CPAT logo
Cymraeg / English
Adref Eto
Tirwedd Hanesyddol Bro Trefaldwyn

Nodweddion Tirwedd Hanesyddol

Bro Trefaldwyn


Tirweddau Anheddiad

Mae nifer o batrymau anheddu gwahanol i'w gweld yn y tirlun heddiw - aneddiadau cnewyllol mawr, pentrefi, pentreflannau llai, ffermydd gwasgaredig a bythynnod, a chartrefi gwledig. Mae'r ddauanheddiad mwyaf, Chirbury a Threfaldwyn, yn sefydliadau cynnar o bwys, ac fel y dywedwyd uchod mae gan y naill a'r llall ei hanes ei hun. Sefydlwyd Chirbury fel burh amddiffynedig, yn gynnar y 10fed ganrif, a daethyn ganolbwynt maenor frenhinol ac ystad fynachaidd. Ychydig a wyddys am ei hanes cynnar drwy gloddio, ond mae iddi bwysigrwydd archeolegol sylweddol o bosibl oherwydd mai cymharol ychydig o ddatblgygu a fu yno yn ddiweddar. Mae gan Drefaldwyn, tref amddiffynedig newydd a grewyd yn gynnar yn y 13eg ganrif dan y castell brenhinol, botensial archeolegol sylweddol hefyd, gan mai hi yw'r dref ganoloesol a gadwy orau yng Nghymru. Hefyd mae iddi dreftadaeth bensaernol bwysig o'r 17eg i'r 129eg ganrif.

Dechreuodd neu drodd pentrefi llai Yr Ystog, Ffordun a Hyssington yn aneddiadau Mersaiddrhwng y 7ed a'r 11eg ganrif. Sefydlwyd capeli canoloesol ym mhob un o'r pentrefi a oedd, i ddechrau, yn ddibynnol ar Eglwys St Michael, Chirbury, ond a ddaeth yn ganolbwynt plwyfi eglwysig gwahanol. Methodd Trefaldwyn a Chirbury a'r pentrefi llai ddatblygu fel canolfannau diwydiannol neu fasnachol ac o ganlyniad maentwedi cadw eu cymeriad gwledig. Sefydlwyd ysgolion yn Nhrefaldwyn, Chirbury, Ffordun, Hyssington, a'r Ystog.

Mae rhai o'r pentreflannau, fel Kingswood, Cwm Cae, Old Church Stoke, a Stockton, weithiau'n ddim mwy na chlwstwr o dai, ac i bob golwg sefydlwyd hwy rhwg diwedd y 17eg ganrif a diwedd y 19eg. Mae'r aneddiadau hyn ar gyffyrdd, ac yn aml ceir cysylltiad gefail, capel anghydffurfiol, melin neu dafarn. Tyfodd nifer o fythynnod ar ymyl y ffyrdd tyrpeg a godwyd at ddiwedd y 18fed ganrif ac yn gynnar yn y 19eg ganrif, gangynnwys nifer o dolldai a bythynnod gweithwyr.

Ymddengys nifer o ffermydd gan gynnwys y rhai yn Aston, Castlewright, Hopton, Dudston, Woodluston (Penylan), Weston, a Hem am y tro cyntaf fel aneddiadau cyn y Goresgyniad a restrwyd yn Llyfr Domesday at ddiwedd y 11eg ganrif, ond sydd mewn rhai achosion yn dyddio nl efallai i'r Oes Haearn neu i gyfnod y Rhufeiniaid. Mae cyfran uchel o enwau'r aneddiadau hyn wedi goroesi. Perthyn rhai o'r enwau i ffermydd unigol, ond mae'n drawiadol bod yr enwau'r anediadau cynnar yn cael eu rhannu gan dwy fferm neu fwy yn y drefgordd, gydablaendoddiad fel 'great' neu 'little', 'upper' a 'lower', 'red' a 'white', 'east' a 'west'. Mae'n amlwg bod cychwyniad llawer o'r ffermydd mewn trefgorddau a arferai weithredu ar sail caeau agored r a rennid a chomin a ddefnyddid ar gyfer pori.

Roedd y system amaethyddol hon yn prysur chwalu ledled Prydain yn ystod y 14eg ganrif a'r 15fed, a chreid ffermydd unigol drwy broses raddol o gyfuno ac atgyfnerthu daliadaethau unigol. Ar yr un pryd, arweiniodd clirio coetir a gwella tir ymylol at greu ffermydd newydd rhwng yr 16egganrif a'r 18fed ynogystal thwf ystadau mwy. Roedd rhai o'r ystadau a dyfodd yn ystod y 18fed ganrif a'r 19eg wedi eu seilio ar aneddiaau cyn-Oresgyniad, fe Walcot, Marrington, Edderton a Gunley hefyd mae'n debyg. Sefydlwyd cartref gwledig gyda pharciau neu erddi ym mhob un o'r mannau hyn yn ogystal Nantcribba, Lymore a Phentrenant yn ystody cyfnod hwn.

Roedd mathau amlwg eraill o anheddiad yn datblygu yn ystod y 18fed ganrif a'r 19eg pan oedd pobl yn chwannog am dir, yn enwedig codi bythynnod a lechfeddiannu tir comin,fel yn Bankshead ymmhen dwyreiniol Cefnffordd Ceri, ar lethrau Todleth Hill a Lan Fawr, ac yn ardal Ffordun. Arweiniodd tlodi gwledig at godi gweithdy trawidaol yn Ffordun, a godwyd gyda chyfuniad o adnoddau naw plwyf a chwe threfgordd yn y gororau cyfagos yn ystod degawd olaf y 18fed ganrif.