CPAT logo
Cymraeg / English
Tirwedd Hanesyddol Dyffryn Tanat
Map o'r ardal cymeriad hon

Disgrifio Nodweddion Tirweddau Hanesyddol

Dyffryn Tanat:
Llangedwyn, Powys
(HLCA 1001)


CPAT PHOTO 803.00A

Tiwedd bryniog, coediog ac addurnol gyda thai a gerddi mawr a ffermydd ystad gyda phorfeydd tonnog.

Cefndir Haneasyddol

Dangosir bod y tir wedi ei gyfaneddu a'i ddefnyddio'n gynnar gan nifer o gaeadleodd olion cnydau ac aliniad pydewau ar lawr y dyffryn a chan wrthglawdd lloc ar y bryncyn bychan ger Plas-uchaf lle bu fferm o'r Oes Haearn o bosibl. Tref unigol yng nghwmwd Mochnant Is Rhaeadr, Sir Ddinbych oedd Llangedwyn, ond unwaith bu'n gapelyddiaeth ddibynnol, fel Llanarmon-Mynydd-Mawr, o fewn plwyf eglwysig Llanrhaeadr-ym-Mochnant. Er hyn, nid oes tystiolaeth glir o unrhyw gnewyllyn cynnar yn Llangedwyn yn ystod y cyfnod canol, ac mae'r rhan fwyaf o'r dystiolaeth o anheddiad sydd wedi goroesi'n perthyn i'r cyfnod o'r 17eg ganrif ymlaen. Ailgodwyd eglwys bresennol Sant Cedwin dan nawdd teulu Williams-Wynn ym 1869-70, ond ceir tystiolaeth o weithgarwch canoloesol cynnar ar ffurf croesfaen addurnedig a osodwyd yn erbyn pen dwyreiniol yr eglwys.

Prif nodweddion tirweddol hanesyddol

Tirwedd bryniog, toredig sy'n wynebu'r de, yn bennaf, rhwng tua 100-250m uwch lefel y môr. Cyn hwyred â'r 14eg ganrif fe ddywedir bod y rhan fwyaf o blwyf Llangedwyn yn dal yn goediog a hyd heddiw mae'r ardal yn dal i gynnwys darnau helaeth o goetir deilgwymp cymysg hanner naturiol a phlanigfeydd conifferaidd ar y llethrau serthaf gan gynnwys Coed Mawr, Y Warren, Y Wenallt a'r Allt, ac i wrthbwyso hyn ceir coetir eang cymysg Coed Pen-isa'r-mynydd y tu allan i'r ardal tirwedd hanesyddol ar ochr ddeheuol yr afon Tanat. Mae'r dolydd ar hyd yr afon yn debyg i'r rhai a geir yn ardal cymeriad Glantanat ond fe'i cynhwysir yma oherwydd eu pwysigrwydd gweledol i agweddau addurniadol ardal cymeriad Llangedwyn, nodwedd a wellir gan y coed derw aeddfed gwasgaredig a phlanhigfa Coed Tan Llwyn, sy'n rhoi golwg tebyg i barcdir i'r ardal isel hon.

Yr anheddiad modern amlycaf yw Llangedwyn Hall, yr unig adeilad mawreddog o gyfnod y Tuduriaid neu'r Dadeni a godwyd yn Nyffryn Tanat. Ailfodeliad ydyw o ddiwedd yr 17eg ganrif neu ddechrau'r 18eg ganrif o adeilad o ddiwedd yr 16eg ganrif neu ddechrau'r 17eg ganrif, a etifeddwyd gan y teulu Williams-Wynns ym 1718, gyda gerddi caeedig, adeiladau ystad, bloc stabl a'r adeiledd wythochrog gyda blychau rhydd mewn marchgae i'r dwyrain o'r ty. Ymhlith y tai mawr eraill ceir Bryn-y-gwalia mewn coeir i'r dwyrain a Phlas-uchaf, y ty briciau trawiadol o ddechrau'r 18fed ganrif gyda gwisgiadau tywodfaen ar lethrau isaf Llwyn Bryn-dinas ar ochr orllewinol yr ardal cymeriad - Plas Uchaf ('Place Ucha') gyda llaw yw un o'r ddau unig le yn Nyffryn Tanat a enwir ar fap Robert Morden o Ogledd Cymru a gyhoeddwyd yn 1695. Ymhlith yr aneddiadau eraill ceir Pen-y-bryn lle mae ffermdy carreg a briciau o'r 19eg ganrif, gdag adeiladau allanol o friciau sy'n cynnwys elfennau o fferm fodel, a'r ty a'r bythynnod ystad yn Nhyn-y-rhos yn y bryniau i'r gogledd, a'r ystad dai ar y brif ffordd o ganol a rhan olaf yr 20fed ganrif, gyda'i hysgol friciau coch a godwyd ym 1897 a neuadd y pentref a godwyd o friciau coch ym 1907.

Mae'r ardal yn cynnwys darnau helaeth o dir pori a wellwyd yn ogystal â choetiroedd. Ar y bryniau i'r gogledd, ceir caeau tonnog mawr gyda gwrychoedd y ddraenen wen, un-rhywogaeth a dorrwyd yn isel, sy'n cynrychioli mae'n debyg glirio coetir ôl-ganoloesol a chau tir pori wedi hynny yn ystod yr 18fed ganrif a'r 19eg ganrif, ac mae coed derw aeddfed gwasgaredig mewn ambell gae sy'n peri i'r ardal edrych yn debyg i barc. Mae'r caeau mawr, gwastad ac isel ar hyd yr afon Tanat i'r de yn debyg i'r rhai yn ardal cymeriad Glantanat i'r gorllewin. Gwrychoedd y ddraenen wen, a dorrwyd yn isel, yw terfynau'r caeau ac maent yn dangos lle caewyd tir pori comin yn ystod y 19eg ganrif. Pyst giatiau sgwâr ym mynedfeyd y caeau ar y ffordd fawr.

Y brif ffordd sy'n rhedeg drwy'r ardal yw'r ffordd dyrpeg o ganol y 18fed ganrif o Knockin i Lanrhaeadr, sy'n edrych ar ac a welir o'r gerddi a'r dreif i Llangedwyn Hall. I bob golwg, y lôn sy'n cysylltu'r ffermydd i'r gogledd o Langedwyn yw'r ffordd hynaf, ac am ran o'i chwrs mae'n dilyn ceuffordd sylweddol a dorrwyd drwy frigiadau siâl mewn mannau. Mae'r bont ffordd garreg o'r 19eg ganrif, sef Pont Llangedwyn, a safle hen Reilffordd Dyffryn Tanat hefyd yn perthyn i'r ardal cymeriad, a sythwyd cwrs presennol yr afon Tanat ychydig i'r dwyrain o Langedwyn i'w rhwystro rhag tanseilio'r rheilffordd.

Cyfyngir diwydiant i'r cyfadail o'r 18fed/19eg ganrif ym Melin Llangedwyn.

Mae tirweddau addurniadol yn nodwedd bwysig yn ardal cymeriad Llangedwyn ac un enghraifft drawiadol yw gerddi rhestredig Llangedwyn Hall a grewyd gan Syr Watkin Williams-Wynn o Wynnstay, yn gynnar yn y 18fed ganrif, ac sy'n cynnwys terasau a osodwyd ar dir llethrog (y sonnir amdanynt yng nghanu Robert Southey, Bardd y Brenin, yn gynnar yn y 19eg ganrif), gardd gegin gaeedig yn ogystal â choetir rheoledig ar lethrau'r bryn uwchben. Mae'r gerddi a'r parcdir mewn mannau amlwg hefyd yn bwysig, gyda'u coed deilgwymp a'r coed conifferaidd aeddfed o gwmpas Plas-uchaf, a welir yn erbyn cefndir pictwrésg Llwyn Bryn-dinas, y mae ei ragfuriau cynhanesyddol yn gwella ei awyrlin creigiog.

Ffynonellau

Cadw 1995;1999
Hubbard 1986
Musson et al 1992
Thomas 1881
Wren 1968

I gael gwybodaeth bellach cysylltwch ag Ymddiriedolaeth Archaeolegol Clwyd-Powys yn y cyfeiriad , hwn neu cysylltwch â gwefan Cyngor Cefn Gwlad Cymru ar www.ccw.gov.uk.