CPAT logo
- Cymraeg / English
Tirwedd Hanesyddol Dyffryn Tanat
Map o'r ardal cymeriad hon

Disgrifio Nodweddion Tirweddau Hanesyddol

Dyffryn Tanat:
Allt Tair Ffynnon, Llangedwyn, Powys
(HLCA 1008)


CPAT PHOTO 803.02

Ardal amrywiol â llethrau serth gyda llethrau tua'r gogledd ar ochr ddeheuol Dyffryn Tanat, rhannau dan goed a rhannau'n gomin uchel a gaewyd yn ystod y 19eg ganrif.

Cefndir Hanesyddol

Roedd yn ardal yn rhan o blwyfi eglwysig canoloesol Llanrhaeadr-ym-Mochnant a Llangedwyn ac yn weinyddol roedd yn rhan o hen gwmwd Mochnant Is Rhaeadr, Sir Ddinbych. Un o'r safleoedd archaeolegol pwysicaf yn yr ardal yw Tomen y Maerdy, un o'r pedwar castell gwrthglawdd canoloesol posibl yn Nyffryn Tanat, sy'n gorwedd wrth droed ceunant cul a dorrwyd i ochr y bryn i'r de o fferm Glantanat-isaf. Roedd y maer yn un o brif swyddogion y cwmwd canoloesol ac mae'r cyswllt rhwng enw'r lle a'r swyddog yn awgrymu y gallai'r mwnt fod yn ganolfan weinyddol yn ystod y 12fed ganrif o bosibl. Mae'r safle wedi ei guddio, fodd bynnag, ac nid oes tir amaethu da yn ei ymyl ac nid yw'n debygol ei fod yn gnewyllyn addas ar gyfer anheddiad cynnar, ac mae'n debygol bod unrhyw swyddogaeth weinyddol a oedd ganddi wedi ei throsglwyddo i Lanrhaeadr-ym-Mochnant wrth iddi ddatblygu'n dref farchnad yn ystod y 13eg ganrif.

Prif nodweddion tirweddol hanesyddol

Llethrau serth tua'r gogledd ar ochr ddeheuol Dyffryn Tanat, rhwng uchter o tua 110-310m uwch lefel y môr, gyda brigiadau creigiog a rhimynau amlwg o graig ar lethrau gorllewinol Allt Tair Ffynnon.

Mae'r mwnt canoloesol Tomen y Maerdy yn dystiolaeth o anheddiad cynnar ac felly hefyd y ty nenffyrch ym Mhen-y-graig. Ar wahân i'r rhain, ychydig o adeiladau sydd - mae nifer fechan o ffermydd ôl-ganoloesol gwasgaredig ar y tir isaf i'r dwyrain ac mae daliadau a bythynnod llechfeddiannu gynt ar y tir uwch. Ceir ffermdy briciau o'r 18fed ganrif a gymerodd le ffermdy ac adeiladau allanol cerrig hynach yn Nhy-nant, a'r ffermdy o'r 19eg ganrif yn Scrwgan.

Tir pori heb ei wella, gydag eithin a rhedyn, a gyda rhai mannau a wellwyd ar Allt Tair Ffynnon a darnau o goetir hanner naturiol ar y llethrau isaf ger Nant Engyll, gyda chaeadleoedd afreolaidd mawr â gwrychoed sydd wedi gordyfu, ac y rhoddwyd ffensiau pyst a gwifren yn eu lle erbyn hyn. Yma caewyd tir pori comin yn ystod y 19eg ganrif. Mae yma ddarnau helaeth o dir pori a wellwyd ar y llethrau llai serth sy'n wynebu tua'r gogledd, i'r de o Henblas, at ben dwyreiniol yr ardal cymeriad, gyda chaeau unionlin mawr â gwrychoedd bylchog sydd wedi gordyfu a phonciau isel a linsiedi anamlwg achlysurol ar lethrau serth sydd, unwaith eto, yn dangos lle caewyd tir pori comin yn ystod y 19eg ganrif. Mae darnau helaeth o goetir derw hanner naturiol, cymysgedd o goed collddail a phlanigfeydd coniferaidd ar lethrau serthaf Coed y Wern-gerwyn, Coed Garth-eryr a Choed Glan-Tanat, a choetir cymysg hanner naturiol yn y dyffryn nant serth i'r de o Dy-nant.

Croesir yr ardal gan nifer o lonydd, llwybrau llydan a llwybrau troed sy'n cysylltu'r ffermydd ar lawr y dyffryn a'r tir pori ar ben y bryniau. Mae nifer ohonynt yn rhedeg mewn ceuffyrdd sydd, mae'n debyg, yn hen iawn.

Ffynonellau

Richards 1943-44; 1945-46
Spurgeon 1965-66

I gael gwybodaeth bellach cysylltwch ag Ymddiriedolaeth Archaeolegol Clwyd-Powys yn y cyfeiriad, hwn neu cysylltwch â gwefan Cyngor Cefn Gwlad Cymru ar www.ccw.gov.uk.