CPAT logo
Cymraeg / English
Tirwedd Hanesyddol Canol Dyffryn Gwy
Map o'r ardal cymeriad hon

Nodweddion Tirwedd Hanesyddol

Canol Dyffryn Gwy: Pen-rhos-dirion
Cymunedau Gwernyfed, Llanigon a Thalgarth, Powys
(HLCA 1095)


CPAT PHOTO 1040-09

Tir comin heb ei gau ar yr ucheldir ar darren ogleddol y Mynydd Du gyda chofadeiliau claddu a defodol cynhanesyddol, olion ymestyniad amaethyddol a chwarelyddol i'r tir ymylol o'r cyfnod ôl-ganol oesol, bellach wedi eu gadael.

Cefndir hanesyddol

Dangosir gweithgarwch cynhanesyddol o'r Oes Efydd a chyn hynny o bosibl gan ddarnau gwasgaredig o fflint cynhanesyddol yn Chwarel-ddu, ac ar lethrau Hay Bluff, Twmpa, a Mynydd Troed. Cynrychiolir gweithgaredd claddu a defodol o'r Oes Efydd gan nifer o gofadeiliau gan gynnwys y tomenni crynion yn Nhwyn-y-beddau, Pen-y-beacon a Wern Frank a gweddillion cylch meini Pen-y-beacon (Blaenau). Er ei fod ymhell o'r canolfannau poblogaeth, mae'n debyg fod y tir pori helaeth ar ucheldir y Mynydd Du wedi bod yn adnodd economaidd bwysig yn yr haf ers y cyfnod cynhanesyddol diweddar o leiaf. Cynrychiolir gweithgaredd cynhanesyddol diweddarach gan y fryngaer o'r Oes Haearn yng Nghastell Dinas. Mae ei safle ar fryn unig ar uchder o 400m ar ymyl y Mynydd Du, yn tremio dros ddyffryn Rhiangoll sy'n torri drwy'r mynyddoedd i'r de, yn dangos ei bwysigrwydd strategol yn ogystal â'i bwysigrwydd economaidd posibl o ran manteisio ar y tir pori ar dir uchel y mynyddoedd. Wedi'r goncwest Normanaidd fe rannwyd yr ardal rhwng is-arglwyddiaethau'r Gelli, Y Clas ar Wy a Thalgarth. Erbyn y 14eg ganrif roedd maenor wedi ei sefydlu yn yr ucheldir yng Nghastell Dinas (Bwlchyddinas), yn troi o gwmpas y castell carreg a adeiladwyd mae'n debyg yn y 12fed ganrif o fewn amddiffynfeydd yr hen fryngaer o'r Oes Haearn. Y castell hwn, un o gestyll tiriogaeth arglwyddiaeth mers Blaenllynfi, oedd y castell uchaf uwchben lefel y môr yng Nghymru a Lloegr. Er fod iddo bwysigrwydd strategol i ddechrau, nid oedd yn ei feddiant erbyn y 1330au ond tri bwrdd estyll a gyrr o 55 o wartheg ac 17 llo, sy'n awgrymu nad oedd fawr mwy na fferm laeth fynydd erbyn hynny, a'r anifeiliaid yn cael eu cadw o bosibl o fewn amddiffynfeydd y fryngaer gynhanesyddol, a ddisgrifiwyd fel y beili-glâs. Defnyddiwyd y castell i bwrpas tebyg ers o leiaf diwedd y 13eg ganrif yn ôl pob tebyg: roedd cwnstabl Bwlchyddinas, William Gethin, wedi mynd â gwartheg yn perthyn i brior Abaty Llanthony i'w cadw yn y castell sawl gwaith yn ystod y cyfnod hwn. Roedd rhywun yn y castell drwy gydol rhan olaf y 14eg ganrif, ac er iddo ddal i ddadfeilio, fe'i paratowyd ar gyfer ymosodiad yn ystod gwrthryfel Glyndŵr ym mlynyddoedd cyntaf y 15fed ganrif. Wedi Deddf Uno 1536 daeth yr ardal o fewn cantref Talgarth. Mae'r holl ardal mwy neu lai yn dal i fod yn Dir Comin agored hyd y dydd heddiw.

Nodweddion allweddol y tirlun hanesyddol

Yn dopograffig, mae'r ardal yn cwmpasu rhan o darren ogleddol y Mynydd Du a'r tir comin sydd heb ei gau ar droed y darren, rhwng tua 300 a 700m o uchder. Priddoedd bras cochlyd sy'n draenio'n dda sydd mewn rhan o'r ardal (Cyfres Erdison 2), ar wely o dywodfaen sy'n brigo i'r wyneb mewn ambell i le ar y llethrau mwyaf serth. Ar beth o'r tir mwy gwastad uwchlaw'r tir caeëdig ac islaw'r mynydd ceir priddoedd cochlyd lleidiog sy'n llawn dwr mewn rhai tymhorau a phriddoedd mân, rhai gyda wyneb o fawn (Cyfres Fforest). Defnyddir y tir bellach yn bennaf ar gyfer pori, gydag eithin a rhedyn. Mae rhai rhannau yn gorslyd, gyda brwyn a phyllau o ddwr yn sefyll yn y rhannau sy'n draenio'n wael. Mewn rhai achosion mae'n bosibl eu bod yn cynnwys dyddodion o bwys posibl yn nhermau hanes amgylcheddol yr ardal.

Cynrychiolir olion hen anheddiad o gyfnod canol oesol neu ganol oesol diweddar ar y comin gan lwyfannau tai a thir caeëdig mewn rhannau gyda llechweddau llai serth, y tu hwnt i ymylon y tir caeëdig ger Upper Island, Waun Croes Hywel, Blaenau, a Chwarel-ddu. Does prin ddim o'r anheddiad modern o fewn yr ardal nodwedd, ac eithrio'r ymestyniadau posibl o ddiwedd y 18fed a dechrau'r 19eg ganrif yn Cockalofty a Wern-ddu, sydd â bythynnod bychain carreg ac adeiladau allanol. Disgrifiwyd Cockalofty yn yr 1960au fel y 'ty gwledig mwyaf cynnil' y gellid ei weld yn ardaloedd Y Gelli a Thalgarth. Mae'r rhain a nifer o safleoedd tai cerrig sy'n adfeilion neu wedi eu gadael, wedi goroesi ar ymylon y tir agored.

Tir pori garw heb ei wella yw'r rhan fwyaf o'r ardal, yn aml heb ddim mwy nag ambell i garreg derfyn i nodi ffiniau'r plwyf a hawliau pori ar dir comin yr ucheldir. Gwelir peth olion o amaethyddiaeth, o bosibl o ddiwedd y 18fed neu ddechrau'r 19eg ganrif, neu gynt na hynny efallai. Fe'i cynrychiolir gan gloddiau yma ac acw, trin tir rig cul, a gweddillion caeau stribed a osodwyd i fyny ac i lawr neu ar hyd y gyfuchlin, fel y rhai ger Upper Island ar Waun Croes Hywel, er enghraifft, ac ar Gomin Rhos Fach a Rhos Fawr.

Mae amryw o sarnau a llwybrau cerdded yn croesi'r ardal, rhai ohonynt yn tarddu o gyfnod y canol oesoedd neu ôl-ganol, rhai'n rhedeg ar hyd ceuffyrdd neu gerlannau ar lechwedd y bryn, ac yn rhoi mynediad i diroedd pori ar y mynydd o ffermydd y tir isel a'r treflannau, ac yn creu llwybr at aneddiadau ar ochr ddeheuol y Mynydd Du, gan gynnwys y ffordd a gafodd ei hadeiladu drwy Fwlch Gospel hyd at Gapel-y-ffin ac Abaty Llanddewi.

Cynrychiolir diwydiant cloddio gan amryw o chwareli cerrig bychain a sarnau cysylltiedig o'r cyfnod ôl-oesoedd canol ar gyfer cerrig adeiladu a cherrig calch yn Cockalofty, Chwarel-ddu, Wern-ddu ac ar ochrau Mynydd Troed, gan gynnwys rhai chwareli unionlin a darnau bas o chwareli brig a phyllau bychain, a gweddillion adeiladau chwarel yn chwareli mwyaf Chwarel-ddu. Roedd odynnau calch yn arfer bod ger Bwlch a Chwarel-ddu, ac mae rhywfaint o adeiladau'n dal ar ôl yn Chwarel-ddu.

Mae cofadeiliau claddu a defodol cynhanesyddol yn elfen o bwys yn y tirlun o fewn yr ardal, gan gynnwys cylch meini Pen-y-beacon, sydd â dim ond un maen gweladwy bellach, a'r tomenni crynion yn Wern Frank, Twyn-y-beddau a Pen-y-beacon, sydd yn aml wedi eu gosod ar bwyntiau mynediad i gopa'r mynydd. Ymddengys ei bod yn arwyddocaol o safbwynt llwybrau hynafol ar draws y mynyddoedd fod y ffordd fodern o'r Gelli i Landdewi drwy Fwlch Gospel yn mynd trwy domen gron Twyn-y-beddau a chylch meini Pen-y-beacon (Blaenau). Mae cell feudwy bosibl o'r cyfnod canol cynnar hefyd ar y llwybr gerllaw Dan-y-capel, yn cael ei chynrychioli gan wal o gerrig sythion, gyda chroesau wedi eu cerflunio ar un garreg. Mae'n dwyn yr enw Capel y Waun.

Un peth anarferol sydd wedi goroesi yn yr ardal yw olion ffosydd draenio a gloddiwyd o gwmpas pebyll Milisia Aberhonddu oedd yn gwersylla ar Gomin Rhos Fach yn y 1870au.

Ffynonellau


Burl 2000;
Davies 1983;
Haslam 1979;
Jones & Smith 1964;
King 1983;
Cofnod Safleoedd a Henebion Powys;
RCAHMW 1986;
Rees 1932;
Soil Survey 1983;
Walker 1998-99

I gael gwybodaeth bellach cysylltwch os gwelwch yn dda ag Ymddiriedolaeth Archaeolegol Clwyd-Powys yn y cyfeiriad hwn neu ewch i wefan Cyngor Cefn Gwlad Cymru' yn www.ccw.gov.uk.