CPAT logo
Cymraeg / English
Tirwedd Hanesyddol Bro Trefaldwyn
Map o'r ardal cymeriad hon

Nodweddion Tirwedd Hanesyddol

Bro Trefaldwyn: Yr Ystog
Churchstoke, Powys
(HLCA 1069)


CPAT PHOTO 923.19

Anheddiad a phentref modern ehangol a sefydlwyd o gwmpas eglwys gnewyllol o'r canoloesoedd cynnar a'r canoloesoedd ac ar y ffin rhwng y dyffryn ac ymyl y bryn; tir a gaewyd ar y bryniu tua' gogledd yn ystod y canoloesoedd ac wedi hynny ar gyfer ffermydd bychain a bythynnod.

Cefndir hanesyddol

Mae'r ardal cymeriad yng nghyfran Gymreig trefgordd a phlwyf yrYstog o'r 19eg ganrif. Arferai'r eglwys fod yn gysylltiedig â phlwyf Chirbury, ac roedd yn un o'r ddwy eglwys o'r cyfnod cyn y Goresgyniad Normanaidd a grybwyllit yn Llyfr Domesday Book yn 1086. Adeg y Goresgyniad Normanaidd roedd y tir yn Cirestoc yn nwylo Mersia, ond roedd un ffermwr o GYmro, a chyfanswm y tir a weithid ar y pryd oedd 600 acer (5 hid) ar y cyd â choetir i besgi 100 o foch. Daw'r enw Churchstoke o'r elfennau Hen Saesneg 'church' a 'stoke' (stoc) sef 'safle'r eglwys'. Cofnodir yr enw Cymraeg Yr Ystog am y tro cyntaf yng nghanol y 16eg ganrif a daw o'r enw Saesneg. Cofnodwyd yr hen enw Old Church Stoke am y tro cyntaf yng nghanol y 16eg ganrif.

Roed yr anhediad a grybwyllir yn Domesday yng nghantref Witentreu ond yn 1086 daeth yn rhan o arglwyddiaeth Trefaldwyn, a oedd newydd ei chreu gan Harri I. Yn ddiweddarach, daeth yn rhan o gantref Halcetor. Rhoddwyd melin yn Yr Ystog i ganoniaid Awgwstaidd Snead tua 1190, ac mae'n ymddangos bod meln yn dal i weithio yn hwyr yn y 13eg ganrif. Roedd y canoniaid wedi symud i'r priody yn Chirbury erbyn 1194, ac yn 1291 roedd yr eglwys yn Yr Ystog yn dal ym meddianr priordy Chirbury. Mae'n debyg bod y castell mwnt a beili yn Simon's Castle, ychydig i'r dwyrain o'r Ystog, wedi ei sefydlu yn ystod y 12fd ganrif neu'n gynnar yn y 13eg ganrif, ac mae peth ansicrwydd ai'r castell a gofnodwyd yn Sned yn ystod y 1230au oedd Simon's Castle neu Castle Hill, Hyssington.

Nodweddion tirwedd hanesyddol allweddol

Tir llethrog rhwng y Gamlad a Todleth Hill, sy'n edrych tua'r de a'r gorllewin, rhwng 125-250m uwchben y môr. Mae'r ddaeareg solet dan yr ardal yn cynnwys bandiau gogledd-de o gerrig llaid, sialiau, gro a thywodfaen calchaidd Ordofigaidd, gyda nifer o haenau tenau o dyffau folcanaidd. Priddoedd siltiog mân gyda chlai a cheir yn bennaf, sydd dan ddwr yn dymhorol weithiau.

Mae pentref yr Ystog yn gorwed lle mae nifer o barthau topographig yn cyfarfod, ar ymyl tir y dyffryn lle mae aber Camlad-Caebitra i'r de a hefyd ar ymyl y tir brynion uwch i'r gogledd. Mae pentref gwasgarog Yr Ystog yn sefyll o bobtu'r bont dros y Gamlad. Y strwythur hynaf sy'n goroesi yw'rtwr cerrig ynEglwys St Nicholas, sy'n sefyll mewn mynwent gron, ac ailgodwyd llawer o weddill yr eglwys yn ystod y 19eg ganrif. Ymhlith yr adeiladau trawiadol eraill ceir rheithordy 1846, yr ysgol a'r ysgoldy cerrig o'r 18fed ganrif hwyr a dechrau'r 19eg ganrif, a chapel briciau amryliw o ddiwedd y 19eg ganrif a godwyd yn 1879. Ymhlith y tai hynaf i oroesi ceir Churchstoke Hall, a'i ffrâm bren o'r 16eg ganrif hwyr, a ymestynnwyd ganol y 17eg ganrif, Fir Court sy'n dyddio o 1685, a Royal (Rail) House, a cheir enghreifftiau o adeiladau ffrâm bren mewn mannau eraill, fel yn Green Farm lle mae blaeb briciau o'r 18fed ganrif, ac yn Court House Inn, a ailfodelwyd yn hwyr yn y 18fed ganrif a dechrau'r 19eg ganrif. Ceir tai eraill - rhai'n fawr a rhai'n llai - o'r 18fed ganrif a hyd at ganol y 19eg ganrif a wnaed o gerig briciau, gan gynnwys Todleth Hall, Broadway House ac Ivy House. Ceir bythynnod cerrig o'r 18fed ganrif a bythynnod teras o friciau o'r 19eg ganrif a'r Horse and Jockey Inn sydd, mae'n debyg, o'r 18fed ganrif gynnar. Ar ochr ogleddol a dwyreiniol y pentref ceir ysgol fodern a thai modern sy'n ehangu'n gyflym. Mae nifer o ffermydd bach ar gyrion y pentref gydag adeiladau allanol ag estyll tywydd a cheir adeiladau allanol o friciau, o'r 19eg a'r 20fed ganrif, gyda fframiau dur yn Green Farm a ffermdy ac adeiladau allanol o friciau ar safle hen weithfa friciau ychydig i'r gorlewin o'r pentref. Mae dwy bont garreg ag un bwa dros y Gamlad, sef North Bridge, pont o ddiwdd y 19eg ganrif gydag atgyfnerthion modern, a South Bridge o'r 18fed ganrif. Mae cyfadail manwerthu mawr, modern ar ochr ddwyreiniol y pentref.

Ffermydd a bythynnod yn gymharol agos i'w gilydd ar dir uwch i'r gogledd o'r Ystog, gydag amheddiad cnewyllol yn yr Hen Ystog gan gynnwys ffermdy ffrâm bren o'r 17eg ganrif gydag estyniad cerrig o'r 18fed ganrif yn fferm Glebe, yr Oak Inn gynt a godwyd o gerrig yn ystod y 17/18fed ganrif, a Chapel Methodistaidd Cyntefig o 1860. Ymhlith y ffermydd gwasgarog eraill, gyda rhyw 400m ryngddynt yn aml, ceir y ffermdy ffrâm bren yn Bryncyn, cyfadail bach gydag ysgubor gerrig o'r 18fed ganrif a ffermdy briciau bach yn Blue Barn, ffermdy cerrig a rendrwyd yn fferm Todleth, a nifer o fythynnodd cerrig gadawedig.

Roedd y patrwm caau a welir heddiw, lle ceir caeau afreolaidd bychain, wedi'i sefydlu erbyn canol y 19eg ganrif, yn bennaf mae'n debyg o ganlyniad i glirio a chau coetir bob yn dipyn yn ystod y canoloesoedd ac ers hynny, ac mae'r rhan fwyaf o'r caeau yn fach ac afreolaiddd gyda gwrychoedd amlrywogaeth a dorrwyd yn isel neu a osodwyd, gyda linsiedi ar y llethrau serthaf a rhai gwrychoedd celyn ar dir uwch. Collwyd rhai terfynau caeau ers y 19eg ganrif, a dangosir lle bu hen gaeau gan goed derw aeddfed sydd yng nghanol terfynau rhai o'r caeau modern. Mae'n debyg bod y rhan fwyaf o'r tir wedi ei gau erbyn dechrau'r 19eg ganrif, ac eithrio darnau cul o gomin agored ar hyd glannau Camlad i'r gogledd o'r eglwys, yn yr ardal a elwir hyd heddiw The Green, a nifer o gaeau rhwng yr Hen Ystog a Roundton, a gaewyd yn ddiweddarach oddi ar y comin, ac yn y caeau hyn plannwyd gwrychoed un rhywogaeth draenen wen, ac mae gan nifer fechan o derfynau ar dir uwch, yn ymyl allfrigau, waliau cerrig. Yn y pentref, cofnodwyd olion o dirwedd rhych a chefnen, lle bu caeau âr agored canoloesol o bosibl, yn y cae gyferbyn â Churchstoke Hall.

Gwellwyd y brif ffordd drwy'r pentref (A489) sy'n dilyn y gyfuchlin ar ymyl dyffryn y Gamlad, fel ffordd dyrpeg yn hwyr y 18fed ganrif, ond mae'n debyg ei bod yn gorwedd ar ffordd hynach o lawer. Ceir lonydd troellog ar y tir uwch, yn yr Hen Ystog ac ar ochr orllewinol Todleth Hill, yn rhedeg drwy geuffyrdd mewn mannau ac mewn mannaueraill maent ar derasau a dorrwyd i ochr y bryn.

Cynrychiolir hen ddiwydiant gan glai a lenwyd â dwr ar ochr orllewinol y pentref o bobtu'r ffordd i Sarn (A489), sy'n dangos lle bu gweithfa friciaua gynhyrchai friciau, pibelli traenio, potiau blodau, cawgiau a darnau eraill o grochenwaith a seiliwyd ar fodelau clasurol. Roedd y gweithfeydd yn weithredol o'r 1870au, ond daeth y gwaith i ben erbyn y 1920au. Ceir nifer o chwareli cerrig, fel yn Simon's Castle ac yn rhan uchaf yr ardal cymeriad i'r gogledd o'r pentref, gan gynnwys chwareol linol yn ymyl y ffordd i'r gogledd o'r Churchstoke Hall a oedd, unwaith eto, yn dal i gynhyrchu tan ddechrau'r 20fed ganrif, gan weithio un o'r bandiau cul o dyffau folcanaidd sy'n rhedeg o'r gogledd i'de ar draws yr ardal. Yn gynnar yn y 17eg ganrif, roedd y felin ddwr yn yrYstog, ar y Gamlad i'r de or pentref ac ar yr un safle o bosibl â'r felin ganoloesol, yn cael ei defnydio unwaith eto, wedi iddi fod yn adfail am rai blynyddoedd, ond mae'n debyg ei bod wedi ei gadael unwaith eto erbyn y 19eg ganrif.

Ffynonellau cyhoeddedig

Anon 1908
Arnold & Huggett 1985; 1986; 1987; 1988
Barton 1999
Charles 1938
Davies 1945-46
Ellis 1935
Eyton 1854-60
Chibnall 1973
Haslam 1979
Hogg & King 1967
Lewis 1833
Lewis 1915
Lloyd 1880
Mountford 1928; 1932
Owen 1907
Silvester 1992
Silvester & Frost 1999
Soil Survey 1983
Thorn & Thorn 1986
Toghill 1990
Willans 1908

I gael gwybodaeth bellach cysylltwch os gwelwch yn dda ag Ymddiriedolaeth ArchaeolegolClwyd-Powys yn y cyfeiriad hwn neu ewch i wefan Cyngor Cefn Gwlad Cymru' yn www.ccw.gov.uk.