CPAT logo
Cymraeg / English
Tirwedd Hanesyddol Bro Trefaldwyn
Map o'r ardal cymeriad hon

Nodweddion Tirwedd Hanesyddol

Bro Trefaldwyn: Wernddu
Yr Ystog, Powys a Lydham, Sir Amwythig
(HLCA 1080)


CPAT PHOTO 923.14

Tir isel gyda thraeniad gwael ar hyd y Gamlad uchaf, gydallwybrau pwysigar hyd ochrau'r dyffryn, ffermydd ar wasgar, melinau a gwlyptiroedd.

Cefndir hanesyddol

Roedd un o'r ychydig aneddiadau cynnar yn Aston, ar safle ychydig yn uwch at ben dwyreiniol yr ardal cymeriad. Fe'i cofnodir fel Estune yn Llyfr Domesday yn 1086, yng nghantref Witentreu, ac fe'i haseswyd fel daliadaeth o tua 240 acer (2 hid). Roedd yr anheddiad Mersaidd hwn yn un o nifer yn yr ardal y dywedir eu bod yn ddiffaith adeg y Goresgyniad yn 1066 ac roeddent yn dal felly ym 1086, ac mae'n debyg eu bod wedi dioddef oddi wrth ymosodiadau gan y Cymry yn ystod ymgyrchoedd Gruffudd ap Llywelyn yn y 1040au. Cofnodir ail anhediad yn Llyfr Domesday yn Lach, The Lack, ym mhen gorllewinol yr ardal cymeriad, sef daliadaeth o ryw 45 acer. Buasai'r anheddiad hwn hefyd yn ddiffaith adeg y Gorsegyniad ond i bob golwg roedd wedi ei adfer erbyn 1086.

Cyn diwedd y 12fed ganrif, sefydlwyd cymuned fechan o fynachod Awgwstaidd yn Snead, a symudodd i Chirbury erbyn 1194. Mae'n debyg bod y gymuned gynnar wedi ei lleoli ar safle eglwys St Mary the Virgin yn Snead, ychydig y tu allan i'r tirwedd hanesyddol, ac wedi ei good o fewn caeadle hirsgwar gyda ffos. Sefydlodd yr eglwys gapel annibynnol o'r enw St Michael's Church yn Chirbury a ddaeth yn eglwys plwyf Snead yn esgobaeth Henffordd ar l y diddymiad yn y 16eg ganrif.

Gwerthwyd trefgordd Aston, a fu unwaith yn rhan o gantref Chirbury, yn ogystal threfgorddau Mellington a Castlewright, i esgobion Henffordd, a rhoddwyd yr enw maenor Bishop's Teirtref neu Teirtref Esgob. Roedd yr ardal gyfan wdi ei chau erbyn yn hwyr y 18fed ganrif. Erbyn y 19eg ganrif, roedd pen gorllewinol yrardal yn rhan o drefgorddau Mellington, Yr Ystog a Hurdley ym mhlwyf Yr Ystog, ac roedd y pen dwyreiniol ym mhlwyf Snead, roed trefgordd Aston yn nhrefgordd Seisnig Lydham, ac roedd trefgordd Broughton ym mhlwyf Seisnig Bishop's Castle.

Nodweddion tirwedd hanesyddol allweddol

Dyfryn isel, gwastad ar hyd rhannau uchaf y Gamlad, rhwng uchter o 120-50m uwch lefel y mr, gyda phriddoedd siltiog a chleiog sydd dan ddwr yn ddymhorol. Yn ystod y cyfnod rhewlifol hwyr mae'n debyg bod rhanuchaf dyffryn yn cynnwys llyn a gedid yn l gan yr i, gan dorri ar batrymau traeniad blaenorol, a dihangai'r dwr i ddyffryn Rea yn y gogledd a chreu ceunant Marrington Dingle. Ceir darnau helaeth dan ddwr o hyd ledled y dyffryn ac o ganlyniad torrwyd rhwydwaith eang o ffosydd i draenio'r tir, ac mae rhai ohonynt yn dyddio o'r canoloesoedd a'r cyfnod l-ganoloesol cynnar.

Cfyngir anheddiad modern i nifer fechan o ffermydd canolig sydd fel arfer ar y tir ychydig yn uwch o gwmpad ymylon yr ardal. Cynrychiolir nifer gynharach o adeiladau ffrm bren gynharach gan ffermdai ffrm bren o'r 17eg ganrif yn Aston Hall, Owlbury, The Lack, Lower Mellington a The Farm, a cheir bythynnod o'r 17/18fed ganrif ar ochr y ffordd yng Nghraigfryn ac i'r dwyrain o Court House, Mellington. Ceir adeiladau melin o gerrig yn Broadway Mill, melin a fwydir gan ffos a phwll a dynnir o nant sydd yn feillio o'r Gamlad, hanner ffordd rhwng melinau dwr Yr Ystog a Snead. Crybwyllir y felin a y tro cyntaf yn gynnar yn y 17eg ganrif, ac er iddi gael ei disgrifio fel adfail yn nes ymlaen roedd yn gweithio unwaith eto erbyn blynyddoedd cynnar y 18fed ganrif, a pheidiodd yn ystod yr 1950au. Mae adeiladau'r 18fed ganrif hwyr a dechrau'r 19eg ganrif wedi eu gwneud o friciau i gyd, gan gynnwys ffermdai mawr y Wernddu a The Meadows, lle mae olion adeiladau allanol o gerrig yn y naill a'r llall, yr hen felin o'r 19eg ganrif yn Snead, gyda thy cerrig cysylltiedig o'r 18fed ganrif, a gydag olion dufrffos a phwll unwaith eto, a'r Capel Methodistaidd Cyntefig, Green Chapel a chapeldy o 1867, a rendrwyd yn rhannol, yn ymyl Plas Madoc.

Y defnydd pennaf a wneir o'r tir heddiw yw tyfu gwair ac mae rhannau helaeth yn llawn dwr ac mae cyrs yn tyfu. Ceir caeau canolig eu maint, gyda gwrychoedd a dorrwyd yn isel - y ddraenen ddu yn aml - ac mae rhai gwrychoedd yn fylchog a gosodwyd ffensiau pyst a gwifren yn eu lle, a cheir coed talach gwasgaredig yn y gwrychoedd a choed ysgaw a helyg ar hyd y dyfrgyrsiau, ac mae nifer o derfynau'r caeau wedi eu colli ers y 19eg ganrif. Mae'n ymddangos bod patrwm trawiadol o gaeau stribed i'r gogledd o'r Gamlad yn ymyl Simon's Castle yn nhrefgordd Hurdley yn dangos lle bu caeau r agored yn y canoloesoedd. Mae'n ymddangos bod tir wedi ei gau'n raddol yn ystod y cyfnod canol hwyr ac yn gynnar yn y cyfnod l-ganoloesol i gydredeg chynlluniau traenio. I'r de o Lower Mellington mae darn o gefnen a rhych, sydd yn deillio efallai o'r cyfnod l-ganoloesol yn hytrach nag o'r canoloesoedd, ac mae cynllun traenio cysylltiedig. Oherwydd y gwlyptiroedd, mae rhan o'r ardal yn ymyl Owlbury yn rhn o gynllun Stiwardiaeth Cefn Gwlad.

Mae ochrau gogleddol a deheuol y dyffryn wedi eu cau gan ffyrdd modern sydd yn dilyn y ffyrdd tyrpeg cynharach ac ychydig o ffyrdd metlin sydd yn croesi'r tir gwlyb ar waelod y dyffryn. Lonydd cordeddog a chul ydynt gyda ffosydd yn eu hymyl, ac yn aml maent yn rhedeg mewn ceuffyrdd hyd at 1m mewn dyfnder.

Ceir nifer o byllau dwr yn y pen gogleddol; rhwng Aston a Snead ceir hen byllai clai a gysylltir 'r Owlbury Brick and Pipe Works gynt, i'r dwyrain o Lower Aston, a oedd yn dal i gynhyrchu yn yr 1880au, ond ychydig a welir heddiw ar wahn i ambell wastraffydd gwasgaredig.

Ffynonellau cyhoeddedig

Arnold 1993
Barton 1999
Chibnall 1973
Earp & Haines 1971
Haslam 1986
Silvester & Frost 1999
Soil Survey 1983
Thorn & Thorn 1986
Willans 1934

I gael gwybodaeth bellach cysylltwch os gwelwch yn dda ag Ymddiriedolaeth ArchaeolegolClwyd-Powys yn y cyfeiriad hwn neu ewch i wefan Cyngor Cefn Gwlad Cymru' yn www.ccw.gov.uk.