CPAT logo
Cymraeg / English
Tirwedd Hanesyddol Maelor Saesneg
Map o'r ardal cymeriad hon

Nodweddion Tirwedd Hanesyddol

Maelor Saesneg: Ywern
Cymunedau Bangor Is-coed ac Willington Wrddymbre [Worthenbury], Cyngor Bwrdeistref Wrecsam
(HLCA 1114)


CPAT PHOTO 85c221 Gorlifdir â ffermydd gwasgaredig ac arunig, sef tir a ddefnyddiwyd fel dôl yn draddodiadol. Ceir ffosydd draenio mewn rhai ardaloedd, a rhywfaint o dirwedd cefnen a rhych sy'n dynodi, o bosibl, ardaloedd lle bu trin caeau agored yn y canol oesoedd a'r cyfnod ôl-ganoloesol.

Cefndir hanesyddol

Roedd yr ardal yn rhan o blwyfi eglwysig Bangor Is-coed ac Wrddymbre [Worthenbury] yn y canol oesoedd, ond oherwydd mai ardal amaethyddol ydoedd yn bennaf, ni cheir llawer o wybodaeth hanesyddol amdani.

Nodweddion allweddol y dirwedd hanesyddol

Tirwedd wahanredol y mae gorlifdir Afon Dyfrdwy yn ei chynrychioli ger ei chymer â Nant Wych a Worthenbury Brook. Mae'n weddol wastad ar y cyfan ac yn llai na 15 metr uwchben y Datwm Ordnans. Mae rhannau o'r ardal yn tueddu i orlifo yn dymhorol. Awgryma tystiolaeth archeolegol a gwaddodol fod hynt yr afon wedi bod yn weddol sefydlog ers diwedd y cyfnod cynhanesyddol neu gyfnod y Rhufeiniaid, a chafodd nifer o gilfaeau'r ystumiau eu mewnlenwi yn ystod y canol oesoedd. Mae clawdd lleihau gorlifo yn croesi'r ardal i'r gogledd o Fangor Is-Coed.

Mae'r unig anheddiad yn yr ardal yn cynnwys nifer fach o ffermydd arunig sy'n dyddio o'r cyfnod ôl-ganoloesol yn ôl pob tebyg. Porfa yw'r prif ddefnydd tir presennol, er y ceir rhywfaint o ardaloedd o systemau caeau creiriol y mae tirwedd cefnen a rhych yn eu cynrychioli. Ymddengys bod y rhain yn cynrychioli ardaloedd lle triniwyd caeau agored yn ystod y canol oesoedd a dechrau'r cyfnod ôl-ganoloesol, efallai yn gyfnodol yn hytrach nag yn barhaus. Yn gyffredinol, gwrychoedd tenau neu ffensys pyst a gwifrau sy'n ffurfio ffiniau caeau modern. Mae ffosydd draenio yn cynrychioli cynlluniau gwella tir a rheoli dwr o'r cyfnod ôl-ganoloesol, ac mae'r ardaloedd dan sylw yn edrych fel llifddolydd. Caeau mawr afreolaidd yw'r patrwm caeau modern yn bennaf a cheir rhai ardaloedd gwahanredol o gaeau llain. Mae'n bosibl bod y rhain yn dyddio o'r canol oesoedd a'u bod yn gysylltiedig â thirwedd cefnen a rhych.

Yn gyffredinol, mae cysylltiadau wedi'u cyfyngu i'r lonydd a'r llwybrau troed sy'n arwain at ffermydd arunig a rhannau o lan yr afon. Ar un adeg, roedd hynt Rheilffordd Wrecsam ac Ellesmere yn croesi rhan orllewinol yr ardal. Cafodd ei hadeiladu yn y 1890au a'i chau yn y 1960au ac, yn dilyn hyn, cafodd y draphont a oedd yn croesi'r afon i'r gogledd o Fangor Is-Coed ei dymchwel.

Ffynonellau

Baughan 1991
Gurnell et al.
Pratt 1998
Pratt 1999
Sylvester 1969
Williams 1997
Regional Sites and Monuments Record

I gael gwybodaeth bellach cysylltwch os gwelwch yn dda ag Ymddiriedolaeth Archaeolegol Clwyd-Powys yn y cyfeiriad hwn neu ewch i wefan Cyngor Cefn Gwlad Cymru' yn www.ccw.gov.uk.