CPAT logo
Cymraeg / English
Tirwedd Hanesyddol Canol Dyffryn Gwy
Map o'r ardal cymeriad hon

Nodweddion Tirwedd Hanesyddol

Canol Dyffryn Gwy: Llyswen
Cymunedau Bronllys a'r Clas ar Wy, Powys
(HLCA 1087)


CPAT PHOTO 00c0133

Anheddiad cnewyllol eglwysig canol oesol a maenorau ac olion trin tir agored ar raddfa helaeth ar dir isel sy'n draenio'n dda o gwmpas afon Gwy, gydag adeiladau hwyrach yn sgl datblygu systemau trafnidiaeth ffordd a rheilffordd yn y 18fed a'r 19eg ganrif.

Cefndir hanesyddol

Does dim tystiolaeth bendant am anheddiad cynhanesyddol yn yr ardal, er fod twmpathau claddu wedi'u cofnodi, o'r Oes Efydd o bosibl. Mae'n ymddangos bod Llyswen wedi tyfu'n ganolfan grefyddol a gweinyddol o bwys yn y cyfnod canol cynnar. Mae'n sefyll mewn man strategol ar lannau deheuol afon Gwy, ar fan croesi pwysig, ac yn l pob tebyg yn safle clas neu fam eglwys, a roddwyd i esgobaeth Llandaf yn y 6ed ganrif. Mae'n bosib mai eglwys bresennol Sant Gwenddolen, sant o'r 9fed ganrif a gladdwyd yn Nhalgarth, sydd ar safle'r ganolfan grefyddol gynnar hon heddiw. Mae iard yr eglwys ar sip is-gylch sy'n awgrymu sefydliad cynnar. Dywedir mai Llyswen hefyd yw safle llys y tywysog Rhodri Mawr o'r 9fed ganrif. Yn y cyfnod canol credir bod castell wedi ei godi yn Llyswen, er na wyddys ymhle. Yn dilyn y goncwest Normanaidd fe weinyddwyd yr ardal o gwmpas Llyswen, i'r de o afon Gwy, fel maenor iseldir o fewn arglwyddiaeth y mers o fewn Cantref Selyf, ac roedd yn cael ei weinyddu o Fronllys. Erbyn diwedd yr oesoedd canol roedd yr ardal yn rhan o blwyfi eglwysig canol oesol Llyswen, Bochrwyd a'r Clas ar Wy.

Nodweddion allweddol y tirlun hanesyddol

Mae'r ardal ar waelod y dyffryn a llechweddau isel y bryniau i'r gogledd a'r de o afon Gwy, rhwng uchder o 90 a 170m uwchlaw Datwm yr Ordnans. Pridd llwyd sy'n draenio'n dda yw'r priddoedd (Cyfres Rheidol) yn gorwedd ar raean ddaeth gyda'r ffrwd-rewlifol i rannau is yr ardal, a phriddoedd cochlyd sy'n draenio'n dda ar wely o dywodfaen (Cyfres Milford) yn rhannau gogleddol a deheuol yr ardal. Ar gyfer pori y defnyddir y rhan fwyaf o'r tir erbyn heddiw.

Mae'r patrwm anheddu modern wedi'i ganolbwyntio ar aneddiadau cnewyllol yn tarddu o'r cyfnod canol a'r cyfnod canol cynnar yn Llyswen a Bochrwyd (y diwethaf fymryn y tu allan i ardal y tirlun hanesyddol), gyda ffermydd hyn o fewn yr aneddiadau a ffermydd a bythynnod o gyfnod hwyrach yn bwyta i mewn i ymylon hen gaeau agored y canol oesoedd sy'n amgylchynu'r pentrefi. Mae'r datblygiad anheddol unionlin i'r gorllewin o Lyswen yn gysylltiedig 'r gwelliant i'r ffordd dyrpeg ac adeiladu'r dollbont ar draws afon Gwy ym Mochrwyd yn gynnar yn y 19eg ganrif, ac mae'r adeiladau yma yn cynnwys filas Fictoraidd ac Edwardaidd ar lan yr afon, a rheithordy wedi'i leoli ar ran o'r hen gaeau agored. Mae rhai ffermydd sylweddol o fewn pentrefi Llyswen a Bochrwyd yn l pob tebyg yn tarddu o uniad tiroedd cynharach yn ystod y cyfnod canol hwyr a'r cyfnod l-ganol cynnar.

Ychydig o dystiolaeth sydd wedi goroesi uwchlaw'r ddaear o'r adeiladau cynnar oedd yn bodoli unwaith o fewn ardal nodwedd y tirlun hanesyddol, adeiladau o goed yn l pob tebyg yn y cyfnod canol cynnar a'r cyfnod canol. Mae'r eglwys yn Llyswen efallai yn gorwedd ar safle'r eglwysi canol oesol cyn-goncwest ac l-goncwest, ond fe'i hailadeiladwyd yn y 1860au, gan adael dim cynharach uwchlaw'r ddaear ar wahn i'r fedyddfaen. Adeiladau carreg yw'r rhan fwyaf o'r adeiladau cynharaf o fewn yr ardal nodwedd, yn dyddio o'r 18fed a'r 19eg ganrif. Mae'r adeiladau o fewn pentref Llyswen yn cynnwys bythynnod cerrig rwbel gwenithfaen o'r 18fed a'r 19eg ganrif, rhai wedi'u rendro a'r rhai diweddaraf yn aml ag addurniadau brics. Mae yna nifer o fythynnod a thai brics hwyrach o'r 19eg ganrif, gan gynnwys amryw o dai mawr, megis Ty Mawr, gyda gerddi helaeth ynghlwm. Fe godwyd ffermdy Lower House yn Llyswen o rwbel gwenithfaen ond gydag addurniadau meini nadd sy'n rhoi ymddangosiad bonheddig iddo. Hefyd o fewn y pentref mae amryw o ysguboriau carreg, o'r 18fed ganrif o bosib, gydag agennau awyru. Mae wal yr hen fuarth anifeiliaid ar ochr ddeheuol y pentref wedi goroesi fel ffin gardd.

Mae bodolaeth y Griffin Inn, Bridge End Inn a'r hen Star House, o ddiwedd y 18fed ganrif a dechrau'r 19eg ganrif yn adlewyrchu effeithiau'r gwelliannau i'r ffordd dyrpeg ac adeiladu Tollbont Bochrwyd. Codwyd y rhain yn nodweddiadol o rwbel gwenithfaen gydag addurniadau brics ger y drysau a'r ffenestri. Mae yna rai tai llenwi-bwlch modern yn y pentref, gan gynnwys stad dai fechan a byngalos unigol. Adeiladau carreg yw'r rhai gwledig i gyd, gan gynnwys y clwstwr o'r 18fed ganrif yn Fferm Pistyll, gyda ffermdy carreg, buarth waliau carreg, ac adeiladau allanol gyda thalcenni carreg ac ochrau o estyll tywydd. Mae ffermdy Glangwy, o ddiwedd y 18fed i ddechrau'r 10fed ganrif, yn nodweddiadol, wedi'i godi o rwbel gwenithfaen, ac yn ffurfio rhan o glwstwr sy'n cynnwys ysguboriau carreg o'r 18fed neu'r 19eg ganrif, stablau a cherbyty o rwbel carreg gydag addurniadau gwenithfaen, ac adeiladau allanol gyda fframiau dur o'r 20fed ganrif. Mae'r ddwy fferm yn gorwedd ar ymyl yr hen gaeau agored o fewn plwyf Bochrwyd, ychydig uwchlaw gorlifdir afon Gwy, ac yn cynrychioli o bosib y symudiad i mewn i'r hen lifddolydd ar hyd glan ogleddol afon Gwy. Mae clwstwr o fythynnod carreg o'r 18fed ganrif ac yn ddiweddarach yn Bochrwyd Brest yn cynrychioli ymestyniad i mewn i hen gaeau agored Bochrwyd. Mewn mannau eraill gwelir bythynnod a thai modern gwasgaredig ar ochr y ffordd ar bentir y caeau.

Roedd gan Llyswen dri cae comin mae'n debyg, un yn nolen yr afon i'r gogledd o'r eglwys, ac un i'r de-orllewin o'r pentref, a enwyd yn y Rhaniad Degwm yng nghanol y 19eg ganrif yn Maeslan Cafan, Common Field, a Maes Megan. Mae patrwm tebyg yn amlwg ym mhlwyf cyfagos Bochrwyd, i'r gogledd o afon Gwy. Roedd rhannau helaeth o'r cae agored yn nolen yr afon i'r gorllewin o'r afon yn dal heb eu cau hyd at y 1850au, er fod hen rannau eraill o gae agored wedi cael eu cau mae'n debyg yn ystod y cyfnod rhwng o leiaf dechrau'r 18fed ganrif ymlaen. Gellir olrhain patrwm y caeau agored canol oesol ym mhatrwm gwahanol y caeau stribed a pheth cefnen a rhych yn rhedeg i fyny ac i lawr y gyfuchlin ar dir llechweddog uwchlaw'r afon rhwng Bochrwyd Brest a phentref Bochrwyd, fel arfer gyda gwrychoedd aml-rywogaeth wedi tyfu'n wyllt. Fe gollwyd rhai elfennau o batrwm y caeau o ganlyniad i'r chwalu gwrychoedd a fu'n ddiweddar, er fod glasleiniau a chloddiau isel yn dal i ddangos presenoldeb rhai. Mae olion caeau agored Llyswen hefyd yn weladwy i'r de o'r afon ar y darn bach o dir gwastad uwchlaw'r gorlifdir sy'n cwmpasu'r pentref ac ar y tir llechweddog i'r de-orllewin yn ardal Maes Megan. Cynrychiolir y rhain gan batrwm gwahanol o gaeau stribed ac mewn rhai achosion gan gefnen a rhych. O gwmpas terfynau'r caeau yma gwelir gwrychoedd aml-rywogaeth, rhai isel neu wedi tyfu'n wyllt neu weithiau wedi'u gosod, gyda rhai lonydd glas rhwng y caeau stribed gwreiddiol a rhywfaint o ffurf lasleiniol ar dir llechweddog. Mae hen berllannau ynghlwm wrth lawer o'r tai a'r bythynnod drwy'r holl ardal nodwedd. Gweddillion yw'r rhain o berllannau helaeth a welid o fewn pentref Llyswen ac o'i gwmpas yn y 19eg ganrif, yn enwedig o amgylch Lower House, Maes Megan a Maeslan Cafan ar ochr ddeheuol yr afon yn ardal Lower Middle Road, a Bochrwyd Brest, Pistyll a Glangwy ar ochr ogleddol yr afon. Fe blannwyd rhai o'r perllannau yn amlwg ar dir agored oedd gynt yn cael ei drin yn y cyfnod canol, ac mewn rhai achosion yn dyddio'n l i o leiaf y 17eg a'r 18fed ganrif.

Fe gafodd Llyswen adfywiad ar ddechrau'r 19eg ganrif pan aethpwyd ati i wella'r ffordd dyrpeg sy'n arwain i'r gogledd o Lanfair ym Muallt, gan dorri drwy'r hen gaeau agored i'r gorllewin o'r pentref. Daeth ehangu pellach yn sgl y Dollborth newydd a phwysig ym Mochrwyd, a agorwyd yn y 1830au, a gydag agoriad Rheilffordd Canolbarth Cymru yn y 1860au, gyda gorsaf ar lan ogleddol yr afon ym Mochrwyd oedd yn dal ar agor tan y 1960au. Mae gorglawdd y rheilffordd sy'n arwain at yr hen bont sy'n croesi afon Gwy, ac sy'n torri ar draws yr hen gaeau agored i'r dwyrain o Lyswen, yn ffurfio nodwedd tirluniol amlwg o fewn yr ardal.

Ychydig o dystiolaeth o hen ddiwydiannau sy'n aros o fewn yr ardal nodwedd. Ni wyddys am unrhyw felinau yn Llyswen ei hun, er fod y felin ddwr a godwyd o garreg yn y 18fed ganrif ym Mochrwyd, yn gweithio drwy gyfrwng cored a chafn o afon Gwy, wedi gorffen malu ar ddechrau'r 20fed ganrif ac wedi ei dymchwel ym 1940.

Mae Eglwys Sant Gwenddolen, Llyswen, yn sefyll o bosib ar safle eglwys y dywedir iddi gael ei rhoi i Esgobaeth Llandaf yn y 6ed ganrif. Safle posibl arall i'r eglwys gynnar hon yw Parc Llangoed. Cafodd yr adeilad ei adnewyddu'n helaeth yn y 1860au, yn dilyn cynllun yr eglwys ganol oesol o'i blaen, mae'n ymddangos. Adeiladwyd yr hen gapel anghydffurfiol o ddechrau'r 19eg ganrif gan y Methodistiaid Calfinaidd ac fe'i gweinyddwyd gan Goleg Trefeca am flynyddoedd lawer.

Ffynonellau


Cadw 1995b;
Cadw 1995d;
Haslam 1979;
Jervoise 1976;
Lowe 1985;
Martin & Walters 1993;
Cofnod Safleoedd a Henebion Powys;
Silvester 1999b;
Sylvester 1969;
Soil Survey 1983

I gael gwybodaeth bellach cysylltwch os gwelwch yn dda ag Ymddiriedolaeth Archaeolegol Clwyd-Powys yn y cyfeiriad hwn neu ewch i wefan Cyngor Cefn Gwlad Cymru' yn www.ccw.gov.uk.