CPAT logo
Cymraeg / English
Tirwedd Hanesyddol Dyffryn Tanat
Map o'r ardal cymeriad hon

Disgrifio Nodweddion Tirweddau Hanesyddol

Dyffryn Tanat:
Llanrhaeadr-ym-Mochnant, Llanrhaeadr-ym-Mochnant, Powys
(HLCA 1009)


CPAT PHOTO 804.22A

Tref fechan a fu gynt yn dref farchnad o gwmpas eglwys glas o'r canoloesoedd, gyda thai, tafarn, siopau, capeli, a hen felinau cerrig, wedi eu gwasgu i ddyffryn cul yr Afon Rhaeadr.

Cefndir Hanesyddol

Mae'n debyg bod yr anheddiad cyntaf wedi datblygu o gwmpas yr eglwys glas ym Llanrhaeadr, a sefydlwyd erbyn y 9fed ganrif fan hwyraf. Yn ddiweddarach Llanrhaeadr oedd canolfan weinyddol cantref Mochnant o fewn teyrnas Powys. Yn nes ymlaen yn y 12fed ganrif, rhannwyd y cantref yn weinyddol ar hyd yr Afon Rhaeadr, gan rannu'r pentref a'r plwyf eglwysig yn ddau. Dilynwyd y rhaniad yn ddiweddarach gan y ffiniau sirol, ac roedd glan ogleddol yr afon yn Sir Ddinbych a'r lan ddeheuol yn Sir Drefaldwyn. Pan aildrefnwyd llywodraeth leol ym 1996 ailunwyd dwy ran yr anheddiad o'r diwedd ac maent bellach yn sir Powys. Daethai'r rhan o'r pentref a oedd yn Sir Ddinbych yn rhan o arglwyddiaeth Chirkland yn dilyn goresgyniad y Brenin Edward yng Nghymru yn hwyr y 13eg ganrif. Rhoddwyd yr hawl i gynnal marchnad a ffeiriau ym 1284, ac o hyn datblygodd y fachnad fechan a'i chanol yn y triongl ger yr eglwys, ond oherwydd ei bod mor gymharol anghysbell dim ond yn lleol yr oedd yn bwysig. Erbyn canol y 19eg ganrif, roedd anheddu cymharol fychan a chywasgedig wedi datblygu, yn enwedig ar yr ochr ogleddol, ochr Sir Ddinbych yr Afon Rhaeadr, ac erbyn hynny roedd melinau grawn, nifer o dafarndai, siopau, capeli a neuadd farchnad wedi eu codi.

Prif nodweddion tirweddol hanesyddol

Llawr gwastad a chul y dyffryn, glannau afon, a llethrau serth isaf ar hyd ochrau'r dyffryn, rhwng tua 130-80m uwch lefel y mr.

'Mae gan y pentref, er nad yw'n fawr, awyrgylch trefol'. Mae'r rhan fwyaf o'r adeiladau presennol, gan gynnwys llawer o ffabrig yr eglwys ganoloesol, yn perthyn i ddiwedd y 18fed ganrif a dechrau'r 19eg ganrif, gan gynnwys y bythynnod teras, y siopau, y dafarn, y capeli a'r ficerdy. Mae tai mawr a thrawiadol o'r 19eg ganrif a godwyd o lechi a chwarelwyd yn lleol, a gyda gwisgiad o dywodfaen, gyda dreifiau a giatiau ar lethrau sy'n wynebu'r de ar hyd y ffordd dyrpeg i Bistyll Rhaeadr. Mae tai ac ystadau tai o ganol neu'n hwyr yn yr 20fed ganrif i'r de-ddwyrain o'r cnewyllyn canoloesol cynharach. Ailaddurnwyd blaenau nifer o siopau gynt ar gyfer ffilmio yn yr 1990au.

Gwellwyd cyfathrebu'n fawr yn ystod ail hanner y 18ed ganrif pan godwyd ffyrdd tyrpeg o Langedwyn ac ar draws y bryniau o Groesoswallt ac mae hen dollbyrth yn y pentref. Mae pont gerrig ar draws yr Afon Rhaeadr, a godwyd ym 1770, yn lle pont a gludwyd ymaith pan fu gorlifo.

Ffynonellau

Evans 1986
Hancock 1871; 1872; 1873; 1875

I gael gwybodaeth bellach cysylltwch ag Ymddiriedolaeth Archaeolegol Clwyd-Powys yn y cyfeiriad, hwn neu cysylltwch gwefan Cyngor Cefn Gwlad Cymru ar www.ccw.gov.uk.