CPAT logo
Cymraeg / English
Adref Eto
Tirwedd Hanesyddol Maelor Saesneg

Nodweddion Tirwedd Hanesyddol

Maelor Saesneg


TRAFNIDIAETH A CHYSYLLTIADAU

Trafnidiaeth ar ddwr

Er nad yw Afon Dyfrdwy yn cael ei defnyddio ar gyfer trafnidiaeth bellach, ystyriwyd ei bod yn bosibl teithio arni mor bell i mewn i'r tir Bangor Is-coed hyd y 1830au o leiaf. Yn ddiamau, roedd trafnidiaeth ar Afon Dyfrdwy yn bwysig erbyn cyfnod y Rhufeiniaid, ac efallai'n gynharach, a chafodd yr afon ei defnyddio i gludo cynnyrch gwaith teils Holt oddeutu 10 cilomedr i lawr yr afon i'r amddiffynfa lengol yng Nghaer. Nid oes llawer o dystiolaeth ffisegol o hanes trafnidiaeth ar afon wedi goroesi, ond dywedir y daethpwyd o hyd i geufad yn y 1860au neu'r 1870au ger Llyn Bedydd (Hanmer), ac efallai ei fod yn dyddio o ddiwedd y cyfnod cynhanesyddol neu o'r cyfnod canoloesol. Yn ddiamau, roedd fferau ar draws afon Dyfrdwy yn bwysig o gyfnod cynnar, ac roedd y groesfan afon sy'n cysylltu Erbistog [Erbistock] glan ddwyreiniol yr afon, ger rhyd ger yr eglwys yr oedd modd ei groesi yn ystod rhai tymhorau, yn dal i gael ei ddefnyddio hyd ddechrau'r 20fed ganrif.

Ffyrdd cynnar

Nid oes unrhyw ffyrdd Rhufeinig sicr yn croesi Maelor Saesneg, er yr honnwyd ar ddiwedd y 19eg ganrif bod ffordd Rufeinig ger Dymock Mill (Willington Wrddymbre [Worthenbury]), ond nid yw'r honiadau hyn wedi'u cadarnhau. Efallai y dylid rhoi mwy o gred i'r awgrym bod ffordd hynafol rhwng Whitchurch (tref Rufeinig Mediolanum) a Bangor Is-coed, a oedd yn cyfateb i'r ffordd dyrpeg ddiweddarach a'r A525 bresennol, a hynny ar sail darnau arian Rhufeinig o ddiwedd y 3edd ganrif a dechrau'r 4edd ganrif y daethpwyd o hyd iddynt yn ardal Eglwys Cross. Mae'n amlwg bod croesfannau afon Dyfrdwy yn Owrtyn [Overton] a Bangor Is-coed wedi bod yn strategol arwyddocaol ers cyfnod cynnar, mewn mannau lle mae tir uwch ger yr afon ac mae'r gorlifdir yn gymharol gulach o ganlyniad. Mae'n debyg bod capten garsiwn Edward y Cyntaf yn Whitchurch wedi cael caniatd ym 1282 i glirio coed o'r bwlch yn Redbrook (La Rede Broc), mewn cysylltiad gwelliannau i'r un llwybr, fel rhan o ymdrechion y brenin i sicrhau ei fod yn goresgyn Cymru. Roedd yr ardal dan sylw ar ymylon dwyreiniol Maelor Saesneg, ar y ffin bresennol rhwng Cymru a Lloegr ac, yn nodweddiadol, roedd cliriadau o'r fath yn mesur lled ergyd bwa, sef hyd at oddeutu 250 metr.

Mae'n debygol bod hynt cyffredinol y llwybrau sy'n cysylltu aneddiadau cnewylledig mwy eraill yn yr ardal yn dyddio o'r cyfnod canoloesol cynnar neu'r canol oesoedd, fel y ffyrdd rhwng Owrtyn [Overton] a Bangor Is-coed, Owrtyn [Overton] ac Ellesmere, Owrtyn [Overton] a Hanmer, Bangor Is-coed ac Wrddymbre [Worthenbury] er nad oes llawer o dystiolaeth ddogfennol, a chawsant eu gwella yn ddiweddarach. Yn gyffelyb, mae'n debygol bod nifer o'r lonydd a'r llwybrau llai sy'n gwau trwy systemau caeau cynnar ac yn cysylltu aneddiadau mwy threfgorddau llai, yn dyddio o'r cyfnod hwn.

Croesfannau cynnar ar afonydd

Cafodd nifer o'r pontydd a'r rhydau cynnar eu disodli yn ystod diwedd y 18fed ganrif a'r 19eg ganrif, er bod rhywfaint o dystiolaeth strwythurol cynnar wedi goroesi mewn mannau. Mae'r bont hyn ger yr eglwys yn Bangor Is-coed yn amlwg yn dyddio o'r canol oesoedd, ond cafodd ei hailadeiladu i raddau helaeth yn ystod yr 17eg ganrif, ac ar un adeg roedd carreg 'r dyddiad 1658 wedi'i naddu arni. Mae'n amlwg bod y bont yn arwyddocaol yn ystod y cyfnod hwn: Yn l Daniel Defoe yn ei Tour a gyhoeddwyd yn y 1720au, roedd yn syndod hyfryd iddo ddod ar draws y bont garreg dros afon Dyfrdwy ac, yn wir, pont gain iawn. Ymhlith pontydd cynnar nodedig eraill mae Pont Sarn yn Tallarn Green (Willington Wrddymbre [Worthenbury]), sydd ar draws rhyd cynnar ar draws Nant Wych, ar y ffin rhwng Cymru a Lloegr, lle cafodd y bont gynharach a oedd yn dyddio o 1627 ei disodli gan bont garreg ar ddechrau'r 19eg ganrif.

Ffyrdd tyrpeg, cerrig milltir a phontydd newydd

Fel mewn rhannau eraill o Brydain, bu llawer o wella ar briffyrdd a phontydd Maelor Saesneg yn ystod y 18fed ganrif. Pasiwyd deddfau tyrpeg i drwsio'r ffordd o Amwythig trwy Ellesmere ac Owrtyn [Overton] i Wrecsam (yr A528/A539 bresennol) yn y 1750au a phasiwyd deddf debyg ar gyfer ffordd Marchwiel trwy Fangor Is-coed i Whitchurch (yr A525 bresennol) yn y 1760au. Sefydlwyd ffyrdd tyrpeg ar y prif lwybrau eraill ar draws Maelor Saesneg - ffordd Bangor i Falpas (B5069), ffordd Owrtyn [Overton], Hanmer i Whitchurch (A539), a'r ffordd o Redbrook i Ellesmere trwy Welshampton (A495). Nifer siomedig o brin o gofnodion sydd wedi goroesi mewn perthynas 'r ffyrdd tyrpeg yn yr ardal, er ei bod yn amlwg bod tollau'n parhau i gael eu casglu yn 'Overton Gate' ger y dref a 'Maesgwaelod Bar' ger Overton Bridge yn l pob tebyg ar ffordd Ellesmere i Wrecsam yn ystod y 1870au. Ymhlith enwau tai sy'n dynodi hen giatiau toll mae Toll-bar Cottage ar yr A539 i'r gorllewin o Lannerch Banna [Penley], a Tollgate ger Pandy ar yr A525.

Byddai ffyrdd eraill lleol yn parhau mewn cyflwr gwael hyd y 19eg ganrif. Gwnaeth George Kay y sylwadau cyffredinol canlynol am ffyrdd Sir y Fflint:

The turnpike roads are kept in good repair in general but cross or parochial roads are in a wretched state. They are so very bad that in many places it is difficult and dangerous to travel on horseback in winter and to get a carriage to pass along them appears to me impracticable. They are uncommonly narrow and low, often answering the double purpose of a road and a drain.

Gosodwyd cerrig milltir ar hyd y ffyrdd tyrpeg, yn gyffredinol ar ffurf blociau tywodfaen 'u harwynebedd uchaf yn fwaog a phlatiau haearn bwrw arnynt a oedd yn dynodi pellteroedd ar hyd y ffordd. Mae enghreifftiau o'r rhain sy'n dyddio o ddiwedd y 18fed ganrif neu ddechrau'r 19eg ganrif wedi goroesi ar ffordd Bangor Is-coed i Whitchurch (A525) ger Derwen-fawr a'r London Apprentice, ar ffordd Owrtyn [Overton] -Hanmer (A539) yn Stryd Lydan a Llannerch Banna [Penley], ac ar ffordd Owrtyn [Overton] -Ellesmere (A528) ger Queensbridge a thafarn y Trotting Mare. Ymddengys bod cerrig eraill wedi diflannu ers i'r Arolwg Ordnans eu nodi ar fap gyntaf, ond mae'n amlwg bod rhai eisoes wedi'u difrodi erbyn blynyddoedd cynnar y 19eg ganrif pan osodwyd rhybuddion yn bygwth y byddai'r rheiny a oedd yn euog o dorri neu ddifrodi'r cerrig milltir ar y Ffyrdd Tyrpeg o Farchwiel i Whitchurch, ac o Redbrook i Welshhampton, a o Fangor i Falpas yn cael eu herlyn.

Ymhlith y prif bontydd ffordd a adeiladwyd yn ystod y 19eg ganrif mae Overton Bridge, sy'n croesi afon Dyfrdwy i Sir Ddinbych, pont o dywodfaen coch dau fwa, a adeiladwyd ym 1813. Adeiladodd yr ymddiriedolaethau tyrpeg nifer o bontydd carreg ag un bwa yn ystod dechrau'r 19eg ganrif, gan gynnwys tair ar y ffin rhwng Cymru a Lloegr: Adeiladwyd Barton Bridge, Knolton (Owrtyn [Overton]) ym 1819 a chredir mai gwaith Thomas Telford ydyw; adeiladwyd Pont Sarn (Willington Wrddymbre [Worthenbury]) ym 1819 hefyd, ond roedd yn disodli pont gynharach a adeiladwyd ym 1627, a chafodd ei lledu ym 1925; mae Redbrook Bridge, Bronington, yn dyddio o ddechrau'r 19eg ganrif a chredir mai gwaith Thomas Telford yw hon hefyd. Ymhlith pontydd diweddarach mae Poulton Bridge (Owrtyn [Overton]) a adeiladwyd o gerrig ym 1851, a Worthenbury Bridge sy'n dyddio o 1872-73, ac a oedd yn disodli pont gynharach a ddifrodwyd yn sgl llifogydd. Mae ganddi fwa o frics melyn.

Ymhlith pontydd nodedig ar stadau preifat mae'r bont gerrig fwaog hanner crwn, pharapetau brics a cherrig, sydd i'r gorllewin o gwrt y stablau yn Emral (Willington Wrddymbre [Worthenbury]), sydd yn l pob tebyg yn dyddio o ddechrau'r 1730au. Roedd ei chynllun gwreiddiol yn cynnwys gwarchodfeydd 'potiau pupur' ond, yn anffodus, mae'r rhain bellach wedi'u dymchwel.

Trafnidiaeth ar gamlesi

Dechreuodd yr Ellesmere Canal Company adeiladu'r gamlas rhwng Ellesmere a Whitchurch ym 1797, a chafodd y rhan ar draws Fenn's Moss a Whixall Moss ei chwblhau erbyn 1804 ar draws Maelor Saesneg, yn agos i'r ffin Swydd Amwythig. Roedd pontydd ffordd yn ei chroesi yn Cornhill Bridge, Bettisfield Bridge a Clapping Gate Bridge, pob un o'r rhain ger Llys Bedydd [Bettisfield]. Roedd adeiladu camlas ar draws Fenn's Moss a Whixall Moss yn golygu bod angen gwaith draenio helaeth, ac mae'n rhaid bod hyn wedi achosi nifer o anawsterau peirianyddol, efallai yn cynnwys defnyddio rafftiau prysgwydd i osgoi suddo wrth i'r rheilffordd gael ei hadeiladu yn ddiweddarach. Mae'r gamlas wedi effeithio yn eglur ar dirwedd y parth llinellol y mae'n ei groesi ym Maelor Saesneg, gan gynnwys y pontydd ffordd bric cefngrwm nodweddiadol, sef Clapping Gate Bridge, Bettisfield Bridge a Cornhill Bridge, yn ogystal 'r anheddiad bach diwydiannol a ddatblygodd ger glanfa'r gamlas a'r ramp mynediad ger Bettisfield Bridge.

Prif bwrpas y gamlas oedd hybu masnach pellter hir, er y daeth i gael ei defnyddio i fewnforio ac allforio deunyddiau yn lleol o fewn Maelor Saesneg, fel y nodwyd uchod, gan gynnwys cyflenwi deunyddiau ar gyfer odynnau calch Llys Bedydd [Bettisfield] ac allforio mawn o'r gwaith a sefydlwyd ar Fenn's Moss ar ddechrau'r 1850au. Yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf, roedd y gamlas hefyd yn cael ei defnyddio i gludo nifer fawr o filwyr i hyfforddi ar un grwp o feysydd saethu ar ymyl gorllewinol y gors, sef The Batters. Cwch camlas oedd yr unig fodd o gyrraedd y meysydd hyn.

Heddiw, mae'r gamlas yn gyfleuster hamdden poblogaidd ac yn atyniad i dwristiaid.

Tramffyrdd a rheilffyrdd cul

Roedd nifer o ddiwydiannau lleol yn defnyddio tramffyrdd y byddai ceffylau yn tynnu cerbydau ar hydddynt yn ystod y 19eg ganrif i gludo deunyddiau dros bellteroedd cymharol fyr. Sefydlwyd un o'r rhain yng ngwaith pibellau a theils Pandy (Hanmer) i gysylltu'r pyllau clai 'r prif waith ar ochr y ffordd, a defnyddiwyd nifer o wahanol rannau o dramffyrdd wrth echdynnu mawn ar Fenn's Moss, i gysylltu naill ai'r gamlas neu'r system reilffyrdd. Yn ddiweddarach, daeth rheilffordd gul i ddisodli'r tramffyrdd ar y corsydd, ac yna daeth tractor ac l-gerbyd.

Rheilffyrdd y prif lein

Mae lein rheilffordd nad yw'n cael ei defnyddio bellach yn croesi'r dirwedd yng nghornel dde-ddwyreiniol Maelor Saesneg. Dechreuwyd adeiladu'r rheilffordd hon ym 1861 a dechreuodd gwasanaethau nwyddau arni ym 1863. Roedd yna hen orsafoedd canolraddol yn Fenn's Bank a Llys Bedydd [Bettisfield]. Dechreuodd y lein fel Rheilffordd Croesoswallt, Ellesmere a Whitchurch, ac mae hi'n dal i fod yn nodwedd amlwg yn y dirwedd ac yn llwybr pwysig i gyrraedd rhannau o Fenn's Moss. Mae bedw arian a helyg wedi cytrefu ar ymylon y gors. Yn ei blynyddoedd cynnar, byddai'r lein yn ymuno Rheilffordd Croesoswallt a'r Drenewydd yng Nghroesoswallt ac yn ymuno Rheilffordd Llundain a'r Gogledd-Orllewin rhwng Amwythig a Crewe yn Whitchurch. Un o brif ddibenion y rheilffordd oedd adfywio tref Ellesmere a oedd wedi dioddef gan gystadlu threfi cyfagos eraill a oedd eisoes yn meddu ar gyfleusterau rheilffordd. Lle roedd y trac yn croesi'r gors roedd hefyd pr o ffosydd draenio, a 40 llath (36 metr) rhyngddynt, bob ochr i'r trac, ac roedd ar wely o rug, mawn, bwndeli o ffagodau, a gwely trwchus o dywod wedi'i gloddio o byllau tywod lleol. Ym 1864, agorwyd estyniad trac sengl i Groesoswallt a chyfunwyd y rheilffyrdd nifer o rai eraill i ffurfio Cwmni Rheilffordd Cambrian. Ym 1922, unodd rheilffordd y Cambrian 'r Rheilffordd Great Western, a chafodd ei chau yn derfynol ym 1962. Sefydlwyd gweithfeydd prosesu mawn roedd yn bosibl eu cyrraedd ar gilffyrdd ar hyd y rheilffordd yn The Old Graveyard a Fenn's Old Works (Bronington). Roedd Gwaith Brics a Theils Fenn's Bank (Bronington), yn bodoli erbyn y 1890au, ac roedd hwn hefyd wedi'i leoli ger lein y rheilffordd. Ar un adeg, roedd tramffordd ger Fenn's Old Works wedi'i chysylltu 'r rheilffordd ar gilffordd dan do. Byddai milwyr a fyddai'n ymarfer ar feysydd saethu Fenn's Moss yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf yn cyrraedd ar y rheilffordd ar hyd cilffordd hir iawn oddi ar y ddolen basio yng ngorsaf Fenn's Bank gerllaw. Yn ogystal chwrs lein y rheilffordd, y mae traciau ar rannau ohoni bellach, mae olion gweladwy eraill o'r rheilffordd yn cynnwys yr hen orsaf, sied peiriannau a phont ffordd yn Llys Bedydd [Bettisfield] (De Maelor) a phontydd ac ategweithiau pontydd fel y rheiny yn Trench a Cloy.

Mae'n bosibl gweld olion o hen Reilffordd Wrecsam ac Ellesmere ar dirwedd rhan orllewinol Maelor Saesneg. Dechreuwyd adeiladu'r rheilffordd, sy'n rhedeg trwy Marchwiel, Bangor Is-coed, ac Owrtyn [Overton], ym 1892 a'i chwblhau ym 1895. Roedd croesi afon Dyfrdwy yn gamp beirianyddol fawr oherwydd bod angen pont rhychwant 58 metr, a hytrawst dur delltwaith ychydig i'r gogledd o Fangor Is-coed. Roedd hyn yn un o'r rhychwantau sengl hwyaf yn y wlad, gan orwedd ar ategweithiau tywodfaen enfawr. Cwmni Pearson and Knowles o Warrington a'i gweithgynhyrchodd. Roedd gorsafoedd canolraddol y rheilffordd yn gwasanaethu Bangor Is-coed ac Owrtyn [Overton] (ar ran o hen gomin agored yn Lightwood Green). Adeiladwyd mannau aros ychwanegol, sef Trench Halt (i'r dwyrain o Knolton) ym 1914 ac Arosfan Cae Dyah neu Cloy Halt ym 1932 i wasanaethu poblogaethau gwledig gwasgaredig yr ardaloedd hynny. Yn ystod yr Ail Ryfel Byd bu ymyrryd ar gludo teithwyr pan ddefnyddiwyd y lein i gludo arfau rhyfel o'r Ffatri Ordnans Frenhinol ym Marchwiel, a daeth y gwasanaethau i deithwyr a nwyddau i ben ym 1962, fel yn achos lein Croesoswallt i Whitchurch. Yn dilyn hyn, ffrwydrwyd y draphont dros afon Dyfrdwy i'r gogledd o Fangor Is-coed. Mae cryn dipyn o'r hen draciau yn dal i'w gweld fel argloddiau neu drychiadau, ac mae rhai o'r rhain yn ffiniau caeau modern neu wedi cael eu hailddefnyddio fel traciau neu maent wedi gorlifo. Ymhlith nodweddion eraill gwahanredol sydd i'w gweld mae'r pontydd ffordd cefngrwm yn Lightwood Green (Owrtyn [Overton]), ategweithiau pont garreg yn Cloy Bank (Bangor Is-coed) a'r bont sydd wedi goroesi yn Trench (De Maelor).

Byddai nifer o ddiwydiannau lleol yn cael budd oherwydd eu bod mor agos at y rhwydweithiau camlas a rheilffordd a oedd yn croesi Maelor Saesneg. Sefydlwyd The Overton Brick and Tile Works, yn Lightwood Green yn ystod yr 1880au o bosibl, ac roedd ar waith erbyn 1886 efallai. Erbyn 1899, roedd stad Bryn-y-Pys wedi sefydlu iard frics a oedd yn cynnwys peiriandy a sied peiriannau, a chafodd ei chau yn ystod yr Ail Ryfel Byd. Roedd Overton Brick and Tile Works, Lightwood Green, wedi'i leoli ar lein y rheilffordd. Dechreuodd ar ddiwedd y 19eg ganrif a chafodd ei foderneiddio yn y 1920au. Byddai'n cynhyrchu brics, pibellau, blociau cerrig copa a siliau ffenestri, a chafodd ei gau yn derfynol yn ystod yr Ail Ryfel Byd.

Traphontydd dwr

Adeiladwyd traphontydd dwr tanddaearol, a oedd yn cludo dwr o Lyn Llanwddyn i Lerpwl ar draws Maelor Saesneg yn y cyfnod rhwng dechrau'r 1880au a dechrau'r 1890au, ac er bod y rhan fwyaf ohonynt o'r golwg erbyn heddiw, mae argraffiadau cynnar mapiau'r Arolwg Ordnans, yn dyddio o ddechrau'r 20fed ganrif, yn dangos falfiau aer a siambr fesur sy'n gysylltiedig thraphontydd ychydig i'r dwyrain o Neuadd Bowen (Hanmer), i'r gogledd o Horseman's Green.