CPAT logo
Cymraeg / English
Tirwedd Hanesyddol Canol Dyffryn Gwy
Map o'r ardal cymeriad hon

Nodweddion Tirwedd Hanesyddol

Canol Dyffryn Gwy: Y Gelli
Cymunedau'r Gelli a Llanigon, Powys
(HLCA 1088)


CPAT PHOTO 1041-23

Bwrdeistref gastellog ganol oesol, tref farchnad gyda chaeau agored ynghlwm, yn tyfu i fod yn ganolfan gwasanaeth a masnach bwysig yn yr 17eg a'r 18fed ganrif ac yn ganolfan ddiwylliannol a thwristaidd yn y cyfnod modern.

Cefndir hanesyddol

Mae'n ymddangos fod Y Gelli, yn wahanol i aneddiadau cnewyllol yn ardal tirlun hanesyddol canol Dyffryn Gwy, yn sefydliad hollol newydd yn y cyfnod Normanaidd, er fod y rhyd sy'n croesi'r afon yma yn llawer hyn yn l pob tebyg. Mae'r castell pridd cynharaf, i'r de-ddwyrain o'r dref, yn dyddio mae'n debyg o gyfnod y goncwest Normanaidd tua 1090, ac fe'i hadeiladwyd mae'n debyg gan William Revel, y gwr a gafodd arglwyddiaeth Y Gelli gan Bernard de Neufmarch fel cydnabyddiaeth o'i ran yng nghoncwest tywysogaeth cyn-goncwest Brycheiniog. Mae'n debyg fod eglwys gynnar ar safle eglwys bresennol y Santes Fair hefyd wedi ei chodi yn y cyfnod hwn. Mae enw Saesneg y dref, sef Hwy, yn dod o'r Ffrangeg Normanaidd La Haie Taile ('y gwrych wedi'i docio'). Nid yw'n sicr beth yw union arwyddocd yr enw, er ei fod yn ymddangos fel petai'n cyfeirio at lecyn o ryw fath, amddiffynnol o bosib, wedi'i amgylchynu gan wrych yn y cyfnod cynnar hwn. Nid yw'n sicr a yw'r enw Cymraeg ar y dref, Y Gelli neu Y Gelli Gandryll yn gyfieithiad uniongyrchol, sef yr elfen celli a candryll (can darn). Fe symudodd ffocws y dref fymryn i'r gogledd-ddwyrain tua dechrau'r 13eg ganrif pan godwyd y castell carreg. Fe dyfodd tref newydd Y Gelli yng nghysgod y castell carreg ac, yn dilyn nifer o ymosodiadau yn y 13eg ganrif, fe godwyd amddiffynfeydd a phyrth carreg tua'r 1230au, pan gafodd y castell ei hun ei adnewyddu drwy orchymyn Harri III.

Ar y dechrau roedd hi'n dref bwysig o safbwynt gweinyddol o fewn yr arglwyddiaeth, ond yn dilyn cyfnod o gythrwfl ar ddechrau'r 15fed ganrif bu lleihad ym mhwysigrwydd militaraidd y castell yn y cyfnod canol hwyrach. Oherwydd ei safle amlwg yn rheoli un o'r ychydig ffyrdd i Ganol Dyffryn Gwy, manteisiodd y dref ar dwf graddol masnach yn y cyfnod canol hwyrach, a daeth yn dref farchnad bwysig ac yn ganolfan gwasanaethu ar gyfer yr ardaloedd oddi amgylch yn yr 16eg a'r 17eg ganrif. Ni thyfodd y dref yn ganolfan ddiwydiannol o bwys yn ystod y Chwyldro Diwydiannol, ond cafwyd hwb pellach i'w thyfiant wrth i'r ffyrdd tyrpeg gael eu gwella ar ddiwedd y 18fed a dechrau'r 19eg ganrif, agor y ffordd Dram o'r Gelli i Aberhonddu yn ail ddegawd y 19eg ganrif, ac agoriad Rheilffordd Henffordd, Y Gelli ac Aberhonddu yn y 1860au. Daeth nodweddion bywyd trefol rhanbarthol yn amlwg ar ddiwedd y 19eg ganrif a dechrau'r 20fed, ac ar ddiwedd yr 20fed ganrif gwelwyd adfywiad pellach yn sgl datblygu'r dref fel canolfan ddiwylliannol a thwristaidd.

Nodweddion allweddol y tirlun hanesyddol

Mae'r ardal nodwedd o fewn ardal o dir llechweddog uwchlaw'r gorlifdir ac i'r gorllewin o Cusop Dingle, yn ymestyn o lan ddeheuol afon Gwy, 80m o uchder uwchlaw Datwm yr Ordnans hyd at lechweddau isaf y bryniau sydd uwchlaw, tua 160m uwchlaw Datwm yr Ordnans. Ceir pridd bras a chochlyd yn draenio'n dda a phriddoedd mn (Cyfres Newnham) yn gorwedd ar raean ar dir is, a phriddoedd bras dyfnion, cochlyd sy'n draenio'n dda (Cyfres Esrick 1) yn gorwedd ar glog-glai cochlyd ar y tir uwch uwchlaw'r dref.

Mae'r dref ei hun yn cynnwys nifer o adeiladau o bwys o'r 13eg ganrif hyd at y 19eg ganrif, sy'n dangos y cynnydd hanesyddol a fu o'r fwrdeistref gastellog blanedig, drwy'r dref farchnad ganol oesol, i'w statws gyfoes fel canolfan wasanaethu fodern. Mae'r adeiladau canol oesol sydd wedi goroesi yn cynnwys y castell carreg a sefydlwyd mae'n debyg gan Matilda de Breos tua 1200, yn cynnwys crynwaith, twr sgwr a chysylltfur, a adnewyddwyd yn y 1230au. Mae twr Eglwys y Santes Fair yn perthyn i'r 15fed ganrif, ac fe ailadeiladwyd gweddill yr eglwys wedi iddi ddisgyn tua diwedd yr 16eg ganrif. Fe ddadfeiliodd Eglwys Ifan, capel cynnar o fewn y dref, ac fe'i hailadeiladwyd yn sylweddol yn y 1930au. Mae'n debyg mai o goed y codwyd llawer o'r tai canol oesol ac adeiladau eraill o fewn y dref ac ychydig iawn o olion, neu ddim o gwbl, a welir uwchlaw'r ddaear. Yr adeilad cynharaf a oroesodd yw'r Three Tuns, yn nodweddiadol efallai o lawer o hen adeiladau'r dref, a godwyd yn wreiddiol fel neuadd fechan gyda ffrm nenfforch o'r 16eg ganrif. Mae'n debyg mai'r deunydd adeiladu mwyaf cyffredin oedd ffrm goed gyda phaneli bangorwaith a dwb hyd at ymhell yn yr 17eg ganrif. Mae'n bosibl fod y Caf Royal yn nodweddiadol o adeiladau canol oesol hwyrach, ty trefol ffrm goed yn wreiddiol gyda llawr uchaf gloywddu, yn dyddio'n l i'r 1620au. Mae'n bosibl mai ychydig iawn o gerrig a ddefnyddiwyd o fewn y dref hyd at yn hwyr yn yr 17eg ganrif, fel yn achos plasty carreg a adeiladwyd tua'r 1660au ar bwys ochr orllewinol y castell canol oesol (a ddifrodwyd yn ddifrifol gan dn yn y 1930au a'r 1970au). Mae'n ymddangos bod amddiffynfeydd carreg y dref yn dal i'w gweld yn yr 16eg ganrif, ond roedd bron yr holl olion uwchlaw'r ddaear yn diflannu'n gyflym erbyn diwedd y 18fed a dechrau'r 19eg ganrif wrth i'r dref ehangu y tu hwnt i'w ffiniau blaenorol. Ychydig a wyddys fel arall am adeiladau'r dref, fodd bynnag, cyn dechrau'r 19eg ganrif, pan fu llawer iawn o ailadeiladu, yn aml yn parhau i fod o fewn fframwaith y cynllun strydoedd canol oesol. Fe ymddangosodd pob math o adeiladau, gan gynnwys tai trefol newydd bonheddig, adeiladau dinesig, elusendai, gwestai, tai gweithwyr, melinau, capeli anghydffurfiol, ysgolion, wyrcws a thwr cloc. Y deunyddiau adeiladu mwyaf cyffredin yn y 19eg ganrif yn dal oedd rwbel gwenithfaen a llechi, er fod mwy o ddefnydd o feini nadd a briciau coch, melyn a glas o gwmpas ffenestri a drysau.

Mae olion pendant i'w gweld o hen gaeau agored maenor Y Gelli ar y tir mwy gwastad i'r gorllewin a'r tir llechweddog i'r de o ganol y dref gydag enwau caeau megis Maes, Maesdowen a Lower Maesdowen, sy'n awgrymu hen gaeau agored. Mae'r caeau stribed i'r de o'r dref, rhwng Clay Cottage a Bryn Teg, yn arbennig o nodweddiadol, yn cynrychioli cau'r hen gaeau stribed canol oesol, bellach gydag aml i wrych isel aml-rywogaeth gan gynnwys drain gwynion, celyn a chyll. Mae rhai o'r caeau hyn, yn ogystal rhai sy'n ffinio'n uniongyrchol ffiniau deheuol a gorllewinol y dref, wedi cadw olion o gefnen a rhych, yn cynrychioli caeau stribed agored canol oesol. Fe adeiladwyd ar lawer o'r systemau caeau gwreiddiol wrth i'r dref ehangu yn ystod y 19eg a'r 20fed ganrif. Yn y cyfnod canol byddai trigolion y dref ei hun yn trin caeau agored y dref, ac mae'n debyg fod argyfyngau'r 14eg ganrif a thwf Y Gelli fel tref farchnad yn ystod y 14eg a'r 15fed ganrif wedi arwain at uno a chadarnhau'r hen ffermydd gwasgaredig ac ymddangosiad ffermydd wedi eu lleoli yn y wlad y tu allan i'r dref yn ystod y cyfnod canol hwyr, ar ymylon yr hen gaeau agored. Mae'r geuffordd sylweddol, rhwng Bryn Teg a Chaenantmelyn i'r de o'r Gelli, sy'n torri drwy ran o system y caeau stribed yn yr ardal hon, yn awgrymu bod y broses o gau'r caeau agored wedi datblygu ymhell erbyn y cyfnod l-ganol.

Mae rhannau o'r ffordd dram i geffylau rhwng Y Gelli ac Aberhonddu, a adeiladwyd ym 1816, i'w gweld hyd heddiw yn yr ardal, a'r mwyaf nodedig yw darn 400m o deras a dorrwyd i mewn i lan yr afon yn y Warren, i'r gorllewin o'r Gelli. Fe ddisodlwyd llawer o lwybr yr hen ffordd dram gan Reilffordd Henffordd, Y Gelli ac Aberhonddu ym 1862, rheilffordd a barhaodd hyd at y 1960au, ac y gellir gweld ei llwybr hyd heddiw mewn rhai mannau.

Ffynonellau


Bowen 2000;
Cadw 1988;
Cadw 1994b;
Cadw 1999;
Haslam 1979;
Hughes 1990;
Jenkins 1970;
Jervoise 1976;
Jones & Smith 1964;
King 1961;
Minchinton et al. 1961;
Morgan 1995-96;
Morris 1986-87;
Cofnod Safleoedd a Henebion Powys;
Soil Survey 1983;
Silvester & Dorling 1993;
Soulsby 1983;
Williams 1965

I gael gwybodaeth bellach cysylltwch os gwelwch yn dda ag Ymddiriedolaeth Archaeolegol Clwyd-Powys yn y cyfeiriad hwn neu ewch i wefan Cyngor Cefn Gwlad Cymru' yn www.ccw.gov.uk.