CPAT logo
Cymraeg / English
Tirwedd Hanesyddol Dyffryn Tanat
Map o'r ardal cymeriad hon

Disgrifio Nodweddion Tirweddau Hanesyddol

Dyffryn Tanat:
Llangynog, Powys
(HLCA 1010)


CPAT PHOTO 804.12A

Safle eglwys ganoloesol, pentref mwyngloddio gyda bythynnod, tafarn a chapeli o'r 18fed/19eg ganrif, cysylltiedig chloddio am blwm, chwarelu llechi a diwydiannau cerrig ffordd.

Cefndir Hanesyddol

Un arwydd o weithgarwch cynnar yw'r fwyell o'r Oes Efydd a ddarganfuwyd yn ystod y 19eg ganrif. Roedd yn ardal yn rhan o blwyf eglwysig canoloesol Llangynog ac roedd yn rhan o hen gwmwd Llanrhaeadr Uwch Rhaeadr, Sir Drefaldwyn. Ceir y cofnod cyntaf o'r eglwys, a gysegrwyd i'r Sant Cynog, yn y 13eg ganrif ond fel yn achos nifer o eglwysi canoloesol eraill yn Nyffryn Tanat nid oes unrhyw dystiolaeth glir o natur neu ffurf unrhyw anheddiad cnewyllol a allai fod yn gysylltiedig hi.

I bob pwrpas, mae hanes yr anheddiad yn cychwyn pan ddatblygwyd y pyllau plwm a dyfodd yn sydyn yn ystod y 18fed ganrif, ac yna bu dirywiad hir hyd at ddiwedd y 19eg ganrif. Uchafbwynt y cynhyrchu oedd hanner cyntaf y 18fed ganrif, yn gynharach o lawer na llawer o'r pyllau enwog eraill yng nghanolbarth Cymru, ac ar un adeg hwn oedd y pwll mwyaf cynhyrchiol yn yr ardal. Mae olion cloddio cynnar (cloddiadau agored a phonciau) ar ochr ddeheuol Craig Rhiwarth uwchben Llangynog yn dyddio mae'n debyg o'r cyfnod cynhanesyddol, cyfnod y Rhufeiniaid neu o'r canoloesoedd.

Mae twristiaeth bellach yn ddiwydiant pwysig ac mae parc carafanau ychydig i'r dwyrain o'r pentref.

Prif nodweddion tirweddol hanesyddol

Mae'r ardal cymeriad yn cynnwys llawr y dyffryn ac ochrau'r dyffryn lle mae Dyffryn Tanat a Chwm Pennant, Cwm Rhiwarth, a llethrau deheuol Craig Rhiwarth yn cydgyfarfod, ac mae'n amrywio rhwng tua 160m yn Llangynog i uchter o tua 450m i'r gogledd o Graig Rhiwarth.

Mae cnewyllyn y pentref, o gwmpas yr eglwys ac ar draws yr afon ym Mhentre, yn cynnwys bythynnod teras o'r 18fed ganrif a'r 19eg ganrif, y New Inn a godwyd ym 1751, ysgol o'r 19ed ganrif ac eglwys a ailgodwyd ym 1791-92 ac a adnewyddwyd ar raddfa fawr ym 1894, a cheir ystadau tai o ganol a blynyddoed olaf yr 20fed ganrif ar yr ochr orllewinol a bythynnod mwyngloddwyr gyda gerddi caeedig ar y llethrau i'r gogledd-orllewin ar hyd y ffordd i'r Bala.

Roedd datblygiad y diwydiannau cloddio'n wynebu problemau teithio cyson ond fe wellodd y sefyllfa i ryw raddau pan godwyd y ffyrdd tyrpeg trwy'r dyffryn ac ar draws y bryniau i'r Bala yn ystod ail hanner y 18fed ganrif. Daeth agor gorsaf Rheilffordd Dyffryn Tanat yn Llangynog yn 1904 yn rhy hwyr i adfywio'r diwydiant mwyngloddio lleol, ond rhoddodd rywfaint o hwb i'r diwydiant chwarelu, gan gynnwys y chwareli barytes yn Llangynog ym 1916, a'r chwareli llechi.Yn ystod yr 1940au a'r 1950au tyfodd y defnydd o gludiant ffyrdd a daeth tranc y rheilffordd yn y man, a chaewyd gorsaf Llanrhaeadr ym 1951.

Ceir olion pwysig o gloddio am blwm a'i drin - ac, mewn rhai achosion, maent wedi eu cadw mewn cyflwr da - ar ochr ddeheuol pentref Llangynog, er bod cloddio am gerrig yn ddiweddarach wedi distrywio llawer ohonynt. Smeltiwyd y rhan fwyaf o'r mwynau o'r mwyngloddiau yn ardal Llangynog y tu allan i'r dyffryn, un ai yn Pool Quay lle codwyd smelter gan Iarll Powys ym 1706, neu yn Benthall, Coalbrookdale, ac yn ddiweddarach ym Minera, er bod yna smelter yn gweithio ar raddfa lai yn Llangynog ei hun yn ystod yr 1750au. Crebachodd y cynhyrchu'n sydyn yn ystod ail hanner y 18fed ganrif, ond parhawyd i weithio'n ysbeidiol ar raddfa fechan tan 1912.

Ceir olion pwysig o chwarelu am lechi ar ochr y bryniau i'r gorllewin o'r pentref ac unwaith eto ar lethrau deheuol Craig Rhiwarth i'r gogledd o'r pentref. I bob golwg, fe ddechreuwyd chwarelu llechi yn hwyr yn yr 16eg ganrif, roedd yn ffynnu yn ystod y 18fed ganrif hwyr a chrebachodd at ddiwedd y 19eg ganrif a daeth i ben o'r diwedd ym 1941. Mae'n debyg bod chwarelu cerrig wedi cychwyn yn Llangynog yn hwyr yn yr 16eg ganrif. Dechreuwyd chwarelu am gerrig i'r ffyrdd ar raddfa fwy masnachol mewn nifer o safleoedd yn union yn ymyl Llangynog tua 1910 gyda hwb gan Reilffordd Dyffryn Tanat, ond aeth ar encil yn ystod yr 1930au a pheidiodd y cynhyrchu yn ystod yr 1950au.

Ffynonellau

Haslam 1979
Silvester 1992
Walters 1993
Williams 1985
Wren 1968

I gael gwybodaeth bellach cysylltwch ag Ymddiriedolaeth Archaeolegol Clwyd-Powys yn y cyfeiriad, hwn neu cysylltwch gwefan Cyngor Cefn Gwlad Cymru ar www.ccw.gov.uk.