CPAT logo


Cymraeg / English
Adref Eto
Tirweddau Hanesyddol

Nodweddion Tirwedd Hanesyddol

Bro Trefaldwyn


Mae'r disgrifiad canlynol, a godwyd o'r Gofrestr Tirweddau Hanesyddol, yn enwi'r themu tirweddol hanesyddol pwysig yn yr ardal cymeriad hanesyddol.

Click for landscape description

Ardaloedd cymeriad a ddiffinnir yn Nhirwedd Hanesyddol Bro Trefaldwyn


Mae dyffryn, neu Fro Trefaldwyn yn gorwedd ar draws ffin Lloegr a Chymru, yng ngogledd ddwyrain Powys a gorllewin Swydd Amwythig, ac mewn basn naturiol, rhyw 6km ar draws, a ffurfiwyd yng nghymer Afon Hafren ac Afon Camlad. Ac eithrio ar hyd y terasau a gysylltir a'r afonydd hyn, mae llawr y basn yn donnog, gyda phegynau bach hwnt ac yma o ddim mwy na 160m uwchben SO, tra bo'r rhimyn, sy'n diffinio terfynau'r tirwedd hwn, yn codi i dros 300m uwchben SO ar bob ochr. Amlinellir y rhimyn gan Gefnffordd Ceri i'r de, y Mynydd Hir i'r gogledd ddwyrain ac ucheldir dwyreiniol Bryniau Maldwyn i'r gorllewin.

Mae'r ardal o fewn yr amffitheatr naturiol hon sydd yn amgylchynu Trefaldwyn yn cynnig digon o dystiolaeth o'r frwydr hanesyddol am reolaeth ar diriogaeth a thramwyfeydd sydd mor nodweddiadol o hanes Cymru. Mae'r tirwedd wedi cadw olion amddiffynfeydd, ffiniau, aneddiadau a chyfundrefnau caeau o'r cyfnod cynhanesyddol hyd at y Canol Oesoedd, gan adlewyrchu trai a llanw'r ymrafael am y tir.

Ceir tystiolaeth o aneddu cynnar yng nghaer fynyddig o Oes yr Haearn yn Ffridd Faldwyn, uwchben ac i'r gorllewin o Drefaldwyn. Mae Cefnffordd Ceri, sydd yn derfyn deheuol i'r tirwedd, wedi bod yn llinell gyswllt bwysig ers y cyfnod cynhanesyddol.

Mae'r ymdrechion a fu i geisio cadw rheolaeth ar y boblogaeth frodorol a'r tramwyfeydd yn ystod y cyfnod Rhufeinig i'w gweld yn amlwg ym modolaeth dwy gaer, Forden a Brompton. Mae Caer Forden wedi goroesi fel adeiladwaith cloddiog sylweddol a amgylchynnir gan olion cnydau sydd yn amlwg o'r awyr, gan ddangos y bu yno anheddiad perthynol neu vicus. O gwmpas y gaer hefyd cafwyd hyd i nifer o olion cnydau o amgaeadau wedi'u haredig yn llwyr, yn cynrychioli ffermydd cynhanesyddol diweddar a Brythonaidd-Rufeinig. Gerllaw y mae Rhyd Whyman, y rhyd hanesyddol bwysig ar draws yr Afon Hafren.

Un o brif nodweddion y tirwedd yw Clawdd Offa, sydd yn rhedeg yn fras o'r gogledd i'r de, gan nodi terfyn gorllewinol teyrnas Mercia yn yr 8fed/9fed ganrifoedd. Mae'r Clawdd wedi'i gadw'n weddol dda yn y rhan hon ac mae i'w weld yn eglur fel asgwrn cefn llinellol yn croesi llawr y dyffryn, lle mae, am ryw 3km, yn ffurfio'r ffin presennol rhwng Cymru a Lloegr. Mae tirwedd amaethyddol llawr y dyffryn, sy'n perthyn i'r cyfnod l-ganoloesol a'r cyfnod modern yn bennaf, hefyd yn hynod weledol am ei goed gwrychoedd aeddfed.

Cafodd dylanwad y Normaniaid a chynnydd barwniaid Y Gororau effaith bwysig a pharhaol ar diroedd y gororau o'r 12fed ganrif ymlaen, ac mae nifer o gestyll mwnt a beili yn dystiolaeth ddigonol o orthrwm diwylliant estron ar y tirwedd yma. Mae Hen Domen er enghraifft, yn dilyn cryn dipyn o waith cloddio a wnaed yno, wedi datgelu tystiolaeth sylweddol am y cyfnod cythryblus hwn. Mae'n debyg mae hwn yw'r Castrum Muntgumeri a gofnodwyd yn Llyfr Dydd y Farn. Ym 1223, dechreuwyd gwaith ar adeiladu castell newydd o gerrig ar safle yn edrych dros fwrdeistref newydd Trefaldwyn. Mae cynllun y dref heb ei newid fawr ddim ers y dydd y lluniwyd map ohoni gan Speed ym 1610, ac mae darnau o'r amddiffynfeydd yn dal i'w gweld. Mae'r dref ei hun yn cynnwys enghreifftiau da o bensaernaeth Sioraidd (yn arbennig Neuadd y Dre a'r Sgwr). Yr oedd Trefaldwyn hefyd yn faes brwydr bwysig adeg y Rhyfel Cartref ym 1644. I'r dwyrain o'r dre y gorwedd Parc Lymore, sy'n cynnwys enghraifft brin o hwyaden hudo yn un o'r llynnoedd, tra bo Chirbury ar draws y ffin yn Swydd Amwythig yn cynnwys safle priordy o'r Canol Oesoedd.

Themu tirwedd hanesyddol ym Mro Trefaldwyn

Y Tirwedd Naturiol

Tirweddau Gweinyddol

Tirweddau Anheddiad

Tirweddau Amaethyddol

Tirweddau Pensaernol

Trafnidiaeth a Chyfathrebu

Tirweddau Diwydiannol

Tirweddau a Amddiffynnwyd

Tirweddau angladdol, eglwysig a chwedlonol

Tirweddau Addurniadol a Phictiwrésg

Ardaloedd cymeriad

CPAT PHOTO 921.18A

1062 Trehelig-gro - ardal cymeriad Trehelig-gro. Bwthyn ffrm goed o bosib o'r ail ganrif ar bymtheg gyda mewnlenwad o frics wedi ei ychwanegu yn ddiweddarach ar lannau gorllewinol yr afon Hafren ger fferm Dyffryn. Roedd yna fferi a rhyd dros yr afon yn y fan yma hyd nes diwedd y bedwaredd ganrif ar bymtheg, oedd yn mynd thraffig drwy gyfres o lonydd rhwng Berriew a Forden. Llun: CPAT 921.18A (Nl i'r map)


Cliciwch yma i gael mwy o wybodaeth am yr ardal Cymeriad Tirwedd Hanesyddol hon

Cliciwch yma i gael map o'r ardal cymeriad hon

CPAT PHOTO 83-C-301

1063 Forden - ardal cymeriad Ffordun yn edrych tua'r gogledd tuag at Kingswood yn y cefndir a Nantcribba Gaer yn y coed i'r dde, gyda Chlawdd Offa yn y golwg i'r dde o'r ffordd yn mynd tuag at Long Mountain yn y cefndir. Arhosodd llawer o'r ardal yn dir comin hyd nes dechrau'r bedwaredd ganrif ar bymtheg, pan godwyd nifer o randiroedd a bythynnod. Llun: CPAT 83-C-301. (Nl i'r map)


Cliciwch yma i gael mwy o wybodaeth am yr ardal Cymeriad Tirwedd Hanesyddol hon

Cliciwch yma i gael map o'r ardal cymeriad hon

CPAT PHOTO 92-C-680

1064 Gunley - ardal cymeriad Gunley, gyda Gunley Hall Jacobeaidd a Sioraidd hwyr yn y blaendir, wedi ei osod mewn parcdir addurnol ar bob ochr i'r ffordd sy'n mynd i lawr i lannau'r Camlad ar y dde eithaf. Mae'r parcdir yn gorwedd ar dir cefnen a rhych sy'n cynrychioli ardal o faes agored r canoloesol yn nhrefgordd Ackley, efallai o'r ail ganrif ar bymtheg neu'r ddeunawfed ganrif. Mae'r ffordd, sydd nawr yn gwyro o gwmpas y ty, yn gorwedd ar gwrs y ffordd Rufeinig rhwng y gaer Rufeinig Y Gaer a Wroxeter. Llun: CPAT 92-C-680. (Nl i'r map)


Cliciwch yma i gael mwy o wybodaeth am yr ardal Cymeriad Tirwedd Hanesyddol hon

Cliciwch yma i gael map o'r ardal cymeriad hon

CPAT PHOTO 00-C-29

1065 Penylan - ardal cymeriad Penylan, yn edrych tua'r dwyrain gyda Fron yn y blaendir a Kingswood yn y pellter canol. Crybwyllir Edderton, sef y fferm a'r neuadd anghysbell tua'r canol dde, am y tro cyntaf yn Llyfr Dydd y Farn o dan yr enw Edritune, gyda thir r a choetir digonol i besgi 60 o foch. Roedd yn un o nifer o aneddiadau Mersiaidd yn yr ardal, i'r gorllewin o'r Clawdd Offa, a sefydlwyd efallai yn y nawfed neu'r ddegfed ganrif, a fu (er iddo gael ei adfer erbyn yr amser y lluniwyd Llyfr Dydd y Farn yn 1086) heb ddefnydd iddo mae'n debyg o ganlyniad i ryfela gerila cenhedlaeth yn gynt. Llun: CPAT 00-C-029 (Nl i'r map)


Cliciwch yma i gael mwy o wybodaeth am yr ardal Cymeriad Tirwedd Hanesyddol hon

Cliciwch yma i gael map o'r ardal cymeriad hon

CPAT PHOTO 921.12A

1066 Fflos - ardal cymeriad Fflos yn y blaendir, yn edrych tua'r de tuag at seilos grawn modern Winsbury a Dudston yn y cefndir. Goroesodd llawer o'r tir yn ardal cymeriad Fflos fel porfa agored hyd nes y bedwaredd ganrif ar bymtheg. Llun: CPAT 921.12A (Nl i'r map)


Cliciwch yma i gael mwy o wybodaeth am yr ardal Cymeriad Tirwedd Hanesyddol hon

Cliciwch yma i gael map o'r ardal cymeriad hon

CPAT PHOTO 00-C-056

1067 Marrington Dingle - ardal cymeriad Marrington Dingle, yn edrych tua'r gogledd, gyda Calcot Farm yn y pellter canol a Spy Wood i'r dde. Ffurfiwyd y ceunant ag iddo ochrau serth yn ystod y cyfnod rhewlifol hwyr wrth i ddwr oedd yn cael ei gadw mewn llyn ac yn y Camlad uchaf ddianc tua'r gogledd i mewn i gwm Rea. Rheolwyd y pwer-dwr o'r Camlad o'r cyfnod canoloesol ymlaen ar gyfer cyfres o felinau corn a phandai. Defnyddiwyd ymylon ochrau serth y ceunant fel rhan o'r gwrthglawdd amddiffynnol cynhanesiol hwyrach yn Caerbre a Calcot Farm. Llun: CPAT 00-C-056 (Nl i'r map)


Cliciwch yma i gael mwy o wybodaeth am yr ardal Cymeriad Tirwedd Hanesyddol hon

Cliciwch yma i gael map o'r ardal cymeriad hon

CPAT PHOTO 00-C-061

1068 Lymore - ardal cymeriad Lymore, parc tirwedd wedi ei restru yn y Cofrestr Gerddi Hanesyddol, yn edrych tua'r dwyrain, gan ddangos y pyllau artiffisial gan mwyaf yn y blaendir. Crwyd y Pwll Uchaf, ar y dde, cyn 1785, gyda'r Pwll Isaf a'r Pwll Rhwydo yn cuddio yn y coed ar y dde eithaf wedi cael eu creu rhwng 1786 ac 1828. Mae'r tir parc yn gorchuddio ardal bwysig o gefnen a rhych canoloesol sydd mae'n debyg yn cynrychioli rhan o'r meysydd agored sy'n perthyn i dref Trefaldwyn. Llun: CPAT 00-C-061 (Nl i'r map)


Cliciwch yma i gael mwy o wybodaeth am yr ardal Cymeriad Tirwedd Hanesyddol hon

Cliciwch yma i gael map o'r ardal cymeriad hon

CPAT PHOTO 923.19

1069 Yr Ystog - ardal cymeriad yr Ystog, yn edrych tua'r gogledd-orllewin ar draws ardal Old Church Stoke, gyda Stone House yn y blaendir. Sefydlwyd nifer o ffermydd a bythynnod yn ardal Old Church Stoke rhwng yr unfed ganrif ar bymtheg a'r ddeunawfed ganrif, gan ehangu oddi wrth graidd y pentref canoloesol ymhellach i'r de. Llun: CPAT 923.19 (Nl i'r map)


Cliciwch yma i gael mwy o wybodaeth am yr ardal Cymeriad Tirwedd Hanesyddol hon

Cliciwch yma i gael map o'r ardal cymeriad hon

CPAT PHOTO 923-10

1070 Trefaldwyn - ardal cymeriad Trefaldwyn, gyda golygfa o dref Trefaldwyn o'r de. Llun: CPAT 923.10 (Nl i'r map)


Cliciwch yma i gael mwy o wybodaeth am yr ardal Cymeriad Tirwedd Hanesyddol hon

Cliciwch yma i gael map o'r ardal cymeriad hon

CPAT PHOTO 00-C-032

1071 Aldress - ardal cymeriad Aldress, yn edrych tua'r dwyrain, gyda Marrington Dingle coediog yn y blaendir a Lan Fawr a Corndon Hill yn y cefndir. Trefniant afreolaidd ond trefnus o gaeau o faint canolig, yn gyffredinol wedi eu gosod allan ar hyd y gyfuchlin a gyda rhai caeau ar y gorllewin yn llechfeddiannu llethrau isaf Lan Fawr. Llun: CPAT 00-C-032 (Nl i'r map)


Cliciwch yma i gael mwy o wybodaeth am yr ardal Cymeriad Tirwedd Hanesyddol hon

Cliciwch yma i gael map o'r ardal cymeriad hon

CPAT PHOTO 00-C-035

1072 Todleth - ardal cymeriad Todleth, yn edrych tua'r gogledd dros gwm Camlad uchaf, gyda Todleth Hill, Roundton a Corndon Hill yn y golwg y naill ar l y llall yn y pellter. Llun: CPAT 00-C-035 (Nl i'r map)


Cliciwch yma i gael mwy o wybodaeth am yr ardal Cymeriad Tirwedd Hanesyddol hon

Cliciwch yma i gael map o'r ardal cymeriad hon

CPAT PHOTO 00-C-037

1073 Hyssington - ardal cymeriad Hyssington, o'r gogledd, gyda Woodgate Farm yn y blaendir a phentref Hyssington gyda'i eglwys ganoloesol gysylltiedig a chastell mwnt a beili yn y pellter canol. Mae'r bryn isel yn y blaendir wedi ei lunio o fewnwthiad igneaidd o bicrit a gafodd ei gloddio yn yr Oes Efydd cynnar ar gyfer cynhyrchu bwyeill?rhyfel a bwyell forthwylion. Llun: CPAT 00-C-037 (Nl i'r map)


Cliciwch yma i gael mwy o wybodaeth am yr ardal Cymeriad Tirwedd Hanesyddol hon

Cliciwch yma i gael map o'r ardal cymeriad hon

CPAT PHOTO 00-C-030

1074 Chirbury - ardal cymeriad Chirbury, yn dangos pentref Chirbury o edrych o'r gorllewin. Sefydlwyd "burh" amddiffynnol yn Chirbury yn 915, yn ystod y rhyfeloedd Danaidd. Yn dilyn hynny, daeth yn brif faenor cant Dydd y Farn Witentre ac yn safle priordy Awstinaidd. Mae gweddillion helaeth o gefnen a rhych yn cynrychioli amaethiad r maes agored yn goroesi yn y caeau ar bob ochr i'r pentref. Llun: CPAT 00-C-030 (Nl i'r map)


Cliciwch yma i gael mwy o wybodaeth am yr ardal Cymeriad Tirwedd Hanesyddol hon

Cliciwch yma i gael map o'r ardal cymeriad hon

CPAT PHOTO 00-C-062

1075 Gwern-y-go - ardal cymeriad Gwern-y-go, yn edrych tua'r dwyrain, gyda Pentrehyling yn y blaendir a'r Ystog yn y cefndir a llinell Clawdd Offa yn torri ar draws y tirwedd o'r chwith i'r dde. Dynodwyd caer Rufeinig Pentrehyling gyntaf drwy ragarchwiliad awyrol yn y 1960au hwyr yn y caeau ychydig y tu draw i'r fferm. Mae'r gaer wedi ei haredig yn drylwyr dros lawer o flynyddoedd a bellach nid yw ei hamddiffynfeydd yn weledol fel safle gwrthglawdd. Llun: CPAT 00-C-062 (Nl i'r map)


Cliciwch yma i gael mwy o wybodaeth am yr ardal Cymeriad Tirwedd Hanesyddol hon

Cliciwch yma i gael map o'r ardal cymeriad hon

CPAT PHOTO 923.13

1076 Weston Madoc - ardal cymeriad Weston Madoc, yn dangos ardal nodedig o dyddynnod cyngor sir yn yr ardal rhwng Pen-y-bryn Hall a Great Weston Farm, a sefydlwyd rhwng y ddau Ryfel Byd. Ymrannwyd nifer o gaeau mwy yn yr ardal, i ganiatu ar gyfer dal tiroedd llai. Llun: CPAT 923.13 (Nl i'r map)


Cliciwch yma i gael mwy o wybodaeth am yr ardal Cymeriad Tirwedd Hanesyddol hon

Cliciwch yma i gael map o'r ardal cymeriad hon

CPAT PHOTO 00-C-069

1077 Pantglas - ardal cymeriad Pantglas yn edrych tua'r dwyrain, gydag Upper Castlewright yn y blaendir a Bishop's Castle yn y pellter. Mae Kerry Ridgeway, a adwaenir yn Gymraeg fel Yr Hen Ffordd, yn rhedeg ar hyd crib y bryn ac yma y dynodir y ffin rhwng Cymru a Lloegr. Credir bod y gefnffordd wedi creu rhan o ffordd bwysig i mewn i ganol Cymru o'r oesoedd cynnar ac ymddengys hefyd i fod yn un o ffyrdd y porthmyn y cludwyd gwartheg a fagwyd yng Nghymru i farchnadoedd yn nhrefi Lloegr. Llun: CPAT 00-C-069 (Nl i'r map)


Cliciwch yma i gael mwy o wybodaeth am yr ardal Cymeriad Tirwedd Hanesyddol hon

Cliciwch yma i gael map o'r ardal cymeriad hon

CPAT PHOTO 923.24

1078 Cwm - ardal cymeriad Cwm, gyda'r Pentrenant Hall o ganol y bedwaredd ganrif ar bymtheg ar y chwith ac yn edrych tua'r gogledd-ddwyrain tuag at Caeliber Isaf. Llun: CPAT 923.24 (Nl i'r map)


Cliciwch yma i gael mwy o wybodaeth am yr ardal Cymeriad Tirwedd Hanesyddol hon

Cliciwch yma i gael map o'r ardal cymeriad hon

CPAT PHOTO 00-C-017

1079 Ffridd Faldwyn - ardal cymeriad Ffridd Faldwyn yn edrych tua'r de?ddwyrain gyda'r fryngaer gynhanesiol ddiweddarach Ffridd Faldwyn wedi ei amgylchynu yn rhannol gan goed yn y pellter canol a thref Trefaldwyn y tu hwnt. Mae'n bosib bod y caeau mwy petryalog ar ochr bella'r fryngaer, gyda gwrychoedd aeddfed aml-rywogaeth, yn cynrychioli tir caedig ail ganrif ar bymtheg neu'r ddeunawfed ganrif a fu gynt yn uwchdir pori agored yn perthyn i'r bwrdeistref canoloesol. Llun: CPAT 00-C-017 (Nl i'r map)


Cliciwch yma i gael mwy o wybodaeth am yr ardal Cymeriad Tirwedd Hanesyddol hon

Cliciwch yma i gael map o'r ardal cymeriad hon

CPAT PHOTO 923.14

1080 Wernddu - ardal cymeriad Wernddu yn edrych tua'r dwyrain gyda'r ffermdy ail ganrif ar bymtheg o ffrm goed yn The Lack yn y blaendir a Todleth Hill yn y cefndir. Mae Lack yn un o'r aneddiadau cynnar yn yr ardal sydd wedi ei gofnodi yn Llyfr Dydd y Farn a gasglwyd ynghyd yn 1086 ac a oedd bryd hynny mae'n debyg, ym meddiant yr offeiriad Godbold, un o glerigwyr dysgedig teulu Roger o Drefaldwyn. Llun: CPAT 923.14 (Nl i'r map)


Cliciwch yma i gael mwy o wybodaeth am yr ardal Cymeriad Tirwedd Hanesyddol hon

Cliciwch yma i gael map o'r ardal cymeriad hon


I gael gwybodaeth bellach cysylltwch os gwelwch yn dda ag Ymddiriedolaeth Archaeolegol Clwyd-Powys yn y cyfeiriad hwn neu ewch i wefan Cyngor Cefn Gwlad Cymru' yn www.ccw.gov.uk.

1080 Wernddu 1080 Wernddu 1073 1073 1072 1069 1069 1069 1071 1071 1071 1078 1078 1078 1077 1077 1077 1075 1075 1075 1075 1068 1076 1076 1064 1065 1062 1063 1063 1063 1070 1070 1067 1067 1066 1066 1074 1079 1079