CPAT logo
Cymraeg / English
Tirwedd Hanesyddol Canol Dyffryn Gwy
Map o'r ardal cymeriad hon

Nodweddion Tirwedd Hanesyddol

Canol Dyffryn Gwy: Gwernyfed
Cymuned Gwernyfed, Powys
(HLCA 1090)


CPAT PHOTO 1042.08A

Tirlun isel a llechweddau'n disgyn yn raddol gyda hen barc ceirw a bwthyn heliwr canol oesol, gweddillion gerddi ffurfiol o gyfnod y Dadeni a thy maenor, a pharc tirlun o'r 19eg ganrif a phlasty.

Cefndir hanesyddol

Ceir arwyddion o anheddiad cynnar a defnydd o dir yn yr ardal yn hen fryngaer Aberllynfi Gaer, a godwyd yn ôl pob tebyg yn ystod yr Oes Haearn gyn-Rufeinig ddiweddar. Cafodd ei hamddiffynfeydd eu difrodi'n helaeth gan aredig ar ôl yr ail ryfel byd. Fe ddangosodd y cloddio a fu ar y safle yn y 1950au fod y gaer yn gorwedd ar anheddiad Neolithig ac iddi gael ei defnyddio eto yn y cyfnod Rhufeinig, tua diwedd y ganrif gyntaf a dechrau'r ail, pan oedd gwaith metel a gweithgareddau eraill yn digwydd o'i mewn - gwaith haearn yn seiliedig ar ddyddodion haearn lleol. Hyd yn hyn does dim tystiolaeth o anheddiad yn yr ardal yn ystod y cyfnod canol cyn-goncwest ac ymddengys, yn wahanol i rannau eraill o'r iseldir o fewn Canol Dyffryn Gwy, fod yr ardal wedi parhau'n anghysbell i'r canolfannau poblogaeth cnewyllol tan y 18fed a'r 19eg ganrif o bosib, pan ymddangosodd Felindre a Three Cocks ill dau fel aneddiadau min y ffordd ar y ffordd dyrpeg rhwng Talgarth a'r Gelli. Yn dilyn y goncwest Normanaidd daeth yr ardal o fewn is-arglwyddiaeth Y Clas ar Wy, yn gorwedd rhwng dwy is-arglwyddiaeth Y Gelli a Thalgarth oedd yn bwysicach o safbwynt strategol.

Credir fod Gwernyfed wedi cychwyn fel daliad a roddwyd i Peter Gunter gan Bernard de Neufmarché yn dilyn concwest Brycheiniog, mewn ardal a oedd efallai'n dal yn goediog iawn ar y pryd. Erbyn y 14eg ganrif roedd is-denantiaeth Seisnig wedi cael ei sefydlu yn Felindre i'r dwyrain ac is-denantiaeth Gymreig wedi ei sefydlu yn Nhyle-glas i'r gorllewin. Erbyn y cyfnod canol diweddar roedd maenordy wedi ei godi ar safle Hen Wernyfed, o bosibl ar un ochr i'r parc ceirw oedd yn ymestyn dros dir helaeth o droedfryniau'r Mynydd Du ger Felindre i lannau afon Llynfi yn Aberllynfi. Mae'n ymddangos bod y parc ceirw wedi goroesi gydag ychydig iawn o newid hyd at ddiwedd y 18fed ganrif, a'i fod yn cwmpasu ardal Little Lodge a Melin Tregoyd i'r gogledd-ddwyrain a Fferm Gwernyfed a Thyle-glas i'r de-orllewin. Fe ailadeiladwyd y maenordy yn Hen Wernyfed yn helaeth ar ddechrau'r 17eg ganrif. Mae olion gardd deras ffurfiol gyda llynnoedd pysgod cynharach y tu cefn i'r ty hefyd, yn ôl pob tebyg, yn perthyn i'r cyfnod hwn - mae gweddillion cloddwaith y teras a'r pileri carreg i ddal llidiart wrth y fynedfa wedi goroesi. Fe symudodd y perchnogion eu prif gartref i Neuadd Llangoed ger Llyswen tua'r 1730au, er fod elfennau addurnol amrywiol wedi eu hychwanegu i'r parc ceirw yn ystod diwedd y 18fed a dechrau'r 19eg ganrif, gan gynnwys cyfres o lonydd coed yn ymestyn i wahanol gyfeiriadau, pistyll dwr a drysfa. Mae'n ymddangos bod y gerddi ffurfiol y tu ôl i Hen Wernyfed wedi darfod eu hoes tua chanol y 18fed ganrif pan ddangosir y darn lle'r oedd y gerddi fel perllan.

Fe adeiladwyd plasty mawr ar arddull Jacobeaidd, Parc Gwernyfed, ar ochr ogleddol y parc yn y 1870au a'r 1880au, a dywedir ei fod yn sefyll ar safle bwthyn heliwr cynharach, ynghyd â gerddi llysiau gyda waliau o'u cwmpas. Fe osodwyd y ty newydd hwn, gyda'i rodfa hir, bwthyn a giatiau haearn gyrru enfawr, ar y llinellau cysylltu mwy newydd i'r gogledd, yn mynd trwy Three Cocks a Treble Hill, gyda Hen Wernyfed a'i adeiladau fferm yn dod yn fferm y plas. Ar y pryd roedd y parc yn dal i ymestyn dros 300 erw. Fe blannwyd coed pinwydd a ffawydd addurnol drwy'r parc ar ddiwedd y 19eg ganrif, llawer ohonynt yn dal yno, er fod llawer o dir y parc wedi ei rannu'n gaeau âr wedi i'r stad gael ei chwalu yn y 1950au, drwy gyfrwng ffensiau postyn a gwifren.

Mae llawer o ddadlau wedi bod ynglyn â gwraidd yr enw Gwernyfed, ond ymhlith yr awgrymiadau mae'r barddonol 'gwern sanctaidd' a'r 'gors wlyb' mwy rhyddieithol.

Nodweddion allweddol y tirlun hanesyddol

Tirlun isel, gwastad neu lechweddau sy'n disgyn yn raddol, gan fwyaf yn wynebu'r gogledd-orllewin rhwng 100 a 150m o uchder uwchlaw Datwm yr Ordnans. Mae'r tirlun heddiw yn gyfuniad o dir pori tir âr, tir parc a gerddi, gyda pheth planhigfeydd sy'n gymysgedd o goed collddail a choniffer. Mae'r pridd yn fân, cochlyd ac yn draenio'n dda gan fwyaf (Cyfres Milford) yn gorwedd ar wely o dywodfaen. Defnyddir y tir heddiw yn rhannol ar gyfer pori, gyda rhai cnydau âr a phorthiant.

Cyfyngir yr anheddiad o fewn yr ardal nodwedd yn bennaf i ddau dy mawr a phwysig yn Hen Wernyfed a Pharc Gwernyfed, ynghyd â'r ffermydd a'r adeiladau fferm cysylltiedig. Maenordy mawr Jacobeaidd o ddechrau'r 17eg ganrif, wedi'i godi o rwbel tywodfaen yw Hen Wernyfed ar ochr ddeheuol yr ardal (bellach yn westy). Cafodd yr adain dde-orllewinol ei dinistrio gan dân tua 1780, ac mae pâr o golomendai crwn Tuduraidd gyda tho pigfain yn y blaen-gwrt gwreiddiol. Mae'r ty yn rhan o glwstwr sy'n cynnwys adeiladau fferm, yn bennaf o'r 18fed a'r 19eg ganrif wedi eu codi o rwbel tywodfaen, wedi eu gosod o amgylch buarth, rhai gydag agen wynt, rhai o'r adeiladau mwy diweddar gydag addurniadau brics, ac yn cynnwys ysgubor ddyrnu roedd dwr sy'n llifo drwy gafn yn ei rhedeg. Codwyd hon yn y 1890au. Plasty mawr yn arddull neo-Jacobeaidd y 1870au yw Ty Parc Gwernyfed ar ochr ogleddol yr ardal (bellach yn ysgol), wedi'i godi mewn meini nadd tywodfaen, gyda bloc o stablau, bwthyn a gatiau, gardd lysiau a thai gwydr. Casgliad o adeiladau o'r 18fed ganrif yw Tyle-glas, un o'r ychydig ffermdai yn yr ardal: ffermdy wedi'i rendro ac adeiladau allanol o rwbel tywodfaen, wedi eu trawsnewid yn rhannol.

Ffynonellau


Briggs 1991a; 1991b;
Cadw 1995c;
Cadw 1999;
Haslam 1979;
Jones & Smith 1964;
Cofnod Safleoedd a Henebion Powys;
RCAHMW 1986;
Soil Survey 1983;
Williams 1965

I gael gwybodaeth bellach cysylltwch os gwelwch yn dda ag Ymddiriedolaeth Archaeolegol Clwyd-Powys yn y cyfeiriad hwn neu ewch i wefan Cyngor Cefn Gwlad Cymru' yn www.ccw.gov.uk.