CPAT logo
Cymraeg / English
Tirwedd Hanesyddol Bro Trefaldwyn
Map o'r ardal cymeriad hon

Nodweddion Tirwedd Hanesyddol

Bro Trefaldwyn: Pantglas
Yr Ystog a Cheri, Powys a Bishop's Castle, Sir Amwythig
(HLCA 1077)


CPAT PHOTO 00-C-069

Pennau bryniau, a gaewyd gan mwyaf yn ystod y 18fed ganrif hwyr a dechrau'r 19eg ganrif, gyda chefnffordd a chyfres o amddiffynfeydd o'r cyfnodau cynhanesyddol hwyr, y canoloesoedd cynnar a'r canoloesoedd.

Cefndir hanesyddol

Mae ffin ddeheuol yr ardal cymeriad yn dilyn Cefnffordd Ceri a elwir hefyd Yr Hen Ffordd a 'The Castle Road' (ar l Bishop's Castle), a hi yn y fan hon yw'r ffin rhwng Cymru a Lloegr. Credir bod y Gefnffordd yn rhan o lwybr pwysig i ganolbarth Cymru o'r cyfnodau cynharaf ac mae'n debyg ei bod hefyd yn un o ffyrdd y porthmyn ar gyfer gyrru gwartheg a faged yng Nghymru i farchnadoedd mewn trefi yn Lloegr. Ni wyddys i sicrwydd pa mor hen yw'r ffordd bresennol ond mae'n debyg ei bod yn dyddio o'r 18fed ganrif. Honnwyd bod bwlch arbennig yng Nghlawdd Offa lle mae'r ffordd a'r clawdd yn croesi, ond nid yw'r dystiolaeth yn bendant. Ond ceir cofadeilau chysylltiad 'r ffordd. Mae'r cloddwaith yng Nghaer Din, sydd un ai o'r cyfnod cynhanesyddol hwyr neu o'r canoloesoedd cynnar, yn cael ei chroesi gan lwybr llydan amlwg a allai dystio i lwybr cynharach ar dras ybryn, ac awgrymir gweithgarwch cynhanesyddol cynnar gan ddarganfyddiadau fflint, o'r Oes Efydd efallai, ger Caer Din. Mae'r castell mwtn a beili a elwir Bishop's Moat, sydd ar dir anarferol o uchel i adeilad fel hwn, yn sefyll ar fan gul ar hyd y bryn, ac mae'n bosibl ei fod yn rheoli mynediad i'r tir pellach i'r dwyrain. Ychydig a wyddys am y castell mwtn a beili, a ddisgrifir fel 'one of the finest and most commodious in the county'. Enwir y cloddwaith ar l esgobion Henffordd a oedd yn dal yr ardal yn ystod y canoloesoedd - ac enw'r ardal oedd Bishop's Teirtref. Roedd y castell ym mhen gorllewinol y diriogaeth hon a buasai iddi swyddogaeth yng ngweinyddiad yr ardal.

Erbyn y 19eg ganrif, roedd yr ardal yn rhan o drefgordd Bachaethlon ym mhlwyf Ceri, trefgorddau Hopton Ucha ac Issa, a Mellington ym mhlwyf yr Ystog, trefgordd Gymreig Castlewright ym mhlwyf Seisnig Mainstone, a'r drefgordd Gymreig Aston ym mhlwyf Seisnig Lydham, a threfgordd Broughton ym mhlwyf Bishop's Castle, a bwrdeistref a threfgordd Bishop's Castle.

Nodweddion tirwedd hanesyddol allweddols

Mae'r ardal yn ffurfio pen bryn cymharol wastad rhwng uchter o 250-400m uwch lefel y mr a thorrir arni gan gyfres o ddyfrynnoedd nant cul ag ochrau serth yn y gogledd. Mae'r daeareg solet yn cynwys sialiau Silwraidd, gyda phriddoedd podsolig brown thraeniad cymharol dda. Ceir darnau o goetir hynafol a ailblannwyd ar lethrau serth gan gynnwys Gyfenni Wood, a nifer o blanhigfeydd coniferaidd bach ar wasgar.

Mae'r patrwm anheddu modern yn cynnwys ffermydd gwasgaredig dan ben y bryn a nifer o fythynnod cerrig o'r 18fed ganrif ar ymyl y ffordd ar hyd y gefnffordd, gan gynnwys y Dog and Duck Inn gynt, ffermdy rendredig bach gydag ysgubor isel ym Mhen-y-cwm, a ffermdy modern gydag adeiladau briciau a cherrig o'r 18fed/19eg ganrif yn Hopton Bank.

Ar gyfer pori y defnyddir y tir yn bennaf heddiw. Rhannwyd y tirwedd yn gaeau polygonaidd mawr ac fel arfer ceir gwrychoedd un-rhywogaeth, draenen wen a dorrwyd yn isel a gwneir defnydd helaeth o ffensys pyst a gwifren i rannau caeau mwy. Mae rhai o'r gwrychoedd yn ymyl y ffyrdd ar hyd y gefnffordd yn amlrhywiogaethol, gan gynnwys colen, derwen, onnen, celynnen, draenen a bedwen, ac i bob golwb maent yn hynach na rhai o'r terfynau caeau sydd yn yn eu herbyn, ac mae llawer o'r terfynau caeau yn yr ardal yn dangos lle caewyd tir comin uchel yn gymharol ddiweddar. Mae enwau'r caeau yn nogfennau'r degwm yn awgrymu bod darn o dir i'r dwyrai o Moat Farm yn cael ei ddefnyddio fel cae rasio cyn i'r tir gael ei gau. Dangosir yr ardal i'r gogledd o Bankshead, ym mheb dwyreiniol yr ardal, fel comin heb ei gau ar fap Degwm Bishop's Castle 1843. In the At ddiwed y 19eg ganrif, crewyd tirwedd amlwg o fythynnod ac alotmentau bach o'r tir comin, a chynrychiolir hyn heddiw gan nifer o fythynnod briciau o'r 19eg ganrif a lonydd gwyrddion yn dilyn cyfuchlin y bryn. Caewyd darnau ym mhen gorllewinol yr ardal cymeriad, yn nhrefgorddau Hopton Uchaf ac Issa ac yn nhrefgordd Bachaethlon, yn ystod degawd cyntaf y 19ed ganrif.

Ar y cyfan, mae Cefnffordd Ceri yn cadw at ben y bryn ac mae'n ffurfio llwybr llydan metlinedig cymharol gul rhyw 2-3m ar draws sydd yn rhedeg o fewn darn lletch o lawer, 10-15m ar draws, gyda gwrychoedd planedig o bobtu iddo. Mewn manau, mae'r gwrychoedd yn ehangu i'r ymylon glaswelltog ond mewn mannau eraill mae'r gwrychoedd ar ymyl y ffordd yn teneuo a diflannu, ganadael pr o fonciau paralel isel.

Ffynonellau cyhoeddedig

Chitty 1963
Earp & Hains 1971
Eyton 1854-60
Fox 1955
Gelling 1983
Jerman 1933-34
Morris 1889
Pryce 1915
Soil Survey 1983
Sothern & Drewett 1991
Spurgeon 1965-66

I gael gwybodaeth bellach cysylltwch os gwelwch yn dda ag Ymddiriedolaeth ArchaeolegolClwyd-Powys yn y cyfeiriad hwn neu ewch i wefan Cyngor Cefn Gwlad Cymru' yn www.ccw.gov.uk.