CPAT logo
Cymraeg / English
Adref Eto
Tirwedd Hanesyddol Canol Dyffryn Gwy

Nodweddion Tirwedd Hanesyddol

Canol Dyffryn Gwy


Tirluniau Amddiffynnol A Milwrol

Mae ardal y tirlun hanesyddol yn cynnwys amryw o safleoedd ac adeiladwaith amddiffynnol yn perthyn i'r cyfnodau cynhanesyddol, Rhufeinig, canol oesol a modern. Mae grwp pwysig o fryngeyrydd yn l pob tebyg yn cynrychioli canolfannau llwythol o'r Oes Haearn cyn dyfodiad y Rhufeiniaid, gan gynnwys y rhai yn Hillis a Phen-rhiw-wen ar y bryniau isel i'r gorllewin o afon Llynfi, y Gaer ar gerlan yr afon uwchlaw afon Gwy yn Aberllynfi, yng Nghastell Dinas ar fryn unig ar hyd ymyl tarren y Mynydd Du, ym Mhendre ar droedfryniau'r Mynydd Du y tu l i Dalgarth ac ar Gomin Bryn-yr-hydd ger Llowes, ar y bryniau isel i'r gogledd o afon Gwy. Mae dosbarthiad y ceyrydd, fel yr oedd amddiffynfeydd diweddarach yr ardal, yn awgrymu ymdrech i reoli tiriogaeth yn ogystal mynediad. Mae Pen-rhiw-wen yn tremio dros ryd oedd yn croesi afon Gwy yn Llyswen. Mae Y Gaer yn tremio dros ryd yn Aberllynfi. Mae Castell Dinas yn tremio dros y bwlch drwy'r Mynydd Du i'r de o Dalgarth. Mae'r bryngeyrydd yn amrywio'n fawr o ran maint, o ddarn o dir tua 3.6 hectar wedi ei gau o fewn amddiffynfeydd bryngaer Hillis i tua 0.45 hectar yn achos Caer Aberllynfi. Mae'n bosibl bod amryw o ddarnau caedig, gan gynnwys yr un ger Cwrt Llwyfen ac enghraifft bosibl ym Mharc Gwernyfed, yn cynrychioli ffermydd bychain gydag amddiffynfeydd o'r Oes Haearn.

Mae'r gaer Rufeinig yng Nghleirwy hithau yn tremio dros fan croesi traddodiadol dros afon Gwy yn Y Gelli, wedi ei lleoli mewn llecyn o bwysigrwydd strategol ar y ffordd rhwng Swydd Henffordd a dyffryn Wysg, ardal oedd yn cael ei rheoli yn yr oesoedd canol gan gestyll Cleirwy a'r Gelli. Mae'n ymddangos bod y gaer yn dyddio'n l i gyfnod cynnar y goncwest ac mai oes fer a gafodd i bob golwg, yn perthyn o bosibl i'r ymgyrchoedd yn erbyn llwyth brodorol y Silures rhwng 50 a 60 OC. Cafodd gwersyll cyrch Rhufeinig posibl ei ddarganfod drwy luniau o'r awyr ymhellach i'r de-orllewin.

Ychydig, os unrhyw beth, a wyddys am strwythurau amddiffynnol yn yr ardal yn ystod yr oesoedd canol cynnar. Ni wyddys ymhle'r oedd llysoedd tybiedig y tywysogion yn Nhalgarth, ac nid oes sicrwydd sut y ci ei amddiffyn. Awgrymwyd y gallai bryngaer Pen-rhiw-wen gynrychioli llys Llyswen, ond ni phrofwyd hyn, ac ni phrofwyd ychwaith yr awgrym mai buarth yr hen lys cyn-goncwest y tybir a fodolai ym Mronllys, yw'r beili allanol mwyaf yno.

Mae'r gyfres mwyaf rhyfeddol o adeiladwaith amddiffynnol yng Nghanol Dyffryn Gwy yn perthyn i gyfnod y goncwest Normanaidd ac i'r cyfnod wedi hynny pan oedd y diriogaeth yn nwylo arglwyddi'r mers. Mae'r safleoedd ar y cyfan wedi eu dosbarthu ar hyd y tir isel hyd afon Gwy a Llynfi, yn cyfateb i'r rhannau hynny lle y sefydlwyd maenorau Seisnig. Yr eithriad yw castell carreg Castell Dinas, wedi'i osod o fewn amddiffynfeydd y fryngaer o'r Oes Haearn ar ymyl y Mynydd Du, y castell canol oesol uchaf drwy Gymru a Lloegr, dros 450m o uchder. Cestyll pridd gyda mwnt a beili pren oedd y cestyll cynharaf, wedi eu codi i amddiffyn ac i weinyddu'r arglwyddiaethau a'r maenorau a sefydlwyd ar l y goncwest dan arweiniad Bernard de Neufmarch yn yr 1080au. Ar y dechrau fe rannwyd tiriogaeth Brycheiniog, a oedd newydd gael ei choncro, yn nifer o arglwyddiaethau llai fel rhoddion i farchogion oedd wedi rhoi eu gwasanaeth yn ystod y goncwest. Yn eu tro fe wnaethant hwy gyflwyno amryw o faenorau yn rhodd i denantiaid o'u hystadau Seisnig, pobl a fewnfudodd i'r ardal yn gyfnewid am eu gwasanaeth.

Gwyddys am gestyll pridd a choed o wahanol faint, yn perthyn yn bennaf efallai i ddiwedd yr 11eg a'r 12fed ganrif, yn Aberllynfi, Bronllys, Y Gelli, Llanthomas, Garn-y-castell, Tredustan, Trefeca, Cleirwy o bosibl, Castle Kinsey yng Nghwrt Evan Gwynne, yr hen fwnt yn Y Clas ar Wy, Castle Tump ger Llowes, yr amddiffynfa yng Nghefn Bank ger Trefeca Fawr o bosibl, ac yn olaf Castell Bochrwyd, sydd ychydig y tu allan i ardal y tirlun hanesyddol. Ceir beili amddiffynnol yn gysylltiedig rhai o'r cestyll cynnar hyn, fel yn achos Bronllys, Tredustan, Trefeca, Cwrt Evan Gwynne, Aberllynfi, ond mewn enghreifftiau eraill mae'r mwnt fel petai'n sefyll ar ei ben ei hun. Mae Castle Tump ger Llowes i bob golwg yn gysylltiedig darn o dir caedig gydag olion cnydau, ond fe allai hwn ddyddio o'r cyfnod Rhufeinig. Ychydig iawn o hanes y cestyll cynnar hyn sydd wedi ei gofnodi, er fod y mwnt yn Y Gelli yn ogystal Bronllys heb amheuaeth yn perthyn i'r 1090au. Ceir y cyfeiriad cyntaf at Y Gelli ym 1121 fel castello de haia, ceir cyfeiriad posibl ym 1150 at Garn-y-Castell, yn yr 1180au at Gastell Y Clas ar Wy, ac Aberllynfi ym 1233.

Mae'n bosibl fod castell Bronllys wedi cael ei osod ar ben un o ganolfannau grym y cyfnod cyn-goncwest, ond ymddengys fod llawer o'r cestyll cynnar eraill wedi cael eu codi ar safleoedd newydd. Gosodwyd castell Y Gelli yn strategol ar un o'r prif fannau croesi dros afon Gwy, ac roedd mynediad dros dir sych i Ganol Dyffryn Gwy yn cael ei reoli gan gestyll Y Gelli yn ogystal Chleirwy. Roedd y mwnt yn Y Clas ar Wy a Bochrwyd a Llowes yn rheoli mannau croesi eraill dros afon Gwy o bosibl, tra bod Bronllys, Aberllynfi, Tredustan a Threfeca wedi eu gosod ar hyd afon Llynfi. Gosodwyd rhai o'r cestyll cynnar ar dir llawer uwch, megis Garn-y-castell, ar esgair islaw Mynydd Troed, eto am resymau strategol o bosibl.

Fe ddisodlwyd y cestyll cynnar mwy niferus hyn yn ystod y 13eg ganrif gan gestyll cerrig gydag amddiffynfeydd mwy cadarn a allai wrthsefyll gwarchae hir, ac fe ddangosodd arglwyddi'r mers gryn fedr wrth fabwysiadu'r ffasiynau diweddaraf mewn ceyrydd milwrol, mewn rhai enghreifftiau yn seiliedig ar syniadau a fenthycwyd o ogledd Ffrainc. Roedd gan y castell carreg cyntaf yn Y Gelli amddiffynfa a thwr carreg sgwr ar ddiwedd y 12fed ganrif, a gwelwyd aml i gyfnod o atgyweirio ac ailadeiladu drwy gydol y 13eg ganrif. Crybwyllir tn mewn twr carreg blaenorol gan Gerallt Gymro ym 1175, ac mae'r twr carreg crwn sydd wedi goroesi, a'r beili wedi'i amgylchynu gan wal, yn dyddio'n l i ganol y 13eg ganrif mae'n debyg, ac fe godwyd y twr yn uwch yn y 14eg ganrif er mwyn creu llety domestig. Roedd gan Gastell Bochrwyd dwr carreg ym 1205, ac er mai ychydig a wyddys am ffurf a hanes cynnar Castell Cleirwy, adeilad carreg ydoedd i bob golwg, wedi ei osod ar lwyfan tebyg i fwnt, a chyfeirir at y castell ym 1397. Mae waliau carreg a gorthwr carreg tebygol Castell Dinas, sydd hefyd yn dwyn yr enw Bwlchyddinas, wedi eu gosod o fewn amddiffynfa bridd bryngaer gynhanesyddol, yn perthyn i ddiwedd y 12fed neu ddechrau'r 13eg ganrif yn l pob tebyg. Mae'r Ty Caerog sgwr yng nghanol Talgarth yn dyddio o'r 14eg ganrif yn l pob tebyg, ac ymddengys mai ei fwriad oedd amddiffyn y rhyd dros afon Ennig a'r dref, a dderbyniodd statws bwrdeistref yn gynnar yn y 14eg ganrif. Fe ddisgrifiwyd y ty twr, gyda thri llawr mae'n debyg a tho sip pyramid, gan Leland ar ddechrau'r 16eg ganrif fel 'carchar bach'. Dim ond llond dwrn o enghreifftiau tebyg o adeiladwaith sydd yng Nghymru. Roedd amddiffynfeydd canol oesol tref Y Gelli, o ddechrau'r 13eg ganrif, yn llawer mwy sylweddol. Nodwyd wal gref gyda thair llidiart gan Leland yn nechrau'r 16eg ganrif ond ychydig o hynny sydd i'w weld bellach - roedd llawer wedi mynd eisoes erbyn dechrau'r 19eg ganrif. Awgrymir llinell yr amddiffynfeydd canol oesol o gwmpas rhannau o'r dref gan batrwm y ffordd a ffiniau eiddo, fodd bynnag, ac ar un darn gerllaw'r hen Water Gate ar ochr ddwyreiniol y dref, gan wal fwy diweddar sydd, fe ymddengys, wedi cael ei chodi gyda cherrig cynharach.

Nid yw hanes diweddarach llawer o'r cestyll yn eglur, er fod amryw ohonynt, gan gynnwys Y Gelli, Castell Dinas, Bronllys a Chleirwy, wedi cael eu cyflenwi nwyddau yn ystod gwrthryfel Glyndwr ym 1403, ac fe gafodd beili allanol Bronllys ei atgyweirio mor hwyr 1410. Ar l blynyddoedd cynnar y 15fed ganrif doedd gan y cestyll ddim llawer o bwrpas milwrol, ac erbyn canol yr 16eg ganrif mae'n debyg fod eu cyflwr yn dirywio'n arw. Cofnododd Leland fod Bronllys eisoes wedi dirywio gormod i'w atgyweirio erbyn 1521. Cafodd rhai eu disodli gan dai bonedd diweddarach, megis y plasty a godwyd ar gefn gorthwr castell Y Gelli tua 1660, a'r ty a godwyd o fewn beili allanol Castell Bronllys ar ddiwedd y 18fed ganrif.

Elfen arall bwysig yn hanes safleoedd amddiffynnol Canol Gwy yw'r casgliad nodedig o safleoedd yn yr ardal lle byddai ffos yn amgylchynu tai pwysig carreg neu bren ar un adeg, boed hynny i'w hamddiffyn neu i'w haddurno. Mae'r safleoedd yn cynrychioli elfen o bwys ym mhatrwm yr anheddiad lleol ac yn cynrychioli, mae'n debyg, ymddangosiad dosbarth o is-denantiaid arglwyddi ffiwdal y mers yn y 13eg a'r 14eg ganrif efallai. Ymhlith y safleoedd ffosedig a ddarganfuwyd yn yr ardal y mae: Hillis, i'r de o Lanfilo; pentref Llanfilo i'r de o'r eglwys; ym mhentref Bronllys; Cwrt-coed i'r gorllewin o Drefithel; a Lower House i'r gogledd-ddwyrain o Gleirwy. Mae dau o'r safleoedd ffosedig, Bronllys a Llanfilo, yn gysylltiedig ag aneddiadau eglwysig.

Cynrychiolir diwedd traddodiad y tai amddiffynnol yn yr ardal gan borthdy Porthamel, i'r gogledd o Dalgarth, un o'r plastai canol oesol gwychaf yn yr ardal, un o'r porthdai domestig canol oesol prin sydd wedi goroesi. Mae enw'r ty yn tarddu o'r geiriau Porth-aml, ac ar ddechrau'r 16eg ganrif fe ddisgrifiodd Leland y porthdy tywodfaen deulawr o ddiwedd y 15fed ganrif fel 'a fair gate and strong waul embateled', gan gyfeirio at y wal oedd yn amgylchynu tir y ty, gyda llwybr cerdded a chanllaw ar ben y wal, a gafodd ei dymchwel erbyn dechrau'r 19eg ganrif. Mae'r porthdy, o garreg o safon uchel, yn nodwedd o nifer o dai mawr yr 16eg ganrif ar y gororau.

Cynrychiolir un elfen annisgwyl yn nhirlun amddiffynnol a milwrol Canol Gwy gan gloddwaith ffosydd o gwmpas pebyll byddin sir Frycheiniog yn ystod eu gwersyll haf ar ochr ddeheuol Comin Rhos Fach yn y 1870au. Mae hyd yn oed yr Ail Ryfel Byd wedi gadael ei l ar y tirlun hanesyddol, gan gynnwys yr hen safle gwylio a godwyd ar fwnt Y Gelli, bellach wedi ei ddymchwel, tyllau bomiau ger Cockalofty, a'r atgyweiriadau helaeth a wnaed i eglwys Llanigon ar l i un o fomiau'r Luftwaffe ddisgyn arni ym 1941.

Mae ardal tirlun hanesyddol Canol Gwy yn cynnwys amrywiaeth eang o dirluniau amddiffynnol a milwrol pwysig sy'n codi pob math o gwestiynau ynglyn rheoli a chadwraeth. Mae amddiffynfeydd llawer o'r bryngeyrydd cynhanesyddol, y safleoedd mwnt a beili canol oesol, safleoedd ffosedig ac amddiffynnol, wedi dioddef yn y gorffennol oherwydd aredig, chwareli, cloddio ffosydd, adeiladu ffyrdd a rheilffyrdd, a datblygiad tai, sy'n golygu bod gwybodaeth archeolegol ynglyn ffurf y safleoedd a phryd a sut y cawsant eu trigiannu, yn cael ei cholli. Mae safleoedd eraill, megis Castle Tump ger Llowes, mewn perygl posibl oherwydd erydu ar yr afon rywbryd yn y dyfodol. Mae nifer o'r safleoedd, yn enwedig efallai y ffosydd dyfnaf sy'n amgylchynu'r bryngeyrydd, ffosydd a'r safleoedd ffosedig, yn debyg o gynnwys dyddodion o dan ddwr sydd gwybodaeth amgylcheddol bwysig. Cwestiwn arall y mae angen ei ystyried yw safle gweledol y cofadeiliau, gan fod datblygiad di-gydymdeimlad yn y cyffiniau agos yn gallu tarfu'n sylweddol ar y safle amlwg o fewn y tirlun a fwriedid ar gyfer y cofadeiliau hyn.