CPAT logo
Cymraeg / English
Tirwedd Hanesyddol Canol Dyffryn Gwy
Map o'r ardal cymeriad hon

Nodweddion Tirwedd Hanesyddol

Canol Dyffryn Gwy: Ffostyll
Cymunedau Gwernyfed a Thalgarth, Powys
(HLCA 1093)


CPAT PHOTO 1040-06

Anheddiad eglwysig bychan unig yn Llaneleu, wedi'i amgylchynu gan dir bryniog isel ar droed y Mynydd Du, gyda ffermydd gwasgaredig o fewn tirlun o lechweddau coediog a chaeau amlochrog, wedi eu cau gyntaf efallai yn y cyfnod ôl-ganol oesol cynnar.

Cefndir hanesyddol

Cynrychiolir gweithgarwch cynhanesyddol cynnar gan bâr cyfagos o garneddi hir Neolithig yn Ffostyll, ynghyd ag amryw o hen domenni crynion o'r Oes Efydd a chylch cerrig posibl na ellir bellach ei weld uwchlaw'r ddaear, a thomen bosibl a ddarganfuwyd yn ddiweddar. Awgrymir anheddiad cynhanesyddol gan amryw o ddarnau o fflint ar wasgar hyd y lle, yn arbennig yng nghyffiniau carneddi hirion Ffostyll. Mae gwneuthuriad yr eglwys a gysegrwyd i Santes Ellyw yn Llaneleu yn dyddio o tua'r 13eg ganrif er ei bod yn sefyll o fewn mynwent fawr gron ac yn cael ei chysylltu â dwy garreg gyda chroes wedi'i naddu arnynt o'r 7fed hyd at 9fed ganrif, sy'n awgrymu bod yr eglwys yn rhan o anheddiad rhwymedig cyn-goncwest. Wedi'r goncwest Normanaidd daeth yr ardal yn rhan o is-arglwyddiaeth Talgarth ac wedi'r Ddeddf Uno ym 1536 daeth yn rhan o gantref Talgarth. Yng nghanol y 19eg ganrif roedd yr ardal yn rhan o blwyfi degwm Bronllys, Y Clas ar Wy, Llaneleu, a Thalgarth.

Nodweddion allweddol y tirlun hanesyddol

Mae'r ardal yn gorwedd ar dir isel yn wynebu'r gogledd-orllewin gan fwyaf, rhwng 150 a 350m o uchder uwchlaw Datwm yr Ordnans. Priddoedd mân cochlyd sy'n draenio'n dda a geir gan fwyaf (Cyfres Milford), ar wely o dywodfaen. Defnyddir y rhan fwyaf o'r tir heddiw ar gyfer pori, gyda darnau o weddillion coedlannau hynafol llydanddail lled-naturiol wedi goroesi ar y llechweddau mwy serth yn Park Wood a Bradwys.

Mae anheddiad eglwysig bychan Llaneleu, ym mhen draw cwm dwfn Cwm Rhyd-Ellyw, yn cynnwys clwstwr o ffermydd ac adeiladau fferm carreg, gan gynnwys Cwrt Llanelieu a Thy-du. Mae'n debyg fod y rhain yn wreiddiol yn ganlyniad uno'r daliadau llai yn y cyfnod canol oesol diweddar, er fod gan y ffermdy yng Nghwrt Llanelieu ddau borth bwaog oedd o bosibl yn perthyn i gell fynachaidd Priordy Llanthony o'r 14eg ganrif, oedd â chanolfan yn Llanelieu. Cynrychiolir anheddu yn y wlad oddi amgylch yn bennaf gan ffermydd mawr neu ganolig eu maint o'r 18fed ganrif, gyda ffynnon neu nant yn gysylltiedig, a'r hyn sy'n nodweddiadol yw'r ffermdai a'r adeiladau allanol carreg gwreiddiol, fel yn Ffostyll.

Nodweddir y tirlun amaethyddol gan gyfres o gaeau aml-ochrog, ychydig islaw Tir Comin agored Comin Rhos Fach a Chomin Rhos Fawr, sy'n cael eu diffinio yn gyffredinol gan wrychoedd isel aml-rywogaeth, gyda chloddiau mawr â wyneb o gerrig sychion neu gerrig sythion yn diffinio terfynau'r comin. Mae yna gloddiau clirio cerrig diweddar ar hyd ymylon rhai o'r ffyrdd.

Mae llawer o'r lonydd troellog, ceuffyrdd a llwybrau troed sy'n croesi'r ardal yn eithriadol o hen yn ôl pob tebyg, yn cysylltu ffermydd y tir isel yn nyffryn afon Llynfi islaw, gyda thiroedd pori ucheldiroedd y Mynydd Du uwchlaw, ac yn rhedeg drwy geuffyrdd amlwg hyd at 3m o ddyfnder ar dir serth iawn. Ar dir mwy gwastad yr ucheldir mae'r lonydd yn sythach ac mae'n debyg na chawsant eu sefydlu'n iawn tan i'r tiroedd gael eu cau gyntaf.

Cynrychiolir diwydiant yn yr ardal gan hen odynnau calch o gyfnod ôl-ganol oesol mae'n debyg, wedi eu cofnodi yn Park Wood ac i'r gogledd o Fferm Gwernllwyd. Awgrymir odynnau calch eraill i'r gogledd o Bwll-y-wrach ac i'r de-orllewin o Laneleu, gan enwau caeau megis Cae rodin a Cae y roden (sef Cae'r odyn) a gofnodwyd fel enwau caeau yn nogfen y Degwm yng nghanol y 19eg ganrif.

Ffynonellau


Bevan & Sothern 1991;
Cadw 1995a;
Cadw 1995c;
Haslam 1976;
Jenkinson 1997;
Jones & Smith 1964;
Cofnod Safleoedd a Henebion Powys;
Silvester 1999a;
Silvester & Dorling 1993;
Soil Survey 1983;
Williams 1976

I gael gwybodaeth bellach cysylltwch os gwelwch yn dda ag Ymddiriedolaeth Archaeolegol Clwyd-Powys yn y cyfeiriad hwn neu ewch i wefan Cyngor Cefn Gwlad Cymru' yn www.ccw.gov.uk.