CPAT logo
Cymraeg / English
Tirwedd Hanesyddol Maelor Saesneg
Map o'r ardal cymeriad hon

Nodweddion Tirwedd Hanesyddol

Maelor Saesneg: Halchdyn [Halghton]
Cymunedau Bangor Is-coed, Hanmer, De Maelor, Owrtyn [Overton] a Willington Wrddymbre [Worthenbury], Cyngor Bwrdeistref Wrecsam
(HLCA 1120)


CPAT PHOTO 85c0208 Ardal helaeth o gaeau llain canoloesol a thirwedd cefnen a rhych, gyda safleoedd cysylltiedig ffosydd, ffermydd gwasgaredig ac aneddiadau bach diweddarach ar ymyl y ffordd.

Cefndir hanesyddol

Mae'r enwau lleoedd Halchdyn [Halghton], Wallington a Willington, sy'n cynnwys yr elfen -tun o'r Hen Saesneg, yn awgrymu eu bod yn aneddiadau amaethyddol cynnar, efallai'n dyddio o'r 8fed ganrif a'r 9fed ganrif er nad oes unrhyw dystiolaeth hanesyddol bellach mewn perthynas 'r aneddiadau hyn cyn y Canol Oesoedd. Mae enw'r pentref bach yn Wrddymbre [Worthenbury] yn cynnwys yr elfen enw lle burh ('amddiffynfa') o'r Hen Saesneg, sy'n dynodi strwythur amddiffynnol o ryw fath. Wrddymbre [Worthenbury](Hurdingberie) yw un o'r aneddiadau prin ym Maelor Saesneg y mae arolwg Domesday 1086 yn cyfeirio ato'n benodol, a chyn concwest y Normaniaid roedd yn rhan o faenor ym meddiant Edwin, iarll Sacsonaidd Mersia. Ymhlith tenantiaid yn Wrddymbre [Worthenbury] adeg y goncwest roedd marchog dienw a thri Ffrancwr dienw, a chafodd pob un o'r rhain diroedd efallai yn gyfnewid am wasanaeth milwrol. Ar wahn i Wrddymbre [Worthenbury], parhaodd yr ardal yn weddol annibynnol ar ganolfannau eglwysig cynnar. Fodd bynnag, mae'r cyfeiriad cyntaf at yr eglwys yn Wrddymbre [Worthenbury] yn dyddio o ddiwedd y 14eg ganrif, a pharhaodd yn gapelyddiaeth annibynnol ym mhlwyf Bangor Is-coed hyd ddiwedd yr 17eg ganrif.

Nodweddion allweddol y dirwedd hanesyddol

Ardal gweddol wastad ac isel, yn gyffredinol rhwng 30 a 60 metr uwchben y Datwm Ordnans ac yn disgyn yn raddol i'r gogledd. Mae nifer o nentydd bach coediog fel Nant Emral a Mill Brook sy'n llednentydd Worthenbury Brook yn croesi'r ardal ac yn ymuno ag Afon Dyfrdwy yn Shocklach Green.

Nid oes llawer yn hysbys am anheddau cynnar yn yr ardal nodwedd, er gwaethaf tystiolaeth enwau lleoedd aneddiadau Eingl-Sacsonaidd sy'n dyddio o gyfnod rhwng yr 8fed ganrif a'r 10fed ganrif o bosibl, nifer o faenorau amaethyddol gwasgaredig yn ganolbwynt iddynt yn l pob tebyg. Er enghraifft, nid oedd pentref nac eglwys yn Halchdyn [Halghton] ei hun. Mae grwp eglur o 5-6 o safleoedd ffos yn cynrychioli cyfnod dilynol o anheddu, gan gynnwys Halghton Hall, Halghton Lodge, Holly Bush Farm, Lightwood Farm, Bryn, Peartree Lane ac efallai Mulsford Hall. Mae'n sicr bod y rhain yn wreiddiol yn gysylltiedig neuaddau pren sydd wedi hen ddiflannu ar wyneb y tir. Ymddengys eu bod yn ffocws i nifer o faenorau llai, efallai wedi'u sefydlu yn sgl concwest Edward y Cyntaf ar Gymru ar ddiwedd y 13eg ganrif, ac efallai eu bod yn cynrychioli cyfnod o wladychu amaethyddol, pan ddefnyddiwyd ardaloedd helaeth o dir r ar raddfa ddwys am y tro cyntaf.

Mae caeau llain a chaeau llain wedi'u haildrefnu i'w gweld yn helaeth iawn yn nhirwedd caeau'r ardal nodwedd, ac mae'r rhain yn dyddio o'r canol oesoedd. Mae nifer ohonynt yn gysylltiedig thirwedd cefnen a rhych, ynghyd phatrymau caeau eraill gan gynnwys caeau bach a mawr rheolaidd sy'n dyddio o gyfnod cau'r hen gaeau agored o bosibl. Nid oes llawer o dystiolaeth ddogfennol o drefnu'r caeau agored wedi goroesi, ond ceir cyfeiriad at gaeau llain agored yn Willington yn y 15fed ganrif. Glaswelltir yw'r prif ddefnydd tir modern, ac yn nodweddiadol mae gwrychoedd aml-rywogaeth yn diffinio caeau ynghyd choed derw aeddfed yn y gwrychoedd.

Mae nifer o aneddiadau llinellol sydd wedi datblygu ar ochr y ffordd a ger cyffyrdd pwysig yn cynrychioli anheddu diweddarach, ac yn dyddio o ddechrau'r cyfnod l-ganoloesol ymlaen yn l pob tebyg, fel Holly Bush, Little Cloy a Halghton Lane.

Cafodd neuaddau cynnar y tybir iddynt fod yn gysylltiedig 'r safleoedd ffos eu disodli yn gronolegol gan gyfres o ffermdai ffrm bren yn y 16eg ganrif a'r 17eg ganrif fel Buck Farm, Willington Cross, The Dukes, The Fields, Y Bryn, a Peartree Farm, neu codwyd y rhai yn gyfagos i'r neuaddau cynnar. Yn gyffredinol, cafodd yr adeiladau hyn eu hymestyn brics yn y cyfnod rhwng diwedd yr 17eg ganrif a dechrau'r 19eg ganrif. Mae ffermdai eraill fel Mulsford Hall a Holly Bush Farm yn ffermdai nodweddiadol sylweddol eu maint o frics sy'n dyddio o ganol a diwedd y 18fed ganrif.

Ffynonellau

Aberg 1978
Baughan 1991
Charles 1938
Hill 1981
Hubbard 1986
Musson 1994
Pratt 1964; 1998; 1999
Silvester et al. 1992
Spurgeon 1991
Sylvester 1969
Listed Building lists
Regional Sites and Monuments Record

I gael gwybodaeth bellach cysylltwch os gwelwch yn dda ag Ymddiriedolaeth Archaeolegol Clwyd-Powys yn y cyfeiriad hwn neu ewch i wefan Cyngor Cefn Gwlad Cymru' yn www.ccw.gov.uk.