CPAT logo
Cymraeg / English
Tirwedd Hanesyddol Maelor Saesneg
Map o'r ardal cymeriad hon

Nodweddion Tirwedd Hanesyddol

Maelor Saesneg: Brynhovah
Cymunedau Bangor Is-coed ac Owrtyn [Overton], Cyngor Bwrdeistref Wrecsam
(HLCA 1116)


CPAT PHOTO 1323-18 Tir fferm ar waelod dyffryn ffermydd gwasgaredig a lonydd troellog, caeau llain canoloesol creiriol a thirwedd cefnen a rhych yn cynrychioli trin caeau agored yn y canol oesoedd. Mae'n amlwg bod tirwedd y caeau wedi'i haildrefnu yn batrwm o gaeau mawr afreolaidd ar l y Canol Oesoedd.

Cefndir hanesyddol

Efallai bod darn arian Rhufeinig o'r 2il ganrif yn arwydd o anheddu a defnydd tir cynnar. Daethpwyd o hyd i'r darn arian ger Cloy House. Roedd yr ardal nodweddion hanesyddol yn rhan o blwyf eglwysig canoloesol Bangor Is-coed ac mae'n debyg ei bod yn cynnwys ardaloedd o dir roedd y gymuned hunangynhaliol ganoloesol gynnar ym Mangor yn ei ffermio yn ystod diwedd y 5ed ganrif a dechrau'r 6ed ganrif. Mae tystiolaeth ddogfennol o'r 16eg ganrif a'r 17eg yn awgrymu bod caeau agored yn bodoli a oedd wedi deillio, yn l pob tebyg, o'r maenorau a sefydlwyd ym Mangor ac Owrtyn [Overton] a bod pobl o'r aneddiadau hyn wedi ffermio ar ddechrau'r Canol Oesoedd. Mae'n debyg bod gwaith clirio coed ac ehangu tir r yn rhan ddeheuol yr ardal wedi digwydd o ganlyniad i bolisi'r Goron o gynnig pren yn rhad ac am ddim a thir heb rhent am 10 mlynedd i Saeson a oedd yn ymgartrefu ym mwrdeistref newydd Owrtyn [Overton] yn y 1290au. Mae'n debygol bod hyn wedi golygu atafael rhywfaint o dir gan dirfeddianwyr Cymreig brodorol a oedd wedi ochri Llywelyn yn ystod y degawd blaenorol. Mae'n debygol bod yr enw lle Millbrook, i'r de o Fangor Is-coed, yn awgrymu bod safle melin wedi bodoli yno. Cofnodwyd yr enw gyntaf ym 1290, ar ffurf Milnbrook.

Nodweddion allweddol y dirwedd hanesyddol

Ardal o dir fferm bryniog rhwng Bangor Is-coed ac Owrtyn [Overton] yw'r ardal nodweddion tirwedd hanesyddol, i'r gorllewin o Mill Brook, un o lednentydd afon Dyfrdwy. Yn gyffredinol, mae rhwng 30 a 60 metr uwchben y Datwm Ordnans. Erbyn heddiw, porfa yw'r prif ddefnydd tir, er bod rhai darnau bychain o blanhigfeydd coed llydan-ddeiliog a chollddail.

Caeau mawr afreolaidd yw prif dirwedd y caeau er bod patrymau clir o gaeau llain sy'n cynrychioli hen gaeau agored, yn enwedig ar ymylon deheuol a dwyreiniol Bangor ac Owrtyn [Overton]. Mae tystiolaeth ddogfennol o'r 16eg ganrif yn awgrymu bod o leiaf dau gae agored ym Mangor, sef Maes mawr a Maes y groes, wedi'u rhannu yn gaeau llain ag enwau Cymraeg arnynt yn aml. Mae'n debygol y gellir cysylltu'r dirwedd cefnen a rhych sydd wedi goroesi'n helaeth yn y dirwedd hanesyddol thrin caeau agored yn y canol oesoedd. Fodd bynnag, mae nifer o'r ardaloedd tirwedd cefnen a rhych y tu allan i'r ardaloedd lle mae caeau llain wedi goroesi, sy'n awgrymu y cafodd y dirwedd ei haildrefnu'n helaeth ar l cau'r caeau agored ar ddiwedd y canol oesoedd a dechrau'r cyfnod l-ganoloesol. Mae pyllau marl wedi'u dosbarthu'n eang ledled yr ardal, sy'n dyddio o ddiwedd y canol oesoedd a dechrau'r cyfnod l-ganoloesol yn l pob tebyg.

Yn gyffredinol, mae anheddu wedi'i gyfyngu i'r ffermydd a'r tyddynnod sydd wedi'u gwasgaru'n weddol eang. Enwau Saesneg sydd ar y rhan fwyaf o'r rhain, ac ymddengys bod rhai wedi datblygu yn sgl dadelfennu'r caeau agored canoloesol ar ddiwedd y canol oesoedd a dechrau'r cyfnod l-ganoloesol. Ymhlith adeiladau nodweddiadol sy'n adlewyrchu hanes defnydd tir a daliadaeth tir yn yr ardal mae Plas yn Coed, adeilad brics mawr yn wreiddiol sy'n dyddio o ddiwedd y 17eg ganrif ac sydd wedi'i osod ar blinth carreg; Argoed, ffermdy brics sy'n dyddio o ganol y 18fed ganrif, ac sy'n enghraifft fodel o ffermdy stad sy'n adlewyrchu llewyrch yr ardal yn ystod y cyfnod; ac, yn olaf, Bwthyn Brynhovah, tyddyn o'r 18fed ganrif beudy cysylltiedig, ynghyd nifer o ffermdai a chytiau brics bach a mawr sy'n dyddio o'r 19eg ganrif. Yn nodweddiadol, mae Musley Lane, Cloy Lane, Ln Cae-Dyah a Millbrook Lane yn cysylltu'r aneddiadau, gan ymdroelli trwy'r caeau, ac maent yn dyddio o'r canol oesoedd neu gyfnod cynharach yn l pob tebyg.

Ffynonellau

Sylvester 1969
Silvester et al. 1992
Wiliam 1986
Listed Buildings lists
Regional Sites and Monuments Record

I gael gwybodaeth bellach cysylltwch os gwelwch yn dda ag Ymddiriedolaeth Archaeolegol Clwyd-Powys yn y cyfeiriad hwn neu ewch i wefan Cyngor Cefn Gwlad Cymru' yn www.ccw.gov.uk.