CPAT logo
Cymraeg / English
Tirwedd Hanesyddol Maelor Saesneg
Map o'r ardal cymeriad hon

Nodweddion Tirwedd Hanesyddol

Maelor Saesneg: Llannerch Banna [Penley]
Cymunedau Hanmer, De Maelor ac Owrtyn [Overton], Cyngor Bwrdeistref Wrecsam
(HLCA 1123)


CPAT PHOTO 1324-18 Patrwm caeau amrywiol sydd wedi datblygu yn sgîl cau tir y caeau comin agored sy'n gysylltiedig â thirwedd cefnen a rhych a hen ganolfannau maenorol ac ardaloedd porfa gomin a gaewyd yn hwyr, aneddiadau 'green' yn sgîl lledaeniad ac olion dau ysbyty mawr Byddin UDA a oedd hefyd yn ysbytai Pwylaidd yn dilyn y rhyfel.

Cefndir hanesyddol

Mae tystiolaeth enwau lleoedd Eingl-Sacsonaidd a Chymraeg yn awgrymu anheddu cynnar yn yr ardal, ac maent hefyd yn dynodi bod coedwigoedd wedi cael eu clirio yma ar ddechrau'r canol oesoedd ac yn ystod y cyfnod canoloesol. Mae'r cofnod cyntaf o Lannerch Banna [Penley] yn dyddio o 1300, sef Pendele, ac mae wedi deillio o'r enw personol Penda a'r elfen -leah sy'n golygu 'coedwig, llannerch mewn coedwig' yn yr Hen Saesneg. Yr un yw ystyr yr enw Cymraeg. Y cofnod cyntaf o Lightwood Green yw 'Lightwoode' ym 1484, ac mae'n cynnwys yr elfen leoht 'golau, llachar' o'r Hen Saesneg. Mae'r safle â ffos yn Llannerch Banna [Penley] yn cynrychioli anheddu canoloesol, ac mae'n debyg ei fod yn cynrychioli canolfan faenorol ac yn dyddio o ddiwedd y 13eg ganrif neu'r 14eg ganrif. Mae dogfennau sy'n dyddio o ddiwedd y Canol Oesoedd yn cyfeirio at gaeau llain agored yn nhrefgordd Llannerch Banna [Penley], ond mae'n debygol bod y caeau comin canoloesol hyn wedi cael eu cau a'u hamsugno i mewn i'r stadau a oedd yn ehangu ac a oedd wedi dod i'r amlwg erbyn dechrau'r 16eg ganrif, fel oedd yn digwydd ym mannau eraill ym Maelor Saesneg. Yn ystod y cyfnod ôl-ganoloesol, adeiladwyd Penley Hall i ddisodli'r safle â ffos yn Llannerch Banna [Penley]. Roedd y neuadd yn ganolbwynt stad teulu Dymock a daeth Llannerch Panna yn safle plasty i gangen o'r teulu Kenyon ar ddiwedd y 19eg ganrif. Yn ystod yr Ail Ryfel Byd roedd ysbytai Byddin UDA yn y parcdir a oedd yn gysylltiedig â Penley Hall a Llannerch Panna, ac ar ôl y rhyfel cawsant eu defnyddio fel ysbytai i ffoaduriaid o Wlad Pwyl.

Nodweddion allweddol y dirwedd hanesyddol

Mae'r ardal yn cynnwys tir fferm tonnog rhwng oddeutu 30 a 70 metr uwchben y Datwm Ordnans, yn disgyn yn raddol i'r gogledd. Mae cymoedd nentydd coediog sy'n bwydo Nant Emral yn croesi'r ardal. Caeau bach a mawr â ffiniau afreolaidd sydd i'w gweld yn helaeth ym mhatrymau'r caeau, a cheir ardal o gaeau llain yn ardal Park Lane a Stryd Lydan, er ei bod yn debygol bod y dirwedd cefnen a rhych sy'n gyffredin yn yr ardal nodwedd yn arwydd bod caeau agored wedi cael eu trin yn y canol oesoedd, er nad yw patrwm y caeau yn arwydd eglur o hyn. Mae nifer o byllau marl wedi'u gwasgaru ledled yr ardal, ac mae llynnoedd bach yn cynrychioli nifer o'r rhain. Porfa yw'r prif ddefnydd tir modern, ac mae gwrychoedd aml-rywogaeth yn ffinio'r caeau hyn â choed derw aeddfed wedi'u gwasgaru yma a thraw yn y gwrychoedd.

Mae ffermydd gweddol wasgaredig yn cynrychioli patrwm anheddu mwy hynafol. Er gwaethaf y ffaith bod enwau lleoedd Lightwood Green a Llannerch Banna [Penley] wedi'u cynnwys mewn dogfennau cynnar, cafodd yr aneddiadau eu creu yn y cyfnod rhwng y 18fed ganrif a'r 20fed ganrif. Dengys map degwm o'r 1830au bod Lightwood Green eisoes yn anheddiad 'green' datblygedig, efallai'n ymestyn i mewn i hen ardal borfa gomin, â chlwstwr o gartrefi mewn llociau bach unigol o amgylch green canolog yn ymestyn i mewn i'w ganol mewn nifer o fannau eraill. Yn sgîl datblygiad y gwaith brics a'r iard goed fodern, mae'r comin canolog sy'n amlwg ar fap y degwm wedi diflannu. Ni chafodd y tir comin yma ei gau hyd 1877, ac roedd ymhlith y tir comin olaf yn y wlad i gael ei gau. Rhwng diwedd y 19eg a'r 1960au, cafodd yr anheddiad fudd yn sgîl Rheilffordd Wrecsam ac Ellesmere oherwydd bod gorsaf yn Lightwood Green. Dechreuodd The Overton Brick and Tile Works yn Lightwood Green gynhyrchu brics, pibellau, blociau cerrig copa a siliau ffenestri ar ddiwedd y 19eg ganrif a chaewyd y gweithfeydd yn ystod yr Ail Ryfel Byd.

Adeg y cau tir ddiwedd y 18fed ganrif mae'n amlwg bod y patrwm anheddu yn weddol wasgaredig, er bod cysylltiad enwau lleoedd fel 'Big Green', 'Little Green' a 'Far Green' a 'Chapel Green' eto'n awgrymu bod yr anheddiad wedi datblygu yn sgîl cau tir yr hen ardaloedd pori comin yn raddol, sef tir comin a oedd unwaith yn fwy. Parhaodd Llannerch Banna [Penley] yn gapelyddiaeth a oedd yn ddibynnol ar blwyf Ellesmere hyd 1869, pan ddaeth yn blwyf ynddo'i hun. Yn ôl y dyfarniad cau tir roedd capel Llannerch Banna [Penley] (eglwys y plwyf bellach) ger Chapel Green, ardal gomin afreolaidd ar gyffordd Holly Bush Lane a'r A539. Roedd tri thy mewn grwp ar y de i'r ffordd a phedwar ty arall ger Holly Bush Lane a oedd yn arwain at Little Green. Ychydig i'r dwyrain roedd Far Green, anheddiad llawer yn fwy y mae'r briffordd bellach yn mynd trwyddo, â gwasgariad o gartrefi ar ei ymylon a Penley Hall i'r gogledd. Roedd yr anheddiad yn gymharol fach hyd nes y crëwyd ysbyty milwrol yn ystod yr Ail Ryfel Byd.

Nid oes llawer o adeiladau neu strwythurau cynnar yn dal i'w gweld yn nhirwedd yr ardal. Mae'n nodweddiadol mai'r ffermdy brics o ddiwedd yr 17eg ganrif yn Penley Old Hall sy'n cynrychioli'r gorwel adeiladu cynharaf, gan guddio olion neuadd bren o'r 16eg ganrif. Mae'n debygol bod y neuadd yn cynnwys dau fae a'i bod yn agored i'r nenfwd. Mae'r motiffau addurnol sydd wedi'u paentio ar y pren a'r plastr y tu mewn, gan gynnwys yr hyn sy'n ymddangos i fod yn dorsh wal trompe l'oeil wedi'i osod mewn braced, yn pwysleisio statws uchel y neuadd. Yn gyffelyb, efallai bod y ffermdy o ganol y 18fed ganrif yn Lightwood Hall wedi'i adeiladu o amgylch craidd adeilad cynharach. Efallai bod yr ysgubor nenfforch sy'n dyddio o 1550 a oedd yn Stryd Lydan, ond sydd bellach wedi'i hailgodi yn Amgueddfa Werin Cymru yn Sain Ffagan, yn nodweddiadol o adeiladau amaethyddol nad ydynt wedi goroesi'n aml yn yr ardal heddiw. Bron yn ddieithriad codwyd adeiladau o ddiwedd yr 17eg ganrif ymlaen o frics, fel Penley Old Hall a Lightwood Hall yn ogystal â nifer o ffermdai a thai symlach. Roedd yr ardal yn gysylltiedig â thair stad leol a ddaeth yn fwy amlwg, yn enwedig o ddechrau'r 17eg ganrif ymlaen, gan gynnwys stad y teulu Dymock yn Llannerch Banna [Penley] a'r teulu Puleston yn Emral. Adeiladwyd y plasty yn Llannerch Panna yn y 1870au (a ailenwyd yn Tudor Court), mewn arddull frodorol â waliau allanol ffrâm bren a simneiau o frics Rhiwabon, ar gyfer cangen o'r teulu Kenyon. Ymhlith adeiladau modern gwahanredol eraill yn yr ardal mae'r Madras School yn Llannerch Banna [Penley], a adeiladwyd ym 1811 (cafodd ei henwi ar ôl ysgol lle roedd un o'r sylfaenwyr wedi gweithio), o frics stwco, a tho gwellt mewn arddull bwthyn gwladaidd. Mae adeiladau a strwythurau sy'n gysylltiedig ag ysbyty Byddin UDA a'r ysbyty Pwylaidd dilynol wedi goroesi yn Penley Hall, er bod Stad Ddiwydiannol neu Stad Fenter Llannerch Banna [Penley] bellach ar rannau o dir y stad. Mae rhannau eraill o dir y stad, fel y sefydliad tebyg yn Llannerch Panna, bellach wedi'u gwerthu i adeiladu tai preifat a thai'r awdurdod lleol arnynt.

Ffynonellau

Baughan 1991
Cole & Parkinson 1992
Edwards 1987
Pratt 1998, 1999
Pratt & Pratt 2000
Silvester et al. 1992
Sylvester 1969
Wiliam 1988
Listed Building lists
Regional Sites and Monuments Record

I gael gwybodaeth bellach cysylltwch os gwelwch yn dda ag Ymddiriedolaeth Archaeolegol Clwyd-Powys yn y cyfeiriad hwn neu ewch i wefan Cyngor Cefn Gwlad Cymru' yn www.ccw.gov.uk.