CPAT logo
Cymraeg / English
Tirwedd Hanesyddol Maelor Saesneg
Map o'r ardal cymeriad hon

Nodweddion Tirwedd Hanesyddol

Maelor Saesneg: Eglwys Cross
Cymunedau Bronington, Hanmer, De Maelor a Willington Wrddymbre [Worthenbury], Cyngor Bwrdeistref Wrecsam (HLCA 1125)


CPAT PHOTO 1328-07 Tirwedd y mae patrymau caeau afreolaidd a ffermydd gwasgaredig i'w gweld yn helaeth iawn ynddi, ag anheddiad eglwys cnewylledig cynnar yn Hanmer ac ychydig o aneddiadau 'green' ac aneddiadau diweddarach ar ymyl y ffordd.

Cefndir hanesyddol

Mae dau dwmpath claddu'r Oes Efydd i'r gogledd o Whitewell yn arwydd o anheddiad cynhanesyddol cynharach a defnydd tir rhywfaint o'r ardal. Cloddiwyd un ohonynt yn rhannol ar ddiwedd y 19eg ganrif a cheir safleoedd posibl eraill yn Fferm Waenreef a Bryn Rossett. Mae yna nifer o enwau lleoedd sy'n gorffen â'r elfen -tun o'r Hen Saesneg, gan ddynodi anheddiad neu fferm Sacsonaidd. Mae hyn yn awgrymu anheddu canoloesol cynnar sy'n dyddio o gyfnod rhwng yr 8fed ganrif a'r 10fed ganrif, fel yn achos Willington a Bronington, er nad oes ffurfiau cynnar ar yr enwau hyn wedi'u cofnodi: Er enghraifft, y cofnod cyntaf o Willington yw 'Gwillington' ym 1284 ond ni cheir cyfeiriad at Bronington hyd ddiwedd yr 17eg ganrif. Efallai bod enw lle Croxton yn dynodi anheddu Llychlynnaidd. Nid yw arolwg Domesday 1086 yn cyfeirio at Hanmer er bod presenoldeb offeiriad a oedd yn meddu ar dir yn Llys Bedydd [Bettisfield] (Bedesfield) yr adeg honno. Efallai bod hyn yn arwydd bod eglwys yma, a allai ddyddio o'r cyfnod Eingl-Sacsonaidd, er bod y cofnod dogfennol cyntaf o'r eglwys, a gysegrwyd i Sant Chad, yn dyddio o 1110 pan gafodd ei rhoi, ynghyd â thiroedd eraill, i'r abaty Awstinaidd yn Haughmond, Swydd Amwythig. Mae nifer o lwybrau pwysig sy'n cysylltu Owrtyn [Overton] a Bangor â thref gyfagos Whitchurch yn Swydd Amwythig yn croesi'r ardal. Mae gwrit sy'n dyddio o 1282 yn awdurdodi William le Botiler of Wemme, capten garsiwn Edward yn Whitchurch, i glirio coed o'r bwlch yn Redbrook (La Rede Broc), ar hyd linell yr A525 bresennol yn ôl pob tebyg. Dyma arwydd o bwysigrwydd strategol y llwybrau hyn yn ystod y goncwest Edwardaidd.

Nodweddion allweddol y dirwedd hanesyddol

Mae'r ardal nodwedd tirwedd hanesyddol yn ardal donnog a thwmpathog o ddrifft marianol, yn gyffredinol rhwng 30 a 90 metr uwchben y Datwm Ordnans. Mae cymoedd bas llednentydd Nant Wych yn torri trwy'r ardal i'r gogledd-ddwyrain ac mae cymoedd bas llednentydd Nant Emral yn torri trwy'r ardal i'r gogledd-orllewin. Mae llynnoedd a chorsydd fel Llyn Bedydd, Llyn Croxton Pool a Cranberry Moss, lle mae draeniad naturiol y tir yn wael, wedi ffurfio mewn pantiau y mae dyddodion til rhewlifol wedi'u gadael. Mae coedwig collddail cymysg yn ymylu ar Lyn Bedydd sy'n cynnwys bedw a sycamorwydd.

Mae caeau bach a mawr â ffiniau afreolaidd i'w gweld yn helaeth iawn yn nhirwedd y caeau, ac mae'n debygol bod y rhain wedi datblygu yn sgîl lledaeniad a chau tir bob yn dipyn, er y ceir rhywfaint o ardaloedd llai o gaeau llain fel y rheiny i'r gogledd o Fenn's Old Hall, i'r gogledd-orllewin o Hanmer, i'r gorllewin o Peartree Farm ac i'r gogledd o Eglwys Cross. Ymddengys bod y rhain wedi datblygu o hen gaeau agored canoloesol, ac mae rhai ohonynt yn gysylltiedig ag ardaloedd gweddilliol lle bu trin tirwedd cefnen a rhych. Mae glasleiniau mewn rhai ardaloedd hefyd yn cynrychioli hen dir âr. Cafodd ardaloedd isel gwlypach i'r dwyrain o Eglwys Cross eu draenio a'u gwella, yn ystod y cyfnod ôl-ganoloesol yn ôl pob tebyg. Mae pyllau marl wedi'u dosbarthu'n eang, ac mae'r rhan fwyaf ohonynt wedi goroesi fel pyllau a phantiau llawn o ddwr. Porfa yw'r prif ddefnydd tir modern, er bod rhywfaint o dir âr, yn bennaf ar gyfer tyfu cnydau porthiant. Gwrychoedd aml-rywogaeth sy'n nodi ffiniau caeau yn bennaf, â choed derw aeddfed wedi gwasgaru ar eu hyd.

Mae'r mwnt o'r enw Mount Cop yn Eglwys Cross yn dystiolaeth ffisegol o anheddu cynnar, ac felly hefyd y safle â ffos crwn anarferol posibl i'r dwyrain o Hanmer. Nid oes cysylltiadau hanesyddol sicr yn perthyn i'r un o'r ddau. Efallai mai gwreiddiau Eingl-Sacsonaidd neu Normanaidd yw rhai'r anheddiad cnewylledig bach yn Hanmer, er ei bod yn amlwg bod nifer fach iawn o ganolfannau maenorol neu aneddiadau cnewylledig eraill canoloesol yn yr ardal nodwedd. Awgryma hyn bod anheddu yn y cyfnod hwn wedi'i seilio yn bennaf ar ffermydd gwasgaredig. Saesneg yw enwau cyfran uchel o ffermydd modern, fel Yew Tree Farm, The Fingers, Broad Oak, a Cranberry Farm, er bod tystiolaeth hanesyddol enwau ffermydd a chaeau yn awgrymu bod elfen ddiwylliannol Gymreig gref yma ar ddiwedd y Canol Oesoedd. Ceir nifer o aneddiadau 'green', fel y rheiny yn Horseman's Green, Little Green, a Painters Green sydd, yn ôl pob tebyg, yn cynrychioli cau tir hen ardaloedd porfa comin yn y cyfnod ôl-ganoloesol. Mae'n debyg bod yr aneddiadau llinellol ym Mrychdyn [Broughton], The Chequer, Whitewell a Little Arowry wedi dod i'r amlwg yn bennaf o ganlyniad i'r gwelliannau i'r ffyrdd tyrpeg a fu ar ddiwedd y 18fed ganrif a dechrau'r 19eg ganrif. Mewn mannau eraill ceir lonydd troellog hynafol, weithiau wedi'u gosod mewn ceuffyrdd.

Mae adeiladau canoloesol hwyr ac adeiladau o ddechrau'r cyfnod ôl-ganoloesol, sydd â ffrâm bren a thoeau gwellt fel Magpie Cottage, Hanmer a Peartree Farm, yn cynrychioli gorwel tai cynharach yn yr ardal nodwedd. Mae The Cumbers, ty brics o'r 19eg ganrif â thalcen â ffrâm bren hefyd yn cynrychioli'r un gorwel. Mae'r neuadd ffrâm bren ystlysog o ddiwedd y 15fed ganrif yn Horseman's Green, a orchuddiwyd gan frics yn ddiweddarach, yn dynodi canolfan faenorol statws uchel ar ddiwedd y canol oesoedd. Strwythurau o frics mewn arddull frodorol Sioraidd yw nifer o'r tai uwch eu statws o'r 18fed ganrif sydd wedi goroesi, fel y ficerdy o ddechrau'r 18fed ganrif yn Hanmer, Croxton (1793), Neuadd Hanmer (1756)

Ffynonellau

Berry & Gale 1966a
Charles 1938
Davies 1949
Edwards 1991
Hubbard 1986
Lee 1876
Musson 1994
Sawyer & Hacker 1987
Silvester et al. 1992
Smith 1988
Smith 2001
Sylvester 1969
Listed Buildings lists
Regional Sites and Monuments Record

I gael gwybodaeth bellach cysylltwch os gwelwch yn dda ag Ymddiriedolaeth Archaeolegol Clwyd-Powys yn y cyfeiriad hwn neu ewch i wefan Cyngor Cefn Gwlad Cymru' yn www.ccw.gov.uk.