CPAT logo
Cymraeg / English
Adref Eto
Tirwedd Hanesyddol Canol Dyffryn Gwy

Nodweddion Tirwedd Hanesyddol

Canol Dyffryn Gwy


Tirluniau Pensaerniol

Mae gan ardal tirlun hanesyddol Canol Dyffryn Gwy etifeddiaeth gyfoethog o adeiladau hanesyddol, sy'n helpu i gofnodi hanes cymdeithasol ac economaidd yr ardal yn fanwl iawn o gyfnod yr oesoedd canol diweddar ymlaen.

Mae'r siambrau carn hir Neolithig yn Pipton, Penyrwrlodd (Talgarth), Penyrwrlodd (Llanigon), Little Lodge, a Ffostyll yn dangos amrywiaeth o dechnegau adeiladu gan gynnwys siambrau claddu o gerrig syth, waliau mawrion gyda wyneb o gerrig sychion, sy'n cynrychioli'r mynegiant pensaernïol cynharaf o fewn yr ardal. Mae ffurf gyffredinol y gofadail yn awgrymu 'ty ar gyfer y meirw' er na wyddys i ba raddau y gellir eu cymharu â thai pobl fyw yn yr ardal. Byddai mynediad y siambrau fel arfer ar ochr y carnau hirion ac fel arfer fe geir porth ffug ar ben lletaf y twmpath, yn awgrymu mynedfa ddefodol i'r byd arall. Ni wyddys ond y nesaf peth i ddim am yr arddull a'r technegau adeiladu a ddefnyddid yn yr ardal yn y cyfnodau cynhanesyddol diweddar hyd at y cyfnod canol oesol cynnar, ac mae'n bwysig felly rheoli a chadw safleoedd lle mae tystiolaeth o'r math hwn wedi goroesi.

Yr adeiladau cynharaf sydd wedi goroesi yn yr ardal yw nifer o eglwysi carreg, sefydliadau mynachaidd a chestyll o'r 13eg a'r 14eg ganrif. Yr amlycaf ymhlith yr eglwysi yw rhai Llanelieu, Llanfilo, Llanigon a Thalgarth, lle mae llawer o'r gragen ganol oesol wedi goroesi, gan gynnwys darnau o ddechrau'r 12fed ganrif mewn rhai achosion, er nad oes unrhyw ddarnau archeolegol pendant yn perthyn i'r cyfnod cyn-goncwest. Cafodd llawer o'r eglwysi eraill yn yr ardal eu hailadeiladu'n sylweddol yn y 19eg ganrif, er fod twr cloch unigol o'r 13eg ganrif wedi goroesi ym Mronllys, un o ddim ond nifer fach o enghreifftiau tebyg yng Nghymru, ac mae rhannau o dyrrau eglwysi o'r 15fed ganrif wedi goroesi yng Nghleirwy a'r Gelli. Gellir gweld darnau a ailddefnyddiwyd o eglwysi cynharach yma ac acw, gan gynnwys y porth o'r 13eg ganrif a adeiladwyd fel rhan o'r maenordy Jacobeaidd yn Hen Wernyfed, y credir iddo ddod o Abaty Llanddewi, Priordy Aberhonddu neu hen gapeli canol oesol Aberllynfi neu Felindre. Mae darnau eraill o gragen ganol oesol i'w gweld yn nrysau bwaog ysgubor yn Court Farm, Cleirwy ac yn y ty yng Nghwrt Llanelieu. Credir fod gan y ddau gysylltiadau mynachaidd o'r 14eg a'r 15fed ganrif efallai. Ymddengys fod yr adeilad yng Nghleirwy yn un peth a oroesodd maenor fynachaidd Cwm-hir yn Sir Faesyfed, a chredir fod yr adeilad yn Llanelieu wedi goroesi o gell fynachaidd Priordy Llanddewi.

Mae gweddillion pwysig cestyll carreg canol oesol wedi goroesi ym mhob un o dair brif ganolfan weinyddol arglwyddiaethau'r mers, yn Y Gelli, Bronllys a Thalgarth. Yng nghastell Y Gelli gwelir gweddillion y gorthwr carreg a adeiladwyd tua 1200 a'r prif borth a adnewyddwyd yn y 1230au. Mae'n debyg fod y twr crwn yng Nghastell Bronllys wedi cael ei adeiladu yn y cyfnod rhwng yr 1220au a'r 1260au, ac fel y twr tebyg yn Nhretower yn Sir Frycheiniog, yn seiliedig yn ôl pob tebyg ar syniadau Ffrengig cyfoes am bensaernïaeth filitaraidd. Ymddengys fod ail lawr wedi cael ei ychwanegu at y twr tua'r 14eg ganrif. Mae rhan o'r lle tân o'r 14eg neu'r 15fed ganrif, o gerrig rwbel, hefyd wedi goroesi ym Mronllys, wedi'i hymgorffori o fewn gweithdy ac oriel yn Nhy Castell Bronllys. Mae'n debyg fod y Ty Caerog yng nghanol Talgarth yn dyddio'n ôl i'r 14eg ganrif, ac yn un o'r enghreifftiau prin o'i fath yng Nghymru. Y tebygrwydd yw mai coed oedd gwneuthuriad y rhan fwyaf o adeiladau domestig yng nghyfnod y canol oesoedd, er fod tystiolaeth o waith carreg ar safleoedd Lower House Farm (Cleirwy), Cwrt-coed a Hillis, o bosibl o'r 14eg ganrif, gyda ffos o'u cwmpas, a cheir darn o do teiliau carreg yng Nghwrt-coed, sy'n awgrymu bod yr adeiladau oedd yn gysylltiedig â'r ffosydd naill ai wedi eu codi o garreg neu o goed yn sefyll ar sylfeini carreg.

Mae nifer sylweddol o adeiladau domestig yn ardal y tirlun hanesyddol yn mynd yn ôl i gyfnod yr oesoedd canol diweddar, yn y 15fed a'r 16eg ganrif, llawer ohonynt wedi eu hadeiladu gyda ffrâm o goed a nenfforch yn wreiddiol. Byddai'r adeiladau weithiau'n cael eu gosod ar lwyfan wedi ei dorri mewn i'r llechwedd, os ar dir llechweddog, a'r adeiladau gyda waliau allanol o ffrâm goed yn ôl pob tebyg yn cael eu gosod ar waliau o adeiladwaith rwbel tywodfaen. Mewn llawer achos mae waliau allanol ffrâm goed yr adeiladau cynnar hyn naill ai wedi cael ei gorchuddio neu, yn amlach na pheidio, cerrig wedi cael eu gosod yn eu lle, er mai waliau allanol o garreg oedd gan rai adeiladau yn ôl pob golwg pan gawsant eu hadeiladu gyntaf. Dim ond mewn rhai enghreifftiau prin y gwelir unrhyw dystiolaeth bellach o baneli bangorwaith a dwb, a fyddai unwaith wedi llenwi'r fframiau coed. Erbyn y cyfnod ôl-oesoedd canol cynnar ymddengys fod llawer o'r adeiladau wedi cael to teiliau carreg, er fod rhediad ambell i do yn awgrymu mai to gwellt ydoedd yn wreiddiol o bosibl.

Mae'r llinell derfyn ganol oesol hwyr hon yn cynnwys nifer o adeiladau yn nhrefi a phentrefi'r ardal, gan gynnwys tai yn aneddiadau'r Gelli, Talgarth, Y Clas ar Wy, Cleirwy a Llowes. Un o'r tai canol oesol llai sydd wedi ei gadw orau yn yr ardal yw'r Hen Ficerdy yn Y Clas ar Wy, gyda tho coed o'r 15fed ganrif a waliau allanol o garreg. Fe adeiladwyd yr Ysgubor Ddegwm o'r 15fed/16eg ganrif yn Y Clas ar Wy gyda nenfforch, eto gyda waliau allanol o garreg. Mae'r adeiladau cynnar eraill o'r math hwn yn cynnwys hen dy neuadd gyda nenfforch ym mhentref Cleirwy, yr Hen Ficerdy a'r Radnor Arms yn Llowes, yr Old Radnor Arms yn Nhalgarth, a'r Three Tuns yn Y Gelli, pob un i bob golwg yn dyddio'n ôl i'r 15fed a'r 16eg ganrif. Tai neuadd oedd rhai o'r adeiladau, a hwy yw'r adeiladau domestig cynharaf sydd wedi goroesi o fewn yr aneddiadau cnewyllol yn yr ardal.

Ceir mwy fyth o amrywiaeth o adeiladau cynnar wedi goroesi yng nghefn gwlad, gan eu bod wedi osgoi'r ailddatblygu a ddigwyddodd o ganlyniad i dwf llawer o'r aneddiadau cnewyllol yn ystod y 19eg ganrif. Ffermdai oedd y rhan fwyaf o'r adeiladau cynnar, rhai yn amlwg wedi cychwyn fel adeiladau aml-bwrpas tebyg i dai hirion, gyda neuadd ganolog a llety i'r anifeiliaid yn un pen ac i'r teulu y pen arall, ac mae adeiladau fferm arbenigol o'r 15fed a'r 16eg ganrif, megis ysguboriau a granarau ar wahân, yn gymharol brin yn yr ardal. Mae adeiladau o'r math hwn wedi goroesi yn yr ucheldir a'r iseldir, er fod llawer mwy ohonynt i'w gweld yn hen frodoriaethau Cymreig arglwyddiaethau Talgarth a'r Gelli, yn nhroedfryniau'r Mynydd Du, lle y bu pwyslais amlwg ar fagu gwartheg o gyfnod y canol oesoedd. Mae ffermdai Penygenhill, Tynllyne, Ty Mawr (Llanigon), Llwynmaddy, Penlan, ysgubor Middle Maestorglwydd, Lower Wenallt, Wenallt-uchaf, Old House, Maescoch a Cwmcoynant i gyd yn nodweddiadol o'r math hwn o adeilad. Mae ysgubor Middle Maestorglwydd yn oroesiad rhyfeddol. Ty neuadd gyda nenfforch ydoedd yn wreiddiol yng nghanol neu ddiwedd y 15fed ganrif, ac mae'n un o'r ychydig adeiladau o'i fath sydd wedi goroesi ac wedi osgoi cael ei droi yn dy deulawr yn yr 17eg neu'r 18fed ganrif : yn y pen draw cafodd ei droi'n ysgubor. Mae hanes diweddarach y ty neuadd tebyg, o fath ty hir gyda nenfforch, yn Llangwathan yn Cusop Dingle, yn fwy nodweddiadol o'r grwp yn gyffredinol. Gosodwyd simdde yn yr hen neuadd agored ar ddiwedd yr 16eg neu ddechrau'r 17eg ganrif, ac fe ailgodwyd y waliau mewn carreg yn y 18fed neu'r 19eg ganrif, cyfnod o drawsnewid yn natblygiad tai hirion yn y rhanbarth. Mae Upper Skynlais yn un arall o'r ffermdai tir isel o gyfnod yr oesoedd canol diweddar, wedi cychwyn fel ty neuadd agored adeiniog, wedi'i orchuddio gan gerrig yn ddiweddarach, gyda choed mewnol yn awgrymu statws cymdeithasol uchel, a Phentre Sollars, ty bychan gyda nenfforch.

Roedd Great Porthamel, a ddisgrifiwyd fel 'un o'r tai mwyaf rhyfeddol o'r oesoedd canol yng Nghymru', yn perthyn i un o'r teuluoedd grymus nodedig oedd wedi ymddangos yn yr ardal ar ôl i oes y maenorau ffiwdal ar y tir isel ffrwythlon ddod i ben. Mae'n debyg fod tai canol oesol eraill yn bodoli unwaith yn Hen Wernyfed a Maesllwch, ond eu bod wedi cael eu hailadeiladu yn sylweddol neu'n llwyr yn ystod yr 17eg a'r 18fed ganrif, er fod rhan o'r to canol oesol wedi goroesi yng Ngwernyfed. Neuadd garreg yw Great Porthamel a adeiladwyd gan Roger Vaughan ar ddiwedd y 15fed ganrif. Mae'n un o dai mwyaf yr elît Eingl-Gymreig yn y gororau canol a deheuol, ac yma yr arhosodd Harri'r VII ar ei ffordd i Frwydr Bosworth ym 1485. Pwysleisiwyd statws y ty gan y wal oedd yn ei amgylchynu, er fod y rhan fwyaf ohoni wedi cael ei dymchwel yn y 19eg ganrif. Roedd porthdy deulawr yn ffurfio mynediad i dir y plasty ac yn ffodus mae hwn wedi goroesi, ac mae'n nodweddiadol o amryw o dai mawr y 15fed ganrif yn y Gororau.

Ymddangosodd amrywiaeth ehangach o fathau o adeiladau yn ystod yr 17eg ganrif, gan gynnwys amryw o ffurfiau mwy arbenigol. Daeth cerrig yn gyfrwng mwy cyffredin ar gyfer adeiladu, efallai oherwydd datblygiad y diwydiant chwareli yn ogystal â phrinder cynyddol o goed. Fe adeiladwyd cyfres o ffermdai ar yr iseldir mewn rwbel tywodfaen yn ystod y ganrif, gan gynnwys y rhai yn Upper Sheephouse, Llwynbarried, Trevithel, Trebarried, a Chwrt Tredomen. Fe adeiladwyd nifer o ffermdai rwbel tywodfaen newydd hefyd yn yr ucheldir, rhai ohonynt yn amlwg yn disodli tai coed cynharach, fel ym Moity, Cefn, y ffermdai yn Lower, Middle ac Upper Maestorglwydd, ac Upper Dan-y-fforest, ac roedd rhai megis Lower Genffordd bellach yn cael eu hadeiladu ar draws yn hytrach nag i fyny ac i lawr llechwedd _Y Rhos sy'n edrych fel petai ganddo lawr isaf o garreg a fframiau pren uwchben. Fe barhaodd traddodiadau cynharach o doi, fel y dangosir gan nenffyrch uwch neu wedi eu codi, wedi eu gosod ar waliau cerrig yn Middle Genffordd. Fe drawsnewidiwyd nifer o ffermdai coed o'r oesoedd canol diweddar hefyd yn y cyfnod hwn, drwy osod waliau tywodfaen yn lle'r ffrâm goed allanol. Cafodd waliau nifer o ffermdai eu rendro naill ai yn y cyfnod hwn neu yn ystod y 18fed neu'r 19eg ganrif.

Byddai llawer o'r ffermydd yn wreiddiol â becws neu gegin ar wahân. Dim ond nifer fach o enghreifftiau sydd wedi goroesi, megis y gegin garreg ar wahân yn Fferm Cilonw a'r becws posibl ar wahân yn Gwrlodde. Dechreuodd mathau arbenigol o adeilad fferm ymddangos yn fwy amlwg yn ystod yr 17eg ganrif, gan gynnwys beudai ac ysguboriau dyrnu, yn aml gyda manylion brodorol gwahanol megis agennau gwynt fertigol. Fe godwyd ysguboriau carreg ar lawer o ffermydd ar hyd yr ardal yn y cyfnod hwn, gan gynnwys Lower Maestorglwydd, Gwrlodde, a Thredustan, er fod nifer o ysguboriau gydag estyll tywydd a fframiau coed hefyd wedi cael eu codi yn ystod yr 17eg ganrif, rhai ohonynt yn gyfuniad o ffrâm goed a nenfforch, gan gynnwys yr ysguboriau ym Mhenlan, Llangwathan (a ailadeiladwyd gan fwyaf mewn carreg), Great Porthamel, a Lower Maestorglwydd. Gosodwyd rhai o'r ysguboriau pren, fel y rhai ym Mryn-yr-hydd a Phentwyn, ar waliau tywodfaen uchel.

Ymddangosodd casgliad o dai bonedd mwy a phlastai hefyd allan yn y wlad yn y cyfnod hwn, ar bwys y ffermdai. Roedd y rhain yn gysylltiedig fel arfer â ffermydd mwy cyfoethog yr iseldir, rhai ohonynt â'u gwreiddiau mewn maenorau canol oesol ac yn amlwg wedi cael eu codi yn lle adeiladau cynharach ar yr un safle. Mae'n debyg fod Hen Wernyfed, Cwrt Llowes a'r Dderw yn perthyn i gyfnod dechrau'r 17eg ganrif, tra bod Trefeca Fawr, Cwrt Tredustan a Neuadd Tredustan yn perthyn i gyfnod diweddarach yn yr un ganrif. Mae yna dalcennau arbennig sy'n nodweddiadol o'r cyfnod hwn i ddau o'r tai, sef Y Dderw a Hen Wernyfed. Neuadd Tregoed, a ddinistriwyd mewn tân ym 1900, yw'r trydydd ty sy'n perthyn i'r grwp yma. Roedd nifer o'r tai yma yn perthyn i deuluoedd tra nodedig. Adeiladwyd Hen Wernyfed gan Syr David Williams, Uchel Siryf Sir Frycheiniog. Roedd Neuadd Tregoed yn perthyn i Arglwydd Henffordd. Caiff Cwrt Llanelieu ei gysylltu â theulu Aubrey, a cheir yno ddrws a godwyd yn y 1670au wedi ei addurno â dyfyniadau o Ecolgues gan Fyrsil a Heroides gan Ofydd. Parhawyd i adeiladu'r rhan fwyaf o dai bonedd gyda rwbel tywodfaen, meini nadd wedi eu mewnforio ambell i dro. Teiliau cerrig lleol oedd y defnydd toi cyfoes yn ôl pob tebyg, fel yn achos y rhai sydd wedi goroesi yn Y Dderw a Chwrt Tredustan.

Mewn cymhariaeth â chefn gwlad, ychydig iawn o dai mawrion a godwyd, i bob golwg, yn y trefi a'r pentrefi yn yr 17eg ganrif. Un o'r enghreifftiau prin nodedig yw'r Hay Castle Mansion a adeiladwyd yn y 1660au mewn rhesi o rwbel tywodfaen gyda cherrig rhydd wedi'u naddu o amgylch y ffenestri. Fe barhawyd i adeiladu rhai o'r tai yn y trefi o bren yn rhan gyntaf y ganrif. Mae'r Café Royal yn Y Gelli yn dy trefol gyda ffrâm o goed o ddechrau'r 17eg ganrif. Mae'r bythynnod carreg sydd wedi goroesi o'r cyfnod hwn, gan gynnwys Rose Cottage, Sacred Cottage ac amryw o rai eraill yng Nghleirwy, er enghraifft, yn fwy nodweddiadol o'r aneddiadau cnewyllol, yn enwedig y pentrefi.

Yn ystod y 18fed a'r 19eg ganrif fe adeiladwyd amrywiaeth llawer ehangach o fathau o adeiladau, yn adlewyrchu'r gwahanol newidiadau a effeithiodd ar yr ardal yn ystod y cyfnod deinamig hwn, gan gynnwys gwelliannau mewn amaethyddiaeth, twf trefi lleol, cysylltiadau gwell, twf anghydffurfiaeth, ac addysg a lles cyhoeddus. Amlygir tryblith cymdeithasol y cyfnod yn sylwadau Samuel Lewis am gylch Talgarth yn ei Topographical Dictionary of Wales, a gyhoeddwyd ym 1833:

Roedd amryw o gartrefi hynafol yn y plwyf hwn yn yr hen amser, cartrefi teuluoedd bonheddig sydd wedi cael eu hesgeuluso â threigl amser ar ôl i'w perchnogion gefnu arnynt, a bellach does dim pwysigrwydd iddynt. Ymhlith y rhain mae Porthamel . . . . Tregunter . . . . Tredustan.

O ganlyniad, fe ailgodwyd adeiladau oedd eisoes yn bod a chodwyd llawer o adeiladau newydd a mathau newydd o adeiladau yn ystod y 18fed a'r 19eg ganrif, yn adlewyrchu'r drefn gymdeithasol newydd, gan gynnwys tai trefol, ffermdai, tai bonedd, ficerdai, tai mawr yn y wlad, tafarnau, gwestai, siopau ac adeiladau masnachol a diwydiannol eraill, eglwysi newydd, capeli anghydffurfiol, adeiladau cyhoeddus gan gynnwys neuaddau marchnad, elusendai, tlotai, ysgolion ac ysbytai, tai gweithwyr, tolldai, stablau a cherbytai, tai masnachwyr a rheolwyr, ac adeiladau fferm newydd. Rwbel tywodfaen oedd y deunydd adeiladu mwyaf cyffredin yn dal i fod drwy'r rhan fwyaf o'r 18fed ganrif, er fod mwy a mwy o'r gwaith cerrig yn cael ei rendro. Roedd meini nadd yn eithaf cyffredin ar rai o'r tai mwy a'r adeiladau cyhoeddus o ddechrau'r 19eg ganrif ymlaen, yn enwedig ar gyfer agoriadau ffenestri a drysau a chonglfeini. Ymddengys fod llechi yn raddol wedi disodli teiliau cerrig lleol yn ystod y 18fed ganrif. Fe godwyd nifer o adeiladau brics yn ystod y 18fed ganrif, er mai cymharol anghyffredin oedd eu defnyddio hyd at ddiwedd y 19eg ganrif pan ddechreuwyd defnyddio brics coch, melyn a glas yn amlach ar gyfer ffenestri a drysau. Ymddengys fod teiliau brig to ceramig ac wedi'u sgleinio yn cael eu cynhyrchu yn lleol ger Whole House Farm ger Talgarth, yn y cyfnod rhwng tua chanol yr 17eg ganrif a dechrau'r 18fed ganrif, ac fe'u defnyddir heb amheuaeth gyda naill ai toeau llechi neu gerrig. Roedd teiliau brig to ceramig coch, rhai yn gribog, yn cael eu defnyddio yn yr ardal erbyn tua chanol y 19eg ganrif. Ymhlith yr adeiladau brics nodedig o flynyddoedd cynnar yr 20fed ganrif y mae Neuadd Tregoed, a ailadeiladwyd ar ôl tân ym 1900, a'r ffermdy yn Y Rhos, a ddisodlodd y ffermdy cerrig a choed oedd yno cynt.

Fe ailadeiladwyd neu fe adnewyddwyd yn sylweddol nifer fawr o ffermdai carreg yn yr ardal yn ystod y 18fed ganrif, yn enwedig yn achos y ffermydd mwy cefnog ar yr iseldir megis Trephilip, Penyrwrlodd (Llanigon), New Forest Farm, Plas Celyn, Glan-hen-Wye, a Llwynfilly, a chafodd rhai ffermdai newydd megis Lower Sheephouse eu haddurno y tu mewn mewn dull bonheddig. Fe barhaodd proses debyg drwy'r 19eg ganrif, gyda ffermdai carreg ac weithiau wedi eu rendro yn Pipton, Maes-y-garn, a Great House Farm yn Nhalgarth, rhai megis Lower House yn Llyswen gyda meini nadd ac ymddangosiad bonheddig, yn nodweddiadol o'r ffordd yr oedd y bonedd yn ymledu yng nghefn gwlad yn y cyfnod hwn.

Fe adeiladwyd mwy a mwy o amrywiaeth o adeiladau fferm arbenigol megis beudai, ysguboriau gwair, cerbytai, ysguboriau gyda llwybr trol yn y canol a lloriau nithio, granarau, a stablau drwy gyfnod y 18fed a'r 19eg ganrif i gwrdd ag anghenion technegau ffermio gwell oedd yn cael eu cyflwyno. Ymhlith yr adeiladau pwysig o'r cyfnod hwn y mae'r ysguboriau carreg yn Y Dderw, Llwynmaddy, Lower Maestorglwydd, Pendre a Pipton, yn aml gydag agennau gwynt, a'r ysguboriau o'r 19eg ganrif yn Nhrephilip gyda cherrig nadd coch a glas nodweddiadol o gwmpas yr agoriadau. Mae'r hen ysgubor frics fawr o'r 18fed ganrif yn Great House Farm yn Nhalgarth yn weddol anarferol yn yr ardal, fel yn wir y mae'r 341 blwch nythu i golomennod yn nhalcen yr ysgubor. Mae llofftydd colomennod eraill i'w gweld, ar raddfa lai a mwy arferol, mewn nifer o ffermydd ac adeiladau fferm, o'r 18fed a'r 19eg ganrif mae'n debyg, gan gynnwys talcen yr ysgubor ym Mhentwyn i'r de o Dalgarth, y blwch colomennod talcennog uwchlaw'r granar yn Nhy Mawr, Llanigon, y blwch colomennod talcennog mewn ysgubor yn Y Dderw gyda thyllau i nythu ar y talcen, a'r colomendy bychan o dan fargod ffermdy yn Ffermdy Pendre. Yr unig golomendai ar wahân sydd i bob golwg wedi goroesi o fewn yr ardal yw'r pâr crwn carreg o flaen Hen Wernyfed, yn ôl pob tebyg o ddiwedd y 15fed neu ddechrau'r 16eg ganrif, er fod yna awgrymiadau fod rhai eraill yn bodoli mewn amryw o ffermydd hyd at ddiwedd y 18fed neu ddechrau'r 19eg ganrif efallai, yn Nhrefeca Fawr o bosibl.

Fe adeiladwyd tai bonedd amrywiol hefyd yn ystod diwedd y 18fed a dechrau'r 19eg ganrif, yn enwedig yn y trefi a'r pentrefi gyda gwell cysylltiadau neu gyda mynediad hawdd i'r ffyrdd tyrpeg newydd. Ymhlith y tai nodedig o'r cyfnod hwn y mae Castle House ym Mronllys, Woodlands, Parc Gwynne a Green House yn Y Clas ar Wy, Ashbrook House a Chae Mawr yng Nghleirwy, ac Ashgrove House yn Treble Hill. Mae amryw o'r tai, megis Glasbury House, yn drigfannau sylweddol i wyr bonheddig, ac fe osodwyd rhai o'r tai megis Ty Aberllynfi yn Treble Hill a Bryn-yr-hydd ar y briffordd hanner ffordd rhwng Y Clas ar Wy a Llowes mewn lle amlwg o fewn y tirlun. Cafodd y rhan fwyaf o'r math hwn o dai eu rendro neu eu gorchuddio â cherrig mân rwbel tywodfaen, gydag amryw gyda haenau o rwbel. Tai eraill mawr pentrefol sy'n nodweddiadol o'r cyfnod hwn yw nifer o ficerdai a phersondai o'r 19eg ganrif, gan gynnwys yr Hen Ficerdy yng Nghleirwy a Vicarage House, Llowes.

Gwelwyd twf y plasty gwledig yn y 19eg ganrif o fewn ardal y tirlun hanesyddol, fel arfer wedi eu hadeiladu o feini nadd. Yr adeiladau mwyaf amlwg o'r math hwn yn yr ardal yw Castell Maesllwch a adeiladwyd yn y 1830au mewn arddull gastellog Duduraidd, Clyro Court a adeiladwyd yn y 1840au, a Thy Parc Gwernyfed a Mans Pont-y-wal a adeiladwyd yn y 1870au a'r 1880au mewn arddull neo-Jacobeaidd. Ymddengys fod Parc Gwernyfed wedi disodli bwthyn hela cynharach, yng nghanol parc ceirw o'r canol oesoedd, ac roedd Pont-y-wal a Maesllwch ill dau wedi disodli tai cynharach a osodwyd mae'n debyg o fewn tiroedd pleser a pharciau tirlun oedd yn bodoli eisoes. Roedd stablau a cherbytai hefyd yn adeiladau oedd yn cydoesi gyda'r tai mawr gwledig hyn ac yn gysylltiedig â hwy, megis y rhai yn Clyro Court, Parc Gwernyfed a Phont-y-wal, a chyda porthordy a chlwydi porth, fel ym Mharc Gwernyfed a Chastell Maesllwch. Roedd amryw o'r ystadau mwyaf yn yr ardal, megis Llanthomas, yn cael effaith sylweddol ar y wlad o'u cwmpas, gan fod dodrefn tir y parc, clwydi, ffenestri a drysau o arddull unigryw ar gyfer y bythynnod, yn cael eu cynhyrchu mewn gweithdai ar y stad neu'n cael eu comisiynu gan y stad oddi wrth grefftwyr o'r tu allan.

Fe arweiniodd y gwelliannau i'r ffyrdd tyrpeg yn ystod diwedd y 18fed a dechrau'r 19eg ganrif, gyda chychwyn y dramffordd rhwng Y Gelli ac Aberhonddu ar ddechrau'r 19eg ganrif a Rheilffordd Henffordd, Y Gelli ac Aberhonddu ar ddiwedd y 19eg ganrif, at nifer gynyddol o ymwelwyr i'r ardal, ac fe arweiniodd hyn yn ei dro at amryw o westai a thafarndai min-y-ffordd newydd, neu wedi eu hadnewyddu'n sylweddol. Y rhai amlycaf o'u plith oedd y Griffin Inn, Bridge End Inn a Star House yn Llyswen, gwesty'r Maesllwch Arms yn Y Clas ar Wy, gwesty'r Baskerville Arms yng Nghleirwy, a gwesty'r Swan, gwesty'r Crown a'r George Inn (y ficerdy wedi hynny) yn Y Gelli, yr hen Sun Inn yn Llanigon, ac yn olaf gwesty'r Tower yn Nhalgarth. Roedd nifer o dafarnau cynharach wedi parhau neu wedi codi mewn amlygrwydd yn ystod y cyfnod, gan gynnwys gwesty'r Three Cocks, tafarn o'r cyfnod cyn y ffyrdd tyrpeg, sy'n sefyll allan oherwydd ei bod wedi rhoi ei henw i'r ardal ar hyd y coridor cysylltiadau pwysig a gododd rhwng Bronllys a'r Gelli. Ymddangosodd amrywiaeth eang o adeiladau eraill yn sgîl y chwyldro mewn trafnidiaeth yng Nghanol Dyffryn Gwy, gan gynnwys stablau a cherbytai yn gysylltiedig â thafarnau a thai preifat yn ystod diwedd y 18fed a dechrau'r 19eg ganrif, fel yn yr Old Radnor Arms, Talgarth a fferm Glan-hen-Wye. Mae Swyddfa'r Dramffordd yn Broomfield yn perthyn i Dramffordd Y Gelli-Aberhonddu a hefyd mae'n debyg y stablau yn Llwynau-bach, y ddau yn Treble Hill, a gorsafoedd rheilffordd ac adeiladau rheilffordd eraill y gwelir enghreifftiau ohonynt yn Nhalgarth a Threfeinion.

Gwelwyd ehangu mawr yn Y Gelli a Thalgarth yn ystod diwedd y 18fed a dechrau'r 19eg ganrif wrth i'r trefi ddatblygu fel canolfannau gwasanaethu ar gyfer yr ardaloedd oddi amgylch. Adeiladwyd nifer o dai trefol a siopau newydd, ac yn arbennig o nodedig yn y cyfnod hwn oedd ymddangosiad tai teras ar gyfer gweithwyr, yn aml naill ai mewn carreg gydag addurniadau brics neu yn gyfan gwbl mewn brics. Gwelwyd cynnydd yn nifer y tai i weithwyr yn amryw o bentrefi'r iseldir hefyd, yn enwedig yn ystod y 19eg ganrif, gan gynnwys Albert Terrace a Barn Cottage yn Llowes oedd, mae'n debyg, yn cynrychioli bythynnod gweision ffermydd.

Codwyd adeiladau cyhoeddus mawr newydd yn nhrefi Talgarth a'r Gelli yn ystod y 19eg ganrif. Yn y 1830au y codwyd Elusendai Harley yn Stryd yr Eglwys a Heol Aberhonddu, Y Gelli. Codwyd y cyntaf, yn ôl y gofeb, 'ar gyfer derbyn 6 menyw frodorol dlawd AD MDCCCXXXII'. Mae'r Farchnad Fenyn a'r Farchnad Gaws ac Undeb Deddf y Tlodion hefyd yn dyddio o'r 1830au a Neuadd y Dref Talgarth o'r 1870au. Mae twr cloc Y Gelli o'r 1880au, mewn arddull 'Gothig Uwch Fictoraidd', yn fynegiant pellach o falchder dinesig y cyfnod hwn. Fe ailadeiladwyd llawer o'r eglwysi canol oesol oedd eisoes yn bodoli mewn arddull Gothig Fictoraidd yn ystod y 19eg ganrif gan gynnwys Bronllys, Cleirwy, Y Gelli, Llowes a Llyswen. Fe adeiladwyd eglwysi newydd yn hen blwyf Y Clas ar Wy, Yr Holl Saint i'r gogledd o afon Gwy a San Pedr i'r de, ar ôl i safle'r eglwys ganol oesol gael ei gadael yn dilyn llifogydd yn yr 17eg ganrif. Effaith arall o'r adfywiad crefyddol a fu yn ystod y ganrif oedd y cynnydd sydyn a fu mewn addoldai anghydffurfiol yn Y Clas ar Wy, a adeiladwyd yn y 1860au gyda haenau o gerrig rwbel tywodfaen gydag addurniadau o feini nadd, a Chapel y Bedyddwyr yn Treble Hill oedd yn cydoesi ac wedi ei adeiladu mewn brics coch gydag addurniadau tywodfaen mewn arddull syml glasurol. Roedd capeli gwledig y 19eg ganrif bob amser yn symlach eu harddull, wedi eu hadeiladu fel arfer o rwbel tywodfaen wedi'i rendro, fel yn achos Capel New Zion y Methodistiaid Cyntefig ym Moity, a Chapel y Bedyddwyr ym Mhenyrheol.

Ymddangosodd elfen amlwg arall yn nhirlun archeolegol Canol Dyffryn Gwy gydag adeiladu clystyrau mawr o adeiladau ysbyty yn Nhalgarth a Bronllys, pob un â'i gapel ar wahân wedi ei gynllunio gan bensaer. Fe adeiladwyd hen Ysbyty Canolbarth Cymru yn Nhalgarth, a agorwyd ym 1903, mewn arddull sefydliadol llym. Fe'i codwyd o garreg leol gydag addurniadau tywodfaen Grinshill, a haen fewnol o frics a wnaed yn y fan a'r lle. Fe adeiladwyd Ysbyty Bronllys i'r pwrpas fel sanatoriwm i drin y diciâu rhwng 1913-20, wedi'i gynllunio ar sail system pafiliwn eang ei gofod, ac fe'i defnyddir hyd heddiw fel ysbyty.

Mae adeiladau hanesyddol yn ffurfio elfen bwysig yn nhirlun hanesyddol Canol Gwy. Ar wahân i'w gwerth archeolegol cynhenid maent hefyd yn gofnod hollbwysig o hanes cymdeithasol ac economaidd yr ardal. Roedd nifer o adeiladau yn bwysig hefyd o safbwynt eu cysylltiadau hanesyddol neu lenyddol: mae Capel Maesyronnen yn gysylltiedig â'r mudiad anghydffurfiol cynnar yng Nghymru; cysylltir Coleg Trefeca a Threfecca-isaf (Fferm Coleg Trefecca) â'r arweinydd Methodistaidd o'r 18fed ganrif, Howel Harris a'r emynydd William Williams, Pantycelyn; Ashbrook House a Ficerdy Cleirwy oedd cartrefi'r dyddiadurwr Frances Kilvert yn ystod ei guradaeth yn y 1860au a'r 1870au; cysylltir Clyro Court â Syr Arthur Conan Doyle a'i nofel, The Hound of the Baskervilles; a Glasbury Gate Cottage oedd y fan lle y cofnodwyd yr unig ddigwyddiad yn yr ardal yn ystod Helyntion Beca yn gwrthwynebu'r tollau ar y ffyrdd tyrpeg yn y 1840au. Mae adeiladau unigol a grwpiau o adeiladau hefyd yn ffurfio elfen weledol bwysig yn y tirlun. Mae rheoli gosodiad gweledol nifer o adeiladau yn flaenoriaeth benodol, yn enwedig yn achos cestyll ac eglwysi hanesyddol, tirlun trefi a phentrefi hanesyddol, ac yn lleoliad tirlun plastai gwledig unigol, ffermydd, a chapeli yn yr ucheldir.

Mae rheoli a gwarchod tirluniau archeolegol Canol Dyffryn Gwy yn gosod aml i sialens ar gyfer y dyfodol, yn enwedig wrth geisio darganfod deunyddiau gwahanol ar gyfer adeiladau sydd bellach yn ddiddefnydd. Mae pob un o'r plastai gwledig yn yr ardal wedi cael eu trawsnewid naill ai yn westai neu ar gyfer defnydd sefydliadau, fel y mae un o'r ddwy ysbyty o'r 20fed ganrif yn yr ardal. Cafodd llawer o'r tai bonedd mwy o'r 18fed a'r 19eg ganrif eisoes eu trawsnewid yn llwyddiannus yn ganolfannau awyr agored, ac yn yr un modd fe drawsnewidiwyd amryw o'r hen gapeli anghydffurfiol yn dai. Y flaenoriaeth fwyaf heb amheuaeth yw'r adeiladau fferm hanesyddol a'r ffermdai sydd bellach yn ddiddefnydd, yn enwedig yn rhannau mwyaf anghysbell yr ardal, rhai ohonynt bellach mewn cyflwr gwael. Os nad yw trawsnewidiad neu gadwraeth yn syniad ymarferol mae angen gwneud cofnod o adeiladau unigol ar frys cyn iddynt gael eu colli. Mae blaenoriaeth bwysig arall o safbwynt rheolaeth a chadwraeth yn ymwneud ag amrywiaeth eang o ddyddodion archeolegol sy'n cadw elfennau o hanes archeolegol yr ardal sydd bellach ar goll. Yr hyn sy'n arbennig o bwysig yma yw dyddodion sy'n cynnwys tystiolaeth am adeiladau sy'n perthyn i gyfnodau cynhanesyddol, Rhufeinig a chanol oesol cynnar, ffurf tai a ffermdai a thai'r werin bobl o gyfnod cynnar yn y trefi a'r pentrefi, maenorau mynachaidd a chestyll, eglwysi wedi cau, a safleoedd diwydiannol cynnar na wyddys ond ychydig amdanynt. Mae archeoleg nifer o adeiladau sy'n dal i sefyll yn bwysig hefyd, yn enwedig mewn perthynas â gwybodaeth am eu defnydd, eu ffurf a'u dyddiad gwreiddiol.