mile End, Melinau Upper Dee a Melinau Lower Dee. Gwyddys fod melinau pŵer yn Llangollen cyn bod rhai mewn unrhyw fan arall yng Nghymru, ar ôl cael eu cyflwyno i un o’r melinau cotwm gan gwmni o Fanceinion mor fuan â 1805, a byddai rhai ffatrïoedd yn cynhyrchu 15,000 llathen o frethyn yr wythnos yn y 1820au. Er bod dirwasgiad yn y 1830au a’r 1840au fe barhaodd y patrwm hyd ddechrau’r 20fed ganrif.

Roedd melinau mawr Llangollen yn wahanol eu cymeriad i’r rheiny yng ngweddill Sir Ddinbych, ac nid oeddent yn ddatblygiad naturiol o’r pandai neu’r gweithdai gwehyddu cynharach. Roedd angen i’r cyfalafwyr a ddaeth i mewn i’r ardal fuddsoddi’n sylweddol ynddynt, er mai cribo a nyddu’r gwlân ar gyfer nifer o wehyddion cartref yn y cyffiniau oedd y rhan fwyaf o’r melinau hyd y 1860au. Yng nghanol y 19eg ganrif, fe ddisgrifiodd George Borrow yn ei lyfr Wild Wales sut y dangosodd John James, ei dywysydd yn Llangollen y llwybr iddo dros y mynydd yr arferai ei gymryd wrth gludo’r gwlanen a wehyddai gartref i berchennog y felin a oedd yn ei gyflogi.

Roedd y tair melin yn Llangollen yn weithredol tan y 1940au, ac fe gaeodd yr olaf, sef Melin Lower Dee am y tro olaf ym 1960. Yn hon byddent yn gweithgynhyrchu blancedi a brethyn cartref gyda gwlân o Awstralia, Seland Newydd ac Ynysoedd Shetland. Wrth i weithgynhyrchu tecstilau ddirywio rhwng y ddau ryfel byd ac ar ôl yr ail ryfel byd, rhyddhawyd nifer o hen felinau i gael eu defnyddio at ddibenion eraill.

Mwyngloddio metel

Ceir tirwedd ag olion helaeth o fwyngloddio mwynau plwm, arian a sinc ar ochr ogleddol ardal nodwedd Mynydd Rhiwabon lle gorwedd gwaith mwynglawdd Pool Park ar y rhostir tonnog, grugog lle ceir llyncdyllau naturiol yn y calchfaen.

Yn y 1860au a’r 1870au y gwelwyd prif gyfnodau’r gweithgareddau mwyngloddio, ac er bod awgrym o waith cynharach, di-ddyddiad yn y nifer o siafftiau llai sydd wedi’u gwasgaru yma a thraw ar hyd y gwythiennau, mae’n debyg bod y rhain yn dyddio o’r 18fed neu’r 19eg ganrif, gan nad oes tystiolaeth eglur o fwyngloddio yn y canol oesoedd yn yr ardal arbennig yma. Mae’r mwyngloddio mwy dwys yn y fan hon yn cwmpasu ardal o dros 10 hectar, ac yn ffurfio rhan o dirwedd wasgaredig, er mwy helaeth, rhyw dri i bedwar cilometr i’r de ar draws y mynydd ger mwyngloddiau Pool Park, Cefn y Gist ac Eglwyseg ac i’r gogledd y tu hwnt i ffiniau’r ardal astudiaeth i’r Mwynglawdd. Roedd mwynglawdd Pool Park yn yr ongl rhwng dyffryn nant Aber Sychnant â’i ochrau serth a i’r gorllewin a dyffryn un o’i lednentydd i’r gogledd, sef dyffryn yr un mor serth, gan hollti’r llwyfan calchfaen Carbonifferaidd ar uchder o ryw 400 metr uwchlaw lefel y môr. Mae’r tomenni gwastraff a adawyd ar ôl cloddio’r siafftiau a phrosesu’r mwynau yn dal heb lystyfiant ac yn sefyll allan o’r rhostir o’u hamgylch.

Ni chafodd gweithredu diweddarach fawr o effaith ar yr ardal ar y cyfan, ac eithrio distrywio’r peiriandy, felly mae’r gwrthgloddiau sydd wedi goroesi yn cynrychioli tirwedd mwyngloddio sydd i raddau helaeth wedi ffosileiddio. Mae dwy res o siafftiau yn dilyn y prif wythiennau, er mai o amgylch siafft fawr â thomenni gwastraff yr oedd y prif ardal gweithredu, ac mae olion y peiriandy ac arglawdd sylweddol ar gyfer tramffordd sy’n cysylltu’r safle ag ardal arall o weithredu gerllaw.

Mae olion sawl strwythur llai wedi goroesi, ynghyd â thystiolaeth ar gyfer mwyngloddio brig o bosibl. Yn ogystal â’r prif weithiau, mae prif nodweddion y dirwedd yn cynnwys dwy system ddyfrffos a oedd yn tynnu dŵr o nant Aber Sychnant i gyflenwi mwyngloddiau’r Mwynglawdd, ac mae un ohonynt hefyd yn cyflenwi Pool Park a Lower Park. Mae tystiolaeth o’r maes yn dangos mai dyfais droi y byddai ceffyl yn ei thynnu oedd yn gweithio rhai o’r siafftiau mwyaf, ac yna fe’u disodlwyd gan beiriannau ager a oedd yn rhedeg ar ddŵr o lynnoedd a dyfrffos artiffisial a oedd hefyd yn cyflenwi pŵer i fathru a phrosesu’r mwyn. Mewn peiriandai cerrig y cedwid y peiriannau, ac fe’u distrywiwyd fwy neu lai gan y fyddin yn y 1960au ar ôl iddynt ddirywio. Mae dwy brif system ddyfrffos yn amlwg. Mae un mwy sylweddol, a oedd yn cynnwys dŵr a ddeuai o nant Aber Sychnant beth ffordd i fyny’r nant, heibio i ochr orllewinol mwynglawdd Pool Park ac fe gyflenwai hon fwyngloddiau’r Mwynglawdd, 2 gilometr i’r gogledd-ddwyrain. Cafodd ail ddyfrffos, a oedd hefyd yn cynnwys dŵr a ddeuai o Aber Sychnant i fyny’r nant, ei sianelu dan y dramffordd o Boundary Shaft i fwydo cronfa ddŵr fawr yn yr ongl rhwng y tramffyrdd i’r de-ddwyrain o’r peiriandy. Mae’n amlwg mai’r gronfa ddŵr oedd yn darparu’r prif gyflenwad dŵr i Pool Park, ac mae’n debyg iddi fwydo boeleri’r peiriandy a’r olwyn ddŵr fechan ar ochr ogleddol y llawr trin lle byddai’r mwynau’n cael eu prosesu. Yna aeth y ddyfrffos ymlaen i’r gogledd dros y mynydd i gyfeiriad Mwynglawdd Park.

Chwarela am lechi a’u prosesu

Fe arweiniodd ecsbloetio’r llechi Silwraidd sy’n brigo yn rhannau gorllewinol a deheuol yr ardal at greu nifer o dirweddau diwydiannol neilltuol. Fe ffurfiodd ardal Llangollen ranbarth benodol o’r diwydiant llechi yng ngogledd-ddwyrain Cymru, ac er bod y raddfa yn fechan o’i chymharu â graddfa’r diwydiant yng ngogledd-orllewin Cymru, roedd yn lleol arwyddocaol. Dechreuodd y gwaith o chwarela am lechi yn yr 17eg ganrif, er mai’r 19eg a dechrau’r 20fed ganrif oedd y cyfnod y gwelwyd y gwaith dwysaf, yn dilyn dyfodiad y gamlas, ac yna’r rheilffordd. Newidiodd diwydiant lleol yn bennaf i un a oedd yn allforio y tu allan i’r ardal i Wrecsam a Chanoldir Lloegr.

Gellir gweld nifer o grwpiau o chwareli. Gorweddai un grŵp o chwareli mawr o amgylch ymylon Mynydd Llantysilio a Bwlch yr Oernant yn ardaloedd nodwedd hanesyddol Maesyrychain a Mynydd Llantysilio yn Chwareli Oernant, Moel-y-faen, Clogau (Berwyn), Craig y Glan, Cymmo a Rhiw Goch. Mae’r gweithfeydd gwreiddiol yn Oernant i’w cael yn y blanhigfa gonwydd islaw Bwlch yr Oernant lle mae’r gwaith cynnar ar ochr y bryn. Crëwyd hwn yn bennaf i gynhyrchu slabiau llechi ond dywedir i lechi ar gyfer toeau hefyd gael eu cynhyrchu yma yn yr 17eg ganrif. O 1852 hwyluswyd cludo’r llechi o chwareli mawr Oernant, Moel y Faen a Berwyn trwy agor tramffordd a redai ar hyd ymylon dwyreiniol Mynydd Llantysilio i fwydo inclein Maesyrychain, yng ngŵydd Abaty Glyn y Groes. Trosglwyddwyd y llechi yn y modd hwn i dramffordd is a redai i Weithfeydd Slabiau a Llechi Pentre Felin ar y gamlas, ychydig i’r gogledd-orllewin o Langollen.

Datblygwyd y gweithiau helaeth agored ar gopaon y bryniau a rhai gweithiau tanddaearol, ym Moel-y-faen yn bennaf, yn dilyn cysylltiad â’r gamlas trwy estyn tramffordd Oernant ym 1857, er bod y llechi yn cael eu cludo o’r chwarel ar lori erbyn diwedd ei hoes gwaith yn y 1940au. Gellir gweld olion adeiladau o hyd, yn gytiau trin, yn weddillion cwt halio ager neu’n felin lifio neu’n efail gof. Hefyd gellir gweld lein y dramffordd a rhai trawstiau sylfaen o lechfaen o hyd. Mae rhywrai’n byw o hyd yn y cymhlyg o fythynnod gweithwyr yn Nhai-newyddion, i’r gogledd o’r ardal astudiaeth. Mae’r gwaith bas agored ar y copa yng Nghlogau (Berwyn) yn cwmpasu ardal eang. Yn wreiddiol, fe fyddai’r cynhyrchion gorffenedig, sef slab yn bennaf, yn cael eu hanfon ar inclein i lawr i’r ffordd, ond yn ddiweddarach, byddai tramffordd yr Oernant yn ei wasanaethu. Mae cynhyrchu nwyddau llechi arbenigol yn parhau hyd heddiw ar raddfa lai. Roedd y gwaith ar ochr y bryn yng Nghraig y Glan ar ymyl ogleddol Mynydd Llantysilio ar ei anterth yn y 1870au - 80au, a chaewyd ef yn y 1940au, pan oedd yn dibynnu’n llwyr ar gludiant ar y ffyrdd. Roedd y chwarel fechan ar ochr y bryn yn Rhiw Goch ger Cymmo, i’r gorllewin o’r Rhewl yn cynnwys rhai gweithiau tanddaearol, ac fe arhosodd yn weithredol o’r 1840au hyd at yr Ail Ryfel Byd.

Gorweddai ail grŵp o chwareli llai ger ŵPentre-dŵr yng Nghraig Wynnstay, Ffynnon y Gog, a’r Foel yn ardal nodwedd tirwedd hanesyddol Pant-y-groes. Roedd y chwareli hyn unwaith eto yn cynhyrchu yn bennaf ar ddiwedd y 19eg ganrif a dechrau’r 20fed. Mae’r lefelydd yn Ffynnon y Gog a’r Foel bellach wedi’u cuddio i raddau helaeth gan blanhigfa gonwydd ddiweddarach, er bod rhai o olion adeiladau’r chwarel a strwythurau eraill wedi goroesi. Gorweddai grŵp bychan arall o chwareli yn ardal nodwedd Dinbren yn Aber-gwern, Eglwyseg a Phant Glas. Chwarel fechan ar ochr y bryn oedd Aber-gwern ac roedd ganddi gwt trin bychan ac adeiladau eraill y mae’n ymddangos eu bod oll wedi cau erbyn y 1920au, er bod rhai olion adeiladau a strwythurau yn dal i’w gweld yn ogystal â safleoedd y chwareli eu hunain. Yn olaf, gorweddai chwarel lechi fechan o ganol y 19eg ganrif, o bosibl, ar y bryniau i’r de o Langollen ar Graig y Dduallt yn ardal nodwedd tirwedd hanesyddol Craig-y-dduallt.

Roedd gwaith llechi Pentrefelin, sy’n dyddio o’r 1840au ar lanfa’r gamlas ac yn ddiweddarach darparwyd pwynt llwytho rheilffordd ar ei gyfer. Roedd olwyn ddŵr a yrrwyd gan y gamlas ei hun yn gyrru’r felin, ac roedd yn trin deunyddiau a gludwyd yno ar dramffordd Oernant o chwareli Bwlch yr Oernant. Fe barhaodd i weithredu hyd y 1920au er gwaethaf problemau â’r tomenni, a chwynion ynghylch llygru’r afon. Prynodd Cwmni White Sand and Silica yr hen waith llechi yn y 1940au, gan ddarparu cwarts mâl o’r tywodfaen a gloddid ar y Mynydd Du ger Nercwys, a chludwyd ef i Bentrefelin. Fe gyflenwai’r farchnad enamel gwydrog, ffowndrïau dur a’r fasnach sment mân yn ystod yr Ail Ryfel Byd, ac wedi hynny hyd at y 1960au. Yn ddiweddarach, defnyddiwyd yr adeiladau gan Amgueddfa Foduron Llangollen.

Chwarela calchfaen a gweithgynhyrchu calch

Arweiniodd dyfodiad y gamlas ar ddiwedd y 19eg ganrif a blynyddoedd cynnar yr 20fed ganrif at ehangu’r diwydiant cynhyrchu calch yn rhan ddwyreiniol yr ardal yn ardaloedd nodwedd tirwedd hanesyddol Trevor Uchaf a Chysyllte, gan ddefnyddio glo a fewnforiwyd o faes glo Rhiwabon. Defnyddid odynnau calch ar lannau’r gamlas ar ochr ddeheuol y dyffryn yn Froncysyllte o ddiwedd y 18fed ganrif ymlaen, gan gynhyrchu calch at ddibenion amaethyddol a diwydiannol, a’i gludo cyn belled â Swydd Gaer, Swydd Stafford a Chanoldir Lloegr. Cyflenwyd yr odynnau â cherrig a chwarelwyd o’r brigiad arunig o galchfaen yn chwareli Pen y Graig ar y bryn uwchlaw Froncysyllte, a’u cludo i lawr y rhiw gan gyfres o dramffyrdd ac incleins at anheddiad cnewyllol bychan a dyfodd o’r herwydd ym Mroncysyllte. Roedd yr odynnau calch ar ochr arall y dyffryn yn Nhref-y-nant yn gweithredu o’r 1830au. Seiliwyd y rhain ar galchfaen a ddygid i lawr o Greigiau Trevor lle hefyd ceir llawer o olion sydd wedi goroesi o’r diwydiant calchfaen, gan gynnwys chwareli bach a mawr, hen dramffyrdd a gludai’r creigiau a gloddiwyd, sawl arglawdd o odynnau calch a nifer o odynnau calch unigol mwy gwasgaredig. Adeiladwyd sawl inclein i gludo’r deunyddiau a gloddiwyd i’r gamlas a’r rheilffordd, ac anheddiad gwasgaredig o fythynnod chwarelwyr yn Nhrevor Uchaf. Gwelwyd dirywiad yn y diwydiant calch lleol tua diwedd y 19eg ganrif, er i gloddio am galchfaen barhau yn chwareli Pen y Graig hyd at y 1950au.

Gweithgynhyrchu brics a theils

Cododd diwydiant brics a theils ffyniannus yn ardal nodwedd Cysyllte yn ystod ail hanner y 19eg ganrif, yn seiliedig ar y clai o ansawdd da o’r gwelyau marl a’r dyddodion glo a oedd ar gael yn lleol ym Maes Glo Rhiwabon. Gallai’r diwydiant hefyd fanteisio ar ei agosrwydd at y gamlas a’r rheilffordd, ac roedd mewn man delfrydol i ddiwallu gofynion aneddiadau diwydiannol cynyddol ardal Wrecsam a’r ganolfan twristiaeth gynyddol yn Llangollen. Roedd yr hen waith brics yn y Garth yn weithredol ger tafarn yr Australia Arms ym 1862, gydag odyn unigol ger y ffordd i ddechrau, yn cynhyrchu ‘large quantities of good, sound and serviceable cherry red bricks, which are well adapted for all ordinary building purposes’. Erbyn y Rhyfel Byd Cyntaf, roedd y gwaith yn cynhyrchu brics silica ar gyfer y diwydiant dur a ganister, sef sment plastig a ddefnyddid ar gyfer toddi haearn. Daeth cynhyrchu i ben ym 1979 o ganlyniad i ddirwasgiad yn y diwydiant dur. Mae’r gweithfeydd bellach wedi’u dymchwel, er bod rhai adfeilion yng nghefn y safle, ac mae rhan o’r hen swyddfeydd yn goroesi ar fin y ffordd. Ym 1852 y ceir y cofnod cynharaf o waith brics Tref-y-nant ac erbyn y 1860au roedd yn defnyddio 6 o odynnau calch. Fe gynhyrchai gwaith brics Tref-y-nant frics tân, cyrn simnai a nwyddau teracota addurnol, ac roedd yn un o bedwar o weithfeydd lleol James Coster Edwards, sef un o gwmnïau gwaith brics mwyaf llwyddiannus gogledd-ddwyrain Cymru. Roedd y gwaith yn arbenigo mewn cynhyrchu peipiau carthffosiaeth gwydrog y daeth galw mawr amdanynt yn dilyn y rheoliadau carthffosiaeth newydd a ddaeth i rym ar ôl pasio Deddfau Iechyd y Cyhoedd 1848 a 1858. Byddai’r clai yn cael ei gloddio o byllau brig a mwyngloddiau, ac roedd y cloddio brig yn datgelu haenau o lo na chawsant eu hechdynnu’n fasnachol; roedd y clai a gloddiwyd yn Nhref-y-nant yn cynhyrchu nwyddau o liw bwff golau a oedd yn ddelfrydol ar gyfer pibellau carthffosiaeth o grochenwaith. Roedd gwaith Tref-y-nant wedi cau erbyn 1958 ar ôl sawl blwyddyn o gynhyrchu teils llawr coch. Prynwyd gan Waith Cemegolion Monsanto, ar ôl i’r hen waith brics gael ei ddymchwel bron i gyd a’i adael yn segur. Dwy golofn o frics, sef pyst gatiau’r swyddfeydd, yw’r unig bethau ar ôl o’r hen weithfeydd sydd wedi goroesi yn gyfan.

(yn ôl i’r brig)