ÿþ<HTML> <HEAD> <TITLE> Clwyd-Powys Archaeological Trust - Projects - Historic Landscapes - Vale of Llangollen and Eglwyseg - Land Use and Settlement </TITLE> </HEAD> <BODY BACKGROUND="../../../../white.gif" LINK="3956BB" VLINK="gray" ALINK="F79431"> <TABLE WIDTH="100%"> <TR> <TD BACKGROUND="../../../../green.gif" WIDTH="175" VALIGN="top"> <CENTER> <IMG SRC="../../../../logo.gif" WIDTH="130" HEIGHT="159" ALT="CPAT logo" VSPACE="10"> <HR WIDTH="80%"> <STRONG> Cymraeg / <A HREF="vlland.htm">English</A> </STRONG> <HR WIDTH="80%"> <TABLE> <TR> <TD> <IMG SRC="../../../../leftart.gif" ALIGN="left"> </TD> <TD> <STRONG><A HREF="../../../../index.htm">Adref Eto</A></STRONG> </TD> </TR> <TR> <TD> <IMG SRC="../../../../leftart.gif" ALIGN="left"> </TD> <TD> <STRONG><A HREF="W_vlintr.htm#Themes">Tirwedd Hanesyddol <BR>Dyffryn Llangollen</A></STRONG> </TD> </TR> </TABLE> </CENTER> </TD> <TD> <IMG SRC="../../../../giftrans.gif" WIDTH="5"> </TD> <TD> <A NAME="TOP"></A> <H1>Nodweddu r Dirwedd Hanesyddol</H1> <H2>Llunio Tirwedd Dyffryn Llangollen ac Eglwyseg</H2> <HR> <H3>DEFNYDD TIR AC ANHEDDU</H3> <!----text in here---> <P><H3>Defnydd Tir ac Anheddu Cynhanesyddol a Rhufeinig</H3> Roedd tiroedd ffrwythlon dyffryn Dyfrdwy yn adnodd economaidd pwysig yn ogystal â llwybr i ganol Cymru o r oesoedd cynnar, ac mae hyn yn helpu i esbonio r dystiolaeth eang o weithgareddau dyn yn yr ardal yn ystod y cyfnodau cynhanesyddol cynharach. <P> Mae angen astudiaeth fanylach o r safleoedd a r darganfyddiadau archeolegol a dadansoddiad o hanes llystyfiant yr ardal cyn gallu ffurfio darlun mwy eglur o gymeriad yr anheddu cynnar a r defnydd tir. Fodd bynnag, mae r hapddarganfyddiadau, megis y bwyeill carreg a gafwyd ger bryngaer Moel y Gaer ar Fynydd Llantysilio, y rhai a gafwyd ger Ty n Celyn a Trevor Hall, a phennau saethau fflint fel y rhai a gafwyd ger Blaenau Uchaf ar y bryniau i r de o Langollen, yn cynrychioli r clirio coetiroedd a r hela a fu yn ystod y cyfnodau Neolithig a dechrau r Oes Efydd, rhwng oddeutu 4000 a 2000 CC. Er gwaethaf diffyg safleoedd anheddu hysbys, gellir gweld yn eglur bod anheddu parhaol o ddechrau r Oes Efydd rhwng tua 2300 1500 CC oherwydd y tomenni claddu gwasgaredig megis y rheiny ym Moel y Gamelin a Gribin Oernant ar Fynydd Llantysilio, y rhai ar gopaon Cyrn-y-brain sy n tremio dros Nant Craig y Moch ac Aber Sychnant, ac ar y bryniau i r de o Langollen ger Ffynnon-las a Blaen Nant. Mae r henebion ar Fynydd Rhiwabon yn cynnwys carneddau syml o gerrig, gydag ymylfaen ambell dro, yn ogystal ag argloddiau cylch cerrig a chylch cerrig a oedd, mae n debyg, yn gysylltiedig â gweithgareddau defodol neu seremonïol. <P><IMG SRC="17660269.jpg" height="235" ALIGN="right" HSPACE="10" VSPACE="5" ALT="CPAT PHOTO 1766-269"> <BLOCKQUOTE><BLOCKQUOTE><BLOCKQUOTE><EM>Ochr ddwyreiniol ucheldir Cyrn-y-brain yn edrych tuag at Fynydd Rhiwabon yn y cefndir. Llun: CPAT 1766-269.</EM></BLOCKQUOTE></BLOCKQUOTE></BLOCKQUOTE> <p> Mae r henebion ucheldirol hyn, sydd yn aml wedi u lleoli ar gopaon bryniau, cefnennau neu sgarpiau bryniau i w gweld o bellter yn aml. Maent i w gweld ar eu pennau eu hunain neu mewn grwpiau bychain, ac mae n debyg eu bod wedi arddel sawl swyddogaeth yn y dirwedd wrth iddi ddatblygu yn ystod y pedwerydd i r ail fileniwm CC, rhwng tua 3500 a 1500 CC. Mae n bosibl fod clystyrau o henebion yn cynrychioli canolbwyntiau seremonïol yn y dirwedd hon sy n dod i r amlwg ac a ddefnyddiwyd gan ddyn. Efallai eu bod wedi helpu diffinio gweithgareddau gwahanol deuluoedd neu lwythau. Ni chafwyd unrhyw dystiolaeth o anheddu o r cyfnod hyd yma, ond mae n ymddangos yn debygol y dylid cysylltu r henebion mewn rhyw fodd ag ecsbloetio tiroedd hela r ucheldir a thir pori r haf ar gyfer anifeiliaid dof, a hynny n gysylltiedig o bosibl â chartrefi mewn mannau llai agored yn iseldiroedd y dyffryn sy n gyfagos. <P> Gwelir y gweithgaredd parhaus yng nghyfnod yr Oes Efydd Hwyr, rhwng tua 1200Óý700CC, yn yr hapddarganfyddiadau gwaith metel y gellir eu cysylltu o bosibl â chliriad cyson y coetiroedd neu â rhyfeloedd. Mae r rhain yn cynnwys celc bychan o fwyeill socedog efydd a phen gwaywffon ar ffurf deilen, y daethpwyd o hyd iddynt ym mhlwyf Llantysilio a r bwyeill socedog unigol a gafwyd ger Pentre-dwr ac ar Fron Fawr, i r dwyrain o Glyn y Groes, a r ddau a gafwyd ar wahân o fewn sawl can metr o gopa Dinas Brân. <P> Yn ystod y cyfnod hwn, neu yng nghyfnod yr Oes Haearn a ddilynodd, rhwng tua 700 CC  OC 50, yr ymddangosodd y dystiolaeth gyntaf o aneddiadau amddiffynedig yn yr ardal. Mae r fryngaer a ragflaenodd y castell canoloesol ar Ddinas Brân, bryngaer Moel y Gaer ar gopa Mynydd Llantysilio, a bryngaer Pen y Gaer ar sbardun Mynydd Rhiwabon i r dwyrain o Garth yn enghreifftiau. Mae n ansicr a yw r bryngaerau hyn yn cynrychioli aneddiadau lle bu pobl yn byw yn barhaol ai peidio, ond mae n amlwg yn arwyddocaol eu bod nid yn unig wedi u lleoli mewn mannau sydd wedi u hamddiffyn yn naturiol yn dda, ond sydd hefyd yn agos at ardaloedd helaeth o dir pori ucheldirol. Mae n ymddangos bod bryngaer Dinas Brân, fel y castell canoloesol a i disodlodd, yn rheoli dyffryn Dyfrdwy, ac fel Moel y Gaer a Phen y Gaer ei bod yn cynrychioli canolfan llwythol y gellir o bosibl ei chysylltu â fferm wartheg gynnar ar y rhostir cyffiniol. <P> Bu dyffryn cul afon Dyfrdwy ger Llangollen yn bwysig ers y cyfnod cynnar, gan ddarparu coridor cul iseldirol i diroedd canol Cymru, ymhellach i r gorllewin. Mae r ffaith fod y fyddin Rufeinig oresgynnol ar ddiwedd y ganrif 1af wedi dewis hynt ar draws Mynyddoedd y Berwyn i r de, trwy ddyffryn Ceiriog er mwyn osgoi ymosodiad yn y dyffryn yn pwysleisio arwyddocâd strategol y fryngaer gynhanesyddol ddiweddarach ar Ddinas Brân. Gwnaed hyn er gwaethaf natur beryglus y llwybr hwn dros y mynydd i orllewin Cymru, a gwelwyd prawf o hyn yng nghyrch trychinebus Harri r II yn erbyn tywysogion Cymru ym 1165. <P> Cymharol ychydig dystiolaeth o weithgareddau r Rhufeiniaid a ddarganfuwyd yn Nyffryn Llangollen ar wahân i nifer o hapddarganfyddiadau, gan gynnwys celc bychan o arian bath o r 2il ganrif o ger Maesyrychen-bach a thlws Rhufeinig ger Trevor Hall. Mae n debygol, fodd bynnag, fod system economaidd integredig wedi datblygu yn ystod diwedd y cyfnod cynhanesyddol a r cyfnod Rhufeinig, a oedd yn manteisio ar yr adnoddau yr oedd ffermio âr yn eu darparu yn yr iseldiroedd, adnoddau coetirol ar ymyl y dyffryn a thir pori helaeth yn yr ucheldiroedd. Fe fyddai hyn wedi arwain at dirwedd a oedd yn raddol ddatblygu, gyda ffermydd gwasgaredig yn ei nodweddu mae n debyg, ynghyd â thir âr cysylltiedig ar y tir is, ardaloedd cynyddol fechan o goetiroedd llydanddail a thir prysg brodorol ar y llethrau mwyaf anodd ac ardaloedd eang o rostir grug ar y bryniau o i hamgylch. <p><h3>Anheddiad a defnydd tir canoloesol cynnar a chanoloesol</h3> O r dechreuadau cynnar hyn y datblygodd y dirwedd ganoloesol gynnar, ac unwaith eto mae n debyg mai patrwm o dir âr, coetiroedd hynafol gweddilliol, tir prysg a rhostir oedd yn ei nodweddu. Mae r hyn a wyddys am yr ardal yn y 14eg ganrif yn awgrymu bod y gyfundrefn Gymreig o ddal tir yn ôl grwpiau teulu estynedig wedi dechrau yn ystod y cyfnod canoloesol cynnar, rhwng tua r 6ed a r 11eg ganrif. <P> Mae n debyg mai yn ystod y cyfnod hwn hefyd y dechreuodd datblygiad y strwythur cwmwd lleol a phatrwm y ffermydd, y trefgorddau a r plwyfi y gwyddys amdanynt mewn hanes diweddarach. Mae nifer o ganolfannau crefyddol cynnar yn cynnig darlun o r patrwm anheddu posibl a oedd wedi datblygu erbyn y cyfnod hwn. Ceir stori chwedlonol ynghylch dyfodiad Cristnogaeth i r ardal ym Muchedd chwedlonol Sant Collen, sef un a gysylltir â lladd cawres a gafodd gymorth ei duw Arthur, cawr Creigiau Eglwyseg. Mae n bosibl fod yr eglwys a gysegrwyd i sant Collen yn Llangollen wedi dod i fodolaeth erbyn y 6ed neu r 7fed ganrif. Fe oroesodd hen gapel â beddau, a adwaenid fel  Yr Hen Eglwys , yma tan ganol y 18fed ganrif pan ddymchwelwyd hi, ynghyd â r gysegrfa Romanésg oedd ynddi. Defnyddiwyd y deunyddiau i godi tur yr eglwys i ddisodli r un pren cynharach. Nes i r eglwys gael ei meddiannu gan Abaty Glyn y Groes ar ddechrau r 13eg ganrif, dyma lle oedd mam eglwys cwmwd Nanheudwy, a oedd yn ganolfan grefyddol bwysig yn lleol o ran ei lleoliad daearyddol a i chysylltiadau â chwlt sant Collen. Ymddengys yn debygol bod anheddiad cnewyllol cynnar wedi codi yn ardal yr eglwys, lle gellid croesi afon Dyfrdwy. Mae awgrymiadau y gallai anheddiad cnewyllol bychan fod wedi tyfu hefyd o amgylch Eglwys Llantysilio, a allai unwaith eto fod wedi i sefydlu yn gynnar. <P><IMG SRC="17660126.jpg" height="235" ALIGN="right" HSPACE="10" VSPACE="5" ALT="CPAT PHOTO 1766-126"> <BLOCKQUOTE><BLOCKQUOTE><BLOCKQUOTE><EM>Ffermdir a ffermydd gwasgaredig o darddiad canoloesol a chanoloesol hwyr islaw sgarp calchfaen dramatig Creigiau Eglwyseg. Llun: CPAT 1766-126.</EM></BLOCKQUOTE></BLOCKQUOTE></BLOCKQUOTE> <p> Daeth y Dyffryn i fod yn rhan o deyrnas Gymreig Powys o tua r 7fed neu r 8fed ganrif. Mae codi Piler Eliseg gan aelod amlwg o r teulu a oedd yn rheoli yn y 9fed ganrif er anrhydedd i w hen daid yn dangos bodolaeth stad frenhinol arwyddocaol yma yn y cyfnod, yn gysylltiedig, mae n debyg, â phentrefi a thyddynnod rhwymedig y codwyd refeniw a gwasanaethau arnynt. Roedd arysgrif erstalwm ar y piler, sef gwaelod croes a godwyd ar boncyn mawr, yn nodi chwedl sefydlu r tylwyth a oedd yn rheoli. <P> Casglwyd ynghyd dwy ddogfen bwysig yn y 14eg ganrif, sef <EM>Extent of Bromfield and Yale</EM> ac <EM>Extent of Chirkland</EM>, gan arglwyddiaethau r mers at ddibenion treth, y gyntaf ym 1315 a r ail ym 1391 93. Darpara r rhain ddarlun llawnach o faint yr anheddu a r defnydd tir yn y 14eg ganrif, ar ôl i deyrnas frodorol Powys Fadog ddod i ben ar ddiwedd y 13eg ganrif. Nid oes sicrwydd i ba raddau y byddai creu arglwyddiaethau mers newydd yn effeithio ar drigolion brodorol Powys Fadog. Yn wahanol i diroedd ffrwythlon mwy estynedig Dyffryn Clwyd a Maelor Saesneg, nid oes cofnod i r tiroedd gael eu cipio oddi wrth eu perchnogion Cymreig gwreiddiol neu drwy alltudio neu symud tenantiaid Cymreig i wneud lle i r gwladychwyr Seisnig newydd. Mae n bosibl fod rhai tenantiaid wedi u hamddifadu o u hawliau hynafol i dir pori cyffredin a hela, er y mae n bosibl mai trosfeddiannu llawer o r hawliau yr oedd y tywysogion brodorol yn eu harddel oedd arglwyddi r mers. Credir bod Plas Uchaf, ar flaen dyffryn Eglwyseg yn sefyll ar safle lluest hela tywysogion Powys ar ddiwedd y 11eg ganrif. <P> Ar ddiwedd y 14eg ganrif, o dras Cymreig y deuai mwyafrif llethol tenantiaid yr arglwyddi o hyd, a dilynid y patrwm Cymreig o etifeddiaeth, sef  gafael cenedl wrth rannu eiddo rhwng yr etifeddion hyd at ddiwedd y 15fed ganrif a dechrau r 16eg. Mae r ffaith fod nifer o dyddynnod yn dwyn yr enw <EM>gafael</EM> yn y dogfennau uchod yn awgrymu bod y traddodiad brodorol o grup teulu yn rhannu hawliau mewn tir âr a thir pori yn ôl yr arfer Cymreig yn gyffredin, ond yn ystod y 14eg ganrif, yn rhannol oherwydd y rhaniadau a achoswyd gan y pla ac efallai oherwydd eu bod yn bell o ganolfannau gweinyddol yr arglwyddi roedd y system hon yn chwalu ac yn cael ei disodli gan batrwm o grwpiau o ffermydd rhydd-ddaliadol mewn trefgorddau. Bu r Pla Du yn arbennig o ddifrifol yn ardal Llangollen ym 1349, ac ar ôl hynny, fe adawyd llawer o r tyddynnod yn wag am flynyddoedd lawer. O r <EM> Extents </EM> mae n amlwg bod tyfu gwenith a cheirch yn gyffredin ar ddiwedd y 14eg ganrif. Ar y pryd, prif ffactorau r economi lleol yn y cyfnod yma oedd magu uyn a moch a chasglu cnau. <P> Cafodd sefydlu mynachlog Sistersaidd Glyn y Groes ym 1201 effaith sylweddol ar yr economi lleol. Er mwyn sefydlu r fynachlog roedd yn rhaid symud nifer o deuluoedd i drefgorddau yng nghyffiniau Wrecsam, a hefyd mae n debyg roedd yn rhaid ad-drefnu r dirwedd o amgylch yr abaty. Roedd y gweithgareddau ffermio yn canolbwyntio ar y faenor, i r gogledd o gyffin yr abaty yn ogystal â maenor Tirabad yn nhrefgordd Bache a threfgordd Pengwern i r de o Langollen a maenorau eraill ger Melin Trevor a ger Plas Pengwern. Gwyddys am dystiolaeth o r cynnyrch lleol a oedd ar gael i Glyn y Groes o amrywiaeth eang o ffynonellau. Mae canlyniadau cloddio yn awgrymu bod gwartheg a moch yn bwysig yn yr economi yn ei flynyddoedd cynnar, ond bod defaid a geifr wedi eu disodli yn ddiweddarach yn y 13eg ganrif. Roedd ceirw cochion hefyd yn rhan o r diet. Byddai pysgod ar gael o afon Dyfrdwy yn ogystal â r pyllau pysgod ger yr abaty. Canmolodd Guto r Glyn letygarwch Glyn y Groes cyn ei farwolaeth yno tua 1493, yng ngofal yr abad, Dafydd ab Ieuan: <BLOCKQUOTE> Af i w seler, fau seilio,<BR> Af trwy fwy i w fwtri fo.<BR> At Nudd Ddafydd yn ddyfal,<BR> Af i r nef i fro wen Iâl .</BLOCKQUOTE> <P> Yn ddi-os, byddai trawstrefa, lle byddai teuluoedd yn symud yn ôl y tymor i r aneddiadau ucheldirol dros fisoedd yr haf i fanteisio ar y tir pori rhostirol helaeth, yn arfer cyfarwydd yn ystod dechrau r cyfnodau canoloesol cynnar a chanoloesol, er ei bod yn anodd barnu i ba raddau yr oedd hyn yn bwysig i r economi lleol. Nodwyd safle hafod canoloesol posibl ar lethrau dwyreiniol Cyrn-y-brain ger llednant afon Eglwyseg, yn agos at dw gwag gerllaw ar y ffin â r tir agored is sy n dwyn yr enw arwyddocaol Cae r-hafod. Gwelir nifer fach o lwyfannau tai anghyfannedd ac adfeilion adeiladau o amgylch ymylon Mynydd Rhiwabon. Gallai rhai o r rhain gynrychioli <EM>hafodydd</EM>, ac mae sawl cyfeiriad cynnar at <EM>hafodydd</EM> ym meddiant Glyn y Groes ar ben gogleddol Mynydd Esclusham yng nghyffiniau r mwyngloddiau plwm diweddarach yn Lower Park a Pool Park. Mewn mannau eraill, gwan yw r dystiolaeth, ond ceir awgrym mewn enwau lleoedd fel Hafod-y-maidd, Hafod-rhysg, Hafod-y-coed a Hafod-isaf sydd yn yr ardal, a hefyd o bosibl yn yr enw Vivod, sydd mae n debyg yn tarddu o <EM>meifod</EM> ( tw Mai ). Mae r elfen <EM>maidd</EM> yn yr enw Hafod-y-maidd yn awgrymu cysylltiad rhwng <EM>hafodydd</EM> a ffermydd llaeth ucheldirol. <P> Mae n ymddangos yn debygol fod patrwm o ffermydd a bythynnod rhydd-ddaliad gwasgaredig a thirwedd y caeau yn yr iseldir ac ymylon y dyffryn sy n amlwg yn y dirwedd bresennol wedi datblygu i raddau helaeth erbyn diwedd y cyfnod canoloesol. Mae gan nifer o r ffermydd llai yr elfen  tyddyn yn enw r lle, sydd yn gyffredinol wedi ei gwtogi i  ty n , fel yn Ty n-y-celyn, Ty n-y-mynydd, a Thy n-twll a r bythynnod â r elfen tw, fel yn Ty-uchaf a Thy-isaf. Caeau bychain a mawr afreolaidd eu siâp sy n ffurfio r patrwm caeau a welir amlaf yn yr ardaloedd hyn. Maent wedi datblygu wrth i goetir gael ei glirio neu ei amgáu yn raddol o r cyfnodau cynhanesyddol ymlaen, a gwrychoedd amlrywogaeth yw eu ffiniau fel arfer. Nid oedd ffermio cnydau ar feysydd agored canoloesol yn ddylanwad pwysig ar greu r dirwedd fodern, er bod ambell ardal fechan wahanol sy n ymddangos fel petai n cynrychioli cau cyn llain-gaeau, ger Llandynnan, ar ymylon dwyreiniol Llangollen a rhwng Llangollen a Dinas Brân, a allai fod yn arwydd o ffermio maenorol yn yr ardaloedd hyn. <P> Ar wahân i r defnydd cynnar o buer dur i felino a phannu ar afon Eglwyseg ger Glyn y Groes ac ar afon Dyfrdwy ger Llangollen, ychydig o dystiolaeth arall a geir o ddatblygiad diwydiant yn yr ardal erbyn diwedd y cyfnod canoloesol, a pharhaodd yr ardal i fod yn un wledig yn ei hanfod ar wahân i aneddiadau cnewyllol bychain a oedd wedi codi yn Llangollen ac efallai yn Llantysilio, y ddau o bosibl mewn cysylltiad â sefydlu eglwysi o gyfnod canoloesol cynnar. Adeiladwyd Castell Dinas Brân o fewn y fryngaer gynharach yn ystod y 1260au gan Gruffudd ap Madog, arglwydd Powys Fadog, ac mae n arwyddocaol o bosibl ei fod yn agos at anheddiad a oedd yn bodoli n barod yn Llangollen, yn ogystal ag yn sefyll mewn safle sy n tremio dros Ddyffryn Llangollen. Peidiodd y castell â bod ag unrhyw bwysigrwydd milwrol yn dilyn concwest Edward, dim ond tua 20 mlynedd yn ddiweddarach, ond datblygodd yn anheddiad yn Llangollen arwyddocâd economaidd a gweinyddol, ac ym 1284, caniataodd Edward I i r dref gael siarter farchnad a r hawl i gynnal dwy ffair flynyddol. <p><h3>Anheddiad a defnydd tir ôl-ganoloesol a modern</h3> Cafodd y newidiadau ym mhatrwm y tirddaliadau, gwelliannau mewn cyfathrebu a thwf diwydiant effaith hynod ar y dirwedd amaethyddol yn ei hanfod a oedd wedi dod i r amlwg erbyn diwedd y cyfnod canoloesol. <p> Arweiniodd diddymiad Glyn y Groes a i faenorau ym 1537 at werthu a malurio r stadau mynachaidd mawr a oedd wedi bod yn tra-arglwyddiaethu ar drefn amaethyddol Dyffryn Llangollen a dyffryn Eglwyseg ers dros 300 o flynyddoedd. Daeth yr adeiladau mynachaidd eu hunain i fod yn ffynhonnell deunyddiau adeiladau a ddefnyddid i godi adeiladau ffermydd ym Maes-y-llyn, ychydig i r gogledd o r abaty, ym Mhont Llangollen, ac ym Mhlas Pengwern i r de o Langollen. Fe ychwanegodd rhyddhau r tir ffermio sbardun i dwf y stadau amaethyddol yn nwylo nifer o deuluoedd lleol amlwg a fyddai n cael effaith bwysig ar y dirwedd yn ystod yr 16eg, yr 17eg a r 18fed ganrif yn ogystal ag atgyfnerthu ffermydd rhydd-ddaliad mewn nifer o ardaloedd. Diwedd yr 16eg ganrif i ddechrau r 17eg yw r cyfnod cynharaf y mae r rhan fwyaf o adeiladau sydd wedi goroesi yn dyddio ohono gan ddechrau effeithio ar y dirwedd bresennol. Mae ailadeiladu ac ailweithio o ddiwedd y 18fed ganrif ac yn ystod y 19eg ganrif yn arbennig hefyd yn nodweddiadol o r ardal. Yn ystod y 19eg ganrif, cafwyd buddsoddi mawr hefyd mewn adeiladu, yn enwedig wrth ail-greu tai bonedd ac ailadeiladu ffermydd, sef gweithgaredd a chwaraeodd ran bwysig yn y dasg o lunio cymeriad pensaernïol yr ardal. <p> Mae patrymau anheddu amrywiol y dyffryn yn ymwneud yn eglur â hanes defnydd tir, sy n hir ac yn amrywiol. Tirwedd amaethyddol o ffermydd gwasgaredig sy n cynrychioli r haen sylfaenol a r dopograffeg sy n llunio i daearyddiaeth, yn y rhaniad nodweddiadol rhwng iseldir ac ucheldir. Er bod maint y ffermydd yn amrywio (mewn ambell ran mae r ffermydd iseldirol yn eithaf agos at ei gilydd ac yn fychan), mae n ymddangos bod y ffermydd iseldirol yn fwy tebygol o fod â nifer o adeiladau fferm ar wahân. Bydd ffermydd ucheldirol yn cynnwys rhes o adeiladau, fel yn achos Tw Isa, fferm ucheldirol fechan yng nghymuned Llantysilio sy n dyddio o ryw 1700. Mae n ymddangos bod adeiladau r rhan fwyaf o r ffermydd wedi u hailadeiladu yn ystod y cyfnod hwn pan wnaed gwelliannau amaethyddol yn y 19eg ganrif, er bod modd dod o hyd i enghreifftiau cynharach: beudai ac ysguboriau yw r mathau mwyaf cyffredin o adeiladau, yn nodweddiadol o economi bugeiliol. Fodd bynnag, mae presenoldeb ysguboriau cynnar, sylweddol megis yr enghreifftiau ym Mhengwern, Llandyn a Phendre, yn dangos pwysigrwydd tyfu cnydau, o leiaf mewn cyfnod cynharach. <p> Mae r deunyddiau adeiladu a welir yn yr ardal yn rhannol yn datgelu cronoleg hir yr anheddu. Mae traddodiadau creu fframiau pren yn bwysig yn natblygiad arddulliau adeiladu lleol, er yn ymarferol, ychydig a welir, oherwydd graddau r ailwampio a welwyd yn y 19eg ganrif: mae r fframiau pren o safon uchel a geir ym Mhlas Uchaf a Phlas-yn-y-pentre yn dystiolaeth weledol o draddodiad saeryddiaeth soffistigedig tra datblygedig. Mewn mannau eraill, mae r ailwampio diweddarach yn aml yn cuddio r fframwaith pren. Mae r rhan fwyaf o adeiladau ffermydd, y mae niferoedd arwyddocaol ohonynt wedi goroesi o gyfnodau diweddarach yn unig, yn rhai o frics neu o gerrig, ond fe geir rhai enghreifftiau o rai â fframiau pren gyda chladin estyll tywydd. <p> Ymddengys bod cyflenwad digonol o gerrig lleol ar gyfer adeiladu o r 18fed ganrif ymlaen. Daeareg yr ardal sy n pennu rhan helaeth o i chymeriad pensaernïol, ac mae gwahaniaeth eglur rhwng y calchfaen da yn y dwyrain, a r llechi a r sialau yn y gorllewin. Gadewid y cerrig adeiladu yn noeth yn aml, ond ceir enghreifftiau o wyngalchu neu rendro sydd o bosibl yn awgrymu bod y cerrig o safon is. O ganol y 18fed ganrif, daw brics yn fwy amlwg fel deunydd adeiladu, ac mae Trevor Hall yn enghraifft gynnar o hyn. Wrth i gludiant ddatblygu, a hefyd wrth i rywrai fuddsoddi mwy yn y cynhyrchu mae n debyg, gwelwyd defnydd ehangach o frics o ddechrau r 19eg ganrif ymlaen. Erbyn diwedd y 19eg ganrif, roedd diwydiannau lleol a gynhyrchai brics, teils a theracota yn gwneud cyfraniad cryf i gymeriad pensaernïol yr ardal, naill ai mewn cyfuniadau o frics a cherrig, neu yn strwythurau brics yn unig. Mae traddodiadau brodorol y Dyffryn yn annelwig yn aml yn sgîl swm yr ailwampio diweddarach, ond o ran cynllun, mae n ymddangos mai mynedfa drwy lobi oedd y mwyaf poblogaidd, er bod sawl enghraifft o dai lle roedd y fynedfa yn y canol a r corn simnai ar y pen. <p> Gwelodd diwedd y 18fed a dechrau r 19eg ganrif dwf parhaus stadau o wahanol feintiau, gyda r pwyslais ar dirwedd  fonheddig o dai bonedd mewn safleoedd amlwg neu ddarluniaidd fel yn achos Plas Berwyn, Trevor Hall, Plas Llantysilio, Plas Dinbren, Plas-yn-Vivod a Phlas Pengwern. Mabwysiadodd llawer o r tai hyn leoliadau amlwg yn y Dyffryn, gan olygu bod angen ailgynllunio tirwedd i greu gerddi, rhodfeydd a pharciau. Codwyd tyrau ar gopaon y bryniau o r enwau Tur Syr Watcyn, sydd bellach yn adfeilion ar gopa Cyrn-y-brain, a Thur Trevor, sef tur castellog tri llawr sy n parhau i oroesi yn y coetir i r gogledd o r Garth, fel ffolïau gan ddau o dirfeddianwyr amlwg yr ardal yn ystod y cyfnod hwn. Parhaodd patrwm sylfaenol y caeau yr hyn a welwyd erbyn diwedd y cyfnod canoloesol, ond mae n ymddangos bod peth aildrefnu wedi digwydd i r caeau iseldirol mewn rhai ardaloedd yn y cyfnod ôl-ganoloesol, gan arwain at wahanol batrymau o gaeau mawr neu fychan ag ochrau syth neu reolaidd eu siâp, fel er enghraifft ar hyd gorlifdir afon Dyfrdwy ger Froncysyllte, yn Nyffryn Pengwern ac yng nghyffiniau Plas Llantysilio. <p> Digwyddodd newidiadau mwy cyffredinol i r dirwedd o amgylch ymylon yr ucheldiroedd yn ystod y 19eg ganrif. Plannwyd ardaloedd gweddol helaeth o goetiroedd conwydd gan nifer o r stadau i gyflenwi r diwydiannau adeiladu a mwyngloddio, fel yn achos Coedwig Ty-cerrig, i r de o Vivod, Coedwig Craig-y-dduallt a Choedwig Gwernant i r de o Langollen ac yn Black Wood a Tower Wood i r gogledd ddwyrain o Garth, pob un ohonynt, fe ymddengys, wedi u plannu ar ddechrau ail hanner y 19eg ganrif. Cwympwyd y coed yn rhai o r ardaloedd hyn ar ddechrau r 20fed ganrif, ac ni ailblannwyd mohonynt, er bod gwaith ailblannu wedi digwydd mewn ardaloedd eraill bryd hynny. Parhaodd plannu ar raddfa fechan yn ddiweddarach i r 19eg ganrif, fel yn achos y planhigfeydd bychain i r gogledd o Rewl, ac mae nifer o blanhigfeydd eraill megis Planhigfa r Foel ger Pentre-dwr yn dyddio o ail hanner yr 20fed ganrif. Yn ogystal â hyn, caewyd ardaloedd helaeth o dir pori ucheldirol i r de o Langollen ac ar ymyl ddeheuol Mynydd Rhiwabon a u gwella yn ystod hanner cyntaf y 19eg ganrif gan nifer o r stadau mawr, gan greu r caeau mawr nodweddiadol ag ochrau syth gyda waliau sychion neu ffensys pyst-a-gwifrau yn ffiniau o u hamgylch. <p> Dros ben y dirwedd ffermio ganoloesol yn y Dyffryn mae tirwedd diwydiant, sy n gysylltiedig â chloddio am gerrig, mwyngloddio plwm, a chloddio am lechi. O r rhain, cloddio am gerrig a effeithiodd fwyaf ar y patrymau anheddu, yn ogystal ag ar draddodiadau adeiladu lleol. Roedd Pentre-dwr ar ben dyffryn Eglwyseg, a Rhewl a Llandynnan yn nyffryn Dyfrdwy i r gorllewin o Langollen oll, mae n debyg, wedi dechrau datblygu fel treflannau i letya r gweithwyr amaethyddol a r gweithwyr a fyddai n echdynnu ac yn cludo llechi o r chwareli ar Fynydd Llantysilio, gerllaw Bwlch yr Oernant, o ddiwedd yr 17eg ganrif ymlaen. Fel y nodir yn fanylach isod, gwelwyd gwelliannau i r ffyrdd tyrpeg ar ddiwedd y 18fed ganrif, ac yn arbennig dyfodiad y gamlas, gwelliannau i Ffordd Caergybi a dyfodiad y rheilffordd yn ystod y 19eg ganrif. Pan gyfunwyd hyn â r galw cynyddol am ddeunyddiau crai yn yr aneddiadau diwydiannol a oedd yn ehangu yn y dwyrain, yn Acre-fair, Cefn Mawr, Rhiwabon a Wrecsam, ac ymhellach i ffwrdd yng Nghanoldir Lloegr, arweiniodd at greu tirweddau mwyngloddio a chloddio newydd yn yr ardal hefyd, nes bod nifer o aneddiadau cnewyllol eraill llai wedi codi i letya gweithwyr diwydiannol. Yn ogystal â hyn, parhaodd Llangollen i ehangu fel canolfan i fasnach, diwydiant a thwristiaeth. Daeth Froncysyllte, Trevor Uchaf a Garth i r amlwg fel aneddiadau wedi u clystyru n llac i chwarelwyr a gweithwyr yn yr odyn galch a r gwaith brics a theils rhwng dechrau r 19eg a dechrau r 20fed ganrif. Mae r aneddiadau hyn ar ffurf neilltuol anheddiad diwydiannol cynnar, gyda diffyg cynllunio ffurfiol yn eu nodweddu, a chlytwaith o ddatblygiad preswyl mewn blociau bychain, ar leiniau bychain o dir. Mae gan yr ardal hefyd draddodiad brodorol diwydiannol neilltuol, ac yn Froncysyllte ceir o leiaf un teras o fythynnod deulawr isel sy n nodi cyfnod cynnar ffurfio adeiladau diwydiannol a threfol. Mae ôl mwy o gynllunio yn amlwg ar derasau sydd ar hyd y ffordd fawr yn Nhrevor, er enghraifft, a adeiladwyd yn hapfasnachol efallai, sef yr ardal dirwedd hanesyddol ar ymylon Cefn Mawr ac Acre-fair lle r arweiniodd y parhad trwy ddiwedd y 19eg ganrif ac i mewn i r 20fed ganrif at enghreifftiau o aneddiadau diwydiannol a threfol ag ôl mwy o gynllunio arnynt. <P><IMG SRC="17660179.jpg" height="235" ALIGN="right" HSPACE="10" VSPACE="5" ALT="CPAT PHOTO 1766-179"> <BLOCKQUOTE><BLOCKQUOTE><BLOCKQUOTE><EM>Anheddiad mwyngloddio ac amaethu bychan Llandynnan gyda datblygiad tai Llidiart Annie o r 20fed ganrif o i flaen. Ar y bryniau yn y cefndir ceir tomenni gwastraff chwarel lechi Berwyn (Clogau) o r 19eg a dechrau r 20fed ganrif. Llun CPAT 1766-179.</EM></BLOCKQUOTE></BLOCKQUOTE></BLOCKQUOTE> <p> Fe gynorthwyodd y gwelliannau mewn cyfathrebu Ddyffryn Llangollen i ddod yn lle ffasiynol fel canolfan i ymwelwyr o ddiwedd y 18fed ganrif ymlaen, o ganlyniad i anogaeth cylch diwylliannol Lady Eleanor Butler a Miss Sarah Ponsonby  Merched Llangollen, a ddatblygodd tw a gardd ym Mhlas Newydd ar ymylon deheuol y dref. Yn sgîl cyfuniad o ddylanwadau diwylliannol o r math hwn, ynghyd â phriodweddau cynhenid darluniaidd yr ardal fe ddaeth yn encilfa wledig i r dosbarth newydd o entrepreneuriaid tua diwedd y 19eg ganrif, ac fe arweiniodd hyn at addurno sawl un o r tai bonedd a oedd yn bodoli, a chodi sawl plasty newydd neu fila yn y wlad, yn eu tiroedd eu hunain, ynghyd â phorthdai, tai allan, parciau a gerddi, gan gynnwys un neu ddwy o stadau nad oeddent yn cynnal ond cysylltiadau pur wan â r tir. Ceir niferoedd bychain o fythynnod sydd yn amlwg yn gysylltiedig â rhai o r stadau hyn, er mai ychydig sy n neilltuol ym mhensaernïaeth y bythynnod yn y dirwedd ehangach. <p> Mae r cyfoeth a ddaeth i mewn o ddiwedd y 18fed a r 19eg ganrif yn enwedig wedi golygu bod traddodiadau pensaernïol  bonheddig yn fwy amlwg na r disgwyl yn yr ardal. Ceir plastai bychain gwledig yma a thraw yn y dyffryn, a r rheiny mewn nifer o wahanol arddulliau, o glasuriaeth Sioraidd Trevor Hall, neu Blas Dinbren, i afradlonedd Gothig Vivod. Roedd James Coster Edwards yr hynaf, perchennog sawl gwaith brics a theils yn yr ardal, yn byw ym mhlasty hynafol y teulu Trevor yn y 1860au. Ailadeiladwyd Tyn Dur (sydd bellach yn Hostel Ieuenctid) ar ddiwedd y 1860au ar gyfer y meistr haearn John Dickin, gan ddisodli tw cynharach a oedd yn gysylltiedig â fferm y plas gerllaw. Codwyd Plas Argoed ym 1864 ar gyfer y diwydiannwr o Almaenwr Robert F. Graesser a oedd yn gysylltiedig â bragdy lager Wrecsam ac yn sefydlydd y gwaith cemegol yn Acre-fair. Adeiladwyd fila a phlannwyd gerddi yn y dull Eidalaidd ym Mryntysilio, ychydig i r dwyrain o Langollen, rhwng 1865 75 ar gyfer Syr Theodore Martin, bywgraffydd swyddogol y Tywysog Albert, a i wraig, yr actores Shakespearaidd enwog Helen Faucit, gan ddisodli hen fferm a ffermdy o r enw Braich y Gwynt. Prynwyd Vivod a i ailwampio yn sylweddol ym 1871 gan William Wagstaff, y cyfreithiwr oedd yn gyfrifol am adeiladu Rheilffordd Dyffryn Llangollen, a buddsoddwyd yn helaeth hefyd yr adeg hon mewn adeiladu fferm plas fawr ddiwydiannol ger yr hen ffermdy ym Mryn-newydd, ynghyd â chertws, ysgubor, llaethdy, beudy, stablau ac ysgubor wair. Adeiladwyd Plas Llantysilio ym 1872 74 ar gyfer y diwydiannwr o Almaenwr Charles F. Beyer, a oedd yn bartner i gwmni o adeiladwyr trenau ym Manceinion. Fe ddisodlodd dw bonedd cynharach, ac fel yn achos Vivod, fe estynnwyd y buddsoddiad i adeiladau fferm a thai cyfagos ar gyfer y gweithwyr ar y stad. Adeiladwyd Bryn Howel (sydd bellach yn westy) ym 1896 gan James Coster Edwards yr ieuengaf, yn gartref iddo ymddeol iddo. Fe greodd gronoleg gymharol hir o adeiladau sydd wedi goroesi, ynghyd â hanes cymdeithasol a diwylliannol arbennig yr ardal ffynhonnell ar gyfer arbrofi ag arddull yn ystod y bedwaredd ganrif ar bymtheg yn enwedig, er bod Merched Llangollen yn arloeswyr ym maes  dyfeisio traddodiad . Plas Newydd yw r cyntaf a r mwyaf coegwych o gyfres o adeiladau sy n chwarae â r syniad o hanes a thraddodiad: gan gadw at eirfa r darluniaidd (elfen bwysig yn hanes diwylliannol yr ardal), yr hyn a ddaeth i r amlwg amlaf oedd traddodiad brodorol ffansïol seiliedig ar fframwaith pren. Ymhlith yr enghreifftiau eraill o hyn mae Bryn Howel, Gorsaf Berwyn, a Gwesty r Chain Bridge, a Phlas Tyn Dur. Fodd bynnag, mae dylanwad y mudiad darluniaidd hefyd i w weld mewn nifer o dai yn arddull y Rhaglywiaeth a r arddull gothig, a hyd yn oed yn nhu blaen tlws Dinbren Isaf, sydd wedi i ailwampio. <p> Mae rhai o r stadau a oedd wedi dod i r amlwg yn ystod yr 17eg a r 18fed ganrif wedi goroesi hyd heddiw, yn anad dim yn Vivod, er bod nifer o blastai gwledig eraill, megis Trevor, Llantysilio a Dinbren wedi u gwerthu ar wahân i r stadau yn dilyn yr Ail Ryfel Byd. <p> Mae gan dref Llangollen, sef canolbwynt masnachol a diwylliannol Dyffryn Llangollen o r Canol Oesoedd Hwyr ymlaen, ei daearyddiaeth gymdeithasol a phensaernïol ei hun. Ehangodd y dref yn gyflym rhwng diwedd y 18fed a dechrau r 20fed ganrif mewn ymateb i ddyfodiad cangen o gamlas Ellesmere, Ffordd Caergybi, a r rheilffordd. Rhoddodd y rhain lawer o anogaeth i ddiwydiannau prosesu lleol, gan gynnwys prosesu llechi, gweithgynhyrchu brethyn a phren, ar sail puer dur, ac i r diwydiant ymwelwyr cynyddol gan arwain at ddatblygiadau hapfasnachol yn rhannau deheuol a gorllewinol y dref yn yr 1880au a r 1890au. <p> Mae gwreiddiau sawl adeilad yn y dref yn yr 16eg ganrif, neu n amlach na hynny yn yr 17eg ganrif. Roedd gan yr adeiladau cynnar hyn yn ôl pob tebyg fframiau pren. Pan ddechreuodd y dref ehangu o ddiwedd y 18fed ymlaen, gyda cherrig a brics y codwyd yr adeiladau, ac fe gafodd y rhan fwyaf o r adeiladau cynharach du blaen newydd o r deunyddiau mwy newydd hyn. Gwelwyd cyfnod o ddatblygu o bwys yng nghanol y dref tua 1860, i gyd-daro â dyfodiad y rheilffordd, ac mae r eiddo ar Stryd y Castell yn arbennig o nodweddiadol o r cyfnod hwn. Mae r gwahaniaeth rhwng yr adeiladau hyn â chraidd cynharach a r rhai a adeiladwyd yn gyfan ar ddiwedd y 18fed ganrif neu yn ystod y 19eg ganrif yn un pwysig, ac mae wedi cyfrannu at ffurf dra amrywiol a darluniaidd y dref. <p> Ceir hierarchaeth gymdeithasol gymhleth yn adeiladau r dref, pob un â i daearyddiaeth ei hun. Mae r tai o fewn y dref ei hun yn amrywio o r fila ar wahân megis Siambr Wen, a r tw teras sylweddol ei faint i r bwthyn bach. Ffurf drefol y dref, gyda i chraidd masnachol amlwg, strydoedd preswyl sydd wedi u datblygu n ddwys o i amgylch a maestrefi bychain o r 19eg a r 20fed - yn arbennig y tai ar wahân a r tai pâr sy n ymestyn allan tuag at Bentrefelin, y rheiny sydd ar y llethrau ar ochr ddeheuol yr afon, a r stadau tai o r 20fed ganrif ar ochr ddwyreiniol y dref, yw ei nodweddion pensaernïol pennaf. Mae llawer o r datblygiadau trefol ar ffurf tai teras, yn amrywio o resi o dai tri llawr yn yr arddull Sioraidd ar Stryd Berwyn a Stryd y Bont, i resi byrrach o fythynnod. Mae hyn yn awgrymu trefniadaeth y gwaith adeiladu a welir ond yn anaml mewn cyd-destun gwledig; mae n cynhyrchu cynllun ffurfiol y mae modd ei adnabod fel un trefol. <p> Mae amrywiaeth hynod o arddulliau a deunyddiau hefyd yn nodweddu Llangollen, gan ddangos sut y tyfodd dros gyfnod sylweddol, â nifer o barau o ddwylo wedi cyfrannu at y twf. Mae r adeiladau yn y dref yn wahanol i r traddodiadau gwledig brodorol mewn sawl ffordd bwysig: mae cyfyngiadau plotiau adeiladu trefol yn arwain at gynllunio tai yn fwy cryno a thynn, gyda mwy o bwyslais, yn aml, ar uchder. Mae llawer o amrywiaeth o ran deunyddiau a gorffeniadau adeiladu yn y dref, ar sail brics a cherrig, gyda rhywfaint o bwyslais ar arddull a manylion, megis y ffenestr â i manylion gothig yn Abbey Square a r defnydd a wneir o waith brics o sawl lliw ar adeiladau ar hyd Ffordd Caergybi (A5). Hefyd defnyddir gorffeniadau helaeth o chwipio â gro, rendrad plastr garw, a rendrad wedi i sgrifellu neu styco, ac enghreifftiau o waith brics wedi i beintio. Ambell waith, fe fydd y gorchuddion arwyneb hyn yn cuddio newidiadau i r strwythur a r manylion, ac mae n ymddangos bod llawer adeilad yn y dref wedi u hailwampio sawl gwaith. Yn ogystal ag adeiladau domestig, mae gan Langollen hefyd sawl adeilad diwydiannol, megis yr hen danerdy ond mae yno hefyd enghreifftiau o bensaernïaeth fasnachol ganfyddadwy. Mae r Hen Fanc yn Stryd Berwyn yn enghraifft dda o hyn: mae wedi ei adeiladu ar gornel, ac mae r adeilad yn manteisio ar hynny gan fod iddo ffasâd cromlinog neilltuol, a phwyslais ar hen safle r banc ar y llawr gwaelod. Mae gan y dref hefyd nifer o adeiladau dinesig, megis neuadd y dref a gorsaf yr heddlu. <p> Gellir gweld effaith drawiadol y dref hefyd mewn rhes o filas gerllaw, megis Fron Deg, Ffordd yr Abaty, a Dinbren, Henllys a Wenffrwd. Mae n ymddangos bod twf trefol a diwydiannol wedi sbarduno datblygiad ffermio yn yr ardal  er enghraifft yn fferm y plas yn Vivod, y mae n ymddangos iddi gael ei sefydlu fel fferm laeth arbenigol. <p> Cymharol fân fu r newidiadau i r dirwedd yn yr amgylchedd gwledig yn ystod diwedd y 19eg ganrif a r 20fed ganrif, ond maent wedi arwain at golli n raddol rhai o r gwrychoedd a r waliau traddodiadol a oedd yn ffinio r caeau, trwy esgeulustod yn bennaf, a chefnu ar nifer o r ffermydd a r bythynnod mwyaf pellennig, neu eu trosi, o ganlyniad i greu unedau ffermio mwy. Mae cynlluniau tai cyhoeddus a phreifat o ail hanner yr 20fed ganrif ymlaen wedi arwain at nifer o stadau tai bychain, yn arbennig yn Llidiart Annie ger Llantysilio, ar gyrion deheuol a dwyreiniol Llangollen, ac yn Trevor yn ogystal â mewnlenwi plotiau mewn mannau eraill yn yr aneddiadau sy n bodoli os na chawsant eu datblygu eisoes. Mae diwedd yr 20fed ganrif wedi dylanwadu n drwm ar gymeriad yr adeiladau mewn rhannau o r ardal, gyda i haen o foderneiddio a  gwella . <P> (<A HREF = "#TOP">yn ôl i r brig</A>) <!---text ends here---> </TD> </TR> </TABLE> </BODY> </HTML>