CPAT logo
Cymraeg / English
Tirwedd Hanesyddol Canol Dyffryn Gwy
Map o'r ardal cymeriad hon

Nodweddion Tirwedd Hanesyddol

Canol Dyffryn Gwy: Maesllwch
Cymuned Y Clas ar Wy, Powys
(HLCA 1083)


CPAT PHOTO 1038.02

Parc tirlun mawr o'r 19eg ganrif sy'n lleoliad prydferth i'r castell ffug Duduraidd o oes Fictoria a osodwyd yng nghaeau canol oesol agored Y Clas ar Wy, caeau a gaewyd yn niwedd y 18fed ganrif, gyda gweddillion llecynnau o goedlannau hynafol lled-naturiol.

Cefndir hanesyddol

Ychydig iawn o dystiolaeth o anheddiad hynafol sydd wedi ei ddarganfod hyd yn hyn o fewn ardal y tirlun nodwedd hanesyddol. Yng nghyfnod yr oesoedd canol cynnar roedd yr ardal yn rhan o dywysogaeth Brycheiniog ac yn rhan o blwyf eglwysig eang Y Clas ar Wy. Yn dilyn y goncwest o dan arweiniad Bernard de Neufmarché yn y 1080au daeth yn rhan o arglwyddiaeth y mers, sef Aberhonddu. Sefydlwyd maenor Seisnig yn Y Clas ar Wy cyn diwedd y 13eg ganrif. Adeg y Ddeddf Uno ym 1536 roedd yr ardal yn rhan o gantref Castell Paen yn Sir Faesyfed. Yng nghanol y 19eg ganrif roedd yr ardal yn rhan o blwyf degwm Y Clas ar Wy.

Nodweddion allweddol y tirlun hanesyddol

Mae'r ardal ar dir yn wynebu'r de-ddwyrain sy'n disgyn yn raddol ar ochr ogleddol Dyffryn Wysg, rhwng 85m a 200m o uchder uwchben Datwm yr Ordnans. Mae'r pridd gan fwyaf yn fân ac yn gochlyd ac yn draenio'n dda, ar wely o dywodfaen (Cyfres Milford). Defnyddir y tir heddiw yn bennaf ar gyfer pori, gyda rhai cnydau porthiant, a rhai llecynnau o goed hynafol llydanddail lled-naturiol ar y llechweddau mwy serth, megis y Nursery, gan gynnwys coed ynn, bedw arian, a derw.

Yr hyn sy'n amlwg o fewn yr anheddiad yw adain morwynion a gweision a stablau Castell Maesllwch, castell ffug Fictoraidd mewn arddull gastellog Duduraidd a godwyd yn lle ty a chwalwyd ym 1729, ty a oedd yn ei dro wedi cymryd lle ty o ddiwedd yr 16eg ganrif. Cafodd y ty Fictoraidd ei feddiannu fel ysbyty i Ganadiaid a chan Fyddin y Tir yn yr ail ryfel byd, ac fe chwalwyd pen gorllewinol y ty pan gafodd ei ddadfeddiannu ym 1951. Yn gysylltiedig â'r hen blasty y mae gardd gegin gyda wal o'i chwmpas, gardd ffurfiol a thiroedd coediog i hamddena, gyda hen berllannau a bwthyn i'r garddwr a bwthyn gyda cholofnau llidiart a sgrîn ym mynedfa'r rhodfa ddwyreiniol. Mae'r anheddiad o fewn yr ardal fel arall yn gyfyngedig i nifer o ffermydd carreg gwasgaredig i gyfeiriad dwyreiniol yr ardal, megis y ffermdy carreg a'r adeiladau allanol a'r buarth gyda waliau carreg o'r 18fed ganrif ym Maesyronnen, a'r ffermdy mawr yng Nglan-hen-Wye o ddiwedd y 18fed ganrif neu ddechrau'r 19eg ganrif, gyda'r cerbyty carreg cysylltiedig o ddechrau'r 19eg ganrif a'r stablau a godwyd o gwmpas y buarth.

Mae'n debyg mai yn y 1770au y sefydlwyd yr hen barc tirlun o'r 19eg ganrif sy'n amgylchynu plasty Castell Maesllwch, gyda'i goed derw a chastanwydd aeddfed yma ac acw a phlanhigfeydd coniffer bychain, mewn cysylltiad â hen dy ar y safle, ac mae'n debyg mai yn y 18fed ganrif y codwyd y ffos gudd yng ngogledd-ddwyrain a gogledd-orllewin y ty. Bellach, fe rannwyd tir y parc yn gaeau mawr petryal gyda gwrychoedd a ffens gwifren a phostyn fel terfynau, a rhan o'r terfyn allanol yn wal sych. Mae gwrychoedd aml-rywogaeth i'w gweld ar derfynau gogleddol yr ardal, gan gynnwys celyn, ynn a masarn, gydag ambell i derfyn ar y tiroedd uwch wedi eu ffurfio o waliau cerrig sythion.

Mae ffyrdd mwy diweddar yn rhedeg ar hyd ffiniau deheuol a gorllewinol yr ardal. Ffordd dyrpeg o'r 18fed ganrif yw'r ffordd yn y de, ac fe ailosodwyd y ffordd i Gomin Ffynnon Gynydd yn y gorllewin pan grëwyd tiroedd y parc yn ystod y 19eg ganrif. Mae'r ffordd droellog i fyny i'r comin heibio i Faesyronnen ar yr ochr ddwyreiniol yn fwy hynafol ac yn rhedeg mewn ceuffordd hyd at 1.5m o ddyfnder. Mae carreg filltir sy'n perthyn i gyfnod y ffyrdd tyrpeg wedi goroesi gerllaw Bythynnod Little Mill.

Cynrychiolir archeoleg ddiwydiannol yn yr ardal gan hen felin ddwr i falu yd, o'r enw Little Mill. Roedd y felin yn gweithio rhwng dechrau'r 17eg a diwedd y 19eg ganrif, yn tynnu dwr drwy gored o nant Cilcenni, sy'n llifo i afon Wysg. Roedd gan Gastell Maesllwch ei waith nwy ei hun i oleuo'r ty yn niwedd y 19eg ganrif. Mae olion y burfa a'r gasomedr oedd yn ymwneud â storio'r nwy glo i'w gweld hyd heddiw yn y goedlan i'r dwyrain o'r ty.

Mae Capel Maesyronnen a'r bwthyn, ar dir uwch tua ochr ddwyreiniol yr ardal, yn bwysig oherwydd mai dyma un o'r addoldai anghydffurfiol cynharaf sydd wedi goroesi yng Nghymru. Yn wreiddiol, ffermdy ac ysgubor gyda ffrâm nenfforch o'r 16eg ganrif oedd y capel, a godwyd o garreg ac a sefydlwyd yn y 1690au.

Ffynonellau


Cadw 1995d; 1999;
Gregory 1994;
Haslam 1979;
Cofnod Safleoedd a Henebion Powys;
Ridyard 1993; 1998;
Soil Survey 1983

I gael gwybodaeth bellach cysylltwch os gwelwch yn dda ag Ymddiriedolaeth Archaeolegol Clwyd-Powys yn y cyfeiriad hwn neu ewch i wefan Cyngor Cefn Gwlad Cymru' yn www.ccw.gov.uk.