CPAT logo
Cymraeg / English
Tirwedd Hanesyddol Canol Dyffryn Gwy
Map o'r ardal cymeriad hon

Nodweddion Tirwedd Hanesyddol

Canol Dyffryn Gwy: Bryn-yr-hydd
Cymunedau Cleirwy a'r Clas ar Wy, Powys
(HLCA 1082)


CPAT PHOTO 1035.14

Aneddiadau bychain cnewyllol o'r canol oesoedd o gwmpas castell ac eglwys ar ymyl y dyffryn, a ffermydd gwasgaredig o'r cyfnod canol a diweddarach ar dir isel mynyddig o fewn tirlun o gaeau bychain afreolaidd, yn cynrychioli proses raddol o ymestyn i mewn i diroedd comin yr ucheldir.

Cefndir hanesyddol

Dangosir yr ymsefydlu cynnar a fu yn yr ardal gan ddarnau gwasgaredig o fflint o gyfnodau'r Oes Fesolithig, Neolithig a'r Oes Efydd gynnar, bwyell garreg wedi'i llyfnhau o'r cyfnod Neolithig, a gweddillion siambr gladdu Neolithig yn Court Farm, ychydig i'r de-orllewin o Gleirwy. Mae cloddwaith caeëdig ar Dir Comin Bryn-yr-hydd yn awgrymu ymsefydlu yn yr Oes Haearn. Mae'r ardal nodwedd yn dilyn terfyn deheuol tywysogaeth ganol oesol Gymreig Elfael, tywysogaeth yr oedd ei ffiniau yn y cyfnod hwn yn rhedeg ar hyd afon Gwy yn y de ac, yn ôl pob tebyg, ar hyd llinell Glyn Cilcenni yn y gorllewin. Roedd yr ardal yn rhan o blwyfi eglwysig canol oesol Cleirwy a Llowes. Croes addurniedig o'r unfed ganrif ar ddeg yw'r dystiolaeth gynharaf yn gysylltiedig ag eglwys Sant Meilig, Llowes, ond mae'r eglwys a'r anheddiad o'i chwmpas yn dyddio'n ôl i'r cyfnod canol oesol cynnar, cyn y Goncwest o bosibl. Nid yw hanes cynnar Eglwys San Mihangel yng Nghleirwy mor eglur. Mae rhannau o'r eglwys yn perthyn i ddechrau'r 15fed ganrif o bosibl, er fod yr eglwys a'r anheddiad cysylltiedig wedi cael eu sefydlu gyntaf mewn cysylltiad â'r cloddwaith a'r castell carreg a adnabyddir fel La Royl, i'r de-ddwyrain o'r pentref. Caiff y castell ei grybwyll gyntaf ym 1396, ond mae'n bosibl fod ei ddechreuadau'n mynd yn ôl i'r cyfnod rhwng yr unfed a'r drydedd ganrif ar ddeg. Mae'n debyg fod Castell mwnt a beili Evan Gwynne yn perthyn i'r cyfnod hwn hefyd. Mae rhai adeiladau yn Court Farm, Cleirwy, yn cynnwys rhan o adeiladau carreg o'r canol oesoedd, yn ôl pob tebyg yn perthyn i faenor fynachaidd Abaty Cwm-hir yn Sir Faesyfed. Wedi Deddf Uno 1536 roedd yr ardal yn rhan o gantref Castell Paen yn Sir Faesyfed. Yng nghanol y bedwaredd ganrif ar bymtheg daeth yr ardal yn rhan o blwyfi degwm Cleirwy a Llowes.

Nodweddion allweddol y tirlun hanesyddol

Mae'r ardal ar fryniau pantiog isel yn wynebu'r de, yn tremio dros gorlifdir afon Gwy, ar uchder o rhwng 80 a 244m uwchlaw Datwm yr Ordnans. Pridd mân cochlyd sy'n draenio'n dda a geir fwyaf (Cyfres Milford) ar wely o dywodfaen. Defnyddir y tir heddiw ar gyfer pori gan fwyaf, gyda llecynnau modern o goed coniffer ar y llethrau mwyaf serth, fel yng Nghoed Cwm-Sirhwy, Forest Wood a Phen-y-lan. Ceir rhai llecynnau o goed hynafol llydanddail lled-naturiol ar hyd rhai o'r ceunentydd dyfnion, gyda llethrau serth megis Nant Cleirwy, Glyn Garth, Coed Fron a Glyn Cilcenni. Mae gweddillion rhai darnau bychain o Diroedd Comin heb eu cau yn dal ar ôl yn yr ucheldir, yng Nghomin Llowes a Chomin Bryn-yr-hydd, gyda llwyni bedw a rhedyn.

Mae patrwm yr anheddiad heddiw yn cynnwys pentrefi bychain cnewyllol Cleirwy a Llowes ar y tir isel ar ymyl gorlifdir afon Gwy, ynghyd â phatrwm o ffermydd gwasgaredig canolig neu fychan o ran maint tua 300-900m oddi wrth ei gilydd, y rhan fwyaf ar dir uwch, yn aml o fewn eu tiroedd eu hunain gyda ffordd fferm yn arwain tuag atynt. Mae rhodfa hir o dde-orllewin Cleirwy yn arwain at Clyro Court, plasty mawr o'r 1840au a leolwyd ar safle amlwg uwchben yr hen ffordd dyrpeg i'r de.

Mae adeiladau o'r canol oesoedd sydd wedi goroesi yn cynnwys rhan o adeiladwaith Eglwys San Mihangel yng Nghleirwy a'r bwâu pwyntiedig mewn ysgubor yn Court Farm, Cleirwy, y credir eu bod yn rhan o faenor fynachaidd yn perthyn i Abaty Sistersaidd Cwm-hir.

Mae nifer o lecynnau adeiladu gwastad ar dir llechweddog i'r gogledd o bentref Llowes o bosibl yn cynrychioli safleoedd o'r canol oesoedd a adawyd neu safleoedd tai diweddarach. Mae'r adeiladau domestig cynharaf sydd wedi goroesi yn dyddio o'r cyfnod canol hwyr neu'r cyfnod ôl-ganol cynnar, ac yn cynnwys nifer o adeiladau coed ffrâm nenfforch a ailadeiladwyd mewn carreg rhwng yr 17eg a'r 19eg ganrif. Cynrychiolir y llinell derfyn adeiladu hon gan nifer o anheddau ym mhentref Cleirwy, yr Hen Ficerdy a'r Radnor Arms yn Llowes (y ddau yma yn seiliedig ar dai neuadd o'r oesoedd canol hwyr), a ffermdy Bryn-yr-hydd a'r ysgubor, y ffermdy o bosibl yn seiliedig ar gynllun ty hir. Adeiladwyd y ffermdai eraill, ac anheddau mwy a llai a godwyd o'r newydd o'r 17eg ganrif hyd ddechrau'r 19eg, o gerrig rwbel, megis ffermdy Moity, Parciau, a bythynnod ym mhentrefi Cleirwy a Llowes. Mae nifer o adeiladau fferm carreg o'r 17eg a'r 18fed ganrif wedi goroesi, weithiau gyda thalcen carreg ac ochrau gydag estyll tywydd, gan gynnwys ystod unionlin o adeiladau Fferm Moity, Fferm Gaer ac ysgubor wair yng Nghwrt Evan Gwynne ac ysgubor wair garreg wedi ei throsi o fewn pentref Llowes. Cerrig rwbel, weithiau wedi'u rendro neu ar gynllun chwipiad garw, oedd y prif ddeunydd adeiladu yn yr ardal yn y 18fed ganrif hyd at ddechrau neu ganol y 19eg ganrif, fel yn achos tai a bythynnod gweision ffermydd o fewn pentref Llowes a Chleirwy, gan gynnwys rhai ag addurniadau brics fer y ffenestri a'r drysau. Roedd teiliau cerrig lleol yn gyffredin mae'n debyg ar gyfer toi cyn i lechi gael eu mabwysiadu'n gyffredinol yn rhan olaf y 19eg ganrif. Mae teiliau cerrig yn dal i fodoli ar nifer o adeiladau, gan gynnwys yr Hen Ficerdy, y Radnor Arms a Barn Cottage yn Llowes a Sacred Cottage a nifer o fythynnod eraill yng Nghleirwy.

Fe ehangodd Cleirwy yn arbennig yn dilyn gwelliannau i drefn y ffyrdd o ddiwedd y 18fed ganrif ymlaen. Mae adeiladau nodedig o'r cyfnod hwn yn cynnwys Gwesty'r Baskerville Arms o ddechrau'r 19eg ganrif, yr hen ysgol garreg Fictoraidd, Clyro Court (Gwesty Baskerville Hall bellach), a hen stablau a cherbyty Clyro Court (Cil y Bleiddiau bellach) a'r ysgol garreg Fictoraidd a Thy'r Ysgol. Fe adeiladwyd Clyro Court a nifer o adeiladau yn hwyrach yn y 19eg ganrif, megis y Ficerdy yn Llowes, mewn meini nadd, neu byddai meini nadd yn eu haddurno.

Mae olion cefnen a rhych ar ochr orllewinol Cleirwy o bosibl yn cynrychioli hen gaeau agored o'r oesoedd canol oedd yn perthyn i'r pentref. Caeau bychain o siapiau afreolaidd sydd amlycaf yn y tirlun amaethyddol modern, gyda glasleiniau wedi ffurfio ar y llechweddau mwyaf serth, sy'n dangos bod y tir wedi ei drin yn fwy eang yn y gorffennol. Gwrychoedd o wahanol rywogaethau yw ffiniau'r caeau gan fwyaf, gan gynnwys cyll, celyn, a drain duon. Mae darnau bychain o dir heb ei gau ar Gomin Bryn-yr-hydd a Chomin Llowes fel petaent yn cynrychioli gweddillion darnau helaethach o dir pori ar yr ucheldir, a gafodd eu cau o bosibl yn ystod y 18fed ganrif. Awgrymir bod y cau wedi digwydd yn gymharol ddiweddar gan batrwm o gaeau petryal o faint canolig gyda gwrychoedd un rhywogaeth yng ngogledd-orllewin Comin Llowes, yn yr ardal rhwng Old Forest a Fforest-cwm. Mae nifer o ffermydd yr ucheldir yn amlwg yn cynrychioli proses gynharach o ymestyn yn y canol oesoedd a'r canol oesoedd diweddar, gydag ambell i wal sych fel terfyn a chloddion isel ar beth o'r tir uwch. Roedd perllannau yn gysylltiedig â llawer o ffermydd a thai yr ardal yn y 19eg ganrif, yn enwedig o amgylch Cleirwy, ac mae rhai olion i'w gweld o hyd.

Mae patrwm o lonydd a llwybrau troellog yn cysylltu'r ffermydd, y trefi a'r canolfannau pentrefol, llawer ohonynt yn deillio o'r cyfnod canol yn ôl pob tebyg. Mae'r ffyrdd fel arfer yn rhedeg o gwmpas terfynau'r caeau, rhai gyda cheuffyrdd hyd at 3m o ddyfnder, a ffurfiwyd yn y cyfnod cyn i wynebau metlin gael eu cyflwyno ar ffyrdd. Mae cerrig milltir wedi goroesi o gyfnod trafnidiaeth y ffyrdd tyrpeg ger Cleirwy, Courtway a Llowes a Bronydd.

Cynrychiolir y diwydiant prosesu gan nifer o hen felinau dwr i falu yd. Caiff Melin Llowes ar Nant Garth, sy'n llifo i afon Wysg, ei chrybwyll gyntaf yn y 1840au; daeth ei gwaith i ben tua 1920 ac adfail ydyw bellach. Roedd Nant Cleirwy ym mhentref Cleirwy ar un adeg yn cyflenwi dwr i ddwy felin yd, Melin Pentwyn a Melin Paradise, y ddwy wedi cychwyn o bosib yn y 18fed ganrif. Roedd gwaith Melin Pentwyn yn ôl pob tebyg wedi dod i ben erbyn 1840, tra bod gwaith Melin Paradise wedi dod i ben ym 1940. Cynrychiolir y diwydiant cloddio gan nifer o chwareli cerrig bychain a gloddiwyd ar gyfer cerrig yn ôl pob tebyg o'r 17eg ganrif ymlaen.

Mae adeiladwaith amddiffynnol yn yr ardal yn cynnwys gwrthglawdd Bryn-yr-hydd, o'r Oes Haearn o bosib, Castell mwnt a beili Kinsey yng Nghwrt Evan Gwynne, a Chastell Cleirwy, sydd â llwyfan tebyg i fwnt gyda sylfeini o bosib ar gyfer twr carreg.

Mae adeiladau crefyddol pwysig yn cynnwys yr eglwysi o fewn aneddiadau cnewyllol o'r oesoedd canol yn Llowes a Chleirwy, a gafodd ill dau eu hailadeiladu'n sylweddol yn yr 1850au. Adeiladwyd Capel New Zion o'r 19eg ganrif ger Fferm Moity, o gerrig rwbel. Fel llawer o addoldai anghydffurfiol yn yr ardal, fe'i gosodwyd ar ei ben ei hun ar dir uwch er mwyn gwasanaethu cymuned wasgarog.

O ran cysylltiadau diwylliannol, mae'r ardal yn adnabyddus am ei chysylltiadau â chynnyrch y dyddiadurwr Francis Kilvert, curad Cleirwy rhwng 1864-76. Cysylltir Clyro Court â Syr Arthur Conan Doyle a fu'n aros yn y ty (a adeiladwyd gan deulu'r Baskervilles) yn ôl y sôn er mwyn ysgrifennu The Hound of the Baskervilles, a ymddangosodd fel cyfres yn y Strand Magazine rhwng 1901 ac 1902.

Ffynonellau


Bartley 1960a;
1960b;
Cadw 1994a;
Cadw 1995d;
Haslam 1979;
Jenkinson 1997;
King 1983;
Cofnod Safleoedd a Henebion Powys;
RCAHMW 1997;
Richards 1969;
Silvester 1994; 1997b;
Soil Survey 1983;
Sothern & Drewett 1991

I gael gwybodaeth bellach cysylltwch os gwelwch yn dda ag Ymddiriedolaeth Archaeolegol Clwyd-Powys yn y cyfeiriad hwn neu ewch i wefan Cyngor Cefn Gwlad Cymru' yn www.ccw.gov.uk.