CPAT logo
Cymraeg / English
Adref Eto
Tirwedd Hanesyddol Bro Trefaldwyn

Nodweddion Tirwedd Hanesyddol

Bro Trefaldwyn


Tirweddau a Amddiffynnwyd

Mae'r ardal tirwedd hanesyddol yn cynnwys ystod bwysig o safleoedd amddiffynnol a milwrol o'r cyfnodau cynhanesyddol hwyr, Rhufeinig, canoloesol cynnar, a chanoloesol, yn ogystal safle un o frwydrau'r Rhyfel Cartref.

Yr adeileddau amddiffynnol cynharaf yw'r bryngaerau cynhanesyddol hwyr yn Ffridd Faldwyn, ar y bryn uwchben Trefaldwyn a Roundton, i'r gogledd o'r Ystog. Dangosodd cloddiadau yn Ffridd Faldwyn yn yr1930au beth gweithgarwch yn y cyfnod cynhanesyddol cynar ond mae'r caeadle muriau niferus sydd ag amddiffynfeydd cymhleth o wahanol gyfnodau yn gynnyrch y cyfnod rhwng diwedd yr Oes Efydd a'r Oes Haearn - ac mae'n debyg bod y gwersyll wedi ei adael adeg dyfodiad y Rhufeiniaid neu ychydig cynhynny. Yn yr un modd mae amddiffyniadau'r fryngaer yn Roundton yn cau pen y mynydd, ond gwneir defnydd hefyd o'r brigiadau sylweddol sy'n rhan o'r cylch amddiffynnol. Ni chloddiwyd y safle, ond unwaith eto mae'n debygol ei fod yn pethyn i'r Oes Efydd hwyr neu'r Oes Haearn. Mae'r bosibl bod y fryngaer ar Gefnffordd Ceri, sef Caer Din, yn perthyn i'r Oes Haearn, ond ar sail ffurf yr amddiffyniad awgrymwyd ei bod yn perthyn i'r canoloesoedd cynnar, a'i bod yn gwarchod bwlch yng Nghlawdd Offa, sydd tua 1.5km i'r gorllewin. Ceir caeadleoedd amddiffynnol bach eraill, sydd yn dyddio mae'n debyg o'r Oes Haear, ar y bryniau is neu mewn safleoedd amddiffynnol o gwmpas y dyffryn, gangynnwys Caerbre a Calcot o bobtu Marrington Dingle, Castle Ring i'r gogledd-ddwyrain o'r Ystof, a Phentre Wood i'r de o Bentre a Butcher's Wood i'r de o Drefaldwyn. Ystyriwyd caeadleoedd bach eraill uchod, yn yr adran ar dirwedau anheddu.

Ffridd Faldwyn yw'r gyntafmewn cyfres drawiadol o adeileddau amddifynnol yn ardal Trefaldwyn, ac awgrymwyd eu bod wedi eu bwriadu i reoli mynediad i'r rhyd hanesyddol bwysig ar draws Hafren yn Rhydwhiman, ychydig i'r gogledd-orllwewin o Drefaldwyn. Roedd bodolaeth rhyd yn y fan hon yn ffactor bwysig o ran dewis safle'r gaer Rufeinig a elwir The Gaer, a sefydlwyd yn hwyr y ganrif 1af, rhwng y gaer yn Nghaewrangon a'r gaer debyg o ran maint yng Nghaersws, ac a oedd yn rheoli'r llwybr iseldirol ar hyd dyffrynnoedd Camlad a Rea rhwng canolbarth Cymru a Chanolbarth Lloegr, a llwybr tebyg i'r de ar hyd y dyffryn en route i'r gaer yn Glanmiheli, ychydig i'r dwyrain o Geri, ac a arweiniai, unwaith eto, tua Chaersws mae'ndebyg. Mae'n debyg bod The Gaer a'r gaer ym Mhentrehyling yn gysylltiedig gwersylloedd milwrol cynharach - rhai dros dro - oedd yn perthyn i gyfnod y goncwest ac a adawyd unwaith y codwyd y caerau mwy parhaol. Tyfodd aneddiadau sifilaidd ar hyd y ffyrdd y tu allan i bob un o'r caerau. Yn wahanol i lawer o'r caerau Rhufeinig i'r dwyrain, mae'n debyg bod pobl yn dal i fyw yn The Gaer o bryd i'w gilydd hyd at ganol y 4edd ganrif o leiaf, ac mae'n debyg mai'r enw arni oedd Lavobrinta.

Mae'n debyg bod pwysigrwydd milwrol y gaer Rufeinig wedi peidio erbyn erbyn diwed y 4edd ganrif neu ddechrau'r 5ed, ac ni ddaw Clawdd Offa - a godwyd cyn marw'r brenin Offa yn 796 - yn agos iddi. Disgrifiwyd y Clawdd fel 'the greatest public work of the whole Anglo-Saxon period', ac roedd yn dangos ffin orllewinol teyrnas yr Eingl-Sacsoniaid, Mersia, a rannodd Bro Trefaldwyn yn ddwy ran, a chanrifoedd yn ddiweddarach mae'n dal i fod yn ffin rhwng Cymru a Lloegr. Mae llawer o ansicrwydd o hyd ynghylch ei bwrpas a'i berthynas llwybrau cyfoes ar hyd llawr y dyffryn ac ar hyd pennau'r bryniau rhwng Cymru a Lloegr, ond tybir ei fod wedi ei ddefnyddio i reoli cyfathreion rhwng y ddwy wlad. Gadawoyd y rhyd a llawer o'r tir amaethyddol gorau yn nwylo'r Cymry gan y cwrs a ddilynwyd gan y clawdd ar draws y dyffryn. Awgryma hyn un ai bod gwrthwynebiad y Cymry'n gryf yn yr ardal hon neu fod rhywfaint o gytundeb ynghylch diffinio union gwrs y ffin. Yn ystod y 9fed ganrf neu'r 10fed, roedd cyfres o aneddiadau Mersaidd wedi sefydlu i'r gorllewin o'r clawdd, gan gynnwys Tornebury, ei ystyr yw 'thorn camp', ac a enwyd ar l y gaer Rufeinig gynt yn The Gaer.

Codwyd burh neu gaer frenhinol Fersaidd gan Aethelflaeda yn Chirbury yn 915, tua 3km i'r dwyrain o Glawdd Offa. Mae'n debyg bod y gaer, a godwyd o bridd a choed, wedi ei bwriadu i gryfhau ffin prlewinol Mersia yn erbyn ymosodiadau posibl gan y Llychlynwyr yn hytrach nag yn erbyn y Cymry. Yn l un farn, y cloddwaith ar ochr orllewinol y pentref oedd y gaer ond mae arsylwadau diweddarach yn awgrymu ei bod lawer yn fwy, a'i bod yn cynnwys llawer o graidd y pentref modern. Awgrnwyd gweithiau amddiffynnol Meraidd eraill yn ymyl y clawdd yn Nantcribba a Chaer Din, fela nodwyd uchod, ond nid oes tystiolaeth bendant.

Parhaodd anghydfodrhwng Mersia a theyrnasoedd datblygol Powys a Gwynedd, fodd bynnag, ac mae'n debyg bod llawer o'r aneddiadau Mersaidd dros y dyffryn wedi eu distrywio cyn y Goregyniad Normanaidd yn 1066. Mae'n debyg bod hyn wedi digwydd adeg Gruffudd ap Llywelyn, brenin Gwynedd a Phowys yn gynnar y 1040au yn dilyn methiant y cytundebau rhwng Gwynedd a Mercia. Yn gynnar y 1070au, ychydig ar l cwymp Mersia, codwyd castell pridd a phren newydd gan Iarll Normanaidd, Roger o Drefaldwyn, i warchod y rhyd bwysig yn Rhydwhiman. Rhoddwyd i Roger, a fyddai hefyd yn dal tiriogaethau CYmreig Ceri, Cydewain, ac Arwystli, sir Amwythig gany Brenin William, un o'r tairiarllaetha grewyd ar hyd y gororau,

Yr enw arno bellach yw Hen Domen, ond bryd hynny yrenw oedd Muntgumeri ar l cartref Roger yn Normandi, a dyma ganolfan castellaria, un o nifer o gastellfannau ar hyd y gororau a grybwyllwyd yn Llyfr Domesday yn 1086. Nifer o ddaliadaethau mewn ardal fechan oedd castellfan a oedd dan reolaeth gyfreithiol castell ac yn yr achos yma roedd yn cynnwys llawer o ddyffryn Trefaldwyn. Os nad o'r cychwyn, yna ymhen amser roedd tirfeddianwyr unigol yn cyflawni dyletswyddau gwylio yngyfnewid am ddiogelwch a chefnogaeth gan y gastellfan. Yn raddol daeth yr ardal dan reolaeth y Normaniaid, er gwaethaf nifer o ymosodiadau ar gastell Trefaldwyn gan lu Cymreig dan ofal Cadwgan ap Bleddyn, tywysog Powys ym 1095, pan laddwyd y gwarchodlu.

Un o nodweddion hanesyddol pwysicaf ydyfryn yw'r myntau cloddweithiol cymharol fach a thynn i'w gilydd agodwyd y tu mewn i a'r tu hwnt i'r gastellfanyn ystod y cyfnod o wrthdaro parhaus rhwng yr 11eg ganrif hwyra dechrau'r 13eg, yn Hockleton, Winsbury, Dudston, Gwarthlow, Brompton, Nantcribba, Lower Munlyn, Hyssington Bishop's Moat, Hagley a Simon's Castle, gan ffurfio 'perhaps the most remarkable concentration of mediaeval defences on the whole of the Welsh March'. Roedd y cestyll bychain hyn, a gysylltid weithiau ag adeiladau cerrig, wedi eucodi fel arfergan dirfeddianwyr lleol, amlwg i'w diogelu eu hunain ac i gyfrannu atddiogelwch cyffredinol yr ardal. Codwyd safleoedd myntiog yn Great Moat Farm ac Upper Aldress, efallai yn ystod y 13eg/14eg ganrif.

Yn wyneb gwrthdrawiadau newydd yn 1223, rhwng Llywelyn ap Iorwerth o Wynedd ac arglwyddi Seisnig cyfagos, dechreuwyd codi castell brwenhinol newydd o gerrig ar y bryn i'r de-ddwyrain o Hen Domen, a throsglwyddwyd yr enw Montgomery iddo. Amddiffynnwyd y dref ganoloesol newydd a godwyd ar lethrau dan y castell, gan bonciau a ffosydd amddiffynnol, ac ychwanegwyd amddiffyniadau cerrig yn ystod y 13eg/14eg ganrif, gyda phorthdai cerrig ar bob un o'r pedair prif ffordd a arweiniai i'r dref.

Ciliodd pwysigrwydd strategol Trefaldwyn a'r cestylleraill yn yr ardal wedi i Edward I oresgyn Cymru, yn hwyr y 13eg ganrif, ond chwaraeodd Castell Trefaldwyn rl bwysig o ran rheoli'r arglwyddiaeth yn ystod gwrthryfel Glyndwr ddechrau'r 15fed ganrif, pan ychwanegwyd yn sylweddol at y gariswn. Chwaraeodd y castell rl bwysig unwaith eto yn ystod y Rhyfel Cartref, pan fu brwydr yn Nhrefaldwyn ym 1644, y frwydr fwyaf yng Nghymru yn ystod y rhyfel hwnnw. Buasai'r castell yn nwylo teulu Herbert ers blynyddoedd, ac roeddent wedi codi plasty briciau yn y ward fewnol, yn yr 1620au. Yn ystod y Rhuyfel Cartref roeddent wedi bod yn niwtral ond adeg frwydr ildiasant y castel i fyddin y Senedd yn gynnar ym mis Medi 1644. Yn dilyn gwarchae ganluoedd y Brenin, digwyddodd brwydr yn y caeau dan y dref ac enillodd byddin y Seneddwyr. Lladdwyd tua 500 o'r 8,000 o ddynion oedd yn y ddwy fyddin yn ystod y frwydr.