CPAT logo
Cymraeg / English
Adref Eto
Tirwedd Hanesyddol Bro Trefaldwyn

Nodweddion Tirwedd Hanesyddol

Bro Trefaldwyn


Tirweddau Addurniadol a Phictiwrésg

Mae'r ardal tirwed hanesyddol yn cynnwys nifer o dirweddau addurniadol amlwg yn enwedig ardal cymeriad Lymore. Parc hela o'r canoloesoedd hwyr neu'r cyfnod l-ganoloesol cynnar yw hwn, ac mae'ndebyg ei fod wedi ei sefydly gan y teulu Herbert erbyn diwedd yr 16eg neu ddechrau'r 17eg ganrif fan hwyraf, ac fe'i dangosir ar rai argraffiadau o fap Speed o Sir Drefaldwyn a gyhoeddwyd tua 1610. Mae'r parcdir, a gynhwysir yn y Register of Parks and Gardens, yn cynnwys darnau helaeth o rych a chefnen ac mae bron yn sicr iddo gael ei greu drwy droi rhai o'r caeau r agord, canoloesol a berthynai i Drefaldwyn yn barc.

Neuadd ffrm-bren, fawr o'r 16eg ganrif hwyr neu ddechrau'r 17eg ganrif oedd Lymore Hall, a ddymchwelwyd yngynnar yn yr 1930au. Fe'i ymestynnwyd tua 1675 ac fe'i defnyddid yn bennaf fel cynghordy chwaraeon, ac fe'i disgrifiwyd fel 'one of the last and also one of the greatest half timbered mansions in Britain'. Yn ystod y 18fed a'r 19eg ganrif, mae'n debyg bod lawer o byllau artiffisial wedi eu hychwanegu, gan gynnwys pwll twyllo hwyaid, at y nifer o byllau byllau naturtiola oed eisoes yn bodoli at ben dwyreiniol y parc, gyda rhesi o goed dros y caeau agored a fuasai yno gynt.

Sefydlwyd parciau tirluniedig o gwmpas nifer o dai gwledig eraill yn ystod y 18fed/19eg ganrif, yn eu plith Mellington Hall, Marrington Hall, Gunley Hall, Edderton Hall, a Nantcribba, ac roedd gerddi caeedig a pherllanau ynnifer o'r cartrefi hyn a hefyd yn Walcot, The Gaer, Pen-y-bryn a Phentrenant, gyda phyllau pysgod yn Edderton, Marrington a Phen-y-bryn, a phorthodai yn Nantcribba, Marrington a Mellington.

Roedd sylwebwyr eisoes yn cwyno bod parcdir yn cael ei golli mor gynnar 'r 1880au, fel yn Nantcribba lle roedd 'large field, instead of being what it was a century since, namely a park, is nothing but a field' on roedd (ac mae) 'some large cedar trees remaining'. Mae rhannau sylweddol o'r parcdir yn dal i'w gweld yn Lymore, Gunley a Marrington, ond collwyd llawer o Edderton.