CPAT logo
Cymraeg / English
Adref Eto
Tirwedd Hanesyddol Maelor Saesneg

Nodweddion Tirwedd Hanesyddol

Maelor Saesneg


ANEDDIADAU

Aneddiadau Cynhanesyddol a Rhufeinig

Nid yw tystiolaeth amgylcheddol o Fenn's Moss a mannau eraill yn ddigon manwl ynglyn dyddiadau a graddau clirio'r coedwigoedd a thrin y tir ym Maelor Saesneg, ac nid oes llawer o dystiolaeth arall o anheddu cynnar yn ystod y cyfnodau Cynhanesyddol a Rhufeinig. Efallai bod hyn yn adlewyrchu'r ffaith nad oedd unrhyw anheddu cynnar yn yr ardal, ond gallai hefyd adlewyrchu defnydd tir diweddarach. Byddai trin tir r dwys a chreu tirwedd cefnen a rhych mewn rhai ardaloedd yn y canol oesoedd wedi tueddu i erydu unrhyw dystiolaeth o aneddiadau cynnar, fel cloddiau. Byddai trosi'r tir r yn ystod y canol oesoedd yn laswelltir yn y cyfnod l-ganoloesol wedi cwtogi ar y cyfleoedd i adfer darganfyddiadau ar hap o wynebau caeau a byddai hefyd wedi creu amodau anffafriol i adfer tystiolaeth olion cnydau trwy awyrluniau.

Mae nifer o dwmpathau claddu yn cynrychioli gweithgareddau'r cyfnod Neolithig hwyr neu'r Oes Efydd, efallai yn y cyfnod rhwng oddeutu 2500-1200 CC, gan gynnwys un twmpath yn Bryn Rossett (Hanmer) i'r dwyrain o Horseman's Green, pr o dwmpathau mawr oddeutu can metr oddi wrth ei gilydd ychydig i'r gogledd o Whitewell (Bronington) a grwp o dri thwmpath a ddiffinnir yn fras i'r gorllewin o Barc Iscoyd (Bronington) yn Twmpath Warren, Crossfield, a Waenreef Farm. Cloddiwyd i mewn i un o'r ddau feddrod yn Whitewell ar ddiwedd y 19eg ganrif pan ddaethpwyd o hyd i wrn lludw o'r Oes Efydd yn fwy na thebyg, thameidiau o gladdedigaeth dynol. Ymddengys yn debygol fod y twmpathau claddu yn gysylltiedig chymunedau ffermio lleol yn y cyfnod hwn, er na ddaethpwyd o hyd i safleoedd unrhyw aneddiadau o'r un cyfnod. Efallai ei bod yn arwyddocaol bod y rhan fwyaf o'r safleoedd hysbys ar dir a gaewyd yn gymharol hwyr ac, felly, efallai eu bod wedi goroesi oherwydd na chawsant eu haredig yn ddwys yn ystod y canol oesoedd. Yr unig ddarganfyddiad cynhanesyddol ar hap o'r ardal yw bwyell efydd o Ganol yr Oes Efydd o fath palstaf. Daethpwyd o hyd iddi ger Neuadd Iscoyd. Daethpwyd o hyd i balstaf tebyg yn Whixall Moss, dros y ffin yn Swydd Amwythig, wedi'i mewnosod ym moncyff pinwydden; efallai bod hyn yn arwyddocu bod y coed yno wedi'u clirio yn gynnar.

Nid oes llawer o dystiolaeth sicr wedi dod i'r amlwg o aneddiadau cynhanesyddol diweddarach neu aneddiadau Rhufeinig er ei bod yn bosibl bod tystiolaeth olion cnydau, wedi'i chofnodi mewn awyrluniau, ger Pigeon House (Hanmer), i'r de-orllewin o Horseman's Green, ac ar Blackhurst Farm, Llys Bedydd [Bettisfield] (De Maelor) yn cynrychioli safleoedd llociau sip petryal a lled petryal o'r cyfnodau hyn. Efallai bod olion clawdd dwbl ffos yn amddiffyn pentir bychan llai na hectar o faint, yng Nghoedwig Gwernheylod (Owrtyn [Overton]) sy'n tremio dros lannau afon Dyfrdwy, yn arwydd o anheddiad o Oes yr Haearn. Mae un darn arian sy'n dyddio o ddechrau neu ganol yr 2il ganrif yn cynrychioli gweithgaredd y Rhufeiniaid y daethpwyd o hyd iddo yn Cloy House (Bangor Is-coed) yn ogystal ag wyth darn arian sy'n dyddio o ddiwedd y 3edd ganrif neu ddechrau'r 4ydd ganrif y daethpwyd o hyd iddynt yn Eglwys Cross (Hanmer) ond ni ellir gwneud mwy na dyfalu ynghylch natur neu raddau anheddu yn ystod y cyfnod hwn yn yr ardal.

Aneddiadau'r canol oesoedd cynnar

Mae'r clas o'r canol oesoedd cynnar ym Mangor Is-coed yn arwydd bod anheddiad yn o leiaf rhan o'r ardal ar ddiwedd y 6ed ganrif. Roedd Bangor yn ganolfan ranbarthol bwysig i ddysg, efengylu ac addysg, wedi'i lleoli ar lan serth ger un o'r rhydau strategol pwysicaf ar draws Afon Dyfrdwy. Mae gwreiddiau enw'r lle yn y gair Cymraeg bangor, sy'n golygu 'lloc plethwaith', ac er mai hwn yw un o'r ychydig enwau Brythoneg hynafol sydd wedi goroesi ym Maelor Saesneg, ceir y cyfeiriad cyntaf at y lle yn History of the English Church and People a ysgrifennwyd gan Bede yn gynnar yn yr 8fed ganrif, gan gyfeirio ato fel mynachlog 'lingua Anglorum Bancornaburg', ac mae'n galw'r lle yn Bancor mewn man arall. Nid oes unrhyw beth yn hysbys am ffurf na maint y sefydliad pwysig hwn, ond ymddengys ei fod yn sefydliad cymhleth, digonedd o dir mae'n debyg, ac yn cynnwys mynachod, esgobion a gwyr dysgedig. Efallai ei fod yn ganolbwynt i gymuned wledig wasgaredig yn y cefn gwlad cyfagos, fel oedd yn nodweddiadol o batrymau anheddu Cymreig cynnar. Mae'n rhaid dyfalu ynghylch maint y gymuned, ac efallai rhifo cannoedd yn hytrach na'r miloedd y soniodd Bede amdanynt; lladdwyd nifer ohonynt ym mrwydr Caer oddeutu 616, fel y nodwyd uchod. Ceir cryn ansicrwydd ynghylch p'un a lwyddodd y sefydliad i adfer yn dilyn y gyflafan hon, er mae'n amlwg iddo gadw rhywfaint o bwysigrwydd fel canolfan eglwysig ymhell i'r Canol Oesoedd. Er hynny, ymddengys na ddaeth yn ganolfan phoblogaeth sylweddol hyd nes canrifoedd diweddarach. Nid yw'r ffaith nad yw'r arolwg Domesday 1086 yn cynnwys enw Bangor yn golygu o anghenraid nad oedd y sefydliad yn bodoli erbyn y dyddiad hwnnw, ond efallai ei fod yn awgrymu nad oedd ganddo unrhyw swyddogaethau gweinyddol pwysig. Nid yw lleoliad yr anheddiad cynnar ym Mangor yn sicr ac, er bod newidiadau dilynol i gwrs afon Dyfrdwy wedi newid y dopograffeg leol yn sylweddol, mae astudiaethau diweddar ar ystumiau'r afon yn awgrymu mai yn ystod oddeutu'r tair canrif ddiwethaf yn unig mae'r afon wedi sefydlogi ar ei chwrs presennol.

Ymddengys bod Maelor Saesneg, ynghyd siroedd cyfagos Sir Gaer a Swydd Amwythig, wedi'u hintegreiddio'n llawn yn nheyrnas Eingl-Sacsonaidd Mersia erbyn canol yr 8fed ganrif o leiaf. Erbyn diwedd yr 8fed ganrif, roedd ymhell o fewn ffiniau'r deyrnas a oedd Chlawdd Offa yn llinell derfyn iddi, hyd at 10km i'r gorllewin o afon Dyfrdwy. Er bod nifer o enwau lleoedd hanesyddol Maelor Saesneg wedi'u cofnodi gyntaf mewn ffynonellau gweddol hwyr rhwng y 13eg ganrif a diwedd yr 17eg ganrif, ymddengys bod nifer o'r rheiny sy'n cynnwys elfennau enwau lleoedd Saesneg yn fwy na thebyg yn cynrychioli aneddiadau o ryw fath sy'n dyddio o gyfnod rhwng yr 8fed a'r 10fed ganrif, ac felly'n darparu tystiolaeth bwysig am hanes anheddu yn yr ardal. Mae elfennau'r enwau lleoedd -tun neu ingtun o'r Hen Saesneg i'w canfod yn Bronington, Brychdyn [Broughton], Gredington, Halchdyn [Halghton], Knolton, Owrtyn [Overton], Tybroughton, Willington, Wallington. Mae'n ymddangos bod rhai o'r enwau'n disgrifio'r dirwedd leol: Efallai bod Halchdyn [Halghton] yn cynnwys yr elfen healh ('cornel o dir'), efallai'r ongl rhwng dwy nant leol; mae'n bosibl bod Owrtyn [Overton] wedi deillio o ofer tun ('glan'), sydd efallai'n disgrifio hen lan yr afon ger y pentref presennol; efallai y daw Knolton o cnoll tun ('bryncyn'); ac efallai bod Brychdyn [Broughton] yn cynnwys yr elfen broc ('nant'), ond, ymhob un o'r achosion hyn, oherwydd nad oes ffurfiau cynnar ar yr enw ar gael, mae hi'n amhosibl eu dehongli yn fwy sicr. Ymddengys bod nifer o enwau o darddiad Cymraeg a Saesneg cymysg, fel yn achos Brynhovah; mae'n debyg ei fod yn deillio o'r Gymraeg bryn a'r Hen Saesneg ofer ('glan').

Mae natur yr aneddiadau cynnar hyn yn aneglur. Gall elfennau'r enwau lleoedd sy'n gysylltiedig ag aneddiadau fod yn amrywiol tu hwnt, fel 'lloc', 'fferm' a 'stad, pentref', ond efallai ei bod yn arwyddocaol nad oedd unrhyw un o'r rhain yn ganolbwynt i blwyfi eglwysig y canol oesoedd ac mai dau yn unig sy'n gysylltiedig ag aneddiadau cnewylledig o unrhyw faint, yr un ohonynt, yn l pob tebyg, yn deillio o gyfnod y Sacsoniaid. Tref blanedig yn ystod teyrnasiad Edward yn y 13eg ganrif yw Owrtyn [Overton], pan fabwysiadwyd enw maenor a oedd yno eisoes, ac mae'r anheddiad presennol yn Bronington yn edrych fel anheddiad 'gwyrdd' gweddol ddiweddar.

Mae'n debygol mai tarddiad Sacsonaidd sydd i nifer o elfennau eraill enwau lleoedd ym Maelor Saesneg. Fel y nodwyd uchod, mae Penley a Musley yn cynnwys yr elfen -leah ('coedwig, llannerch mewn coedwig') o'r Hen Saesneg. Mae'r elfen -feld ('cae') o'r Hen Saesneg yn ymddangos yn ffurf cynharach Llys Bedydd [Bettisfield]. Efallai bod Wolvesacre yn deillio o'r enw personol Wulf, sydd i'w gael mewn ffynonellau Hen Saesneg. Er bod y dystiolaeth ddogfennol gyntaf o Hanmer yn dyddio o'r 13eg ganrif, tybir bod yr enw'n deillio o'r enw personol Hen Saesneg Hagena, sy'n golygu 'pwll Hagena', ac yn cyfeirio at y llyn naturiol sydd yno. Saesneg yw ffynhonnell nifer o nodweddion naturiol eraill fel nentydd (Nant Wych, Millbrook, Nant Emral, Cumbers Brook, Red Brook, Shell Brook), corsydd Cranberry Moss, Fenn's Moss, Cadney Moss), a llynnoedd (Croxton Pool), er bod enw Llyn Bedydd, i'r dwyrain o Hanmer, wedi deillio o'r geiriau Cymraeg llyn a bedydd, er bod hynafiaeth yr enw'n anhysbys.

O'r enwau lleoedd Sacsonaidd a nodwyd uchod, dim ond Llys Bedydd [Bettisfield] a maenor coll Burwardestone sy'n ymddangos yn Llyfr Domesday 1086. Aeth nifer ymlaen i ffurfio trefgorddau tra datblygodd eraill yn bentrefannau neu'n enwau ar ardaloedd, ac mae'n ymddangos nad oedd yr aneddiadau Sacsonaidd roeddynt yn eu cynrychioli fawr mwy na daliadau unigol neu glystyrau bach o ddaliadau mewn stadau mwy, er nad oes unrhyw beth yn hysbys am yr aneddiadau hyn ar wahn i'r dystiolaeth enwau lleoedd hon. Mae'r aneddiadau cynnar hyn wedi'u gwasgaru'n weddol eang ledled Maelor Saesneg, ar wahn i'r ardal o amgylch Fenn's Moss, oddeutu 2.5km oddi wrth ei gilydd. Ymddengys yn arwyddocaol bod y rhan fwyaf o'r aneddiadau hyn wedi'u lleoli mewn ardaloedd lle cafwyd amaethyddiaeth r, wedi'u cynrychioli gan naill ai tirwedd cefnen a rhych neu gaeau llain (hefyd, gwelwch yr adran ar amaethyddiaeth isod).

Mae dau enw lle arall a nodwyd uchod yn darparu tystiolaeth bosibl o aneddiadau yn y 10fed ganrif, sef Croxton, ychydig i'r dwyrain o Horseman's Green, sy'n deillio o bosibl o air o'r Hen Norseg sy'n golygu bagl neu blyg, ac Wrddymbre [Worthenbury]; mae'n ymddangos bod yr enw'n deillio o gyfansawdd o wordig (lloc, buarth, trigfan) a burh (amddiffynfa). Eto, nid oes llawer o dystiolaeth ar wahn i'r hyn y mae'r enwau lleoedd yn ei darparu, er bod olion posibl cloddiau amddiffynnol wedi'u nodi i'r dwyrain o Wrddymbre [Worthenbury] a allai fod wedi ffurfio rhan o strwythur amddiffynnol.

Aneddiadau canoloesol

Yn sgl arolwg Domesday ym 1086, ceir darlun mwy manwl o aneddiadau'r ardal yn yr 11eg ganrif, ac mewn rhai achosion mae hefyd yn manylu ar ddyddiadau yn y blynyddoedd cyn y Goncwest Normanaidd ym 1066. Ymhlith y nifer gymharol fach o faenorau a restrir ym Maelor Saesneg yn yr arolwg, sy'n dynodi anheddiad o ryw fath neu'i gilydd, mae Llys Bedydd [Bettisfield] (Bedesfeld), Wrddymbre [Worthenbury] (Hurdingberie), Burwardestone, a cheir cyfeiriad penodol yn y Domesday ar dir fferm yn Llys Bedydd [Bettisfield], y tybir ei fod yn gysylltiedig ag anheddiad, a ddelir yn gynt yn yr 11eg ganrif, yn ystod teyrnasiad Brenin Cnut (1016-35). Dywedir bod pob un o'r tri maenor hyn yn adfeilion adeg y goncwest, ond nid oes unrhyw arwydd clir p'un a oedd hyn wedi bod yn wir ers amser maith ynteu a oedd o ganlyniad i elyniaethau posibl y Cymry neu'r Normaniaid. Fodd bynnag, ymddengys yn annhebygol bod yr arolwg Domesday yn ganllaw ddibynadwy i faint yr aneddiadau yn ystod diwedd yr 11eg ganrif, ac mae'n bosibl bod nifer o aneddiadau eraill cyfoes heb eu cynnwys yn yr arolwg am ryw reswm neu'i gilydd. Fodd bynnag, y darlun cyffredinol sy'n deillio o'r arolwg Domesday yw bod ardal Maelor Saesneg, fel ei hardaloedd cyfagos yn Sir Gaer a Swydd Amwythig, yn gymharol dlawd ac roedd ei phoblogaeth yn wasgarog yn y cyfnod hwn, o'i chymharu ag ardaloedd eraill yn ne a chanoldir Lloegr y dyddiad hwnnw. Mae'n bosibl fod ynddi ardaloedd helaeth o goetiroedd brodorol yn dal i oroesi.

Mae'n ymddangos bod gwreiddiau nifer o elfennau ar batrwm aneddiadau modern ym Maelor Saesneg yn perthyn i'r Canol Oesoedd, ac yn debyg yn hyn o beth i ardaloedd cyfagos yn Sir Gaer a Swydd Amwythig, a oedd yn rhannu topograffeg ac economi ffermio tebyg. Ymhlith elfennau gwahanredol y patrwm amrywiol hwn, sy'n hollol wahanol i batrymau nifer o rannau eraill o Gymru, mae pentrefi mawr, neuaddau ffosydd, a phlwyfi ag ychydig o ffermydd mawr yn unig, weithiau wedi'u clystyru mewn pentrefannau bach.

Gwreiddiau trefi a phentrefi

Ceir pedwar anheddiad cnewylledig canoloesol ym Maelor Saesneg, ac er ei bod yn debyg bod hanes a gwreiddiau'r aneddiadau hyn yn hollol wahanol, mae'n ymddangos iddynt fod yn ganolfannau eglwysig, ac weithiau yn ganolfannau maenorol, o ddyddiad cynnar. Pentrefi'r iseldir gwreiddiau hynafol yw Bangor, Wrddymbre [Worthenbury] ac Owrtyn [Overton], ac maent yn ymylu tiroedd isel afon Dyfrdwy, mewn lleoliad tebyg i nifer o bentrefi Sir Gaer ymhellach i lawr yr afon. Mae lleoliad Bangor ac Owrtyn [Overton] yn gysylltiedig rhydau strategol yr afon, fel y nodwyd uchod. Mae lleoliad Hanmer, ger Hanmer Mere, yn debyg i leoliad Ellesmere a Colemere yng ngogledd Swydd Amwythig, ac mae'n debyg bod ei wreiddiau'n gysylltiedig ag adnoddau roedd y llyn naturiol gweddol fawr hwn, sy'n fwy na 17 hectar o faint, yn eu cynnig.

Mae yna nifer o enwau ar bentref Bangor Is-coed, gan gynnwys Bangor Dunawd (ar l Sant Dunawd), Bangor Monachorum ('Bangor y mynachod'), a Bangor-on-Dee. Ymhob achos, ychwanegwyd yr l-ddodiaid i gahaniaethu rhwng y pentref hwn a dinas gadeirlan Bangor, Sir Gaernarfon. Lhwyd yw'r cyntaf i gofnodi'r ffurf Bangor Isycoed ar ddiwedd yr 17eg ganrif. Fel y nodwyd uchod, daeth yr anheddiad yn ganolfan fynachaidd lwyddiannus i'r eglwys Frythonig erbyn diwedd y 6ed ganrif o leiaf, ac efallai bod cannoedd o bobl yn aelodau o'r gymuned hunangynhaliol. Mae natur yr anheddiad lle roedd y gymuned hon yn byw yn anhysbys, er ei bod yn debyg iddo ddioddef yn fawr yn sgl brwydr Caer oddeutu 616 pan laddwyd nifer o'i ymlynwyr. Mae wedi parhau i fod yn ganolfan blwyfol ers hynny, er ymddengys bod yr anheddiad wedi aros yn weddol fach drwy gydol y Canol Oesoedd ac wedi methu denu unrhyw swyddogaethau maenorol neu sifil eraill. Nid oedd yr arolwg Domesday yn cynnwys Bangor Is-coed, ond nid yw hyn yn arwydd nad oedd unrhyw anheddiad nac eglwys yma yn yr 11eg ganrif. Mae dau slab bedd herodrol, sy'n dyddio o oddeutu 1300, yn arwydd o strwythur cymdeithasol cymuned yr eglwys ar ddechrau'r 14eg ganrif; maent ill dau'n cynnwys cleddyfau a thariannau phatrymau siec, y gellir eu cysylltu o bosibl theulu Seisnig Warenne, ieirll Surrey ac arglwyddi Brwmffild [Bromfield] ac Il, ond efallai ei bod yn arwyddocaol nad oes unrhyw slabiau na delwau diweddarach, canoloesol, statws uchel ac nad oes unrhyw rai sy'n dynodi beddau clerigwyr blaenllaw.

Yn gyffelyb, mae'n ymddangos bod gwreiddiau Wrddymbre [Worthenbury] (neu Gwrthymp) yn perthyn i'r cyfnod canoloesol cynnar, ac efallai ei fod wedi ffurfio anheddiad cnewylledig bach o ddechrau'r 10fed ganrif pan, fel y nodwyd uchod, roedd yn amddiffynfa Mersiaidd o bosibl. Yn yr 11eg ganrif, roedd yn ganolbwynt maenor amhlwyfol a oedd ym meddiant barwn Normanaidd, Robert FitzHugh. Eto, mae ffurf yr anheddiad yn anhysbys, er bod yr arolwg Domesday yn cynnwys rhywfaint o wybodaeth am ei strwythur cymdeithasol, gan restru un taeog, tri bilain, tri gwr Ffrengig, un radman, melin newydd ( melinydd yn l pob tebyg), marchog gyda nifer amhenodol o wyr. Efallai y gellir tybio bod rhai o'r rhain o leiaf yn byw mewn anheddiad cnewylledig yn ardal y pentref presennol, ar dir gwastad ar sbardun isel ar ymyl ddwyreiniol gorlifdir afon Dyfrdwy. Byddai Wrddymbre [Worthenbury] yn parhau yn gapeliaeth, y cyfeiriwyd ati gyntaf ym 1388, ym mhlwyf Bangor Is-coed hyd ddiwedd yr 17eg ganrif.

Hefyd, defnyddiwyd nifer o wahanol enwau ar Overton - Overton Madoc (ar l Madog ap Meredudd, i wahaniaethu rhwng yr Overton yma a'r Overton yn Sir Gaer) a ffurfiau Cymraeg eraill gan gynnwys Awrtun, Owrtyn ac Owrtyn Fadog. Fel y nodwyd uchod, ceir tystiolaeth enwau lleoedd bod Owrtyn [Overton] wedi dechrau fel anheddiad Sacsonaidd o ryw fath yn ystod yr 8fed neu'r 9fed ganrif o bosibl. Mae'r anheddiad wedi'i leoli ar dir gwastad ger hen lethr afon ger afon Dyfrdwy, ac mae ei enw, a gofnodwyd gyntaf ym 1201, yn deillio o'r elfennau ofer tun ('anheddiad ar y lan') o'r Hen Saesneg. Nid yw arolwg Domesday yr 11eg ganrif hwyr yn cyfeirio at yr anheddiad ond erbyn dechrau'r 12fed ganrif, yn dilyn adamsugno Maelor Saesneg yn nheyrnas Powys, mae'n amlwg iddo ddod yn ganolfan faenorol bwysig i'r Cymry; adeiladodd Madog ap Meredudd, arweinydd Powys, gastell yma oddeutu 1138. Nid yw lleoliad y castell yn hysbys, ond efallai ei fod 2 cilomedr o'r dref, ger afon Dyfrdwy yn ardal Asney. P'un a oedd Leland yn dyst dibynadwy ai peidio, nododd yn y 1530au fod 'one part ... yet remaineth the Residew is in the bottom of Dee'. Mount Cop, ger Eglwys Cross (Hanmer) yw'r unig gastell sydd wedi goroesi ym Maelor Saesneg. Mae diamedr y castell ychydig yn llai na 50 metr ac nid oes unrhyw olion sicr o feili; mae ei leoliad yn amlwg ger y man lle mae'r ffordd o Whitchurch yn fforchio i naill ai Bangor Is-coed neu Owrtyn [Overton]. Ymddengys nad oes unrhyw gysylltiadau hanesyddol wedi'u cofnodi am y castell, ond mae'n debygol ei fod yn dyddio o gyfnod rhwng diwedd yr 11eg ganrif neu ddechrau'r 13eg ganrif ac, fel castell Owrtyn [Overton] sydd bellach ar goll, byddai amddiffynfa pren wedi cyd-fynd 'r castell.

Daeth Owrtyn [Overton] yn ganolfan faenorol bwysig a ffurfiai rhan o stad Gruffudd Maelor, arweinydd Cymreig gogledd Powys erbyn dechrau'r 13eg ganrif. Efallai ei bod yn arwyddocaol i'r ffurf Awrtun ar yr enw gael ei gofnodi gyntaf yn ystod y cyfnod hwn. Sefydlwyd marchnad ym maenor Owrtyn [Overton] ym 1279, ychydig ar l ymgyrchoedd cynharach Edward y Cyntaf yn erbyn Llywelyn ap Gruffudd ac, o'r cyfnod hwn, ac efallai yn enwedig yn dilyn concwest brenin Edward ym 1282-83, dechreuodd yr anheddiad cnewylledig presennol, 'i strydoedd ar batrwm grid o amgylch y farchnad ganoloesol yn rhan letaf y Stryd Fawr, ehangu i'r gogledd o'r eglwys. Ym 1286, rhoddodd Edward Faelor Saesneg i Frenhines Eleanor, a gomisiynodd ffenestri gwydr i gapel y frenhines yn Owrtyn [Overton], ac efallai mai dyma'r cyfeiriad cynharaf at eglwys bresennol y Santes Fair. Roedd siarter frenhinol Owrtyn [Overton] ym 1292 yn sicrhau dyfodol y dref fel canolfan weinyddol ranbarthol bwysig am ganrifoedd i ddod a chyflwynodd statws bwrdeistref i'r dref. Ar yr adeg hon, roedd poblogaeth y dref yn cynnwys pum deg chwech o drethdalwyr ac mae'n debyg bod ffiniau'r bwrdeistref yr un fath ffiniau hen blwyf Owrtyn [Overton]. Fel nifer o fwrdeistrefi planedig eraill a greodd Edward y Cyntaf yng Nghymru, anogwyd Saeson i ymgartrefu yn Owrtyn [Overton]; gorchmynnwyd Reginald de Grey, prif ustus Caer i fynd yno ym 1293 i drefnu i gael gwared ar y plotiau a oedd ar l, cynigiwyd pren a thir yn rhad ac am ddim, ac ni fyddai'n rhaid talu rhent yn ystod y deng mlynedd gyntaf o fyw yno. Yn ystod y gwrthryfel a arweiniodd Madog ap Llywelyn ym 1294, yn rhannol yn protestio yn erbyn colli hawliau a'r cynnydd mewn rhenti roedd tenantiaid Cymreig y faenor yn gorfod eu talu, mynegwyd dicter trwy losgi'r maenordy, sef canolfan y beili brenhinol, a lle y cynhaliwyd y llys maenorol. Efallai mai o fewn y dref neu ar safle'r castell coll oedd hyn. Er y cyflwynwyd murdreth i'r dref ym 1300, efallai ei bod yn annhebygol bod y gwaith o adeiladu amddiffyniadau'r dref erioed wedi'i ddechrau. Fodd bynnag, erbyn dechrau'r 14eg ganrif, roedd rhai teuluoedd Cymreig gweddol cefnog yn byw yn y dref, fel y mae'r slab beddrodol sy'n dyddio o oddeutu 1300 ac yn coffu Angharad, gwraig Einion, yn Eglwys y Santes Fair yn tystio. Ym 1331, rhoddwyd y dref, gyda thiroedd eraill ym Maelor, i Ebola Estrange o Knockin, Swydd Amwythig, brawd-yng-nghyfraith Llywelyn ap Madog, mab arweinydd olaf Cymreig Maelor Saesneg a stiward tebygol yr arglwyddiaeth ar yr adeg hon. Oherwydd i'r dref gael ei difrodi cymaint yn ystod gwrthryfel Owain Glyndwr ym 1403, gwnaeth ei thrigolion Seisnig adael. Mae'n amlwg bod canlyniadau'r difrod hwn wedi parhau, oherwydd nad oedd poblogaeth y dref wedi llwyddo i adfer erbyn yr 16eg ganrif. Er gwaethaf ei statws fel bwrdeistref a'r siantri a sefydlwyd gan waddolion yn Eglwys y Santes Fair, eglwys y bwrdeistref, parhaodd Owrtyn [Overton] yn gapeliaeth ddibynnol ar Fangor Is-coed drwy gydol y Canol Oesoedd, ac ni ddaeth yn blwyf ar wahn hyd 1867.

Mae pentref canoloesol Hanmer wedi'i leoli ar farian rhewlifol mewn safle amlwg ar ben Hanmer Mere, llyn rhewlifol naturiol sydd, fel Ellesmere a Colemere yn Swydd Amwythig, wedi rhoi ei enw i'r anheddiad cyfagos. Fel y nodwyd uchod, mae gwreiddiau'r enw lle yn Sacsonaidd o'r 8fed neu'r 9fed ganrif yn l pob tebyg, ond mae'r cofnod cyntaf yn dyddio o 1269. Nid yw'r arolwg Domesday ym 1086 yn cynnwys enw'r anheddiad ond mae'n debygol y gellir ei gysylltu maenor Llys Bedydd [Bettisfield] (Bedesfeld) a arferai fod ym meddiant Iarll Edwin o Fersia ac, ar l y Goncwest Normanaidd, roedd ym meddiant y barwn Normanaidd Robert FitzHugh. Roedd offeiriad gwaddol tir yn gysylltiedig 'r anheddiad, ac mae'n debygol y gellir cysylltu hyn ag eglwys blwyf bresennol Sant Chad. Fel y nodwyd uchod, collwyd tir yn Llys Bedydd [Bettisfield], a arferai fod ym meddiant esgobaeth Caerlwytgoed [Lichfield], ar gam yn adeg Brenin Cnut (1016-35), ac mae hyn o bosibl yn golygu bod yr anheddiad cnewylledig o amgylch yr eglwys yn dyddio o'r cyfnod hwn, fel Ecclesia de Hameme. Cofnodwyd yr eglwys yn benodol gyntaf ym 1110 pan gafodd ei rhoi ynghyd thiroedd eraill i'r abaty Awstinaidd yn Haughmond, Swydd Amwythig, a cheir cofnod arall ohoni yng nghofnodion Treth Lincoln ym 1291. Ailadeiladwyd yr eglwys yn sylweddol ym 1490 i ddisodli'r un a ddifrodwyd ym 1463, yn ystod Rhyfel y Rhosynnau. Erbyn y cyfnod canoloesol diweddarach, neu cyn hyn efallai, yr eglwys oedd canolbwynt plwyf eglwysig eang a oedd yn cwmpasu'r rhan fwyaf o dde-ddwyrain Maelor Saesneg, ac ar un adeg roedd yn cynnwys trefgorddau Llys Bedydd [Bettisfield], Bronington, Halchdyn [Halghton], Hanmer, Tybroughton, a Willington. Erbyn y Canol Oesoedd, mae'n amlwg bod y pentref wedi dod yn ganolbwynt i faenor sylweddol ei faint, efallai'r safle ffos i'r dwyrain o'r pentref, yr unig safle ffos crwn yng ngogledd-ddwyrain Cymru, efallai gwreiddiau maenorol neu eglwysig. Daeth y teulu Hanmer yn gysylltiedig yn agos 'r pentref o ddiwedd y 13eg ganrif, sef teulu a oedd newydd ymgartrefu ym Maelor Saesneg yn ystod teyrnasiad Edward y Cyntaf a fabwysiadodd enw pentref Hanmer yn gyfenw. Mae'n debyg bod y maenor yn un o'u daliadau. Byddent yn dod yn un o deuluoedd mwyaf blaenllaw y gororau, ac roedd Syr David Hanmer, tad yng nghyfraith Owain Glyndwr, yn un o brif ustusiaid Mainc y Brenin erbyn 1383. Pan ddiddymwyd y mynachlogydd yng nghanol yr 16eg ganrif, prynodd Syr Thomas Hanmer eiddo lleol a hawliau Abaty Haughmond, ac arweiniodd hyn at dwf stadau un o'r teuluoedd lleol pwysicaf, gan ganolbwyntio yn gyntaf ar Hanmer ac, o ddiwedd yr 16eg ganrif, ar Lys Bedydd [Bettisfield]. Parhaodd pentref Hanmer yn gymharol fach. Nid oedd mwy na phump ar hugain o dai yno ar ddiwedd yr 17eg ganrif ac, fel heddiw, roeddent mewn grwp o amgylch yr eglwys, ond cododd Thomas Pennant ei statws i dref fechan yn ei Tour in Wales a gyhoeddwyd ar ddiwedd y 18fed ganrif.

Safleoedd ffos

Mae'r crynhoad nodedig o safleoedd ffos yng nghefn gwlad Maelor Saesneg yn cynrychioli aneddiadau canoloesol yn eglur, ac o'r rhain mae o leiaf deg, a hyd at ugain o bosibl, yn hysbys o gloddiau wedi'u llenwi dwr sydd wedi goroesi, awyrluniau a chofnodion hanesyddol. Adeiladwyd y rhan fwyaf o'r safleoedd ffos rhwng y 13eg ganrif a dechrau'r 14eg ganrif ac, yn llai cyffredin, hyd at yr 16eg ganrif. Ar wahn i'r ffos gron bosibl ger Hanmer, a nodwyd uchod, roedd safleoedd eraill yn yr ardal ffos yn sgwr neu'n betryal eu sip ac yn aml roeddent wedi'u lleoli i wneud yn siwr bod eu ffosydd yn llenwi dwr. Mae'n ymddangos bod eu maint yn amrywio rhwng oddeutu 35-50 metr ar draws yn fewnol, ffosydd allanol di-dor rhwng oddeutu 6-10 metr o led. Nid yw unrhyw un o'r safleoedd ym Maelor Saesneg wedi'u cloddio, ac er nad oes unrhyw dystiolaeth ddogfennol wedi goroesi ar gyfer y rhan fwyaf o'r safleoedd, os ar gyfer unrhyw safle, ymddengys yn debygol bod pob un ohonynt yn cynnwys strwythurau domestig wedi'u hamgu a thai allan. Mae'n debygol y byddai pont bren dros y ffosydd i gyrraedd y safleoedd hyn, er bod olion pont garreg neu ategwaith pont garreg yn amlwg yn Llannerch Banna [Penley].

Mae oddeutu un ar ddeg o safleoedd ffos gweddol sicr wedi'u nodi ym Maelor Saesneg, gan gynnwys pump yng nghymuned Hanmer (Bryn, Peartree Lane, Halghton Hall, Halghton Lodge, a Haulton Ring), tri yn Willington Wrddymbre [Worthenbury] (Neuadd Emral, Holly Bush Farm a Tallarn Green), un yn Owrtyn [Overton] (Lightwood Farm), un yn Bronington (Wolvescre Hall), ac un yn Ne Maelor (Penley Hall). Awgrymwyd oddeutu naw o safleoedd ffos eraill, gan gynnwys dwy enghraifft bellach yn Hanmer (Horseman's Green, Peartree Farmhouse), dau yn Willington Wrddymbre [Worthenbury] (Mulsford Hall, Yew Tree Farm), tri yn Bronington (Fenn's Old Hall, Maes-y-groes, a ger Bronington ei hun), un yn Ne Maelor (Hill Farm), ac un ym Mangor Is-coed (Althrey). Awgrymwyd nifer o safleoedd llai sicr ar sail tystiolaeth enwau lleoedd sy'n awgrymu, mewn cyfuniad 'r ffaith mai yn ystod blynyddoedd diweddar yn unig y mae nifer o safleoedd wedi'u darganfod, bod mwy o safleoedd i'w darganfod. Efallai bod gwreiddiau Emral yn yr 1280au, a bod Syr Roger Puleston (bu farw 1294) wedi cyfeirio at y safle ym 1283 pan ddisgrifiodd 'de Embers-hall'.

Ystyrir bod anheddiad ffos yn ffenomen diwylliannol Seisnig, yn sicr roedd ei ddibenion yn rhannol yn ymarferol ac yn amddiffynnol ond roedd hefyd yn symboleiddio statws neu ddyheadau cymdeithasol ei adeiladwr. Mae'n amlwg bod ffermio wedi ehangu ym Maelor Saesneg yn sgl concwest Edward, yn ystod y blynyddoedd yn fuan ar l 1284, ac mae'n debyg mai dyma'r cyd-destun hanesyddol sy'n egluro pam fod yna gymaint o safleoedd ffos yn yr ardal. Byd hynny, rhoddwyd y tiroedd a atafaelwyd oddi wrth denantiaid Cymreig i anheddwyr rhyddfraint, a hynny ar adeg pan oedd Edward a'i frenhines yn awyddus i godi cymaint o rent phosibl ar diroedd y Goron yng Nghymru. Seisnig oedd gwreiddiau nifer o'r anheddwyr hyn, fel y teulu Hanmer yn Hanmer, disgynyddion Syr Thomas de Macclesfield, un o swyddogion Edward y Cyntaf, a theulu Puleston yn Emral. Roedd eu henw yn deillio o Puleston yn Swydd Amwythig a gellir olrhain dechreuadau'r teulu ym Maelor Saesneg i'r 1280au.

Ymddengys bod dosbarthiad a chysylltiad safleoedd ffos ym Maelor Saesneg yn cadarnhau'r awgrym eu bod yn cynrychioli cyfnod o ehangu ym maes ffermio yn ystod diwedd y 13eg ganrif a'r 14eg ganrif. Yn gyffredinol, mae dosbarthiad safleoedd ffos yn ymddangos fel pe baent yn osgoi'r aneddiadau a oedd eisoes yn bodoli, fel trefi bach a phentrefi Bangor Is-coed, Wrddymbre [Worthenbury], Owrtyn [Overton] neu Hanmer, neu hyd yn oed canolbwyntiau ffermydd gwasgaredig o darddiad Sacsonaidd y mae enwau lleoedd -tun yn eu cynrychioli, gan awgrymu yn gryf eu bod yn cynrychioli cyfnod o wladychu trwy glirio coetiroedd a phrysg yn y cefn gwlad o amgylch i greu tir fferm newydd wrth anheddu. Mae cyd-destun y safleoedd ffos yn y dirwedd yn amlwg yn amaethyddol. Mae tirwedd cefnen a rhych, o darddiad canoloesol yn l pob tebyg, o amgylch nifer ohonynt, a throswyd rhai yn dir r ar l iddynt gael eu gadael.

Mae cyd-destun cymdeithasol y safleoedd ffos ym Maelor Saesneg yn weddol eglur o'r adeiladau sy'n gysylltiedig hwy, o'r adeiladu a'u disodlodd, neu o gysylltiadau hanesyddol diweddarach sy'n cynnwys nifer o'r teuluoedd llai a oedd yn berchen ar dir yn yr ardal, fel y teulu Puleston yn Emral, y teulu Lloyd yn Willington, y teulu Dymock yn Llannerch Banna [Penley] a Halchdyn [Halghton], a'r teulu Hanmer yn Hanmer a Bronington. Mae Horseman's Green ac Althrey Hall yn gysylltiedig neuaddau traws ystlys statws uchel y canol oesoedd hwyr o ddiwedd y 15fed ganrif a dechrau'r 16eg ganrif, ond efallai iddynt ddisodli plastai cynharach a adeiladwyd yn yr un cyfnod 'r ffosydd. Cafodd safleoedd eraill ffos eu disodli gan dai diweddarach y bonedd neu ffermydd sylweddol, yn enwedig yn ystod diwedd y 17eg ganrif a dechrau'r 18fed ganrif. Byddai'r rhain naill ai wedi gorchuddio'r ffos a oedd wedi'i mewnlenwi'n rhannol (fel yn achos Emral, Holly Bush, Mulsford, Halchdyn [Halghton], Peartree House a Wolvesacre), neu wedi'u hadeiladu ochr yn ochr 'r safle (fel yn Llannerch Banna [Penley]) neu yn agos (fel yn achos Bettisfield Old Hall a ddisodlodd Haulton Ring, ychydig dros 1 cilomedr i ffwrdd, yn l pob tebyg). Ceir patrwm tebyg o dai cain ffrm bren yn disodli safleoedd ffos dros y ffin yn Sir Gaer a Swydd Amwythig, fel yn achos y tai sy'n dyddio o'r 16eg ganrif a'r 17eg ganrif i'r de-ddwyrain o Whixall Moss yn Alkington Hall, Bostock Hall, Sandford Hall a Lowe Hall. Goroesodd nifer o'r safleoedd ffos o'r canol oesoedd fel unedau economaidd sefydlog am nifer o ganrifoedd, ond nid oes olynydd amlwg i rai (fel Halghton Lodge, Peartree Lane, Bryn a Yew Tree Farm), efallai oherwydd y broses o gyfuno ffermydd a chreu stadau cynnar yn yr 16eg ganrif a'r 17eg ganrif.

Ffermydd

Mae'n debyg mai ffermydd a thyddynnod ffermwyr rhyddfraint a thenantiaid o'r 12fed ganrif a'r 13eg ganrif ymlaen oedd llawer o'r ffermydd gwasgaredig a oedd yn bodoli yn wreiddiol, yn enwedig yn rhai o ardaloedd anghysbell Maelor Saesneg. Yn l pob tebyg, fe barhaodd y broses hon i'r cyfnod l-ganoloesol cynnar. Mae'n debyg mai ymdrech unigolion a greodd nifer o'r ffermydd hyn, trwy glirio coetiroedd neu adennill rhostiroedd, ac roedd y ffermwyr a oedd yn gweithio arnynt yn rhydd rhag rheoliadau cymunedol y canol oesoedd. Mae'n debygol bod eu cynhaliaeth yn dibynnu mwy ar ffermio bugeiliol na ffermio r. Er enghraifft, roedd nifer o ffermydd, fel Caelica Farm ac Arowry Farm, wedi'u lleoli mewn tirwedd o gaeau mawr neu fach afreolaidd, sy'n awgrymu bod tir wedi cael ei gau bob yn dipyn yn y cyfnod canoloesol hwyr a'r cyfnod l-ganoloesol cynnar, y tu hwnt i ffiniau caeau agored y canol oesoedd. Mae cyd-destun ffermydd eraill, fel Fferm Gelli, yn awgrymu eu bod wedi deillio o waith clirio coetiroedd parhaus.

Fel rydym wedi gweld uchod, mae elfennau enwau lleoedd Saesneg i'w gweld yn fynych ym Maelor Saesneg yn enwau plwyfi, pentrefannau, trefgorddau ac ardaloedd. Fodd bynnag, yn achos enwau ffermydd, mae'r sefyllfa yn wahanol iawn, sy'n awgrymu bod elfen fwy o'r boblogaeth yn siarad Cymraeg nag y byddech yn meddwl ar yr olwg gyntaf. Gwreiddiau Cymraeg sydd i nifer o'r enwau ffermydd a'r enwau caeau sydd mewn ffynonellau dogfennol o'r canol oesoedd ac oes y Tuduriaid, tra bo gwreiddiau'r enwau ffermydd Saesneg yn gymharol ddiweddar. Ymhlith enghreifftiau o enwau ffermydd Cymraeg modern, neu enwau ag elfennau Cymraeg, sydd ym Maelor Saesneg mae'r canlynol, ond nid yw pob un o darddiad cynnar o anghenraid: Adre-felin, Althrey, Argoed, Arowry, Bron Haul, Bryn, Brynhovah (sydd hefyd yn cynnwys yr elfen ofer o'r Hen Saesneg), Bryn Rossett, Bryn-y-Pys, Cae-Drinions, Cae-Dyah, Caelica, Gelli, Dolennion, Gwalia, Maesllwyn, Maes-y-groes, a Trostree.

Mae eu caeau eu hunain yn amgylchynu rhai o'r ffermydd a allai fod yn rhai cynnar, fel Pen-y-bryn, Nant, Plas yn Coed ac Wern, tra bo eraill ger ffyrdd modern, neu'n agos at ffyrdd modern. Mae'n debygol bod rhai o'r rhain wedi datblygu o briffyrdd, lonydd a llwybrau canoloesol.

Yn y rhan fwyaf o achosion, bydd strwythurau diweddarach wedi disodli a gorchuddio holl olion ffermdai ac adeiladau canoloesol, a bydd yr olion hyn yn goroesi fel tystiolaeth archeolegol dan ddaear yn unig, ond ymddengys bod yna nifer fach o ffermydd gwag cynnar, y mae platfformau adeiladu, cloddiau a cheuffyrdd yn eu cynrychioli.

Aneddiadau diwydiannol arbenigol

Mae'n debyg bod nifer o bentrefannau neu ddaliadau bach ar hyd Nant Wych a oedd yn gysylltiedig chynhyrchu halen yn aneddiadau diwydiannol arbenigol a ddaeth i'r amlwg yn ystod y cyfnod canoloesol cynnar a'r cyfnod canoloesol. Roedd o leiaf un o'r canolfannau hyn yn cynhyrchu mor gynnar dechrau'r 11eg ganrif, ond hyd yma nid oes unrhyw dystiolaeth sicr yn gysylltiedig 'r canolfannau hyn wedi'i darganfod i awgrymu anheddu.

Aneddiadau l-ganoloesol a modern

Oherwydd mai amaethyddol oedd economi Maelor Saesneg yn bennaf, ac nid oedd llawer o adnoddau naturiol yno, ni welwyd y datblygiad diwydiannol cyflym yno a amlyncodd nifer o ardaloedd cyfagos yng ngogledd-ddwyrain Cymru ac, o ganlyniad, mae'r patrwm anheddu cyfoes, sef pentrefi bychain a ffermydd gwasgaredig, yn dangos llawer o elfennau o barhad uniongyrchol o'r cyfnod canoloesol. Daeth amrywiaeth eang o wahanol fathau o aneddiadau i'r amlwg yn nhirwedd Maelor Saesneg rhwng yr 16eg ganrif ac heddiw, gan gynrychioli sbectrwm cymdeithasol eang ac amrywiol. Crwyd ffermydd a thyddynnod newydd yn dilyn cau'r tir r agored a chau a draenio'r corsydd, wrth i berchnogion stadau ymdrechu i gynnal eu refeniw neu ei gynyddu. Daeth aneddiadau cnewylledig bach i'r amlwg wrth iddynt ennill tir o'r 'meysydd glas' neu'r ardaloedd tir comin pori a oedd yn brysur prinhau. Adeiladwyd plastai mewn parcdir yn llawer o'r ardaloedd yn nhirwedd Maelor Saesneg, ac mewn nifer o achosion roedd y rhain yn olynwyr uniongyrchol i ganolfannau maenorol y canol oesoedd. Wrth i gysylltiadau wella, datblygodd aneddiadau llinellol newydd ar ymyl y ffordd ger cyffyrdd, ar hyd ffyrdd tyrpeg, camlesi a rheilffyrdd, a chymrodd rai enwau trefgorddau neu ardaloedd mwy hynafol.

Datblygiad trefi, pentrefi a ffermydd canoloesol yn y cyfnod l-ganoloesol

Erbyn dechrau'r 19eg ganrif mae'n bosibl mai cymharol fach oedd y newid ym mhentrefi mwy Maelor Saesneg o ran eu maint neu maint eu poblogaeth o'u cymharu 'r hyn oeddynt yn ystod y Canol Oesoedd. Cofnododd Edward Lhwyd bod 26 o dai ym mhentref Bangor Is-coed yn y 1690au hwyr, a dywedodd Daniel Defoe ar ddechrau'r 18fed ganrif fod yr anheddiad yn bentref dirmygus gwael. Erbyn diwedd y 19eg ganrif roedd yna dai ar hyd y Stryd Fawr ac ar hyd Whitchurch Road ac roedd ychydig o dai ger yr eglwys ar Overton Road ac, yn ogystal 'r eglwys ganoloesol, roedd yn cynnwys bythynnod, tafarn i'r goets fawr, rheithordy, capel anghydffurfwyr, siop, ysgol rydd, bragdy a gorsaf ar lein Wrecsam-Ellesmere ychydig i'r dwyrain. Yn ystod yr 20fed ganrif, ehangodd ochr ddwyreiniol yr anheddiad yn sylweddol wrth i dai newydd gael eu hadeiladu.

Yn ystod y Canol Oesoedd, daeth Owrtyn [Overton] yn ganolfan weinyddol Maelor Saesneg. Erbyn y 18fed ganrif roedd wedi dod yn gymharol llwyddiannus ac, o ran ei phensaernaeth o leiaf, roedd wedi datblygu naws eithaf trefol a phrydferth, sy'n amlwg o'r disgrifiad canlynol o Topographical Dictionary Lewis a gyhoeddwyd yn y 1830au:

'The village is pleasing and prepossessing in its appearance, and, with its venerable church, as seem from almost every point of view, forms a picturesque and highly interesting feature in the landscape . . . . There is neither trade nor manufacture of any kind carried on . . . . The market has long been discontinued'.

Erbyn diwedd y 19eg ganrif, roedd y pentref yn parhau heb ddiwydiant, ond roedd yno amrywiaeth eang o adeiladau gan gynnwys bythynnod gweithwyr, tai sylweddol y dosbarth canol, gorsaf heddlu, ysgol yr eglwys, tafarn i'r goets fawr, siopau, elusendai, ty coco, swyddfa Stad Bryn-y-Pys, capel Methodistaidd, bragdy, rheithordy, a mynwent capel, ac roedd rheilffordd Wrecsam-Ellesmere yn gwasanaethu'r anheddiad, gyda gorsaf yn Lightwood Green. Yn ystod yr 20fed ganrif ehangodd datblygiad tai yn y cae agored o'r canol oesoedd i'r dwyrain o'r anheddiad. Ymhlith adeiladau nodedig o'r 20fed ganrif mae tafarn ffrm bren ffug, eglwys Babyddol a swyddfeydd y cyngor.

Mae disgrifiad Edward Lhwyd o Hanmer, a nodwyd uchod, yn awgrymu nad yw'r pentref wedi newid rhyw lawer ers diwedd yr 17eg ganrif, ar wahn i'r datblygiad tai diweddar i'r dwyrain o'r prif stryd, ac erbyn diwedd y 19eg ganrif roedd yr adeiladau'n cynnwys bythynnod, tafarn, ficerdy, gefail, capel Methodistaidd ac ysgol rydd.

Nid oes llawer yn hysbys am ddatblygiad cynnar Wrddymbre [Worthenbury], ond roedd Lewis yn ystyried y pentref yn gwbl amaethyddol. Mae'r adeiladau sydd yma'n awgrymu ei fod wedi tyfu yn gyflym yn ystod y 18fed ganrif ac, erbyn canol y 19eg ganrif, roedd eisoes yn bosibl adnabod y cynllun cyfoes; ceir nifer o anheddau mewn grwp o amgylch cyffordd y ffordd i'r de-ddwyrain o'r pentref, ar hyd y ln heibio i'r eglwys tuag at Nant Wych, a nifer o adeiladau i'r de-ddwyrain. Erbyn diwedd y 19eg ganrif, roedd yr anheddiad yn cynnwys bythynnod i weithwyr ar y stad, un neu ddau o dai mwy, rheithordy, ysgol yr eglwys, bragdy, ty fferm a gefail.

Ffermydd newydd o'r tir comin a'r tir gwastraff

Ymddengys bod nifer o'r ffermydd a'r tyddynnod newydd, a ddaeth i'r amlwg yn ystod y cyfnod canoloesol hwyr a'r cyfnod l-ganoloesol, wedi datblygu o'r gwaith cau tir bob yn dipyn ar yr hen gaeau agored a'r rhostir, ac o ddraenio a chau tir ger corsydd.

Enwau Saesneg sydd i lawer o'r ffermydd a'r tyddynnod diweddarach, o'r cyfnod canoloesol hwyr a'r cyfnod l-ganoloesol, ac mae cyfran uchel ohonynt yn ffurfio patrymau eglur, fel y rheiny sydd wedi'u henwi ar l 'green' (ee Big Green Farm, Lightwood Green Farm), y rheiny sydd wedi'u henwi ar l coed (ee Yew Tree Farm, Cherrytree Farm), y rheiny sydd wedi'u henwi ar l y lonydd sy'n mynd heibio iddynt (ee Chapel Lane Farm, Sandy Lane Farm, Drury Lane Farm), a'r rheiny sydd wedi'u henwi ar l coetiroedd (ee Blackwood Farm, Middle Wood Farm). Mae rhai wedi'u henwi ar l eu lleoliad topograffig (ee Bank Farm, Brook Farm, Top Farm, Hillside Farm) ac mae rhai wedi'u henwi ar l rhyw gysylltiad defnydd heb fod yn amaethyddol (ee Crab Mill Farm, Smithy Farm), ond nifer gymharol fach a gafodd enw'r perchennog neu'r tenant gwreiddiol.

Mae cyfran uchel o ffermydd a thyddynnod diweddarach wedi'u lleoli ar hyd ffyrdd cyhoeddus, ac yn aml wedi'u grwpio mewn clystyrau bach neu'n ffurfio patrymau llinellol tryledol, wedi'u gwasgaru ar hyd ffordd fel, er enghraifft, ar hyd Halghton Lane (Hanmer) a Green Lane (Bangor Is-coed).

Nid oes tystiolaeth ddogfennol o wreiddiau nifer o'r ffermydd hyn, ond mewn rhai enghreifftiau mae'r cyd-destun y mae'r fferm ynddo neu ddyddiad y tai fferm cysylltiedig yn rhoi rhyw arwydd cyffredinol. Er enghraifft, ymddengys bod nifer o ffermydd, fel Dolennion Farm, Higher Lanes Farm, ac Old Post Office Farm, yn gorchuddio caeau llain cynharach, ac mae hyn yn awgrymu eu bod wedi'u creu yn sgl cau caeau agored canoloesol. Mewn achosion eraill, fel Yew Tree Farm a Smithy Farm, mae patrwm y caeau cyfagos yn awgrymu eu bod wedi'u creu yn sgl draenio a chau rhostir a chorsydd. Mae tai fferm cysylltiedig, sy'n cynnwys strwythurau ffrm bren a strwythurau o frics, yn awgrymu bod y cyfnod hwn o weithgaredd anheddu yn dyddio o rhwng dechrau'r 17eg ganrif a'r 18fed ganrif ac yn parhau hyd ddechrau'r 19eg ganrif yn achos rhai o'r tiroedd newydd eu draenio ar ymyl y corsydd.

Yn sgl clirio bob yn dipyn a chau'r ardaloedd pori cyffredin a oedd yn fwy helaeth yn ystod diwedd y canol oesoedd a dechrau'r cyfnod l-ganoloesol, yn raddol daeth nifer o bocedi bach o dir heb eu cau a arweiniodd at nifer o aneddiadau 'green', efallai'n dyddio o ddiwedd yr 17eg ganrif neu'r 18fed ganrif, ac ystyrir y rhain yn yr adran nesaf.

Aneddiadau 'green'

Elfen arwyddocaol yn hanes anheddu ym Maelor Saesneg yw digwyddiad cyffredin yr elfen 'green' mewn enwau lleoedd, sy'n dynodi ardal o dir comin glaswelltog ac sy'n ymddangos, er enghraifft, yn Tallarn Green (Willington Wrddymbre [Worthenbury]), Lightwood Green (Owrtyn [Overton]), Horseman's Green (Willington Wrddymbre [Worthenbury]), Crabtree Green (Bangor Is-coed), Little Green (Bronington), Chapel Green, Far Green, Little Green, Big Green (De Maelor), Kil neu Kiln Green, a Mannings Green, Painters Green, Hall Green (Bronington). Mae'r elfen enw lle Saesneg hon, nad oes elfen yn cyfateb yn union iddi yn Gymraeg, yn dynodi ardal o laswelltir comin. Ymddangosodd gyntaf yn yr ardaloedd hynny o Brydain lle roedd Saesneg yn cael ei siarad yn y 15fed ganrif felly, o ran anheddu, mae'n ymddangos ei bod bob amser yn arwydd bod yr hen diroedd comin glaswelltog wedi'u meddiannu yn weddol hwyr. Er enghraifft, ni chafodd Lightwood Green ei amgu yn derfynol hyd 1877.

Mae'n amlwg bod yr aneddiadau 'green' ym Maelor Saesneg a'r ardal gyfagos yn dynodi amrywiaeth o wahanol hanes defnydd tir. Ymddengys bod Lightwood (mewn lleoliad agored ar lwyfandir isel) a Llannerch Banna [Penley] (yng nghefn gwlad gwastad ac agored), ill dau yn gysylltiedig ag enwau 'green', yn dynodi llanerchau mewn coedwig yn dyddio o ddechrau'r canol oesoedd cynnar neu'r canol oesoedd. Efallai bod enw Horseman's Green, sy'n ymddangos gyntaf ar ffurf 'Horse Math's Green' (eto mae yng nghefn gwlad gwastad ac agored), yn deillio o'r gair tafodieithol Saesneg darfodedig math sy'n awgrymu dl. Saif Tallarn Green ar ysbardun cul rhwng Nant Wych a thalwrn sef 'lle, cae'. Nid oes yr un o'r enwau 'green' ym Maelor Saesneg i'w darganfod mewn dogfennau canoloesol. Mae'r cofnodion cyntaf o Horseman's Green (ar ei ffurf gynharach) a Tallarn Green, er enghraifft, yn dyddio o ddiwedd yr 17eg ganrif, ac ymddangosodd enwau eraill gyntaf yn nyfarniadau cau tir y 18fed ganrif neu yn arolwg degwm y 1830au a'r 1840au. Hefyd, ceir enwau tebyg mewn rhannau cyfagos o Sir Gaer, gan gynnwys Threapwood Green a Shocklach Green. Yn y cyd-destun hwn, mae'n arwyddocaol bod Threapwood wedi parhau yn amhlwyfol hyd ddechrau'r 19eg ganrif oherwydd, fel y nodwyd uchod, bod yr enw lle yn cynnwys elfen sy'n dynodi 'tir dadleuol' ar hyd Nant Wych, sy'n ffurfio'r ffin rhwng Sir Gaer a Sir y Fflint. Mae Shocklach Green mewn ardal ymylol arall ar gyfer anheddu, ger gorlifdir afon Dyfrdwy lle mae'n ymuno Nant Wych.

Un o'r adeiladau hynaf sy'n goroesi yn un o aneddiadau 'green' Maelor Saesneg yw bwthyn ffrm bren o ddiwedd yr 16eg ganrif neu ddechrau'r 17eg ganrif yn Horseman's Green. Mewn mannau eraill, mae'r rhan fwyaf o'r adeiladau sydd wedi goroesi yn dyddio o'r 19eg ganrif neu'r 20fed ganrif, er ei bod yn bosibl bod rhai o'r adeiladau cynharaf sy'n gysylltiedig 'r aneddiadau hyn statws gweddol isel, a strwythurau pren, a fyddai wedi bod yn llai tebygol o oroesi. Mae'n bosibl fod y platfformau adeiladu nas defnyddir mwyach yn Lightwood Green yn cynrychioli'r adeiladau hyn. Mae'r capeli anghydffurfiol o ddechrau'r 19eg ganrif sydd yn Horseman's Green a Crabtree Green, yr eglwys a'r ficerdy o'r 19eg ganrif diweddarach yn Tallarn Green, a'r Neuadd Dirwest a Bythynnod Kenyon ar gyfer gweddwon, hefyd yn Tallarn Green, yn nodweddiadol o'r adeiladau mwy sydd wedi goroesi yn yr aneddiadau 'green'.

Ymddengys bod nifer o aneddiadau eraill yn y rhanbarth yn aneddiadau 'green' ym mhob ystyr ar wahn i'w henwau. Er enghraifft, mae map o glastiroedd o'r 1770au yn dangos Bronington fel grwp o adeiladau o amgylch green neu gomin hir canolog, lle ceir anheddau modern bellach, i'r de o'r School Lane presennol. Efallai bod yr anheddiad wedi mabwysiadu enw trefgordd a oedd yn dyddio yn l i gyfnod y Sacsoniaid.

O ran cronoleg aneddiadau ac ehangiad aneddiadau ym Maelor Saesneg yn ystod y canol oesoedd, ymddengys yn arwyddocaol bod daearyddiaeth nifer o'r 'greens' yn gysylltiedig ag aneddiadau ffos, fel y rheiny yn Lightwood Green, Horseman's Green, Tallarn Green ac efallai Little Green (Bronington), sydd, fel yr ydym wedi gweld, o bosibl yn gysylltiedig chyfnod o wladychu aneddiadau rhywbryd ar ddiwedd y 13eg ganrif a dechrau'r 14eg ganrif. Ymddengys bod hyn yn cadarnhau'r awgrym bod rhai o'r 'greens' mewn ardaloedd a oedd yn ymylu aneddiadau cynharach. Nid yw'r dyddiad pan sefydlwyd y 'greens' gyntaf yn sicr, ond mae'n debygol ei bod yn arwyddocaol nad oes eglwys gynnar na chapel anwes yn gysylltiedig ag unrhyw un ohonynt. Mae'n amlwg bod nifer o'r aneddiadau 'green' wedi hen sefydlu erbyn diwedd y 18fed ganrif, pan luniwyd y mapiau cyntaf o glostiroedd ac, yn achos Tallarn Green a Lightwood Green, roedd y rhain yn dangos nifer sylweddol o anheddau ar ymyl ardal agored a oedd yn nodi gweddillion olaf comin a fu'n llawer mwy ar un adeg yn l pob tebyg.

Plastai

Roedd datblygiad plastai yn gyfnod eglur yn hanes anheddu ym Maelor Saesneg yn enwedig yn y cyfnod rhwng canol y 18fed ganrif a'r 19eg ganrif, ac roedd datblygiadau tebyg ar droed yn Sir Gaer a Swydd Amwythig hefyd. Mewn nifer o achosion, roedd y plastai hyn yn olynwyr uniongyrchol i ganolfannau maenorol canoloesol, ond mewn achosion eraill, crwyd plastai newydd yn y cyfnod rhwng diwedd y 18fed ganrif a dechrau'r 20fed ganrif, ac yn aml roedd y rhain yn ganolfannau i nifer o'r stadau mawr a ddaeth yn fwyfwy pwysig yn ystod y cyfnod hwn.

Mae cyfuniad y plas a'r adeiladau gwasanaeth atodol, wedi'u gosod mewn parciau tirluniedig neu erddi helaeth, ac yn aml yn gysylltiedig phorthdai a rhodfeydd a bythynnod ar y stad, wedi effeithio'n sylweddol ar y dirwedd weledol mewn rhai ardaloedd. Mae Parc Iscoyd (Bronington) wedi goroesi yn weddol gyfan yn ei barc tirluniedig ond, mewn achosion eraill, mae plastai gwreiddiol hen ganolfannau teuluol sefydledig yn Emral (Bangor Is-coed), Brychdyn [Broughton] (Willington Wrddymbre [Worthenbury]), Gwernheylod, Knolton, a Bryn-y-Pys (Owrtyn [Overton]), Gredington a Bettisfield Park (Bronington) wedi'u dymchwel neu eu lleihau yn sylweddol yn ystod yr 20fed ganrif, gan adael elfennau yn unig o'r parcdir gwreiddiol, blociau stabl neu borthdai. Mewn rhai achosion, mae'r trawsnewidiad wedi bod mor effeithiol, fel yn achos Bryn-y-Pys, fel nad yw enw'r stad hon a fu unwaith yn bwysig, ar fapiau modern. Mae nifer o blastai diweddarach wedi goroesi, gan gynnwys Llannerch Panna, sef Tudor Court yn ddiweddarach, a adeiladwyd ddiwedd y 19eg ganrif, a chyfres o blastai bach ar ymyl aneddiadau a oedd eisoes yn bodoli, fel The Brow yn Owrtyn [Overton], a The Manor a Quinton yn Wrddymbre [Worthenbury].

Aneddiadau llinellol ymyl y ffordd

Mewn llawer o ffyrdd, mae Llys Bedydd [Bettisfield] (Hanmer) yn nodweddiadol o rai o'r aneddiadau llinellol ymyl y ffordd diweddarach ym Maelor Saesneg, a ddaeth i'r amlwg ddiwedd y 18fed ganrif. Adeiladu cangen Whitchurch o gamlas Shropshire Union yn ystod y 1790au oedd y symbyliad i ehangu Llys Bedydd [Bettisfield], a arweiniodd at glwstwr o dai ger y gamlas, ychydig i'r de o Bettisfield Bridge, ynghyd datblygiad strimyn ar hyd ffyrdd bach sy'n arwain at Cadney Moss a Northwood. Roedd adeiladu Rheilffyrdd Croesoswallt, Ellesmere a Whitchurch yn ystod y 1860au, a rhywfaint o ddatblygiadau preswyl modern yn symbyliad pellach. Dechreuwyd sefydlu The Chequer (Bronington) ar hyd ffordd dyrpeg Bangor Is-coed i Whitchurch (yr A525 bellach), gan ddechrau fel tai gwasgaredig a chapel Methodistaidd yn nechrau'r 19eg ganrif. Datblygodd pentrefannau tebyg llai ger nifer o gyffyrdd, fel yn Holly Bush (Bangor Is-coed) a oedd eisoes yn cynnwys clwstwr bach o ffermydd a nifer o anheddau bychain ar ddiwedd y 18fed ganrif a dechrau'r 19eg ganrif.

Mae patrwm gwahanol o ddatblygiad yn amlwg yn Llannerch Banna [Penley](Owrtyn [Overton]) a ddatblygodd ar hyd y ffordd rhwng Owrtyn [Overton] a Hanmer. Hyd nes y 1940au, parhaodd yr anheddiad yn gymharol wasgaredig, heb gynnwys llawer mwy na thai gwasgaredig, gefail, ysgol o'r 19eg ganrif, ficerdy a chapel (bellach eglwys y plwyf) a chapel anghydffurfiol a oedd yn gwasanaethu'r gymuned wledig yn y cyffiniau. Trawsnewidiwyd yr anheddiad yn ystod yr Ail Ryfel Byd pan adeiladwyd ysbyty byddin UDA (a'r ysbyty Pwylaidd dilynol). Mae rhannau ohono'n parhau i ddominyddu'r pentref.

Patrymau anheddu modern

Mae patrymau anheddu ym Maelor Saesneg wedi newid yn sylweddol nifer o weithiau yn ystod y deg ar hugain i ddeugain mlynedd diwethaf, ac mae hyn wedi arwain at rywfaint o effaith ar y dirwedd hanesyddol. Mae llawer o'r newidiadau hyn yn nodweddiadol o'r pwysau sy'n effeithio ar ardaloedd gwledig ar ymylon trefi a dinasoedd mwy ledled Prydain. Er eu bod yn llai dwys yma na'r hyn sy'n digwydd mewn nifer o ardaloedd eraill hyd yma, maent wedi datblygu yn sgl nifer o wahanol ffactorau, gan gynnwys gostyngiad yn nifer y bobl sy'n gweithio ar y tir, cynnydd yn nifer y cerbydau preifat, a'r ffaith bod pobl yn meddwl ei bod yn ddymunol byw yng nghefn gwlad.

Fel y nodwyd uchod, mae'r aneddiadau cnewylledig canoloesol mwy, ym Mangor Is-coed, Owrtyn [Overton] ac Wrddymbre [Worthenbury], wedi ehangu yn sylweddol yn ystod yr ychydig ddegawdau diwethaf, a hynny'n aml ar draul ardaloedd o gyngaeau agored canoloesol sy'n cynrychioli'r sylfeini amaethyddol y sefydlwyd yr aneddiadau hyn arnynt. Hefyd, mae nifer o'r aneddiadau 'green' ac aneddiadau ymyl ffordd o'r cyfnod l-ganoloesol, gan gynnwys y rheiny yn Bronington, Llys Bedydd [Bettisfield], a Tallarn Green, wedi ehangu yn ystod blynyddoedd diweddar. Y cynnydd mewn amaethyddiaeth ar l y rhyfel oedd y sbardun y tu cefn i nifer o gynlluniau tai gwledig yr awdurdod lleol ar raddfa fach, fel y rheiny yn Highfields, Higher Lanes Bank, (Bronington), Welsh View, New Hall Lane (Bronington), a ger Top House Farm, i'r de o Hanmer. Oherwydd y cynnydd mewn mecaneiddio a'r cyfuno ffermydd a fu, mae nifer o ffermydd llai a thyddynnod yr ardal wedi diflannu, gan ryddhau nifer o ffermdai ac adeiladau fferm brics o'r 18fed ganrif a'r 19eg ganrif i'w trosi yn dai, yn enwedig yn rhan ddwyreiniol yr ardal, ar gyfer teuluoedd nad ydynt bellach yn dibynnu yn economaidd ar amaethyddiaeth. Mae datblygiad byngalos modern ar ymyl ffyrdd ledled Maelor Saesneg hefyd wedi arwain at gynnydd net yn nifer y tai yng nghefn gwlad, ac maent yn aml yn parhau patrwm o ledaeniad parhaus i'r caeau agored canoloesol, a ddechreuodd ar ddechrau'r cyfnod l-ganoloesol.

Er mwynhad ymwelwyr a thrigolion yr ardal, mae'n bwysig cyfyngu ar effaith tai modern ar yr amgylchedd hanesyddol, gan ehangu aneddiadau cnewylledig sydd eisoes yn bodoli yn sympathetig a throsi adeiladau fferm hanesyddol yn sensitif. Ymhlith mesurau pwysig mae cyfyngu ar yr effaith ffisegol a gweledol ar elfennau pwysig yr amgylchedd hanesyddol gan gynnwys tirwedd caeau, dyddodion sy'n gysylltiedig hanes cynnar aneddiadau cnewylledig o'r canol oesoedd a'r cyfnod l-ganoloesol, ac agweddau ar hanes amaethyddol yr ardal y mae tirwedd cefnen a rhych a phyllau marl, er enghraifft, yn ei gynrychioli.