CPAT logo
Cymraeg / English
Tirwedd Hanesyddol Canol Dyffryn Gwy
Map o'r ardal cymeriad hon

Nodweddion Tirwedd Hanesyddol

Canol Dyffryn Gwy: Gwy
Cymunedau Bronllys, Y Clas ar Wy a Gwernyfed, Powys
(HLCA 1098)


CPAT PHOTO 00c0188

Gorlifdir afon Gwy gydag ystumlynnoedd a doleniadau afon a therfynau caeau, yn cynrychioli cau diweddar ar hen ddolydd oedd yn rhan o dir comin yr iseldir rhwng Y Clas ar Wy a'r Gelli

Cefndir hanesyddol

Cynrychiolir gweithgaredd claddu a defodol cynhanesyddol gan ffosydd gydag olion cnydau ar ymyl y gorlifdir ger Applebury i'r gogledd o afon Gwy ac yn Spread Eagle i'r de, a chan gofadail cwrsws Neolithig debygol yn Spread Eagle. Gellir gweld safle debygol y clas ganol oesol cyn-goncwest, neu fam eglwys Y Clas ar Wy, hyd heddiw ar gymer afon Gwy a Llynfi, eglwys a gaewyd wedi i'r afon newid ei hynt tua 1660. Adeiladwyd un arall yn ei lle ar safle presennol Eglwys San Pedr. Fe ailsefydlwyd yr eglwys tua 1090, a'i hincwm yn mynd fel rhodd i eglwys San Pedr, Caerloyw. Yn wreiddiol, yr eglwys oedd canolbwynt plwyf eglwysig helaeth Y Clas ar Wy, oedd yn ymestyn o dde Sir Faesyfed hyd at droed y Mynydd Du. Yng nghanol y 19eg ganrif roedd yr ardal yn rhan o blwyfi eglwysig canol oesol Aberllynfi, Bochrwyd a'r Clas ar Wy. Mae'r ardal nodwedd yn cael ei henw o enw Cymraeg afon Gwy, a gofnodwyd gyntaf gan yr hanesydd Nennius yn yr 8fed ganrif. Mae enw'r afon yn dod efallai o'r elfen wy (dwr), neu fe allai fod yn ffurf syml ar yr ansoddair gwyr (troi, plygu), yn disgrifio dolenni'r afon.

Nodweddion allweddol y tirlun hanesyddol

Gorlifdir llydan, gwastad ac isel afon Gwy, i'r gorllewin o'r Clas ar Wy, rhwng 80 a 90m o uchder uwchlaw Datwm yr Ordnans. Mae'r rhan fwyaf o'r priddoedd yn gyfuniad o bridd dwfn llifwaddodol hydraidd, yn gorwedd ar raean mewn mannau (Cyfres Teme), a phridd m‚n sy'n draenio'n dda, yn gorwedd ar raean mewn mannau ac yn cael ei effeithio gan ddwr o'r ddaear mewn cafnau (Cyfres Rheidol). Ar gyfer pori y defnyddir y tir heddiw.

Y casgliad o adeiladau fferm ar dir isel yn Fferm Glasbury ac yn Y Dderw yw'r unig aneddiadau modern o fewn yr ardal, ychydig i'r dwyrain o Lyswen. Yn wreiddiol, ty bonedd mawr o ddiwedd yr 16eg ganrif oedd Y Dderw, gyda hen gerbyty a stablau, i gyd mewn cerrig rwbel, y ty wedi ei rendro a chyda tho o deiliau cerrig, gydag ysgubor yd o ddiwedd yr 17eg ganrif, ac wedi ei drawsnewid yn y 19eg ganrif pan ddaeth yr adeiladau yn fferm plas Castell Bochrwyd. Efallai mai llwyfannau i dremio dros y gerddi, o'r 16eg neu'r 17eg ganrif, oedd y ddau dwmpath ger Y Dderw - un ohonynt yn dal yno.

Rhennir y tirlun yn gaeau canolig neu fawr o ran maint, gyda gwrychoedd a ffensiau yn dynodi'r terfynau, rhai wedi eu gosod gan ystyried hen sianeli'r afon, ac yn Űl pob tebyg yn cynrychioli cau'r dolydd ar yr hen dir comin ar hyd gorlifdir afon Gwy. Cofnodwyd perllannau caeŽdig ger Y Dderw, Fferm Applebury, Fferm Grange a Phipton ar ymylon y gorlifdir, yng nghanol y 19eg ganrif.

Mae elfennau o hanes trafnidiaeth o fewn yr ardal nodwedd yn cynnwys cerrig milltir tywodfaen o ddiwedd y 18fed ganrif ger Little Eames a ger Y Dderw ar y ffordd rhwng Pipton a Llyswen, ac ychydig i'r gogledd o Marish ar y ffordd rhwng Bronllys a Llyswen: cerrig sy'n perthyn i gyfnod trafnidiaeth y ffyrdd tyrpeg, ac arglawdd Rheilffordd Canolbarth Cymru o ddiwedd y 19eg ganrif sy'n torri ar draws y gorlifdir rhwng Little Eames a Bochrwyd - rheilffordd a ddatgymalwyd ac a ddaeth i ben yn y 1960au.

Mae ystumlynnoedd a phaleosianeli yn nodi hen hynt afon Gwy ac efallai yn cynnwys dyddodion sy'n bwysig o ran deall hanes llysieuol a'r newid a fu mewn defnydd tir yng Nghanol Dyffryn Gwy ers y rhewlif diwethaf.

Ffynonellau


Briggs 1991;
Gibson 1999;
Jenkinson 1997;
Jones & Smith 1964;
Cofnod Safleoedd a Henebion Powys;
Soil Survey 1983;
Williams 1965

I gael gwybodaeth bellach cysylltwch os gwelwch yn dda ag Ymddiriedolaeth Archaeolegol Clwyd-Powys yn y cyfeiriad hwn neu ewch i wefan Cyngor Cefn Gwlad Cymru' yn www.ccw.gov.uk.