CPAT logo
Cymraeg / English
Adref Eto
Tirwedd Hanesyddol Bro Trefaldwyn

Nodweddion Tirwedd Hanesyddol

Bro Trefaldwyn


Tirweddau angladdol, eglwysig a chwedlonol

Roedd Chirbury a'r Ystog ill dwy yn ganolfannau eglwysig cynnar pwysig. I bob golwg roedd eglwysi Mersaidd wedi eu sefydlu yn Chirbury erbyn y 10fed ganrif gynnar, a'r enw a gofnodwyd gyntaf yn y Cronicl Eingl-Sacsonaidd oedd Cyricbyrig, sef ' y gaer gydag eglwys'. Mae i'r enw Churchstoke, a gofnodwyd gyntaf yn llyfr Domesday , yn golygu 'safle'r eglwys'. Adeg y Goresgyniad Normanaidd, mae'n ymddangos bod llawer o'r ardal tirwedd hanesyddol ar ffurf plwyf mawr a gwasgaredig yn cyfateb i gantref Domesday Witentreu gyda mam eglwys yn Chirbury ac eglwys ddibynnol yn yr Ystog. Yn ystod y canoloesoedd, sefydlwyd capeli eraill oedd yn ddibynnol ar Chirbury yn Ffordun, Hyssington a Snead, a chapel dibynnol efallai o fewn beili 'hen Drefaldwyn' yn Hen Domen. Rhoddwyd tir a berthynai i hen feudwyfa gan briordy Chirbury yn yr 1220au er mwyn medru codi castell cerrig yn Nhrefaldwyn.

Roedd cymuned o frodyr Awgwstinaidd wedi ei sefydlu yn Snead yn ystod y 12fed ganrif, ond roeddent wedi symud i sefydlu priordy yn Chirbury erbyn diwedd y 12fed ganrif, mewn cysylltiad ag eglwys blwyfol St Michael, yn esgobaeth Henffordd. Sefydlwyd plwyd eglwysig newydd yn Nhrefaldwyn yn gynar yn y 13eg ganrif, pan sefydlwyd y fwrdeistref dan y castell cerrig newydd, ac yn ddiweddarach daeth yn rhan o esgobaeth Llanelwy yng Nghymru. Roedd anghytundeb ynghylch ffiniau'r egobaethau Seisnig a Chymreig yn ystod y 13eg ganrif, a bu i'r Esgob Swinfield o Henffordd farchogaeth i'r rhyd yn Rhydwhiman yn 1288 a datgan mai Hafren - cyn belled Shrawardine, i'r gorllewin o Amwythig - oed y ffin rhwng esgobethau Henffordd a Llanelwy. Daeth yr eglwysi a chapeli dibynnol yn Ffordun, Hyssington a Snead yn blwyf eglwysig o fewn esgobath Henffordd yn dilyn diddymu'r mynachlogydd yn y 16eg ganrif, ac yn ddiweddarach trosglwyddwyd Ffordun i Esgobaeth Llanelwy.

Roedd plasty a melin a berthynai i Abaty Cwmhir wedi eu sefydlu yng Ngwern-y-go erbyn canol y 13eg ganrif. Roedd capel plasty canoloeol yn bodoli yno erbyn diwedd y 14eg ganrif, a pharhaodd i gael ei ddefnyddio fel capel anwes o'r enw 'Capel Gwernygo' tan ail hanner y 16eg ganrif, ac mae'n debyg bod rhannau o'r cyfadail mynachaidd i'w gweld yn yr 1890au. Mae union leoliad y capel yn ansicr, ond mae'r enwau caeau 'Chapel meadow' a 'Chapel close' yn nyraniad degwm Ceri yn awgrymu ei fod i'r gogledd o'r fferm bresennol.

Roedd darn o dir yng nghornel dde-ddwyreiniol yr ardal tirwedd hanesyddol, ym mhlwyfi Mainstone, Lydham a'r Ystog, yn perthyn i esgobion Henffordd yn y canoloesoedd, gan ffurfio maenor 'Bishop's Teirtref'. Rhoddodd esgobion Henffordd eu henw hefyd i gastell mwnt a beili Bishop's Moat a godwyd mae'n debyg yn y 12fed neu 13e ganrif ar lwybr Cefnffordd Ceri i ddiogelu daliadaethau'r eglwys, yn ogystal ag ail gastell ar ben dwyreiniol isel y gefnfordd yn Bishop's Castle.

Codwyd capeli Anghydffurfiol o gerrig a briciau ar draws yr ardal yn ystod y 19eg ganrif hwyr. Mae un o'r capeli yn Nhrefaldwyn yn perthyn i'r Eglws Bresbyteraidd a'r gweddill i'r Methodistiaid Wesleaidd neu Gyntefig, yr oedd eu gwasanaethau o fewn yr ardal yn gyfan gwbl neu'n bennaf yn Saesneg. Codwyd rhai capeli yn yr aneddiadau cnewyllol mawr fel Trefaldwyn, Ffordun, Yr Ystog a Hyssington, a chodwyd eraill fel Old Church Stoke, Cwm, Cwm Cae yng nghanol pentreflannau llawer llai. Roedd capeli eraill yn fwy anghysbell, fel capel Green Chapel, lle roedd ty capel hefyd. Codwyd y capel Methodistaidd yn Pool Road, Trefaldwyn yn 1903 ar y cyd ag ysgol. Mae rhai o'r capeli'n dal i gael eu defnyddio ond mae eraill, fel y capel Methodistaidd yn Nhrefaldwyn, a'r capeli yng Nghwm a Chwm Cae bellach wedi eu newid i ddefnydd gwahanol.