CPAT logo
Cymraeg / English
Tirwedd Hanesyddol Bro Trefaldwyn
Map o'r ardal cymeriad hon

Nodweddion Tirwedd Hanesyddol

Bro Trefaldwyn: Ffridd Faldwyn
Trefaldwyn, Llandysul a'r Ystog, Powys
(HLCA 1079)


CPAT PHOTO 00-C-017

Tir bryniog ar ochr orllewinol bro Trefaldwyn, gyda bryngaer gynhanesyddol ac aneddiadau amddiffynedig llai, ffyrdd hynafol, fermydd gwasgarog, darnau o goetir naturiol gweddilliol, a chomin uchel caeedig.

Cefndir hanesyddol

Mae'r ardal yn gorwedd o fewn y plwyfi eglwysig canlynol - Trefaldwyn, Llandysul, Yr Ystog (trefgordd Weston Madoc), a Cheri (trefgordd Caeliber Issa). Ychydig a wyddys am hanes cau'r tir yn yrardal tirwedd yn gyffedinol. Dangosir y rhan fwyaf o'r tir fel tir a gaewyderbyn cyfnod y dyraniadau degwm, yn hanner cyntaf y 19eg ganrif, ond dyrannwyd rhai o'r caeau unionlin ar ymyl ybryn i'r de-ddwyrain o Little Pentre Farm, ar ymyl gorllewinol plawyf yr Ysto, ac ar ymyl y bryn yng Nghaeliber Isaf, rhwng Drainllwynellyn farm a fferm Perthybu, ym mhlwyf Ceri ym 1803 ac 1805.

Cynrychiolir yr anheddiad cynharaf yn yr ardal gan ddarnau o grochenwaith Neolithig, fflintwaith a bwyell fflint gaboledig a ddarganfuwyd wrth gloddio mewn pydewau yn rhagddyddio'r fryngaer yn Ffridd Faldwyn yn hwyr yn yr 1930au. Mae'n debyg maianheddiad phalisadau pren oedd yr amddiffynfa gyntaf ar y bryn ac er nas dyddiwyd mae'n debygei fod yn perthyn i'r Oes Efydd ddiweddar. Yn ei dro, fe'i disodlwyd gan gan gaeadle unclawdd ac yna gan gaeadle nifer o gloddiau, tuachanol neu ddiwedd yr Oes Haearn mae'n debyg, gyda mynedfeydd a amddiffynnwyd yn ddwys a thu mewn wdi ei lenwi ag adeiladau pren gan gynnwys rhesi o adeiladau gyda phedwar neu chwe phostyn sydd, o bosibl, yn cynrychioli adeiladau storio, a oed wedi cael eu gadael cyn neutua adeg y goncwest Rufeinig. Ceir caeadleoedd amddiffynedig llai eraill yn yr ardal, gan gynnwys dau safle olion cnydau i'r gogledd o Jamesford a chaeadle o bridd ger Butcher's Wood ac mae'n debyg bod pobl yn byw ynddynt yn yr Oes Haearn ac efallai yn ystod y cyfnod Rhufeinig a chyfnodau diweddarach efallai. Mae'n debyg bod melin frenhinol, yn dyddio i'r 1220au neu'r 1230au, wedi ei chodi yn yr ardal, rywle i'r gorllewin o Drefaldwyn, ond ni wyddys ei hunion leoliad.

Mae'n debyg bod bryngaer Ffridd Faldwyn wedi ei defnyddio fel caer warchae gan filwyr yBrenin adeg gwarchae castell Trefladwyn rhwng 7-8 Maedi 1644, a darganfuwyd lawer o fwledi plwm yn y caeau rhwng y fryngaer a'r castell.

Nodweddion tirwedd hanesyddol allweddol

Cefnen uchel ar echel gogledd-de yn cynnwys sialiau Silwraidd y mae eu caledwch yn amrywio, rhwng uchter o tua 130-320m uwchben lefel y mr, gyda lethrau lla serth yn y gorllewin lle mae'n edrych dros ddyffryn Hafren ac yn fwy serth yn y dwyrain lle mae'n edrych dros fro Trefaldwyn. Yn gyfredinol ceir priddoedd cleiog, siltiog gyda thraeniad da, a cheir brigiadau ar y mannau amlwg uchaf, ac weithiau ceir eithin gyda rhedyn. Mae darnau o goetir hynafol hanner naturiol wedi goroesi ar lethrau dwyreiniol Ffridd Faldwyn ac ar nifer o lethrau serth mewn mannau eraill, fel coedwig Pant-y-maen. Ceir hefyd nifer o blanigfeydd conifferaidd ailblanedig yn Butcher's Nursery i'r de o Drefaldwyn a mannau eraill, ar lethrau serth unwaith eto. Mae nifer o enwau lleoedd yn rhan ddeheuol yr ardal yn cynnwys elfennau sy'n awgrymu coetir neu brysgwydd, fel perthi (Perthybu) a llwyn (Drainllwynellyn).

Ffermydd canolig neu fawr r wasgar, ar y darddlin fel arfer, gyda rhai adeiladau gadawedig, fel yn achos y cyfadai; cerrig a briciau ar ben y brynn ym Mhant-y-maen. Mae oed y ffermydd hyn uwchben Trefaldwynyn ansicr, ond mae'n debyg bod cysylltiad rhwng rhai ohonynt ag ailanheddu cymharol hwyr ar y tir bryniog wedi i dir comin a berthynai i Drefaldwyn, Llandysul, Yr Ystog a Cheri gael ei gau. Ceir ffermdai ac adeiladau allanol o friciau o'r ?19eg ganrif yn Rhiew Goch, Jamesford a Little Pentre Farm, gydag adeiladau allanol o bren yn Rhiew Goch a'r adeiladau allanol gyda fframiau dur o'r 20fed ganrif yn Jamesford a Little Pentre.

I bori ydefnyddir y tir yn bennaf heddiw. Mae'r rhan fwyaf o'r caeau'n fach neu'n ganolig ac yn aml mae iddynt derfynau uchaf sy'n grwn ac yn dilyn y gyfuchlin gyda'r coetir oddi uchod, sy'n dangos bod y coetir wedi ei glirio fesul darn o'r tir isel am i fyny, o'r cyfnod canol ymlaen efallai, ond o gofio'r dystiolaeth o anheddu cyhanesyddol nid yw'n amhosibl bod rhai o'r terfynau'n perthyn i'r cyfnod cynhanesyddol. Ceir gwrychoedd amlrywogaeth y yr ardal hon gan gynnwys onnen, draenen wen, collen, derwen a chelynnen, rhai wedi eu gosod ac eraill wedi eu torri'n isel ac eraill wedi gordyfu neu'n fylchog, a chysylltir hwy'n aml gyda phonciau isel a linsiedi, rhai ohonynt yn fawr, ar dir serthach. Unwyd rhai o'r caeau, a gwelir yr hen derfynau ar ffurf ponciau isel yn y caeau, ond drwy gymharu'r mapiau Ordnans cynnar neu fapiau'r degwm, gwelir mai ychydig y mae patrwm y caeau wedi newid ers canol y 19eg ganrif, er bod rhai gwrychoedd wedi eu disodli bellach gan ffensiau pyst a gwifren. Awgrymir bod peth o'r tir cliriedig wedi ei gau'n gymharol ddiweddar gan batrymau caeau cynlluniedig, gyda therfynai unionlin ar y bryn ychydig i'r de o Ffridd Faldwyn ac i'r gorllewin o Drefaldwyn, ac yn ardal Caeliber Isaf at ben deheuolyr ardal. Mae'n debyg bod y cyntaf yn cynrychioli cae'r comin uchel a berthynai unwaith i blwyf Trefaldwyn, a daw ei enw o'r gair ffridd (o'r Saesneg frith) a faldwyn sy'n rhan o'r enw Trefaldwyn. Fel a nodwyd uchod, mae'r mannau gyda therfynau caeau mwy rheolaidd yn cynrychioli cau'r comin uchel at ddiwedd y 18fed garif a dechrau'r 19eg ganrif ym mhlwyfi Ceri a'r Ystog. Yn yr ardaloedd olaf, fodd bynnag, mae'r terfynau ar y cyfan yn cynnwys rhywogaethau cymysg gan gynnwys draenen wen, colen, ac onnen, rhai wedi eu torri'n isel, rhai wedi gordyfu, rgai wedi eu gosod yn ffurfiol a rhai wedi gordyfu ac wedi eu disodli gan ffensiau pyst a gwifren.

Ceir rhwydwaith o lonydd cordeddog, lonydd gwyrddion a llwybrau troed, ac mae'n debyg bod lawer ohonynt yn dra hen, gan gynnwys efallai ffordd hynafol yn cysylltu bryngaer Ffridd Faldwyn a'r tir uchel y tu hwnt gyda'r rhyd hanesyddol yn Rhydwhiman (gweler ardal cymeriad Trehelig-gro), ffyrdd yn arwain i'r ffridd o Drefaldwy, a'r ffordd dros y bryn i Landysul. Mae rhai o'r ceuffyrdd hyd at 3-4m mewn dyfnder ac mae'n amlwg eu bod yn dra hen.

Ceir nifer o hen chwareli cerrig gwasgaredig, bach heb ddyddiad sicr, ond dangosir llawer ohonynt fel 'Quarry' neu 'Old Quarry' ar fapia'r Ordnans o'r 1880au.

Mae'r gofeb ryfel ar fan uchaf y bryn yn dirnod amlwg yn Sir Drefaldwyn.

Ffynonellau cyhoeddedig

Arnold 1987
Barker & Higham 1982
Barton 1997
Guilbert 1975; 1981
Hogg 1975
Musson 1991
O'Neil 1942
Savory 1976
Soil Survey 1983
Sothern & Drewett 1991
Stanford 1974; 1980
Walters & Hunnisett 1995

I gael gwybodaeth bellach cysylltwch os gwelwch yn dda ag Ymddiriedolaeth ArchaeolegolClwyd-Powys yn y cyfeiriad hwn neu ewch i wefan Cyngor Cefn Gwlad Cymru' yn www.ccw.gov.uk.