CPAT logo


Cymraeg / English
Adref Eto
Tirweddau Hanesyddol

Nodweddion Tirwedd Hanesyddol

Maelor Saesneg


Mae'r disgrifiad canlynol, a godwyd o'r Gofrestr Tirweddau Hanesyddol, yn enwi'r themu tirweddol hanesyddol pwysig yn yr ardal cymeriad hanesyddol.

Click for landscape description

Ardaloedd cymeriad a ddiffinnir yn Nhirwedd Hanesyddol Maelor Saesneg


Mae Maelor Saesneg yn cynrychioli tirwedd hanesyddol amrywiol sydd wedii chadw yn dda. Dawr disgrifiad canlynol or Cofrestr o Dirweddau o Ddiddordeb Hanesyddol Eithriadol Yng Nghymru (Cadw 2001, 16-19), ac maen nodi themu hanfodol tirwedd hanesyddol sydd iw canfod yng nghymeriad hanesyddol yr ardal syn cael eu hystyried mewn mwy o fanylder yn yr adrannau syn dilyn.

Yn ddaearyddol, Maelor Saesneg ywr rhan honno or hen Sir y Fflint cyn 1974 ir de ddwyrain o Afon Dyfrdwy, a adwaenid fel Sir y Fflint Ar Wahn, ac syn ffinio gorllewin Swydd Amwythig a gwastadedd De Sir Gaer. Yn dopograffaidd, nid ywr tirwedd yn nodweddiadol o Gymru, ac ychydig iawn o ucheldir amlwg a geir, ac mae arwyneb y gwastadedd, sydd fel arall yn wastad neu ychydig yn donnog, yn adlewyrchu presenoldeb gwaddodion defnyddiau tanddaearol helaeth a adawyd ar l Oes yr I mewn sawl man. Mae arwyneb y gwastadedd yn disgyn, bron yn ddiarwybod, o 80m uwchben SO mewn rhai mannau ar hyd ffiniau deheuol yr ardal a ddisgrifir yma, i 15m uwchben SO ar wastadedd llifogydd yr Afon Dyfrdwy syn ymylur ardal yn y gogledd ar gorllewin. Mae gan aneddiadau ac economir ardal ddyled fawr hefyd i ddylanwadau or tu hwnt ir ffin yn Sir Gaer, ac yn sgl hyn, mae cymeriad hanesyddol y tirwedd yn anghyffredin o fewn y cyd-destun Cymreig, ac yn fwy nodweddiadol or Gororau nag o Gymru ac yn llawer mwy Seisnig na Chymreig - fel y maer enw yn ei awgrymu. Yn hanesyddol, byddair rhan helaethaf o Maelor Saesneg wedi gostwng i batrymau tebyg o ddefnydd tir drwy rannu caeau agored yn stribedi o amgylch aneddiadau bach canoloesol. Fodd bynnag, yn fwy diweddar, amlygwyd gwahaniaeth rhwng economir gorllewin sydd yn fugeiliol yn bennaf ar caeau r yn y dwyrain. Mae llawer or tirwedd wedi newid o ganlyniad i ffermio r, wrth i ffiniau gael eu clirio i greu caeau mwy ac wrth i aredig lefelu holl olion gwaith cloddiog y cyfundrefnau caeau blaenorol. O achos hynny, yng ngorllewin yr ardal a ddisgrifir yma y diogelwyd cywirdeb y tirwedd hanesyddol gorau. er hynny, o fewn y cyd-destun Cymreig maer ffaith bod cymaint or patrwm caeau ac amaethu canoloesol hwn wedi goroesi yn gwneud y tirwedd yn un prin a gwerthfawr iawn. Maer ardal yn cwmpasu nifer o aneddiadau hanesyddol sydd yn dyddio or cyfnodau canoloesol neu ganoloesol cynnar. Ceir trefi bach Bangor Is-coed ac Owrtyn [Overton] yn y gorllewin (wedii nodi fel safle posibl ar gyfer Burh Sacsonaidd, sydd yn beth prin iawn yng Nghymru) ac mae Wrddymbre [Worthenbury] ar yr ochr ogleddol; Llannerch Banna [Penley] a Lightwood Green ir de; a Horsemans Green a Tallarn Green ir dwyrain. Tuedda llawer or aneddiadau bychain hyn i fod yn ddatblygiadau bach hirfain, wediu lleolin agos at ei gilydd ar ochr yr hyn y gellir tybio iddo fod yn rwydwaith ffyrdd blaenorol. Nodwedd llawer ohonynt ywr tai ar bythynnod bric coch syn nodweddur 18fed ar 19eg ganrifoedd yn lleol. Fodd bynnag, ceir un neu ddau adeilad du a gwyn ffrm bren yn y rhan fwyaf or pentrefi, syn dynodi gwreiddiau cynharach, a awgrymir hwyrach gan bresenoldeb y cyfundrefnau caeau syn amgylchynu llawer or pentrefannau hyn. Eithriad ir patrwm hwn yw Bangor Is-Coed sydd o dras llawer hyn, er bod nifer oi nodweddion archeolegol yn debyg i adeiladau canoloesol yma ac acw o amgylch y dref ac mae pont gerrig urddasol or 15fed ganrif yn croesi Afon Dyfrdwy; erbyn heddiw maer dref yn fwyaf enwog am ei chae rasio ceffylau, yr unig un yng Ngogledd Cymru. Yn ogystal r aneddiadau hyn, ceir sawl neuadd fawreddog o ddiwedd y Canol Oesoedd megis Althrey a Hen Neuadd Llannerch Banna, ynghyd nifer o safleoedd wediu hamgylchynu ffos o ddechraur Canol Oesoedd, er enghraifft Halghton Lodge a Peatree Lane. Statws maenor oedd ir rhan fwyaf or safleoedd a amgylchynwyd ffos, am eu bod yn dai i arglwyddi neu iw stiwardiaid, neu o bryd iw gilydd yn eiddo i sefydliadau eglwysig. Mae tystiolaeth ddyddio yn dynodi ir ffurf neilltuol hwn o aneddiad gael ei gyflwyno ir ardal yn y 12fed ganrif gyda chynnydd yn nifer y safleoedd yn y 13eg ac ar ddechraur 14eg ganrifoedd, ac roeddent yn dal i gael eu hadeiladu au defnyddio tan y 16eg ganrif. Nid oedd unrhyw werth amddiffynnol iddynt, ac ymddengys mai eu swyddogaeth oedd datgan statws uchel eu deiliaid, ac y defnyddid y ffosydd, yn fwyaf tebygol, i gadw pysgod ac adar helai ddyfrhaur stoc ac fel addurn. Fodd bynnag, nodwedd fwyaf neilltuol y tirwedd hwn yw ei etifeddiaeth amaethyddol ganoloesol. Patrwm defnydd y tir ar hyn o bryd yw caeau gyda gwrychoedd bach iddynt, wediu trefnu mewn stribedi cul yn aml, gyda llawer ohonynt wedi cadwr gwaith cloddiog gwrymiau a chwysi amaeth canoloesol. Deilliodd gwaith cloddiog or fath o amaethu r yn ystod y cyfnod canoloesol pan rannwyd y tir a oedd yn amgylchynur aneddiadau yn stribedi o fewn caeau mawr agored a gi eu trin ar y cyd gan y pentrefwyr. Er y crwyd y gwrymiau ar cwysi sydd iw gweld heddiw drwy aredig y tir, ffurfiwyd y patrwm o gaeau amgaedig bychan a gwrychoedd iddynt yn ddiweddarach. Gydag amser, caewyd y caeau agored i mewn, gyda ffiniau newydd y caeau yn aml yn adlewyrchu ffurf y stribedi blaenorol, gan greur caeau hir cul nodweddiadol. Fodd bynnag, mewn rhai ardaloedd megis y rhai ir gogledd o Bandy Lane ac yn agos i Mulsford, maer patrymau amaethu r yn fwy cymhleth ac yn aml, nid ydynt yn cyfateb ffiniau diweddarach. Maer amaethu a oedd yn bennaf yn fugeiliol yn ystod canrifoedd mwy diweddar wedi ffosileiddio patrymaur caeau syn cadwr gwaith cloddiog gwrymiau a chwysi ar caeau diweddarach gwrychoedd, gan rhoi gwedd ganoloesol neilltuol ir tirwedd. Mae llawer or caeau hyn yn cynnwys pyllau bach, ac er nad yw eu tarddiad nau defnydd yn glir, gallant fod yn dyllau clai a oedd o bosibl yn darparu defnydd adeiladu ar gyfer adeiladu lleol canoloesol. Ni ddylid ystyried y cyfundrefnau caeau hyn ar eu pennau eu hunain, gan fod yr aneddiadau y maent yn perthyn iddynt yn gymaint rhan or tirwedd hanesyddol hwy. Gydar eithriad o Fangor Is-Coed ac Owrtyn [Overton], maer patrwm aneddiadau yn parhau i fod yn un o bentrefi a phentrefannau cnewyllol nad ydynt wedi newid rhyw lawer ers eu tarddiadau canoloesol, syn ychwanegu cydlyniad a chywirdeb i gymeriad hanesyddol y tirwedd anghyffredin iawn, sydd yn dal i ffynnu ac syn amaethyddol yn bennaf.

Themu tirwedd hanesyddol yn Maelor Saesneg

Yr Amgylchedd Naturiol

Ffiniau Gweinyddol

Aneddiadau

Amaethyddiaeth A Defnydd Tir

Adeiladau Yn Y Dirwedd

Tranidiaeth A Chysylltiadau

Diwydiant

Gweithgareddau Milwrol

Chwaraaeon A Difyrrwch

Parciau A Gerddi

Ardaloedd cymeriad

CPAT PHOTO 85c221

1114 Ywern ardal cymeriad. Ystumiau afon Dyfrdwy ger Wern. Photo: CPAT 85-C-221. (Nl i'r map)

Cliciwch yma i gael mwy o wybodaeth am yr ardal Cymeriad Tirwedd Hanesyddol hon

Cliciwch yma i gael map o'r ardal cymeriad hon

CPAT PHOTO 1323-16

1115 Bangor Is-y-coed ardal cymeriad. Pont, pentref ac eglwys Bangor Is-coed, or gorllewin. Photo: CPAT 1323-16. (Nl i'r map)

Cliciwch yma i gael mwy o wybodaeth am yr ardal Cymeriad Tirwedd Hanesyddol hon

Cliciwch yma i gael map o'r ardal cymeriad hon

CPAT PHOTO 1323-18

1116 Brynhovah ardal cymeriad. Tirwedd cefnen a rhych ir dwyrain o Fangor Is-coed, yn cynrychioli trin caeau agored yn y canol oesoedd. Photo: CPAT 1323-18. (Nl i'r map)

Cliciwch yma i gael mwy o wybodaeth am yr ardal Cymeriad Tirwedd Hanesyddol hon

Cliciwch yma i gael map o'r ardal cymeriad hon

CPAT PHOTO 1324-00

1117 Bryn-y-Pys ardal cymeriad. Rhodfa goed a phorthdy hen Neuadd Bryn-y-Pys, ychydig ir gogledd o Owrtyn [Overton]. Photo: CPAT 1324-00. (Nl i'r map)

Cliciwch yma i gael mwy o wybodaeth am yr ardal Cymeriad Tirwedd Hanesyddol hon

Cliciwch yma i gael map o'r ardal cymeriad hon

CPAT PHOTO 1324-03

1118 Owrtyn [Overton] ardal cymeriad. Canol Owrtyn [Overton] yn dangos bwthyn ffrm bren or 17eg ganrif a thai a siopau or 18fed ganrif ar 19eg ganrif wediu hadeiladu o frics. Photo: CPAT 1324-03. (Nl i'r map)

Cliciwch yma i gael mwy o wybodaeth am yr ardal Cymeriad Tirwedd Hanesyddol hon

Cliciwch yma i gael map o'r ardal cymeriad hon

CPAT PHOTO 1324-07

1119 Knolton ardal cymeriad. Ystafell Genhadol Knolton, yn ffurfio rhan or anheddiad gwasgaredig yn Knolton Bryn. Ymddengys ei fod wedi datblygu yn sgl lledaenur anheddiad gan orchuddio hen gae agored or canol oesoedd. Photo: CPAT 1324-07. (Nl i'r map)

Cliciwch yma i gael mwy o wybodaeth am yr ardal Cymeriad Tirwedd Hanesyddol hon

Cliciwch yma i gael map o'r ardal cymeriad hon

CPAT PHOTO 85c0208

1120 Halchdyn [Halghton] ardal cymeriad. Safle ffos, system caeau tirwedd cefnen a rhych a phyllau marl Peartree Lane. Photo: CPAT 85c0208. (Nl i'r map)

Cliciwch yma i gael mwy o wybodaeth am yr ardal Cymeriad Tirwedd Hanesyddol hon

Cliciwch yma i gael map o'r ardal cymeriad hon

CPAT PHOTO 1323-19

1121 Emral ardal cymeriad. Ffensys pyst a weiren modern yn rhannur hen barcdir syn amgylchu Neuadd Emral, ar coetir y tu hwnt yn ymyl Nant Emral. Dymchwelwyd y neuadd yn y 1930au, ac roedd ar safler Embers-hall canoloesol. Crwyd y parcdir, yn rhannol o leiaf, yn sgl cau tir yr hen gaeau agored canoloesol. Photo: CPAT 1323-19. (Nl i'r map)

Cliciwch yma i gael mwy o wybodaeth am yr ardal Cymeriad Tirwedd Hanesyddol hon

Cliciwch yma i gael map o'r ardal cymeriad hon

CPAT PHOTO 1322-10

1122 Mulsford ardal cymeriad. Olion tirwedd cefnen a rhych ger Sarn Bridge Farm. Photo: CPAT 1322-10. (Nl i'r map)

Cliciwch yma i gael mwy o wybodaeth am yr ardal Cymeriad Tirwedd Hanesyddol hon

Cliciwch yma i gael map o'r ardal cymeriad hon

CPAT PHOTO 1324-18

1123 Llannerch Banna [Penley] ardal cymeriad. Rhan o hen Ysbyty Byddin UDA ar Ysbyty Pwylaidd dilynol yn Llannerch Banna, sydd bellach yn cael eu defnyddio fel parc diwydiannol. Sefydlwyd yr ysbyty yn gyntaf yn ystod yr Ail Ryfel Byd mewn parcdir a oedd yn gysylltiedig Penley Hall. Photo: CPAT 1324-18. (Nl i'r map)

Cliciwch yma i gael mwy o wybodaeth am yr ardal Cymeriad Tirwedd Hanesyddol hon

Cliciwch yma i gael map o'r ardal cymeriad hon

CPAT PHOTO 85c0196

1124 Gredington ardal cymeriad. Hen dirwedd cefnen a rhych mewn rhan o Gredington Park. Photo: CPAT 85c0196. (Nl i'r map)

Cliciwch yma i gael mwy o wybodaeth am yr ardal Cymeriad Tirwedd Hanesyddol hon

Cliciwch yma i gael map o'r ardal cymeriad hon

CPAT PHOTO 1328-07

1125 Eglwys Cross ardal cymeriad. Lonydd troellog yn ffurfio rhan or dirwedd a amgaewyd yn hynafol ger Hanmer Hall Farm. Photo: CPAT 1328-07. (Nl i'r map)

Cliciwch yma i gael mwy o wybodaeth am yr ardal Cymeriad Tirwedd Hanesyddol hon

Cliciwch yma i gael map o'r ardal cymeriad hon

CPAT PHOTO 1321-24

1126 Higher Lanes ardal cymeriad. Hen bwll marl ger Shift Farm. Photo: CPAT 1321-24. (Nl i'r map)

Cliciwch yma i gael mwy o wybodaeth am yr ardal Cymeriad Tirwedd Hanesyddol hon

Cliciwch yma i gael map o'r ardal cymeriad hon

CPAT PHOTO 1321-16

1127 Iscoyd ardal cymeriad. Parc Iscoyd. Photo: CPAT 1321-16. (Nl i'r map)

Cliciwch yma i gael mwy o wybodaeth am yr ardal Cymeriad Tirwedd Hanesyddol hon

Cliciwch yma i gael map o'r ardal cymeriad hon

CPAT PHOTO 1328-02

1128 Stimmy Heath ardal cymeriad. Caeau a phlanhigfeydd diweddar ger The Conery. Photo: CPAT 1328-02. (Nl i'r map)

Cliciwch yma i gael mwy o wybodaeth am yr ardal Cymeriad Tirwedd Hanesyddol hon

Cliciwch yma i gael map o'r ardal cymeriad hon

CPAT PHOTO 1329-17

1129 Fenn's Moss ardal cymeriad. Coetir bedw a chors mawn ger Oafs Orchard. Photo: CPAT 1329-17. (Nl i'r map)

Cliciwch yma i gael mwy o wybodaeth am yr ardal Cymeriad Tirwedd Hanesyddol hon

Cliciwch yma i gael map o'r ardal cymeriad hon

CPAT PHOTO 1329-02

1130 Llys Bedydd [Bettisfield] ardal cymeriad. Camlas Shropshire Union yn Llys Bedydd [Bettisfield]. Photo: CPAT 1329-02. (Nl i'r map)

Cliciwch yma i gael mwy o wybodaeth am yr ardal Cymeriad Tirwedd Hanesyddol hon

Cliciwch yma i gael map o'r ardal cymeriad hon


I gael gwybodaeth bellach cysylltwch os gwelwch yn dda ag Ymddiriedolaeth Archaeolegol Clwyd-Powys yn y cyfeiriad hwn neu ewch i wefan Cyngor Cefn Gwlad Cymru' yn www.ccw.gov.uk.

1125 1125 1125 1129 1129 1128 1128 1128 1128 1126 1126 1126 1126 1127 1127 1127 1127 1127 1127 1127 1127 1127 1127 1121 1120 1120 1120 1120 1120 1120 1122 1122 1124 1124 1124 1130 1130 1130 1130 1114 1116 1116 1116 1116 1116 1116 1116 1116 1116 1116 1116 1116 1116 1118 1118 1118 1118 1119 1119 1119 1119 1119 1119 1119 1119 1119 1119 1119 1119 1117 1117 1117 1117 1117 1117 1117 1117 1117 1117 1117 1117 1123 1123 1123 1123 1123 1123 1123 1123 1115 1115 1115 1115 1115