CPAT logo
Cymraeg / English
Tirwedd Hanesyddol Canol Dyffryn Gwy
Map o'r ardal cymeriad hon

Nodweddion Tirwedd Hanesyddol

Canol Dyffryn Gwy: Cwm-bach
Cymuned Y Clas ar Wy, Powys
(HLCA 1084)


CPAT PHOTO 00c0124

Ffermdai gwasgaredig o'r canol oesoedd a diweddarach ar fryniau isel, o fewn tirlun o gaeau canolig eu maint â gwrychoedd a cheuffyrdd, gyda gweddillion darnau o goedlannau hynafol lled-naturiol ar y llechweddau mwy serth.

Cefndir hanesyddol

Ychydig o dystiolaeth o anheddiad hynafol sydd wedi ei darganfod hyd yma o fewn ardal nodwedd y tirlun hanesyddol. Yng nghyfnod y canol oesoedd cynnar roedd rhan orllewinol yr ardal yn rhan o dywysogaeth Elfael a'r rhan ddwyreiniol yng nghantref Y Clas ar Wy yn nhywysogaeth Brycheiniog, y ddwy dywysogaeth dan reolaeth arglwyddi Eingl-Normanaidd y mers yn ystod diwedd yr 11eg ganrif hyd at y 13eg ganrif. Wedi'r Ddeddf Uno yn 1536 daeth yr ardal yn rhan o gantref Castell Paen yn Sir Faesyfed. Erbyn canol y 19eg ganrif roedd yn rhan o blwyfi degwm Y Clas ar Wy a Bochrwyd.

Nodweddion allweddol y tirlun hanesyddol

Mae'r ardal yn dir o bantiau a bryniau isel yn wynebu'r de i'r gogledd o afon Gwy, rhwng 100 a 210m o uchder uwchlaw Datwm yr Ordnans, gydag ambell i geunant dwfn yma ac acw. Gwelir gweddillion coedlannau llydanddail lled-naturiol hynafol ar lechweddau serth yng Nghoedwig Sgylas ac ar hyd nentydd dyfnion ger Lower Skynlais a Chilgwyn, ac yn y cwm i'r gogledd o Gwm-bach, yn ogystal ag amryw o blanhigfeydd coniffer bychain modern. Mae'r pridd gan fwyaf yn fân, cochlyd ac yn draenio'n dda (Cyfres Milford) yn gorwedd ar graig o dywodfaen. Defnyddir y tir heddiw ar gyfer pori gan fwyaf, gyda pheth cnydau porthiant. Mae darn o Dir Comin i'r gogledd o Gwmbach yn cysylltu'r iseldir â thir pori yn yr ucheldir ar Gomin Ffynnon Gynydd i'r gogledd.

Nodwedd yr anheddiad o fewn yr ardal yw ffermydd gwasgaredig canolig eu maint hyd at 1.5m ar wahân ar ben y bryniau. Mae amryw o'r rhain yn deillio o'r cyfnod canol a'r cyfnod canol hwyrach, megis ffermdy Upper Skynlais oedd yn wreiddiol yn dy neuadd gydag esgyll o goed o'r canol oesoedd, wedi ei ailfodelu â waliau cerrig rwbel a godwyd yn yr 17eg ganrif. Mae nifer o ffermydd bychain o ddiwedd y 19eg a dechrau'r 20fed ganrif yn yr ardal, gyda ffermdai o frics ac ysguboriau bychain o haearn rhychog.

Yn amlwg o fewn y tirlun amaethyddol y mae caeau bychain neu ganolig eu maint, o siapiau afreolaidd, yn aml â'u terfynau wedi eu gosod ar hyd neu ar draws y gyfuchlin. Mae gan lawer o derfynau'r caeau ar diroedd mwy serth gefnen isel a glasleiniau, yn dangos bod mwy o aredig wedi bod yn y gorffennol. Yn cydredeg â'r rhan fwyaf o derfynau'r caeau y mae gwrychoedd cryfion, isel aml-rywogaeth, yn aml wedi eu gosod, gan gynnwys cyll, ynn ac ysgaw. Roedd perllannau yn gysylltiedig â llawer o'r ffermydd, tai a bythynnod yn y 19eg ganrif ac mae olion rhai i'w gweld hyd heddiw. Cynrychiolir olion posibl llynnoedd pysgod, eu dyddiad yn ansicr, gan gloddwaith i'r gogledd o Gwm-bach, ger Fishpond Wood.

Ffordd dyrpeg o ddiwedd y 18fed ganrif a dechrau'r 19eg yw'r ffordd sythach sy'n ffurfio terfyn deheuol yr ardal rhwng Y Clas ar Wy a Bochrwyd. Mae'r ffyrdd troellog a'r llwybrau glas ar y bryniau yn dyddio o'r oesoedd canol yn ôl pob tebyg, rhai ohonynt yn ffurfio ceuffyrdd amlwg hyd at 2m o ddyfnder, wedi eu ffurfio o ganlyniad i erydu cyn i wyneb ffyrdd ddechrau cael eu gwneud o fetlin, ac mae rhai'n cael eu cynnal gan gerrig sychion. Ychydig o olion o hen ddiwydiant sydd ar gael o fewn yr ardal nodwedd, er fod yna nifer o chwareli carreg yma ac acw ar gyfer cerrig adeiladu.

Ffynonellau


Cadw 1995d;
Cofnod Safleoedd a Henebion Powys;
Soil Survey 1983;
Sothern & Drewett 1991

I gael gwybodaeth bellach cysylltwch os gwelwch yn dda ag Ymddiriedolaeth Archaeolegol Clwyd-Powys yn y cyfeiriad hwn neu ewch i wefan Cyngor Cefn Gwlad Cymru' yn www.ccw.gov.uk.