CPAT logo
Cymraeg / English
Tirwedd Hanesyddol Canol Dyffryn Gwy
Map o'r ardal cymeriad hon

Nodweddion Tirwedd Hanesyddol

Canol Dyffryn Gwy: Llynfi
Cymunedau Bronllys, Felinfach, Llangors, Talgarth, Powys
(HLCA 1091)


CPAT PHOTO 00c0183

Aneddiadau cnewyllol a ffermydd mawr gwasgaredig yn tarddu o faenorau Seisnig canol oesol ynghlwm chaeau canol oesol agored a helaeth ar hyd glannau dyffryn ffrwythlon Llynfi.

Cefndir hanesyddol

Cynrychiolaeth denau sydd yma o anheddu cynnar, ond mae olion ohono mewn darnau o fflint o'r cyfnod Neolithig hyd at yr Oes Efydd gynnar, yma ac acw hyd y llethrau i'r de-orllewin o Dalgarth a gwaelod y dyffryn ger Pontithel, pen brysgyll Neolithig o wely afon Llynfi ger Bronllys, a chyn gladdfa siambr Neolithig yng Nghroes-llechau, i'r de-orllewin o Bontithel. Ni wyddys fawr mwy am hanes yr ardal hyd at y 7fed a'r 8fed ganrif, pan oedd yn rhan o dywysogaeth gynnar Brycheiniog, o dan reolaeth teulu Brychan. Y gred draddodiadol oedd mai yn Nhalgarth yr oedd llys Brychan, ac mai yn eglwys Talgarth yn l y sn y claddwyd ei ferch, Gwenffrewi. Mae'n bosibl mai Talgarth oedd ffocws anheddiad rhwymedig o'r cyfnod cyn-goncwest ar ochr ddwyreiniol afon Llynfi, yn gysylltiedig 'r llys brenhinol. Mae enwau lleoedd yn awgrymu bod Bronllys yn rhan o anheddiad rhwymedig cyn-goncwest ar wahn ar yr ochr arall i'r afon, er nad yw'r eglwys ym Mronllys, a gysegrwyd i'r Santes Fair, yn hyn na'r cyfnod l-goncwest o bosibl.

Yn dilyn y goncwest Normanaidd dan arweiniad Bernard de Neufmarch yn y 1080au roedd yr ardal yn cyffwrdd ffiniau tair is-arglwyddiaeth Cantref Selyf, Talgarth a'r Clas ar Wy. Tyfodd Bronllys i fod yn ganolfan weinyddol Cantref Selyf, a Thalgarth yn ganolfan weinyddol Talgarth, ac arglwyddi'r mers i raddau o bosibl yn mabwysiadu ac yn adeiladu ar strwythur weinyddol ac economaidd oedd eisoes yn bodoli yn yr hen dywysogaeth Gymreig a goncrwyd. Dros gyfnod o amser cafodd maenorau Seisnig eu creu o fewn yr arglwyddiaethau, rhai ohonynt yn wobr am wasanaeth milwrol. Cafodd maenorau mawr eu creu yn y ddwy ganolfan gyn-goncwest bosibl, Bronllys a Thalgarth, a rhai llai yn Pipton, Aberllynfi, Porthamel Fawr a Phorthamel-isaf a Phont-y-wal, ynghyd ag is-denantiaethau Seisnig yn Nhredustan a Coldbrook. Adeiladwyd cestyll pridd a choed ar nifer o'r daliadau hyn, fel yn Aberllynfi, Pipton, Bronllys, Tredustan a Threfeca yn niwedd yr 11eg a'r 12fed ganrif, yn l pob tebyg fel rhan o bolisi swyddogol i reoli'r diriogaeth a oedd newydd ei choncro, a'r pum ffos, dim mwy na 4km yn eu gwahanu, yn rheoli rhydau i groesi afon Llynfi. Adeiladwyd gorthwr carreg wedi hynny ym Mronllys tua'r 13eg ganrif, ac fe adeiladwyd twr sgwr yn Nhalgarth tua'r 14eg ganrif. Mae'n debyg fod y safle gyda ffos ym Mronllys yn gysylltiedig 'i statws fel maenor neu fel canolfan weinyddol y cantref. Cafodd caeau agored helaeth eu creu o gwmpas Talgarth a Bronllys ill dau, gyda chaeau agored llai yn l pob tebyg yn y maenorau llai. Mae'n debyg fod yr aneddiadau eglwysig yn Nhalgarth a Bronllys yn ffocws i aneddiadau cnewyllol o gyfnod cynnar. Tyfodd Talgarth yn dref fechan gyda 73 bwrgais ym 1309, a derbyniodd siarter bwrdeistref yn gynnar yn y 14eg ganrif. Yn dilyn y chwalu graddol a fu ar y drefn ffiwdal yn ystod diwedd y 14eg a'r 15fed ganrif, a'r uno a'r atgyfnerthu a fu ar y daliadau gwasgaredig, fe ymddangosodd llawer o'r maenorau llai a'r is-denantiaethau fel ffermydd unigol yn nwylo teuluoedd bonheddig lleol erbyn cyfnod y canol oesoedd diweddar. Wedi Deddf Uno 1536 daeth yr ardal yn rhan o gantref Talgarth yn sir Frycheiniog. Erbyn canol y 19eg ganrif roedd yr ardal nodwedd yn rhan o blwyfi Degwm Aberllynfi, Bronllys, Y Clas ar Wy, Llangors a Thalgarth.

Nodweddion allweddol y tirlun hanesyddol

Mae'r ardal nodwedd yn cynnwys tir isel o boptu afon Llynfi, rhwng 90 a 180m o uchder uwchlaw Datwm yr Ordnans. Mae'r tirlun bryn-a-phant isel yn cael ei hollti gan amryw o gymoedd cul a serth megis Coldbrook, afon Dulas, Ennig a Nant yr Eiddil, gydag ysgawen, cyll a helyg yn tyfu bob ochr, a darnau o dir mwy gwastad ar hyd afon Llynfi lle mae'r afon yn tueddu i orlifo. Mae'r priddoedd yn cynnwys pridd lleidiog hydreiddiol di-garreg a phridd mn lleidiog cochlyd yn gorwedd ar lifwaddod yr afon (Cyfres Teme a Lugwardine) ar y tir isel i'r gogledd o Dalgarth, gyda phriddoedd cochlyd mn sy'n draenio'n dda ar wely o graig mewn mannau eraill (Cyfres Milford). Defnyddir y tir heddiw ar gyfer pori a pheth tir r ar gyfer cnydau porthiant, cnydau gwraidd a grawn.

Bu ehangu cyflym ym Mronllys a Thalgarth ill dau yn yr 19eg ganrif a'r 20fed ac ar yr wyneb, ychydig iawn o olion canol oesol cynnar a chanol oesol a welir, ar wahn i ddeunydd canol oesol yr eglwys a'r safleoedd amddiffynnol. Mae'r eglwys a gysegrwyd i Santes Gwenffrewi a'r Ty Caerog amddiffynnol ymhlith yr adeiladau pwysicaf sydd wedi goroesi o'r canol oesoedd yn Nhalgarth. Y Ty Caerog yw un o'r ychydig adeiladau o'i fath sydd ar l yng Nghymru. Cynrychiolir llinell derfyn o adeiladau domestig coed o'r oesoedd canol diweddar gan yr Old Radnor Arms, ty neuadd coed yn wreiddiol o ddiwedd y 15fed ganrif efallai, ei waliau allanol wedi eu hailgodi cherrig yn gynnar yn y 19eg ganrif. Mae'r rhan fwyaf o'r adeiladau yn y dref yn perthyn i'r cyfnod pan ddaeth y dref i'r amlwg fel tref farchnad a chanolfan gyfathrebu yn ystod y 19eg ganrif, yn sgl ei safle yn union yng nghanol rhwydwaith leol y ffyrdd tyrpeg a'i safle wedi hynny ar linell tramiau y Gelli-Aberhonddu ac wedyn Rheilffordd Henffordd, Y Gelli ac Aberhonddu. Mae adeiladau'r cyfnod hwn yn cynnwys rhesi o fythynnod gweithwyr o ddiwedd y 18fed ganrif neu ddechrau'r 19eg ganrif, tai unigol o'r 19eg ganrif, ac amrywiaeth ddiddorol o adeiladau annomestig o'r 19eg ganrif, gan gynnwys melin, capeli anghydffurfiol, hen ysgol, neuadd y dref, amryw o dafarnau megis Bridge End Inn a hen stablau a bragdy yn yr Old Radnor Arms, siopau, gwesty, a gorsaf reilffordd. Codwyd yr adeiladau canol oesol ac l-ganol oesol yn ddieithriad o rwbel tywodfaen, wedi ei rendro weithiau, ynghyd nifer o adeiladau brics gydag addurniadau tywodfaen, neu gerrig gydag addurniadau brics glas neu felyn. Mae'r ffaith fod y toeau teiliau carreg ym Melin Talgarth a'r Old Radnor Arms yn awgrymu mai hwn oedd y deunydd toi mwyaf cyffredin yn y dref cyn diwedd y 18fed a dechrau'r 19eg ganrif, pan gawsant eu disodli gan lechi yn niwedd y 19eg ganrif, ynghyd theiliau ceramig ar frig y to ambell waith.

Mae llawer o dopograffeg a chynllun strydoedd y dref ganol oesol wedi goroesi, er fod llawer o'r caeau agored canol oesol oedd yn perthyn i'r anheddiad wedi diflannu o dan dai o'r 20fed ganrif a datblygiadau diwydiannol ysgafn ar ochr ogleddol y dref. Pwysleisir gwreiddiau amaethyddol Talgarth gan y ffaith fod Fferm Great House wedi goroesi o fewn y dref. Y ffermdy hwn (a adeiladwyd cherrig o'r 19eg ganrif gan fwyaf ond sydd 'i wreiddiau yn yr 17eg ganrif) yw un o'r tai mwyaf o fewn y dref, ac mae'r fferm yn l pob tebyg yn ganlyniad i uno ac atgyfnerthu daliadau llai yng nghyfnod yr oesoedd canol diweddar a'r cyfnod l-ganol oesol cynnar. Mae gan y fferm ysgubor fawr urddasol wedi'i chodi o frics o ddiwedd y 18fed ganrif gyda thyllau colomennod ar gyfer blychau nythu : enghraifft dda, er yn gymharol anarferol yn y rhanbarth, o adeilad fferm a godwyd o frics ar l y gwelliannau, ac wedyn wedi ei drawsnewid ar gyfer defnydd gwahanol. Mae twr canol oesol yr eglwys a'r castell carreg canol oesol ym Mronllys yn bwysig o safbwynt pensaernol ond, fel Talgarth, tai a bythynnod gweithwyr o ddiwedd y 18fed a dechrau'r 19eg ganrif yw'r rhan fwyaf o'r adeiladau cynharaf - roedd twf yr anheddiad ar y pryd yn ganlyniad i welliannau yn rhwydwaith y ffyrdd. Cysylltiadau, a'r ffaith fod darnau mawr o dir addas ar gael i adeiladu, a arweiniodd at ddatblygu dwy ysbyty ar raddfa fawr ar ddechrau'r 20fed ganrif ychydig y tu allan i Dalgarth a Bronllys, gan adfywio'r ddau anheddiad ar y pryd. Adeiladwyd Ysbyty Talgarth ar ran o stad Chancefield ychydig i'r de-ddwyrain o'r dref ym mlynyddoedd cynnar yr 20fed ganrif fel gwallgofdy, ynghyd chapel ar wahn, tai a bythynnod gweithwyr a gwaith cynorthwyol arall. Adeiladwyd Ysbyty Bronllys, ynghyd neuadd hamdden a chapel, fel sanatoriwm darfodedigaeth yn ystod y 1920au o fewn hen dir parc Plasty Pont-y-wal i'r gogledd-orllewin o Bronllys.

Nodweddir anheddiad gwledig y tu allan i anheddiad cnewyllol Talgarth a Bronllys gan gyfres o ffermdai cymharol fonheddig a thai bonedd sy'n mynd yn l, fel y nodwyd uchod, i gyfres o faenorau canol oesol a sefydlwyd o fewn tiroedd ffrwythlon dyffryn Llynfi. Mae'r ffermydd gryn dipyn ar wahn, yn aml tua 800-1000m oddi wrth ei gilydd, ac wedi eu gosod ychydig y tu allan i Fronllys a Thalgarth er mwyn osgoi'r caeau agored oedd yn amgylchynu'r ddau le ar un adeg. Yr adeiladau cynharaf sy'n perthyn i'r llinell derfyn hon yw dau dy tywodfaen o oes Elisabeth, Great Porthamel a Threfeca-isaf, y ddau yn adeiladau nodedig. Disgrifiwyd Great Porthamel fel 'un o'r tai canol oesol mwyaf rhyfeddol yng Nghymru', neuadd yn wreiddiol o ddiwedd yr 16eg ganrif, wedi ei hadeiladu gan Roger Vaughan, Uchel Siryf cyntaf Sir Frycheiniog wedi'r Ddeddf Uno, ac wedi ei gosod ar un adeg gyda waliau'n ei hamgylchynu. Y fynedfa i'r cyffin hwn oedd ty porth deulawr a welir hyd heddiw, un o nodweddion tai eraill uchel eu statws o'r 16eg ganrif o gwmpas y gororau. Yn wreiddiol, ffermdy talcennog o'r 16eg ganrif yw Trefeca-isaf (Fferm Coleg Trefeca yn ddiweddarach), gyda mynedfa flociau Duduraidd o 1576, y credir iddo fod yn gartref i Walter Prosser, Uchel Siryf Sir Frycheiniog ym 1592. Fe estynnwyd y ty ar ddiwedd y 18fed ganrif gan Arglwyddes Huntingdon, cyfaill Howel Harris, fel academi i bregethwyr Methodistaidd, gyda thu blaen Gothig stucco hynod. Adeiladwyd neu ailadeiladwyd y tai a'r ffermdai eraill yn yr ardal gan fwyaf yn yr 17eg a'r 18fed ganrif. Mae'r tai bonedd a godwyd mewn tywodfaen yn Nhrefeca Fawr, Cwrt Tredustan, Neuadd Tredustan a Marish, yn perthyn i'r cyfnod hwn, gydag ysguboriau a beudai cyfoes yn gysylltiedig mewn rhai achosion, ac mae teiliau to carreg wedi goroesi yng Nghwrt Tredustan. Mae tai llai eu maint o'r 17eg ganrif yn cynnwys y ty carreg a'r hen dafarn ochr-y-ffordd yn Spread Eagle, a adeiladwyd ar lwyfan safle. Hefyd yn perthyn i'r 18fed ganrif y mae Coleg Trefeca a adeiladwyd fel cymuned grefyddol hunangynhaliol gan yr arweinydd Methodistaidd carismatig Howell Harris yn y 1750au mewn arddull 'Gothig Strawberry Hill'. Parhaodd yr adeilad i fod yn ganolfan dyfeisgarwch diwydiannol ac amaethyddol leol hyd at flynyddoedd cynnar y 19eg ganrif. Daeth i fod yn Goleg Diwinyddol i'r Methodistiaid Calfinaidd rhwng 1842 a 1906, ac ychwanegwyd llety i fyfyrwyr ym 1867. Mae tai diweddarach ar safleoedd cynharach yn cynnwys Pipton, ffermdy mawr carreg o ddechrau'r 19eg ganrif gydag ysguboriau carreg a thai gweision ffermydd carreg gydag addurniadau brics, a phlasty Pont-y-wal o'r 19eg ganrif.

Roedd parciau a gerddi yn gysylltiedig nifer o'r tai, ac mae rhywfaint o'r olion wedi goroesi. Mae map gan Saxton o ddechrau'r 17eg ganrif yn awgrymu bod Great Porthamel ar un adeg o fewn parc ceirw oedd yn ymestyn hyd at lannau afon Llynfi. Mae'r gerddi modern yn Nhrefeca Fawr yn cynnwys nifer o elfennau sy'n awgrymu bod y ty yn gysylltiedig gerddi ffurfiol a llynnoedd pysgod yn y cyfnod canol diweddar. Lleolir Plasty Pont-y-wal o fewn parc tirlun o'r 19eg ganrif a ddaeth wedyn yn dir i Ysbyty Bronllys, ond a oedd yn bodoli mae'n debyg yr un pryd a'r hen dy o'r 18fed ganrif ym Mhont-y-wal, neu'r un o'i flaen. Dangosir perllannau helaeth ar hyd yr ardal ar fapiau o'r ardal yng nghanol y 19eg ganrif o gwmpas Bronllys a Thalgarth, a ffermydd a thai yn y wlad oddi amgylch, gan gynnwys Pipton, Lower Porthamel, Cwrt Tredustan, a Threfeca, er enghraifft. Mae rhai olion o'r perllannau i'w gweld hyd heddiw, ac mae'n bosib fod rhai ohonynt yn tarddu o'r cyfnod canol diweddar. Mae'r enw Upper Hop Yard, a welir yn Rhaniad y Degwm o'r 19eg ganrif, yn awgrymu bod hopys yn cael eu tyfu ger Lower Porthamel.

Mae amryw o wahanol batrymau o gaeau yn amlwg o fewn yr ardal nodwedd. Cynrychiolir olion hen gaeau agored canol oesol gan gaeau stribed neu gan gefnen a rhych, sy'n aml yn rhedeg i fyny ac i lawr y gyfuchlin os yw'r tir ar lechwedd. Roedd Bronllys yn dal i fod yn blwyf tir agored hyd at y 19eg ganrif, ac mae cynllun y caeau ar fap Degwm 1839 yn awgrymu trefn tri chae fel Llyswen, gyda Minfield i'r gogledd o'r pentref, Coldbrook Field i'r gogledd-ddwyrain, a chydag un neu fwy o gaeau r agored i'r gorllewin a'r de-orllewin, a awgrymir gan enwau caeau megis Maes Waldish, Maes dan Derwad, a Maes y bach. Yn yr un modd, mae gan Dalgarth hefyd gynllun tri chae, gyda Red Field yn y gogledd-ddwyrain, Briar Field yn y de-orllewin a Lowest Common Field rhwng y dref ac afon Llynfi. Mae'n ymddangos bod llawer ohono wedi ei gau efallai yn y 18fed ganrif. Fe gollwyd llawer rhan o'r hen gaeau agored i dai a datblygiadau eraill, er fod darnau o gaeau stribed neu gefnen a rhych yn dal i fod i'r gogledd o Dalgarth, i'r gogledd o Fronllys, i'r gogledd-ddwyrain o Fronllys ym Mhenmaes ac i'r dwyrain o Marish, ac i'r gogledd-ddwyrain o Drevithel. Mae gwrychoedd aml-rywogaeth yn tyfu ar ffiniau llawer o'r caeau stribed a gaewyd, gan gynnwys drain duon, ynn, cyll a drain gwynion, rhai ohonynt wedi eu cadw'n dda ac eraill wedi dirywio, gyda rhai coed derw aeddfed yma ac acw. Mae'n ymddangos bod y caeau petryal canolig eu maint ar y tir isel o gwmpas afon Llynfi yn cynrychioli cau diweddarach ar y dolydd, gyda rhai darnau o lifddolydd ar un adeg wedi eu rhannu gan ddraeniau llydan agored.

Mae'n debyg fod dyffryn Llynfi yn llwybr pwysig i gysylltu dyffrynnoedd Gwy a Wysg o'r cyfnod cynhanesyddol a'r cyfnod Rhufeinig hyd at y dydd heddiw, ac o ganlyniad mae'r ardal yn cynnwys amryw o adeiladau sy'n datgelu hanes trafnidiaeth yn y rhanbarth. Fe wnaed newidiadau mawr i'r rhwydwaith cysylltiadau lleol wrth i'r ffyrdd tyrpeg gael eu gwella ar ddiwedd y 18fed a dechrau'r 19eg ganrif, ac er nad yw'r hen fythynnod tollau yn dal i fodoli yn Giat Dewsbury (ar ffordd Bronllys-Y Clas ar Wy), Giat Trefecca (ar ffordd Talgarth-Aberhonddu) a Giat Grigos (ar ffordd Talgarth-Y Clas ar Wy) mae nifer o gerrig milltir i'w gweld hyd heddiw, ger Marish, Trefeca, Talgarth, a Phorthamel. Ychydig o'r pontydd ffordd sydd ar l : fe ddisodlwyd llawer o'r pontydd cynnar 'r rhai oedd yn perthyn i gyfnod y ffyrdd tyrpeg yn ystod yr 20fed ganrif, gan gynnwys Pont Coldbrook i'r gogledd-ddwyrain o Fronllys, Pont Nichol i'r de-orllewin o Dalgarth, Pont Glandwr, Pont Castell Bronllys, a'r bont oedd yn croesi afon Llynfi yn Pipton. Caiff pontydd sy'n croesi afon Llynfi ym Mhontithel a Pipton eu crybwyll gyntaf ar ddiwedd yr 17eg ganrif, ac mae'n bosib mai pontydd pren oeddynt. Mae pont ffordd gynnar, yn croesi afon Ennig yn Nhalgarth, o gyfnod yr oesoedd canol o bosibl, wedi goroesi, ac mae pont fechan garreg un bwa o'r ?18fed ganrif ar draws afon Ennig wedi goroesi ar y ffordd eilradd i'r de o Dalgarth. Mae pont hyfryd o'r 19eg ganrif gyda thri bwa a gwaith carreg wyneb craig ym Mhontithel wedi cael ei lledu yn hytrach na'i disodli.

Gellir gweld rhannau o'r ffordd dram ar gyfer ceffylau rhwng Y Gelli ac Aberhonddu, a adeiladwyd ym 1816, hyd heddiw yn yr ardal. Fe gymerwyd llawer o lwybr yr hen dramffordd gan Reilffordd Y Gelli, Henffordd ac Aberhonddu ym 1862, rheilffordd oedd yn parhau yn weithredol hyd at y 1960au. Mae'r nodweddion tirlun sydd wedi goroesi o'r rheilffordd o fewn yr ardal nodwedd yn cynnwys pentanau pontydd, argloddiau, adfeilion yr orsaf yng Nglandwr, a'r hen orsaf reilffordd yn Nhalgarth.

Cynrychiolir hen ddiwydiannau prosesu yn yr ardal gan felinau dwr ar afon Ennig yn Nhalgarth (mae adeilad y felin a nifer o'r meini melin wedi goroesi mewn gardd ty ar ochr ddeheuol y dref) ac yn Chancefield, a chan hen felinau ym Mhont Nicol ar afon Llynfi i'r gogledd o Drefeca, ac ar Nant yr Eiddil yn Felin Cwm i'r de o Drefeca. Cynrychiolir diwydiannau cloddio gan nifer o chwareli bychain gwasgaredig ar gyfer cerrig adeiladu a cherrig calch o bosib, ac amryw o dyllau graean bychain ger Tregunter, Aberllynfi a Bronllys.

Ffynonellau


Baughan 1980;
Briggs 1991a;
Cadw 1995a;
Cadw 1995b;
Cadw 1998a;
Cadw 1999;
Clinker 1960;
Davies 1987;
Haslam 1979;
Grove 1962;
Jervoise 1976;
Jones & Smith 1964;
Holden 2000;
King 1983;
Martin & Walters 1993;
Cofnod Safleoedd a Henebion Powys;
RCAHMW 1997;
Rees 1932;
Silvester 1999a;
Soulsby 1983;
Spurgeon 1981;
Sylvester 1969;
Soil Survey 1983

I gael gwybodaeth bellach cysylltwch os gwelwch yn dda ag Ymddiriedolaeth Archaeolegol Clwyd-Powys yn y cyfeiriad hwn neu ewch i wefan Cyngor Cefn Gwlad Cymru' yn www.ccw.gov.uk.