CPAT logo
Cymraeg / English
Adref Eto
Tirwedd Hanesyddol Maelor Saesneg

Nodweddion Tirwedd Hanesyddol

Maelor Saesneg


DIWYDIANT

Diwydiannau echdynnol

Halen
Roedd pobl yn ymelwa ar halen a ddaeth yn naturiol o greigiau Triasig gwaelodol a ddinoethwyd ar hyd Nant Wych yn rhan ogledd-ddwyreiniol yr ardal a ffurfiai ran o ddyddodion tebyg sydd ar raddfa llawer mwy yn Sir Gaer yn Nantwich, Northwich a Middlewich. Mae'r pwll halen neu (salinae) gwerth 24 swllt ym maenor Burwardestone a gofnodwyd yn arolwg Domesday ym 1086 yn arwydd bod pobl yn ymelwa ar halen yn ystod y canol oesoedd. Efallai mai hwn yw'r un pwll halen â'r un oedd ym meddiant Abaty Haughmond ym 1291 yn Wiche yn Iscoyd. Roedd halen yn nwydd pwysig ar ddechrau'r Canol Oesoedd, ac roedd system o ddulliau yn ei reoli. Mae hyn yn esbonio'r ffaith ei fod wedi ymddangos mewn ffynonellau dogfennol cynnar, oherwydd bod yr elfen enw lle -wich wedi deillio o wic Hen Saesneg ('anheddiad sy'n masnachu', a ddeilliodd o'r Lladin vicus) a defnyddiwyd yr elfen hon yn aml yn enwau aneddiadau a oedd yn cynhyrchu halen. I'r gwrthwyneb, ymddengys nad oes rhyw lawer o gofnodion o waith halen yn yr ardal yn ystod cyfnodau diweddarach, er bod Thomas Pennant yn cyfeirio at ffynnon heli a gwaith halen ger Pont Sarn dros Nant Wych yn ei A Tour in Wales a gyhoeddwyd ym 1794, a cheir rhywfaint o dystiolaeth i awgrymu bod gwaith halen Upper Wych a gwaith halen Lower Wych yn gweithredu yn y 1830au. Mae dal yn bosibl gweld pwll heli oddeutu 7 metr o ddiamedr yn Lower Wych (Bronington).

Tywod
Bu ymelwa ar ddyddodion tywod rhewlifol ar raddfa fach mewn nifer o leoedd ym Maelor Saesneg, a hynny o gyfnod cynnar ac mae'n bosibl hyd ddechrau'r 20fed ganrif. Mae rhai o'r lleoedd hyn i'w gweld ar fapiau cynnar yr Arolwg Ordnans ac mae rhai i'w gweld yn y dirwedd hyd heddiw. Cofnodwyd nifer yn ardal Bettisfield Park (De Maelor) a Hanmer, ac un ger Bryn-y-Pys (Owrtyn [Overton]).

Rhoddwyd hawliau i gael tywod i drwsio ffyrdd dynodedig a arweiniai o'r corsydd. Lluniwyd deddf i gau tir Fenn's Moss a Bettisfield Moss yn y 1770au ac, er i echdynnu barhau ar raddfa weddol fach, roedd symiau mawr o dywod yn cael eu hechdynnu yn y 1860au pan osodwyd gwely Rheilffordd Croesoswallt, Ellesmere a Whitchurch ar draws Fenn's Moss.

Mawn
Roedd torri mawn yn ddiwydiant pwysig ar Fenn's Moss yng nghornel dde-ddwyreiniol Maelor Saesneg am nifer o ganrifoedd, gan ymelwa ar ddyddodion yr oedd eu dyfnder yn fwy nag 8 metr mewn rhai mannau. Nid oes llawer o gofnodion cynnar wedi goroesi o dorri mawn ar ochr Cymru i'r ffin, ond mae'n amlwg bod system hawl torri mawn ddatblygedig wedi dod i'r amlwg erbyn y 1570au ac, yn ôl pob tebyg, wedi datblygu o gyfnodau llawer cynharach. Dilëwyd yr hawliau comin cynnar hyn o'r diwedd erbyn y 1770au, o ganlyniad i'r deddfau cau tir a oedd yn berthnasol i Fenn's Moss a Bettisfield Moss. Arweiniodd hyd at ddiwydiant torri mawn yn fasnachol, a ddechreuodd yn y 1850au, dan lesau roedd Stad Hanmer wedi'u cyhoeddi, a pharhaodd hyn yn fwyfwy dwys, hyd nes daeth y cynhyrchu i ben yn ystod degawd olaf yr 20fed ganrif pan brynodd Cyngor Cadwraeth Natur y corsydd.

Mae'r pethau y defnyddiwyd mawn Fenn's Moss ar eu cyfer wedi newid yn sylweddol dros y canrifoedd. Mae'n debygol bod ffynhonnell o danwydd ymhlith ei ddefnyddiau cynharaf, ond ymddengys nad oes unrhyw gofnodion o hyn ar ochr Cymru i'r ffin. Ymddengys bod mawn yn cael ei ddefnyddio yn weddol gyffredin fel deunydd adeiladu, gyda fframiau pren, wrth godi tai mawn neu gytiau mawn ar ddiwedd y canol oesoedd a dechrau'r cyfnod ôl-ganoloesol, a llwyddodd enghreifftiau o hyn i oroesi ar Whixall Moss hyd y 1940au. O ganol y 19eg ganrif ymlaen, defnyddiwyd mawn at amrywiaeth lawer mwy eang o ddibenion; defnyddiwyd ffurf gywasgedig ohono mewn amrywiaeth o brosesau gwneud metel a gweithgynhyrchu, wrth gynhyrchu golosg a distyllu, a chafodd ei ddatblygu i'w ddefnyddio gydag arfau rhyfel yn y Rhyfel Byd Cyntaf a'r Ail Ryfel Byd. Mor gynnar â diwedd y 1930au roedd planhigfeydd masnachol yn ei ddefnyddio at ddibenion garddwriaethol, a chafodd ei ddefnyddio ar raddfa lawer mwy yn dilyn y cynnydd a fu yn y diddordeb mewn garddio o'r 1960au ymlaen.

Mae'n hawdd gweld hanes torri mawn ar y cors wrth edrych ar y tir - o'r hen doriadau llinellol â llaw mewn rhai ardaloedd, a'r toriadau â llaw yn null 'Beibl Whixall' (yn cyfeirio at siâp y blociau mawn) yn yr hen ardaloedd masnachol, a'r dulliau torri mecanyddol mwy diweddar. Arweiniodd ymelwa masnachol ar y mawn at ddatblygiad prosesu â pheiriannau ar ddiwedd y 19eg ganrif, ac roedd peiriannau ager i falu a byrnu ar waith erbyn y 1880au. Fel a nodir yn yr adran ganlynol, defnyddiwyd nifer o wahanol rannau o dramffyrdd i echdynnu mawn ar Fenn's Moss ac i gysylltu â naill ai'r system gamlas neu'r rheilffordd. Yn dilyn hyn, daeth rheilffyrdd cul i ddisodli'r tramffyrdd ar y corsydd, a chafodd y rhain eu disodli gan dractorau ac ôl-gerbydau yn y pen draw. Credir mai'r safle gwaith mawn sydd wedi goroesi, sef Fenn's Old Works, yw'r safle gwaith olaf o'i fath ar dir Prydain Fawr, ac mae'r ffaith ei fod yn henebyn hynafol rhestredig yn ei ddiogelu. Adeiladwyd y gweithle o hytrawstiau dur ar ddiwedd y 1930au. Arferai haearn rhychog orchuddio'r adeilad ac roedd injan sefydlog (yn cynnwys yr unig Injan Olew Trwm Cenedlaethol sydd dal yn ei lle), a oedd yn darparu pwer i'r peiriant falu'r mawn a'i fyrnu.

Diwydiannau gweithgynhyrchu a phrosesu

Melinau yd dwr
Ar un adeg, melino'r yd roedd tir âr toreithiog Maelor Saesneg yn ei gynhyrchu oedd un o brif ddiwydiannau prosesu'r ardal, ond mae'r diwydiant bron â diflannu'n llwyr erbyn heddiw. Yma, fel ym mannau eraill, pwer dwr oedd y ffynhonnell ynni a oedd ar gael yn fwyaf rhwydd i falu yd, a harneisiwyd afonydd yn ogystal â nentydd llai. Yn Wrddymbre [Worthenbury] oedd y felin hysbys gynharaf yn yr ardal, a chofnodwyd hi yn arolwg Domesday ym 1086 fel melin newydd ym maenor y barwn, Robert FitzHugh, ac felly mae'n bosibl y cafodd ei hadeiladu yn fuan ar ôl concwest y Normaniaid. Nid yw lleoliad y felin yn hysbys, ond efallai bod platfform cloddwaith ar Nant Wych, ychydig i'r de o bentref Wrddymbre [Worthenbury], yn ei chynrychioli. Yn ddiamau, roedd melinau eraill yn yr ardal yn y canol oesoedd, ond ni astudiwyd hwythau rhyw lawr ychwaith. Dywedwyd bod melin yn Owrtyn [Overton] wedi'i difetha yn ystod y gwrthryfel yn erbyn coron Lloegr a arweiniwyd gan Fadog ap Llywelyn ym 1294. Nid yw lleoliad y felin yn hysbys, ond mae'n debyg ei bod ar lan afon Dyfrdwy i'r gorllewin o'r dref, efallai yng nghyffiniau'r gored bresennol. Mae'n amlwg y cafodd y felin ei hailadeiladu o fewn ychydig flynyddoedd, oherwydd cyfeiriwyd ati eto ym 1300 pan nodwyd mai £12 oedd ei gwerth. Efallai bod tystiolaeth enwau lleoedd yn cynrychioli melinau cynnar eraill. Mae'r cofnod cyntaf o Mill Brook, sy'n rhoi ei enw i Millbrook Farm, Millbrook Lane a Millbrook Bridge i'r de o Fangor Is-coed, yn dyddio o 1290 pan nodwyd ef fel Milnbrook. Efallai bod yr enw Cae'r Felin, a gofnodwyd yng nghyffiniau Neuadd Emral, yn cynrychioli safle melin gynnar arall sydd bellach ar goll.

Mae'n hysbys bod melinau yd diweddarach yr oedd dwr yn eu gyrru wedi'u lleoli mewn nifer o safleoedd ledled Maelor Saesneg, gan gynnwys pum melin frics â thoeau llechi yn dyddio o ddiwedd y 18fed ganrif a dechrau'r 19eg ganrif ar Nant Wych - sef Melin Wych, Melin Llethr a Wolvesacre Mill yn Bronington (dim ond yr olaf y mae rhannau ohoni wedi goroesi) a Dymock Mill a Melin Sarn, Tallarn Green (Willington Wrddymbre [Worthenbury]). Mae Dymock Mill yn enghraifft dda o felin ddwr Sioraidd, a llwyddodd y rhan fwyaf o'i pheiriannau gwreiddiol i oroesi hyd ddiwedd yr 1980au. Yno roedd llifddor o hen bwll melin roedd Nant Wych yn ei fwydo yn gyrru pwll olwyn â dwr dan y rhod. Melin ddwr o frics yw Melin Sarn, a ailadeiladwyd ym 1827, a chafodd ei throsi yn ddiweddarach i redeg ar drydan.

Sefydlwyd tair melin, hefyd yn dyddio o gyfnod rhwng diwedd y 18fed ganrif a dechrau'r 19eg ganrif, ar lednentydd Nant Emral - sef Halghton Mill, Halton New Mill a Hanmer Mill yn Hanmer Mill Farm (Hanmer), ill dwy ar lednentydd Nant Emral. Mae dwr yn dal i lifo o'r ffrwd felin a'r cafn melin ym Halghton New Mill, ac mae'r pwll olwyn a'r llyn melin wedi goroesi ym Melin Hanmer, er nad yw'r tair felin yn cael eu defnyddio bellach. Sefydlwyd dwy felin arall ar lednentydd Nant Emral i'r gorllewin a'r gogledd-orllewin o Lannerch Banna [Penley] - sef Penley Mill a Cross Mill (De Maelor). Strwythur brics yw Penley Mill hefyd sy'n dyddio o'r 19eg ganrif, ac mae meini'r felin wreiddiol, sef carreg galch Ffrengig, wedi goroesi yn y nant gerllaw. Melin ddwr arall oedd Melin Knolton (Owrtyn [Overton]), a sefydlwyd ar Shell Brook, un o lednentydd afon Dyfrdwy sy'n nodi'r ffin rhwng Cymru a Lloegr ar hyd ymyl dde-orllewinol Maelor Saesneg.

Roedd y rhan fwyaf o'r melinau yn yr ardal roedd dwr yn eu gyrru wedi gorffen cynhyrchu erbyn diwedd y 19eg ganrif a dechrau'r 20fed ganrif, a hynny oherwydd y llif dwr a oedd yn anrhagweladwy yn aml a chystadleuaeth o du melinau mwy masnachol mewn mannau eraill. Ond cafodd rhai, fel Melin Sarn, eu trosi i redeg ar bwer trydan. Yn gyffelyb, arferai injans disel roedd ager yn eu pweru yrru Melin Yd Cadney, melin yd o frics â dwy lawr iddi i'r dwyrain o Lys Bedydd [Bettisfield] (De Maelor), a gosodwyd yr injans hyn ym 1925.

Melinau gwynt
Efallai bod sylfeini melin wynt frics o'r 18fed ganrif sydd wedi goroesi ychydig i'r dwyrain o Felin Yd Cadney (De Maelor), yn awgrymu y cafodd ei hadeiladu i ddraenio'r gors. Mae'n hysbys bod melinau gwynt wedi cael eu defnyddio i ddraenio tir âr corsog mewn ardaloedd cyfagos yn Swydd Amwythig, gan gynnwys y melinau a adeiladwyd yn Prees ddechrau'r 16eg ganrif ac Ellesmere ddechrau'r 17eg ganrif.

Pandai
Hefyd, defnyddiwyd pwer dwr i yrru nifer o bandai a ddefnyddiwyd i orffennu'r brethyn gwlân a gynhyrchwyd yn yr ardal yn y canol oesoedd a'r cyfnod ôl-ganoloesol. Cofnodwyd dau bandy yn Halchdyn [Halghton] (Hanmer) a Tybroughton (Bronington) ar ddechrau'r 15fed ganrif er nad oes unrhyw olion archeolegol o'r pandai hyn wedi'u darganfod hyd yma. Mae'n debygol mai pandy Halchdyn [Halghton], ar lednant Nant Emral ym Mhandy, a roddodd ei enw i Fferm Pandy a Phont Pandy. Nid yw lleoliad pandy Tybroughton yn hysbys, ond ymddengys yn debygol ei fod ar Nant Wych neu un o'i llednentydd, yng nghyffiniau Tybroughton Hall.

Gefeiliau
Roedd gefail leol o fewn cyrraedd i'r rhan fwyaf o gymunedau, wedi'i lleoli yn aml ar un o'r priffyrdd neu ger cyffordd, fel y rheiny a gofnodwyd yn Redbrook, Higher Wych, Henrwst, Bronington, Eglwys Cross a Stimmy Heath (Bronington), Llys Bedydd [Bettisfield], Llannerch Banna [Penley] a Stryd Lydan (De Maelor), Three Fingers, Wrddymbre [Worthenbury] a Sarn (Willington Wrddymbre [Worthenbury]), Halchdyn [Halghton], Hanmer (Hanmer). Ymddengys bod nifer o'r gefeiliau hyn wedi dod i fodolaeth ar ddiwedd y 19eg ganrif a dechrau'r 20fed ganrif, ac mae strwythurau bach o frics yn eu cynrychioli. Prin iawn yw'r gweithdai lleol hyn, a oedd unwaith yn rhan hanfodol o'r gymuned amaethyddol leol, sydd wedi goroesi yn gyfan gwbl hyd heddiw. Cafodd y rhan fwyaf eu dymchwel, eu cadw fel siediau neu eu trosi yn dai domestig. Un o'r nifer fach sydd wedi goroesi yw gweddillion gefail o'r 19eg ganrif yn asgell ôl Ty Gwaylod, Overton Bridge (Owrtyn [Overton]) sy'n cynnwys aelwyd ofannu ddwbl a arferai agor i'r tu ôl yn ôl pob tebyg ac, yn ddiweddarach, adeiladwyd penty i'w hamgáu.

Gweisg Seidr
Nid oes llawer wedi'i ysgrifennu am hanes bragu ym Maelor Saesneg, er ei bod yn amlwg bod hyn yn bwysig, yn lleol o leiaf, efallai hyd ddyfodiad cwmnïau bragu masnachol mawr tua diwedd y 19eg ganrif. Mae nifer o enwau ffermydd a thai wedi'u seilio ar 'crab mill', sy'n arwydd bod yno wasg seidr i wasgu afalau, wedi'i phweru gan geffyl neu ferlen. Mae tystiolaeth enwau lleoedd yn dynodi tri o hen weisg seidr - Crab Mill, ar Green Lane (Bangor Is-coed), Crab Mill ger Little Green (Bronington), a Crabmill Farm (Owrtyn [Overton]), i'r de o Owrtyn [Overton], er ymddengys mai prin iawn yw'r dystiolaeth sylweddol sydd wedi goroesi o'r diwydiant.

Bragdai
Yn yr un modd, rydym yn dibynnu i raddau helaeth ar dystiolaeth enwau lleoedd am y bragdai bach a oedd wedi'u gwasgaru ledled yr ardal ac a fyddai'n cynhyrchu cyrfau lleol, gan gynnwys y Malt House sy'n dyddio o'r 18fed ganrif neu ddechrau'r 19eg ganrif yn Wrddymbre [Worthenbury], Pen-y-llan, ty brics o ddechrau'r 19eg ganrif yn Owrtyn [Overton], sydd wedi'i restru fel odyn frag a siop yn arolwg degwm 1838, a Maltkiln House yn Bronington. Mae mapiau'r Arolwg Ordnans a gyhoeddwyd yn y 1870au a'r 1880au yn dangos hen fragdy yn Tallarn Green (Willington Wrddymbre [Worthenbury]), ac efallai bod y Ty Dirwest Methodistaidd a adeiladwyd i'r pwrpas ac sy'n dyddio o 1890 yn Tallarn Green wedi'i sefydlu mewn cyferbyniad â'r bragdy. Goroesodd bragdy bach Dee Brewery yn gyfan hyd yr 1980au, ar ôl ei gau rhai blynyddoedd yn gynt.

Gwaith brics a theils
Mae'n debyg y dechreuwyd cynhyrchu brics yn lleol yn yr ardal ar raddfa fach yng nghanol yr 17eg ganrif, yn bennaf ar gyfer nifer fach o blastai fel Halghton Hall (Hanmer), a adeiladwyd ym 1662. Erbyn diwedd y 18fed ganrif tynnodd Thomas Pennant, ymhlith eraill, sylw at y ffynonellau pwysig posibl o glai a oedd ym Maelor Saesneg ond, yn gyffredinol ni chafodd gweithfeydd masnachol cymharol fach eu sefydlu hyd ddiwedd y 19eg ganrif, mewn amryw o ganolfannau, i gyflenwi'r galw cynyddol am ddeunyddiau adeiladu a phibellau i ddraenio tir. Ymhlith y gweithfeydd a sefydlwyd yn ystod y cyfnod hwn mae'r rheiny yn Lightwood Green (Owrtyn [Overton]), Fenn's Hall, Fenn's Bank, Tilstock Lane ger Brickwalls (Bronington), ac ym Mhandy (Hanmer). Ymhlith cynnyrch yr Overton Brick and Tile Works yn Lightwood Green roedd pibellau, briciau, cerrig copa a siliau ffenestri, a chynhyrchwyd pibellau yn y Pandy Brick and Tile Works. Roedd gweithfeydd Fenn's Bank a Lightwood Green wedi'u lleoli yn strategol ar y rheilffordd, gwaith Fenn's Bank ar lein Ellesmere-Whitchurch a gwaith Lightwood Green ar lein Wrecsam-Ellesmere. Roedd pob un o'r gweithfeydd hyn yn defnyddio cyflenwadau lleol o glai o byllau clai ger y gweithfeydd, hyd at ddeugain troedfedd o ddyfnder yn achos gwaith Fenn's Bank. Yma, fel ym mannau eraill, mae pantiau llawn dwr yn eu cynrychioli bellach, a byddai'r clai yn cael ei gludo i'r gwaith ar dramffyrdd yn Fenn's Bank a Phandy. Roedd gwaith Fenn's Bank yn cynnwys odyn Hoffman crwn â 14 siambr a adeiladwyd ym 1860, ynghyd â simnai 175 troedfedd o uchder, ond cafodd y ddwy eu dymchwel pan adawyd y gwaith ar ddechrau'r 1960au. Mae'r olion eraill o'r gweithfeydd sydd wedi goroesi yn brin; ni lwyddodd y canolfannau cynhyrchu lleol hyn i gystadlu â'r gweithfeydd brics a theils mwy llwyddiannus a sefydlwyd yn ardal Wrecsam yn ystod diwedd y 19eg ganrif a dechrau'r 20fed ganrif, yn arbennig yn Rhiwabon. Stad Bryn-y-Pys sefydlodd y gwaith yn Lightwood Green yn yr 1880au yn ôl pob tebyg. Roedd yn cynnwys peiriandy a sied peiriannau, ond cafodd ei gau yn ystod yr Ail Ryfel Byd. Sefydlwyd gwaith Pandy yn y 1870au, ac roedd yn cynnwys dwy odyn cwch gwenyn, siediau peiriannau a siediau sychu.

Odynau calch
Ar ôl adeiladu cangen Whitchurch o Gamlas Shropshire Union ym 1797, sefydlwyd odynnau calch ar hyd y gamlas yn Llys Bedydd [Bettisfield], ac roedd carreg galch o feysydd glo gogledd-ddwyrain Cymru yn eu bwydo. Mae'r ramp lle roedd y garreg galch yn cael ei dadlwytho yn dal i'w weld ychydig i'r gorllewin o Bettisfield Bridge. Mae'n debyg mai calch amaethyddol oedd prif gynnyrch yr odynnau, a oedd yn cael ei farchnata i ffermydd lleol yn yr ardal ac yn disodli'r arfer o farlio a ddiflannodd yn ystod dechrau'r 19eg ganrif, yn ôl pob tebyg. Wrth i wrteithiau cemegol ddod ar gael yn rhwyddach, dirywiodd y ddibyniaeth ar galchu i gynnal ffrwythlondeb y tir ar ddiwedd y 19eg ganrif.

Tanerdai
Mae tystiolaeth enwau lleoedd, yn arbennig Tan House ychydig i'r dwyrain o Owrtyn [Overton], yn awgrymu y byddai lledr yn cael ei drin ym Maelor Saesneg, efallai ar raddfa fach, er nad oes llawer o dystiolaeth ffisegol wedi goroesi.

Diwydiannau modern
Mae Maelor Saesneg yn parhau i fod yn ardal amaethyddol a di-ddiwydiannol yn bennaf, er bod ffatri alwminiwm fodern bellach ar safle hen waith brics a theils Fenn's Bank, ar ôl disodli gwaith adennill metel a sefydlwyd yn ystod yr Ail Ryfel Byd.