CPAT logo
Cymraeg / English
Tirwedd Hanesyddol Canol Dyffryn Gwy
Map o'r ardal cymeriad hon

Nodweddion Tirwedd Hanesyddol

Canol Dyffryn Gwy: Gwrlodde
Cymuned Talgarth, Powys
(HLCA 1094)


CPAT PHOTO 1038-07

Ffermydd gwasgaredig a chaeau bychain trefnus o ganlyniad i glirio coedlannau yn systematig a chau tir ar droedfryniau llechweddog y Mynydd Du i'r de o Dalgarth yn ystod y canol oesoedd.

Cefndir hanesyddol

Dangosir anheddiad cynnar yn yr ardal gan garn hir Neolithig ym Mhenyrwrlodd (Talgarth) a chan ddarganfyddiadau ar yr wyneb o ddarnau o fflint o'r cyfnod Neolithig a'r Oes Efydd yn ardal Genffordd. Dangosir anheddiad cynhanesyddol diweddarach gan fryngaer Pendre o'r Oes Haearn. Ni wyddys unrhyw beth am weithgarwch canol oesol cynnar neu ganol oesol yn yr ardal cyn y goncwest, ac mae'n bosibl fod coed yn gorchuddio'r rhan fwyaf o'r ardal ar yr adeg hon. Wedi'r goncwest Normanaidd daeth yr ardal yn rhan o is-arglwyddiaeth Talgarth. Mae'r ddwy fferm o'r enw Upper a Lower Trewalkin, oedd yn ffurfio treflan yn agos i ganol yr ardal nodwedd, yn tarddu o gyfnod y goncwest Normanaidd. Fe'u henwyd ar l Walkelin Viseldon. Roedd ei dad, Humphrey, wedi cydfrwydro Bernard de Neufmarch i goncro Brycheiniog, ac mae'n ymddangos iddo dderbyn y faenor fel rhodd ac, yn l pob tebyg, y mwnt yng Ngharn-y-Castell, sy'n sefyll ar esgair ychydig islaw'r Mynydd Du. Mae'n bosibl y gellir derbyn mai hwn oedd 'Castell Waynard' y cyfeirir ato mewn ffynhonnell o ddechrau'r 12fed ganrif. Fe fforffedwyd y faenor wedi hynny a'i throsglwyddo i ofal mynachod Benedictaidd Priordy Aberhonddu, a achosodd anghydfod wrth geisio asartio tir, rhwng Trewalkin a Fferm Whitelow a Garn-y-Castell yn l pob tebyg, ar waelod Mynydd Troed. Erbyn y 14eg ganrif roedd Genffordd yn is-denantiaeth Seisnig a Garn-y-castell yn denantiaeth ryddfraint Gymreig o fewn yr arglwyddiaeth. Ac eithrio amryw o gaeau o fewn Llangors, roedd gweddill yr ardal yn dod o fewn plwyf degwm Talgarth erbyn canol y 19eg ganrif.

Nodweddion allweddol y tirlun hanesyddol

Saif yr ardal ar dir mynyddig isel ar ymyl gogleddol y Mynydd Du, rhwng Mynydd Troed a Thalgarth, wedi ei rhannu gan ddyffrynnoedd dyfnion gyda llechweddau coediog serth, yn cynnwys nentydd sy'n llifo'n gyflym, a rhaeadrau, gan gynnwys Ennig a Nant yr Eiddil. Mae'r ardal yn wynebu'r gogledd gan fwyaf, rhwng 125 a 370m o uchder uwchlaw Datwm yr Ordnans. Priddoedd cochlyd mn sy'n draenio'n dda sydd yno gan fwyaf (Cyfres Milford) ar wely o dywodfaen. Erbyn heddiw defnyddir y tir bron yn gyfan gwbl ar gyfer pori, ac mae rhedyn a thyfiant gwyllt yn ymestyn iddo mewn rhai rhannau mwy ymylol.

Nodweddir yr anheddiad presennol gan ffermydd bychain neu ganolig eu maint, ar ochr y ffordd, yn aml wedi eu gosod mewn clystyrau, rhwng 700 ac 800m ar wahn. Cynrychiolir y llinell derfyn adeiladu gynharaf sydd wedi goroesi gan ffermydd oedd yn wreiddiol yn dai hirion ac wedi eu gosod yn nodweddiadol ar lwyfannau a adeiladwyd i fyny ac i lawr y llechwedd, fel yn Fferm Whole House, Upper Trewalkin a Lower Genffordd, o gyfnod diwedd yr 16eg ganrif o bosibl ac yn cyfoesi 'r patrwm o gau tiroedd o fewn ardal nodwedd y tirlun hanesyddol. Mae'r ffermdy ym Middle Genffordd, a addaswyd yn helaeth ar ddiwedd y 18fed a dechrau'r 19eg ganrif, wedi cadw'r nenfforch uwch ac mae nenffyrdd a ailddefnyddiwyd wedi goroesi yn nho ysgubor Gwrlodde. Ymddengys fod gan y ffermdy yn y Rhos, o ddiwedd yr 16eg ganrif o bosibl, lawr carreg a llawr cyntaf ffrm goed. Cynrychiolir llinell derfyn adeiladu gynharach o bosibl gan safleoedd llwyfan: cofnodir nifer ohonynt yn yr ardal rhwng Penisha Rhos a Blaenau-isaf. Cynrychiolir casgliadau o ffermdai ac adeiladau allanol o'r 17eg ganrif hyd at ddechrau'r 19eg ganrif, o amgylch buarth fferm yn aml, yng Ngwrlodde, y Rhos, Troed-yr-harn, Cwm, a Rhyd-y-pont, aml i waith gydag ysguboriau a drysau trol ac agennau gwynt, a llofftydd colomennod ar dalcen yr ysgubor ym Mhentwyn a than y bondo yn ffermdy Pendre. Mae hen grasdy, o'r 17eg ganrif neu ddechrau'r 18fed, wedi goroesi yng Ngwrlodde. Mae'r ffermdy brics diweddarach, o ddechrau'r 19eg ganrif, yn y Rhos, yn weddol anarferol yn yr ardal. Llechi yw'r deunydd toi gan fwyaf, er fod llawer o doeau'r ysguboriau bellach yn do sinc rhychog. Fe gefnwyd ar rai o'r ffermydd mwy ymylol ers diwedd y 19eg ganrif wrth i ddaliadau gael eu huno, gan adael ffermdai ac adeiladau allanol wedi adfeilio neu chwalu, fel ym Mlaenau-isaf, er fod yr adeiladau wedi parhau i gael eu defnyddio mewn rhai achosion, fel ym Mlaenau-uchaf. Mae nifer o fythynnod a ffermydd bychain adfeiliedig yma ac acw mewn rhai mannau yn dangos y cefnu a'r uno a fu ar nifer o ddaliadau llai mewn ardaloedd mwy ymylol yn ystod y 19eg ganrif.

Mae tirlun caedig pendant yn perthyn i'r ardal, gyda chaeau bychain unionlin yn cynrychioli asartio a chau systematig a chynyddol o gyfnod y canol oesoedd ymlaen. Gwrychoedd isel aml-rywogaeth cryfion sy'n ffurfio'r rhan fwyaf o derfynau'r caeau, gan gynnwys ynn, cyll, derw a chelyn. Mewn rhai ardaloedd roedd y clirio a'r cau a fu ar dir amaethyddol eisoes wedi cyrraedd ymylon y tir mynydd erbyn canol y 13eg ganrif. Mae cofnodion yn awgrymu bod mynachod Priordy Aberhonddu, yn ystod degawdau cyntaf y 13eg ganrif, yn ymestyn y tir a ddelid ganddynt yn Nhrewalkin drwy glirio coedlannau i gyfeiriad Mynydd Troed, ar uchder o rhwng 300 a 400m uwchlaw Datwm yr Ordnans. Mae plannu gwrychoedd yn dal i ddigwydd ar dir is, er fod gwrychoedd diffaith neu dreuliedig yn aml yn cael eu disodli gan ffensiau postyn a gwifren ar dir uwch. Mae gwrychoedd un rhywogaeth draenen wen yn amgylchynu rhai caeau ar dir uwch a gaewyd yn ddiweddarach, wedi eu gosod ar gloddiau isel neu o faint cymedrol, ac yn cynrychioli'r cau a fu ar hen diroedd pori yn yr ucheldiroedd yn y 18fed a'r 19eg ganrif. Mae rhywfaint o ffurf lasleiniol ar dir mwy serth yn cynrychioli trin helaethach ar y tir ar un adeg, a chynrychiolir hen derfynau caeau weithiau gan gloddiau isel. Mae nifer o gorlannau defaid ar ymyl y comin ger Pen-y-bryn, rhai ohonynt wedi eu cofnodi gyntaf ar argraffiadau cynnar y mapiau Arolwg Ordnans a gyhoeddwyd ar ddiwedd y 19eg ganrif. Dangosir ffald anifeiliaid ym Mhenygenffordd ar y Map Degwm o ganol y 19eg ganrif. Roedd perllannau ynghlwm llawer o'r ffermydd megis Trewalkin, Whole House, Whitelow, Genffordd, Gwrlodde, Pendre, a Phentwyn, yn y 19eg ganrif, ac mae olion rhai ohonynt i'w gweld hyd heddiw.

Mae lonydd bychain a lonydd glas yn rhwydwaith rheolaidd ar draws yr ardal, yn cydoesi 'r patrwm o gau tiroedd ac yn cysylltu'r ffermydd drwy'r ardal i gyd, yn rhedeg drwy geuffyrdd, rhai hyd at 5m neu fwy mewn dyfnder ac yn amlwg yn hynafol iawn. Fe ddisodlwyd y ffordd ganol oesol i'r de o Dalgarth drwy Genffordd gan y briffordd bresennol i Grughywel, ffordd dyrpeg o ddiwedd y 18fed neu ddechrau'r 19eg ganrif sy'n torri ar draws patrwm terfynau cynharach y caeau. Mae pontydd bychain concrid modern wedi disodli llawer o'r hen rydau oedd yn croesi'r nentydd yn yr ardal, er fod amryw o bontydd slabiau cerrig wedi goroesi, fel yr un ger mynedfa Blaenau-isaf, er enghraifft.

Cynrychiolir y diwydiant cloddio gan chwareli bychain gwasgaredig ar gyfer cerrig adeiladu, yn dyddio mae'n debyg o'r 17eg ganrif ymlaen pan oedd cerrig yn dechrau disodli coed fel deunydd adeiladu, ynghyd nifer o chwareli calch, yn l pob tebyg ar gyfer cynhyrchu calch. Nid oes unrhyw odynnau calch wedi cael eu darganfod yn yr ardal er fod nifer o enwau caeau gydag elfennau Cae'r Odyn i'r gogledd o Droed-yr-harn ac i'r dwyrain o fferm Penyrwrlodd, yn awgrymu hen odynnau oedd yn cynhyrchu calch amaethyddol yn l pob tebyg yn ystod y cyfnod yn dilyn cyflwyno gwelliannau amaethyddol ar ddiwedd y 18fed a dechrau'r 19eg ganrif. Mae'n bosibl fod chwareli bas ar wyneb y tir i'r de o garn hir Neolithig Penyrwrlodd wedi cael eu defnyddio fel ffynhonnell cerrig adeiladu i adeiladu'r garn. Roedd dyddodion clai ar ochr dyffryn serth i'r gorllewin o fferm Whole House, yn cyflenwi odyn grochenwaith leol sydd bellach wedi ei dinistrio, oedd yn cynhyrchu tygiau, jwgiau, jariau, llestri slip a phowlenni a theiliau brig to wedi'u sgleinio rhwng tua chanol yr 17eg ganrif a dechrau'r 18fed ganrif. Yr unig dystiolaeth arall o ddiwydiant yn yr ardal nodwedd yw pwll llifio a gofnodwyd yng Ngenffordd yn y 19eg ganrif.

Cynrychiolir elfennau amddiffynnol o bwys yn y tirlun gan nifer o geyrydd cloddwaith, sef y fryngaer o'r Oes Haearn ym Mhendre, gyda'r ffos allanol bosibl wedi dirywio yn sgl aredig, y gwaith crwn canol oesol yng Nghefn Bank, i'r de o Drefeca Fawr - mae chwarel yn torri ar amddiffynfeydd y de a'r gorllewin yma - a mwnt Garn-y-castell ar ymyl y rhostir ar waelod Mynydd Troed, llecyn lle bu rhywfaint o aredig ond lle mae'r ffos yn weladwy o hyd mewn mannau.

Cyfyngir olion crefyddol yn yr ardal i hen gapeli anghydffurfiol Rhosgwyn a Phenygenffordd yn yr ucheldir.

Ffynonellau


Bevan & Sothern 1991;
Britnell 1992;
Britnell & Savory 1984;
Cadw 1995a;
Coplestone-Crow 1992-93;
Davies et al. 1983;
Jenkinson 1997;
Jones & Smith 1964;
Lewis 1980;
Cofnod Safleoedd a Henebion Powys;
RCAHMW 1986;
Soil Survey 1983

I gael gwybodaeth bellach cysylltwch os gwelwch yn dda ag Ymddiriedolaeth Archaeolegol Clwyd-Powys yn y cyfeiriad hwn neu ewch i wefan Cyngor Cefn Gwlad Cymru' yn www.ccw.gov.uk.