CPAT logo
Cymraeg / English
Tirwedd Hanesyddol Maelor Saesneg
Map o'r ardal cymeriad hon

Nodweddion Tirwedd Hanesyddol

Maelor Saesneg: Fenn's Moss
Cymunedau Bronington a De Maelor, Cyngor Bwrdeistref Wrecsam
(HLCA 1129)


CPAT PHOTO 1329-17 Cyforgors â thystiolaeth o'i hecsbloetio o gyfnodau cynhanesyddol a chanoloesol ymlaen. Tystiolaeth paill sy'n dangos hanes llystyfiant a defnydd tir yn y rhanbarth ers y rhewlifiant diwethaf.

Cefndir hanesyddol

Mae'r ardal yn cynnwys Fenn's Moss a Cadney Moss, ac ardal fawnog helaeth, yn gyffredinol rhwng 80 a 90 metr uwchben y Datwm Ordnans. Maent yn barhad di-dor o gorsydd Whixall a Wem ar ochr Lloegr i'r ffin, a draen y ffin yn eu rhannu, a gyda'i gilydd maent yn ffurfio un o'r cyforgorsydd mwyaf eu maint, a mwyaf deheuol, ym Mhrydain. Datblygodd y corsydd ers y rhewlifiant diwethaf ar safleoedd lle roedd draeniad wedi'i rwystro oherwydd bod clog-glai wedi'i ddyddodi wrth i'r iâ encilio oddeutu 12,000 o flynyddoedd yn ôl. Mae'n debygol bod ymelwa wedi bod ar y corsydd o'r cyfnod cynhanesyddol ymlaen, ond er na cheir ond ychydig o dystiolaeth sicr o'r ochr Gymreig i'r ffin, daethpwyd o hyd i fwyell balstaf o ganol yr Oes Efydd yn Whixall Moss dros y ffin yn Swydd Amwythig, wedi'i mewnosod ym moncyff pinwydden. Nid oes llawer o gofnodion hanesyddol wedi goroesi mewn perthynas â'r corsydd yng Nghymru cyn dechrau'r 18fed ganrif, er y ceir tystiolaeth yng nghofnodion maenor Whixall bod system mawnfa ddatblygedig lle roedd hawliau comin i dorri mawn neu dyweirch eisoes ar waith erbyn y 1570au, ac efallai ei bod wedi datblygu o gyfnod cynharach. Erbyn diwedd yr 16eg ganrif mae'n amlwg bod torri mawn a chloddio ffosydd draenio wedi digwydd llaw yn llaw mewn rhai ardaloedd. Dechreuwyd rhoi grymoedd i gau tir rhannau o'r gors o ddechrau'r 18fed ganrif, a chafodd hawliau comin eu dileu o'r diwedd yn y 1770au fel rhan o broses cau tir plwyf Hanmer. Oddeutu'r adeg hon rhoddwyd hanner yr hawliau perchnogaeth i stad Hanmer a'r gweddill i nifer o unigolion, ac arweiniodd hyn at greu dros gant o randiroedd mawnfa cul. Hefyd, rhoddwyd hawliau i gael tywod i drwsio ffyrdd penodedig a arweiniai o'r gors. Pwrpas y cau tir oedd trefnu a diffinio'r dirwedd oherwydd bod cau tir hefyd yn gysylltiedig â chynlluniau draenio helaeth a ffurfioli'r rhwydwaith o lwybrau troed, traciau a ffyrdd. Yn y pen draw, arweiniodd y cau tir at ddiwydiant torri mawn masnachol, a ddechreuodd yn y 1850au, dan lesau roedd Stad Hanmer wedi'u cyhoeddi, a pharhaodd â dwyster cynyddol, hyd ddaeth y cynhyrchu i ben yn ystod degawd olaf yr 20fed ganrif pan brynodd y Cyngor Cadwraeth Natur y corsydd. Roedd Cangen Ellesmere o Gamlas Shropshire Union, a gwblhawyd ym 1804, yn croesi'r corsydd, fel roedd Rheilffordd Ellesmere a Whitchurch, a ddechreuodd weithredu ym 1863. Meddiannodd y fyddin ardaloedd helaeth o Fenn's Moss yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf i'w defnyddio fel meysydd saethu ac yn ystod yr Ail Ryfel Byd fel maes gynyddiaeth a bomio a safle llith a gynlluniwyd i amddiffyn canolfannau diwydiannol ac aneddiadau sifilaidd yn ardal Wrecsam, Glannau Dyfrdwy a Lerpwl.

Nodweddion allweddol y dirwedd hanesyddol

O ran defnydd tir modern, mae'r corsydd yn cynnwys rhai ardaloedd o fawn heb ei dorri, hen weithfeydd torri mawn, ffeniau gwern a phrysg brodorol wedi'u hadfywio, ynghyd â rhai ardaloedd porfa wedi'u creu trwy ddraenio rhai ardaloedd. Plannwyd ardaloedd o blanhigfeydd conwydd, fel Fenn's Wood, yn y 1960au. Yn ardal y corsydd yng Nghymru, mae dyfnder y mawn dros 8 metr yn ardal Oafs Orchard sydd heb ei thorri, ond yn yr ardaloedd lle bu torri, 3 metr yn unig yw dyfnder y mawn ar gyfartaledd, ac mewn rhai ardaloedd mae'r holl fawn wedi'i dorri ymaith, i lawr at wyneb yr is-bridd gwaelodol. Mae Cyngor Cefn Gwlad Cymru ac English Nature yn rheoli ardal sylweddol o Warchodfa Natur Genedlaethol Fenn's Moss, Whixall Moss a Bettisfield Moss.

Y ffaith bod y corsydd yn ardal warchodfa natur yw eu prif arwyddocâd heddiw. Er hynny, maent hefyd yn diogelu tystiolaeth arwyddocaol o ymelwa arnynt yn ystod y pedwar can neu bum can mlynedd ddiwethaf. Mewn rhai ardaloedd, mae'n bosibl gweld gweithfeydd torri mawn hyn trwy doriadau llinellol â llaw. Mae'n hawdd iawn gwahaniaethu rhwng yr ardaloedd a dorrwyd â llaw yn fasnachol gan ddefnyddio dull 'Beibl Whixall' (sy'n cyfeirio at siâp y blociau mawn), a dulliau torri mecanyddol mwy diweddar. Hefyd, mae olion yr hen dramffyrdd a rheilffyrdd cul, a fyddai'n cael eu defnyddio i gludo mawn, wedi goroesi yma ac acw, ynghyd â hen weithfeydd mawn Fenn's Old Works. Tybir mai'r rhain yw'r gweithfeydd hynaf o'u bath ar dir mawr Prydain. Hefyd, mae'n bosibl gweld olion carnau saethu a thargedau maes bomio'r Ail Ryfel Byd. Peidiodd y rheilffordd ar draws y corsydd â gweithredu yn y 1960au, ond mae pâr o ffosydd draenio yn dal i nodi hynt y rheilffordd a orweddai ar wely o rug, bwndeli o ffagodau, a gwely trwchus o dywod o byllau tywod lleol.

Ers y 1930au, bu astudiaeth paill ar ddyddodion mawn y mae'r corsydd wedi'u diogelu, ac maent yn parhau i gynrychioli ffynhonnell bwysig o dystiolaeth amgylcheddol o hanes newid hinsoddol, llystyfiant, defnydd tir a gweithgaredd dynol yn y rhanbarth ers diwedd y rhewlifiant diwethaf.

Ffynonellau

Baughan 1991
Berry et al. 1996
Berry & Gale 1996a, 1996b
Brassil et al. 1991
Caseldine 1990
Chambers et al. 1996
Daniels 1996
Hardy 1938
Jenkins 1991
Musson 1994
Pratt & Grant 1996
Turner 1964
Regional Sites and Monuments Record

I gael gwybodaeth bellach cysylltwch os gwelwch yn dda ag Ymddiriedolaeth Archaeolegol Clwyd-Powys yn y cyfeiriad hwn neu ewch i wefan Cyngor Cefn Gwlad Cymru' yn www.ccw.gov.uk.