CPAT logo
Cymraeg / English
Tirwedd Hanesyddol Dyffryn Tanat
Map o'r ardal cymeriad hon

Disgrifio Nodweddion Tirweddau Hanesyddol

Dyffryn Tanat :
Glantanat, Llanrhaeadr-ym-Mochnant a Llangedwyn, Powys
(HLCA 1003)


CPAT PHOTO 803.04

Caeau hirsgwar mawr gyda gwrychoedd fel terfynau, ar waelod y dyffryn yn rhan ddwyreiniol Dyffryn Tanat

Cefndir Hanesyddol

Mae'r ardal cymeriad yn gorwedd i raddau helaeth o fewn plwyf eglwysig canoloesol Llanrhaeadr-ym-Mochnant ac yn rhannol ym mhlwyf Llangedwyn, ac yn weinyddol roedd o fewn hen gwmwd Mochnant Is Rhaeadr, Sir Ddinbych. Roedd llain gul o dir i'r gorllewin o Glantanat-uchaf o fewn cyfran Sir Drefaldwyn o blwyf Llanrhaeadr-ym-Mochnant.

Ceir gweithgarwch tebygol o ddiwedd y cyfnod Neolithig a'r Oes Efydd gynnar yn yr ardal cymeriad ar ffurf dwy set unionlin o hyd at bump neu chwech o ffosydd crwn twmpathau claddu sydd wedi eu haredig, ac a gofnodwyd fel olion cnydau gan awyrluniau. Mae cyd-destun ehangach yr henebion yn ansicr, ond gellir cymryd yn ganiataol bod rhywfaint o dir coediog wedi ei glirio erbyn y dyddiad hwn. Yn wir, fe all y setiau unionlin o ffosydd crwn awgrymu eu bod wedi eu gosod ar hyd terfynau a oedd eisoes yn bodoli neu ar hyd ymylon caeau.

Prif nodweddion tirweddol hanesyddol

Tir gwastad ar waelod y dyffryn, ar hyd yr Afon Tanat, rhwng tua 105-120m uwch lefel y môr, gyda therasau afon bychain mewn mannau tuag ymyl yr ardal. Mae aber yr Afon Rhaeadr a'r Afon Iwrch o fewn pen gorllewinol yr ardal cymeriad. Mae'r tir yn gorwedd ar ben graean a llifwaddodion ac yn gyfredinol mae wedi ei draenio'n dda, ond mae hen ddolenni'r afon i'w gweld lle mae darnau helaeth o ddyfrlenwi a dwr yn gorwedd ar y tir yn ymyl yr afon, yn ogystal â phalaeosianelau sych a welir lle mae tonnau yn wyneb y tir. Mae'r dolydd yn parhau i'r gorllewin ond maent wedi eu cynnwys yn ardal cymeriad Llangedwyn oherwydd eu pwysigrwydd gweledol i'r tirwedd.

Cyfyngir anheddiad i nifer o ffermydd gwasgaredig, mawr sydd wedi eu hen sefydlu, ac sy'n hannu mae'n debyg o'r canoloesoedd hwyr neu'n gynnar yn y cyfnod ôl-ganoloesol, ar stribed tenau o dir gwastatach i'r de o'r afon, 1km neu fwy ar wahân i'w gilydd yn aml, yn ogystal â nifer o ffermydd a thai ôl-ganoloesol ar hyd y ffordd dyrpeg o Langedwyn i Lanrhaeadr, gan gynnwys rhes o fythynnod carreg o'r 18fed ganrif gyda gwisgiadau brics a thoeau llechi ym Mhentrefelin. Ymhlith y ffermydd hynaf ceir Gartheryr, y ddau ffermdy mawr yng Nglantanat-uchaf a Glantanat-isaf, sy'n dyddio o ganol yr 17eg ganrif, a Henblas lle gellir gweld y ty blaenorol, mae'n debyg, lle mae'r ysgubor nenffyrch, y codwyd ffermdy briciau yn ei le yn ystod y 18fed ganrif. Ceir adeiladau cerrig allanol o'r 17eg/18fed ganrif yng Nglantanat-isaf, iard â wal gerrig a nifer o adeiladau allanol o garreg yng Nglantanat-uchaf. Mae Banhadla yn ffermdy o'r 18fed ganrif a rendrwyd a cheir adeiladau cerrig allanol gyda rhywfaint o estyll tywydd, ac yn Fferm Bont Glantanat ceir ffermdy ac adeiladau allanol o garreg o'r 18fed ganrif, ac mae gan rai ohonynt hwythau estyll tywydd.

Y defnydd pennaf a wneir o'r tir yw pori a dolau. Ceir porfeydd hirsgwar, mawr ac afreolaidd, gyda gwrychoedd isel clipiedig fel arfer, ac fe'u rhennir weithiau gyda ffensiau pyst a gwifren. Fel arfer, gwrychoedd un-rhywogaeth yw'r terfynau, y ddraenen wen bob amser, ac yn aml ychwanegir atynt ffensiau pyst a gwifren i wrthsefyll y da byw, ac o bryd i'w gilydd ceir gwrychoedd planedig ar ymyl y ffyrdd. Ceir coed derw aeddfed gwasgarog a gwerni ac ynn ar hyd yr afon ac ar hyd nentydd a dyfrgyrsiau. Ceir ambell bostyn giât carreg ar giatiau'r caeau ar ffyrdd cyhoeddus. I bob golwg mae'r rhan fwyaf o derfynau'r caeau wedi eu gosod allan mewn perthynas â'r ffordd dyrpeg rhwng Llangedwyn a Llanrhaeadr ac mae'n debygol felly fod tir pori mewn nifer o drefgorddau ar lan yr afon, a arferai fod yn dir agored, wedi ei gau yn ystod y 18fed ganrif.

Ffordd dyrpeg yw'r ffordd fawr rhwng Llangedwyn a Llanrhaeadr a godwyd yn hwyr yn y 18fed ganrif gan ddisodli, mae'n debyg, ffordd a redai ar draws tir uwch ymhellach i'r gogledd. Mae'r prif fannau i groesi'r Afon Tanat, dros y pontydd cerrig ger Pont Glantanat-uchaf ar ben gorllewinol yr ardal cymeriad a Phont Llangedwyn yn y pen dwyreiniol, ynghyd â Phont Pentrefelin ar draws y Lleiriog a Phont Maesmochnant ar draws yr Afon Iwrch, hefyd yn perthyn i'r cyfnod hwnnw.

Mae llwybr hen Reilffordd Dyffryn Tanat, a godwyd yn gynnar yn yr 20fed ganrif, i'w weld un ai ar ffurf arglawdd neu gloddiad, sy'n rhedeg ar ongl ar draws y patrwm o gaeau blaenorol. Ar un adeg roedd pont reilffordd ar draws yr Afon Tanat, ychydig i'r dwyrain o Gartheryr. Mae platfform a seidin yr hen orsaf ym Mhentrefelin i'w gweld o hyd.

Ffynonellau

Hubbard 1986
Wren 1968

I gael gwybodaeth bellach cysylltwch ag Ymddiriedolaeth Archaeolegol Clwyd-Powys yn y cyfeiriad, hwn neu cysylltwch â gwefan Cyngor Cefn Gwlad Cymru ar www.ccw.gov.uk.