CPAT logo
Cymraeg / English
Adref Eto
Tirwedd Hanesyddol Maelor Saesneg

Nodweddion Tirwedd Hanesyddol

Maelor Saesneg


PARCIAU A GERDDI

Mae ardaloedd o barcdir sy'n gysylltiedig nifer o hen blastai yn elfen arwyddocaol mewn nifer o ardaloedd o dirwedd Maelor Saesneg. Ni cheir unrhyw dystiolaeth sicr bod parciau wedi'u creu yn yr ardal yn y canol oesoedd, ac mae'r dystiolaeth sydd wedi goroesi yn awgrymu bod tir wedi'i gau yn barciau yn ystod cyfnod rhwng diwedd y 17eg ganrif a dechrau'r 19eg ganrif, felly yn gymharol hwyr. Mewn rhai achosion, ymddengys bod hyn yn cyfateb i'r cyfnod pan roedd nifer o brif deuluoedd tirfeddianwyr yr ardal yn ailadeiladu eu canolfannau teuluol, gan adael safleoedd cynharach ffos a defnyddio neuaddau pren yn brif gartrefi iddynt yn lle. Mewn rhai achosion, fel Emral yn y 18fed ganrif o bosibl, a Gredington yn y 19eg ganrif, mae'r parcdir yn gorchuddio hen ardaloedd tirwedd cefnen a rhych sy'n dyddio o nifer o wahanol gyfnodau o bosibl. Mae'n debygol mai hen gaeau agored canrifoedd cynharach wedi'u cau oedd y parcdiroedd hyn. Yn y ddwy enghraifft hyn mae'r parcdir sydd wedi goroesi yn ein hatgoffa yn gryf o'r plastai sydd bellach wedi diflannu o'r dirwedd; cafodd Emral ei ddymchwel ym 1936 a chafodd Gredington ei ddymchwel o'r diwedd yn yr 1980au. Tynged tebyg fu gan y parcdir a oedd yn gysylltiedig Gwernheylod, hen blasty yn dyddio o'r 17eg ganrif a ddymchwelwyd yn y 1860au, Bryn-y-Pys, ty trwsiadus yn dyddio o'r 1730au a ddymchwelwyd yn y 1950au, a Bettisfield Park, yn dyddio o ddechrau'r 17eg ganrif a ddymchwelwyd yn rhannol ar ddiwedd y 1940au. Mae ardaloedd o hen barcdir sy'n gysylltiedig 'r ty yn Penley Hall a'r plasty o oes Fictoria yn Llannerch Panna, wedi'u defnyddio yn ystod yr 20fed ganrif i adeiladu ysbyty arnynt yn achos Penley ac i adeiladu datblygiad tai modern yn achos Llannech Panna. Parc Iscoyd yw'r unig enghraifft lle mae'r parcdir a'r ty wedi goroesi yn weddol gyfan. Adeiladwyd y ty yn y 18fed ganrif ar gyfer y teulu Hanmer, a chafodd ei ehangu yn y 19eg ganrif. Saif yn ei barc cyfan wedi'i dirweddu sy'n dyddio o'r 18fed ganrif a'r 19eg ganrif.