CPAT logo
Cymraeg / English
Tirwedd Hanesyddol Canol Dyffryn Gwy
Map o'r ardal cymeriad hon

Nodweddion Tirwedd Hanesyddol

Canol Dyffryn Gwy: Y Clas ar Wy
Cymunedau Y Clas ar Wy a Gwernyfed, Powys
(HLCA 1097)


CPAT PHOTO 00c0119

Aneddiadau unionlin ôl-ganol oesol ar hyd coridor cysylltiadau, wedi ei osod ar anheddiad cnewyllol canol oesol ger man croesi cynnar pwysig dros afon Gwy.

Cefndir hanesyddol

O safbwynt gweinyddol, hanes digon brith sydd i'r ardal oherwydd y datgymalu a fu ar batrymau anheddu cynharach yn sgîl newidiadau ffiniau sifil ac eglwysig a datblygiad llinellau cysylltiadau newydd. Yn ystod cyfnod yr oesoedd canol roedd yr ardal yn rhan o ardal eglwysig helaeth â'i chanolbwynt ar y clas neu'r fam eglwys, a gysegrwyd i Sant Cynidr yn Y Clas ar Wy. Ceir y cyfeiriad hanesyddol cynharaf at Y Clas ar Wy ym 1056, ond mae'n debygol fod yr eglwys a'r anheddiad wedi eu sefydlu yn gynnar yn y cyfnod canol oesol. Yn dilyn concwest Brycheiniog gan Bernard de Neufmarché yn y 1080au daeth yr ardal yn is-arglwyddiaeth i'r Clas ar Wy. Yn unol â'r diwygiadau eglwysig a gyflwynwyd yn dilyn y goncwest, fe ailsefydlwyd yr eglwys tua 1090, a'i chysegru i San Pedr. Cymerir mai ar yr un safle â'r clas cyn-goncwest y gosodwyd yr eglwys hon, ar gymer afon Gwy a Llynfi, ar lan ddwyreiniol afon Gwy. Mae'n edrych yn debyg fod yr eglwys yn gysylltiedig ag anheddiad cnewyllol yn dyddio o'r cyfnod cyn-goncwest ac mae'n edrych yn debyg fod hwnnw ym mhentref presennol Y Clas ar Wy ar lan orllewinol yr afon. Roedd hen gastell pridd Y Clas ar Wy ar y lan hon o'r afon, ar ymyl orllewinol y pentref, a hwn mae'n debyg oedd canolfan weinyddol maenor ganol oesol Y Clas ar Wy, maenor y gwyddys am ei bodolaeth o tua'r 13eg ganrif ymlaen. Roedd y castell yn bodoli erbyn y 1180au, ond fe'i collwyd yn sgîl datblygiadau tai yn y 1970au. Roedd caeau agored y faenor, yn dwyn yr enwau maes y llan issa, maes y llan ucha, a maes y pentre mewn dogfennau o'r 1640au, hefyd ar lan orllewinol yr afon, yn ymestyn i'r gogledd i'r ardal o amgylch Castell Maesllwch tua'r 18fed ganrif, ond dim ond rhai o'r stribedi gwreiddiol oedd ar ôl erbyn canol y 19eg ganrif.

Mae'r Clas ar Wy yn sefyll ar un o fannau croesi naturiol afon Gwy, lle mae'r dyffryn ar ei gulaf, ac mae'n debyg fod hyn wedi dylanwadu ar safle'r eglwys clas cyn-goncwest a'r castell Normanaidd yn Y Clas ar Wy. Crybwyllir gwasanaeth cwch ar draws afon Gwy yn Y Clas ar Wy gyntaf ym 1311, ac mae'n ymddangos mai cyfeiriad at hen bont yn Y Clas ar Wy yw'r cyfeiriad cynharaf at bont yn y man hwn ym 1665, ychydig yn uwch i fyny na'r bont bresennol, ger cymer afon Llynfi. Bu'r croesiad yn ansefydlog hyd at ran olaf y 19eg ganrif, gan fod un pont garreg a choed ar ôl y llall wedi cael eu hysgubo gan lif yr afon ym 1738, 1777, 1795 ac 1850. O Ddeddf Uno 1536 ymlaen roedd plwyfi eglwysig a sifil Y Clas ar Wy ar ddwy lan afon Gwy yn rhan o Sir Faesyfed. Ym 1844 fe drosglwyddwyd y darn i'r de o'r afon i Sir Frycheiniog gan Ddeddf Seneddol, gan nodi'r rhaniad ar hyd canol yr afon. Cododd dadl ynglyn â phwy oedd i atgyweirio'r bont yn dilyn y difrod a wnaed ym 1850, ac er i'r bont gael ei diogelu ar gyfer cerddwyr, fe syrthiodd unwaith eto a bu cwch yn croesi'r afon yn lle pont am gyfnod. Gwnaed cynlluniau i'w hatgyweirio, gyda choed a phileri carreg. Ond cododd dadl gyfreithiol ynglyn â chost yr atgyweirio, yn dilyn trosglwyddo rhan ddeheuol plwyf Y Clas ar Wy i Sir Frycheiniog o Sir Faesyfed. O ganlyniad roedd gan y bont newydd bileri carreg ar ochr ddeheuol yr afon ac estyll o goed ar yr ochr ogleddol am nifer o flynyddoedd, hyd nes i'r bont gael ei chwblhau mewn carreg. Codwyd y bont bresennol yn yr 20fed ganrif. Dim ond tan 1883 y bu plwyf Y Clas ar Wy, Sir Frycheiniog - plwyf ar wahân - yn bodoli, a dyna pryd y cafodd ei uno â phlwyf sifil newydd Tregoed a Felindre, plwyf y daeth yntau yn rhan o gymuned newydd Gwernyfed a grëwyd ar ddechrau'r 1980au. Yn sgîl ad-drefnu llywodraeth leol ym 1974 fe unwyd Sir Frycheiniog a Sir Faesyfed o fewn sir newydd Powys. Fe gaewyd hen eglwys y plwyf ger yr afon yn y 1660au yn dilyn llifogydd pan newidiodd hynt yr afon yn ôl y sôn. Codwyd eglwys newydd wedi'i chysegru i San Pedr ar gerlan yr afon i'r de o'r eglwys gynharach, ar ochr Sir Frycheiniog o'r afon. Mae safle'r hen eglwys i'w weld o hyd ac roedd amryw o goed yw yn arfer dynodi'r fangre. Fe ailgodwyd yr eglwys newydd yn y 1830au ac eglwys blwyf San Pedr, Y Clas ar Wy, yw hi hyd heddiw. Fe godwyd eglwys newydd yng Nghwm-bach i'r gogledd o bentref Y Clas ar Wy yn Sir Faesyfed yn y 1880au, pan grëwyd plwyf eglwysig newydd Yr Holl Saint, Y Clas ar Wy.

Sefydlwyd pentref presennol Y Clas ar Wy, i'r gogledd o'r afon, yn y canol oesoedd yn ôl pob tebyg. Fe'i lleolwyd mewn perthynas â safle'r bont o'r 17eg ganrif ar draws afon Gwy, ac mae twf y pentref yn ystod diwedd y 18fed ganrif a'r 19eg yn adlewyrchu ei safle wrth ymyl croesiad yr afon ac ar hyd y ffordd dyrpeg sy'n arwain i Loegr yn y dwyrain. Mae ymestyniad unionlin y pentref i'r gorllewin, i gyfeiriad Cwm-bach, yn dyddio'n ôl unwaith eto i'r 18fed a'r 19eg ganrif, ac mae'n ganlyniad i sythu'r ffordd gyhoeddus yn ystod creu'r parc tirlun o Gastell Maesllwch yng nghanol y 19eg ganrif.

Mae'r bont dros afon Gwy yn Y Clas ar Wy yn cysylltu ag anheddiad unionlin sy'n ymestyn tua 4km o Ffordd-fawr yn y gogledd-ddwyrain i Bontithel yn y de-ddwyrain. Daeth yr anheddiad unionlin i fod yn sgîl y ddwy bont sy'n croesi afon Gwy yn Y Clas ar Wy ac afon Llynfi yn Pipton, gwella'r ffordd dyrpeg rhwng Aberhonddu a'r Gelli ar ddiwedd y 18fed a dechrau'r 19eg ganrif, adeiladu tramffordd Y Gelli i Aberhonddu ym 1862, a'r ddolen gyswllt ddiweddarach â Rheilffordd Canolbarth Cymru yng nghyffordd Three Cocks. Roedd angen enwau newydd ar gyfer yr anheddiad unionlin ar ochr Sir Frycheiniog o afon Gwy, a rhoddwyd yr enw Treble Hill ar y cnewylliad ger y bont yn y pen gogleddol a'r enw Three Cocks yn y pen deheuol, ar ôl arfbais teulu Williams o Hen Wernyfed.

Nodweddion allweddol y tirlun hanesyddol

Mae'r ardal ar waelod y dyffryn ac yn sefyll ar hen gerlannau'r afon ychydig uwchlaw gorlifdir afon Gwy, rhwng 90 a 100m o uchder uwchlaw Datwm yr Ordnans, ac yn cwmpasu'r coridor cul o'r dwyrain i'r gorllewin o Gwm-bach i'r Clas ar Wy a'r bont sy'n croesi afon Gwy, a choridor cul y ffordd o'r gogledd i'r de rhwng Llwynau-bach i'r gogledd o Treble Hill a Phontithel i'r de o'r Three Cocks. Priddoedd mân cochlyd sy'n draenio'n dda ar wely tywodfaen (Cyfres Milford) yw'r priddoedd gan fwyaf.

Mae adeiladau a strwythurau eraill o fewn yr ardal nodwedd yn adlewyrchu ei hanes a'i datblygiad mewn ffordd amlwg. Cynrychiolir llinell derfyn amlwg gan ddau adeilad ffrâm bren yn anheddiad cnewyllol canol oesol Y Clas ar Wy, yr Hen Ficerdy yn Y Clas ar Wy gyda tho o'r 15fed ganrif a waliau allanol carreg, a'r Ysgubor Ddegwm yn Y Clas ar Wy, adeilad nenfforch o'r 15fed/16eg ganrif, eto gyda waliau cerrig. Mae'r rhan fwyaf o'r adeiladau eraill yn yr ardal yn perthyn i'r cyfnod yn dilyn gwella'r ffyrdd tyrpeg, gan gynnwys nifer o dai bonedd o ddiwedd y 18fed a dechrau'r 19eg ganrif, yn arbennig Woodlands, Parc Gwynne a Green House yn Y Clas ar Wy. Roedd rhai o'r tai hyn, megis Glasbury House, yn dai gwyr bonheddig helaeth, ac mae nifer bellach wedi cael eu trawsnewid yn ganolfannau addysg awyr agored. Mae tafarn y Three Cocks yn dyddio'n ôl i'r cyfnod cyn y ffyrdd tyrpeg, ond fe'i hadnewyddwyd yn helaeth yn y cyfnod hwnnw. Arweiniodd gwelliannau mewn cysylltiadau at godi gwestai newydd, megis gwesty'r Maesllwch Arms yn Y Clas ar Wy. Mae Bwthyn Tollau Glasbury Gate hefyd yn perthyn i gyfnod y tyrpeg, a dyma lle bu'r unig ddigwyddiad a gofnodwyd yn ystod Helyntion Beca yn y 1840au. Fe adeiladwyd stablau a cherbytai yn gysylltiedig ag amryw o dai bonedd a gwestai, gan gynnwys yr hen stabl frics a'r cerbyty ym Mharc Gwynne ac yn Woodlands, a'r stablau yng nghefn gwesty'r Maesllwch Arms. Dylid cysylltu adeiladau a strwythurau amrywiol eraill â'r hen dramffordd a'r rheilffordd a ddatgymalwyd. Ymddengys fod hen adeilad stabl deulawr, a adeiladwyd o gerrig, ar ochr hen boncen y dramffordd rhwng Aberhonddu a'r Gelli yn Llwynau-bach, wedi cael ei defnyddio ar gyfer cadw'r ceffylau oedd yn gweithio ar y dramffordd. Yn ddiweddarach daeth yr adeiladau i fod yn rhan o fferm plas Broomfield, ty helaeth o ddechrau'r 19eg ganrif a adeiladwyd mae'n debyg gan William Bridgewater, gweithredwr Tramffordd Aberhonddu-Y Gelli. Roedd y dramffordd ei hun yn rhedeg heibio i'r hen iard nwyddau a swyddfa'r dramffordd a adnabyddid fel Glasbury Wharf. Rhan arall o etifeddiaeth cyfnod y rheilffordd yw cyfres o bentanau pontydd carreg a phont fwaog hyfryd o'r 1860au sydd wedi goroesi yn Treble Hill. Fe gododd nifer o ddiwydiannau prosesu o fewn y coridor cysylltiadau hwn, gan gynnwys melin lifio ar lan ogleddol afon Gwy yn Y Clas ar Wy, melin ar afon Llynfi yn Aberllynfi, gefail yn Y Clas ar Wy a Three Cocks. Fe adeiladwyd ysgubor fawr ar ddechrau'r 19eg ganrif ar gyfer peiriant dyrnu'n cael ei redeg gan geffyl, yn Llwynau-bach. Roedd hen waith cemegol ym Mhontithel yn cynhyrchu Naphthalene ar ddiwedd y 19eg a dechrau'r 20fed ganrif, yn seiliedig ar ddeunydd crai oedd yn cyrraedd ar y rheilffordd.

Ymddangosodd tai gweithwyr yn Y Clas ar Wy ac ar ymyl y ffordd rhwng Treble Hill a Phontithel yn ystod y 18fed a'r 19eg ganrif. Cynrychiolir hyn gan fythynnod cerrig i ddechrau ac wedyn bythynnod o frics gydag addurniadau cerrig, a bythynnod carreg gydag addurniadau brics. Mae adeiladau eraill yn ymwneud â'r patrymau anheddiad newydd a ymddangosodd yn yr ardal yn cynnwys y capel carreg Methodistaidd wedi'i rendro o ddechrau'r 19eg ganrif yng Nghwm-bach, yr eglwys garreg newydd a gysegrwyd i San Pedr o 1837-38, i'r de o'r afon, capel yr eglwys Unedig Ddiwygiedig yn Y Clas ar Wy o'r 1860au, Eglwys y Bedyddwyr yn Treble Hill o 1866, a godwyd o frics coch ag addurniadau cerrig, ac eglwys garreg Yr Holl Saint i'r gogledd o'r Clas ar Wy o 1881-82, a'r neuadd bentref o haearn rhychog o ?ddechrau'r 20fed ganrif gerllaw Eglwys San Pedr. Yn dilyn ad-drefnu plwyf eglwysig Y Clas ar Wy ar ddiwedd y 19eg ganrif, fe adeiladwyd ficerdy newydd i'r de o'r eglwys. Fe ddaliodd Treble Hill a Three Cocks i ehangu yn ystod yr 20fed ganrif yn sgîl eu lleoliad ar y briffordd, gyda darnau o dai llenwi-mewn, a datblygiadau diwydiannol ysgafn a manwerthu.

Ffynonellau


Cadw 1995c;
Cadw 1995d;
Clinker 1960;
Baughan 1980;
Brock 2000;
Howse 1949;
Hughes 1990;
Jervoise 1976;
Martin & Walters 1993;
Morgan 1998;
Cofnod Safleoedd a Henebion Powys;
Silvester 1994;
Soil Survey 1983;
Sylvester 1969

I gael gwybodaeth bellach cysylltwch os gwelwch yn dda ag Ymddiriedolaeth Archaeolegol Clwyd-Powys yn y cyfeiriad hwn neu ewch i wefan Cyngor Cefn Gwlad Cymru' yn www.ccw.gov.uk.