CPAT logo
Cymraeg / English
Tirwedd Hanesyddol Dyffryn Tanat
Map o'r ardal cymeriad hon

Disgrifio Nodweddion Tirweddau Hanesyddol

Dyffryn Tanat:
Cwm Pennant, Llangynog, Powys
(HLCA 1011)


CPAT PHOTO 806.24A

Dyffryn rhewlifol anghysbell a diarffordd, gyda ffermydd bach clystyrog chaeau amgaeedig ar y llethrau isaf ac ar lawr y dyffryn, eglwys ganoloesol chysylltiadau chwedlonol Santes Melangell, a ffermydd gadawedig.

Cefndir Hanesyddol

Roedd yr ardal yn perthyn i ran uchaf plwyf eglwysig ganoloesol Pennant Melangell, ac yn weinyddol roedd yn rhan o hen gwmwd Mochnant Uwch Rhaeadr. Cofnodir eglwys ganoloesol ym Mhennant Melangell, ym mhen isaf y dyffryn, am y tro cyntaf tua chanol y drydedd ganrif ar ddeg ond mae'n bosibl ei bod yn sefyll ar safle Cristnogol a sefydlwyd tua'r 8fed ganrif yn l y cysylltiadau chwedl Melangell. Dangosodd y cloddiadau archaeolegol fod yr eglwys yn sefyll ar fynwent corfflosgi o'r Oes Efydd, sy'n dyddio o tua 1200 BC, sy'n awgrymu bod defnydd parhaus neu ddefnydd newydd wedi ei wneud o fynwent baganaidd a oedd eisoes yn bodoli. Hyd yn hyn, nid oes unrhyw dystiolaeth glir ynghylch a oedd yr eglwys ganoloesol yn ganolbwynt i anheddiad cnewyllol ynteu a oedd ar ei phen ei hun. Daethai'r eglwys yn ganolfan bwysig i bererinion a oedd yn ymweld chysegrfa Melangell o'r 12fed ganrif, hyd nes y gwaharddwyd y cwlt adeg y Diwygiad yng nghanol yr 16eg ganrif.

Prif nodweddion tirweddol hanesyddol

Dyffryn rhewlifol dwfn Cwm Pennant, dyffryn yr Afon Tanat, ynghyd Chwm Llech sy'n gulach byth, dyffryn yr Afon Goch, pob un ag ochrau serth a rhaeadr yn ei ben uchaf, a llawr y dyffryn yn gorwedd rhwng 180-220m uwch lefel y mr. Mae lloriau'r dyffrynnoedd tua 300-400m ar draws, ond hyd at 300m dan gopaon y bryniau o'u cwmpas, sy'n eu gwahanu oddi wrth ei gilydd a gweddill y byd. Mae'r tir amgaeedig un ai'n wastad ac wedi ei draenio'n wael ar lawr y dyffryn neu mae'n dir llechweddog a serth gwell draeniad ar ochrau isaf y dyffryn, ac mae ochrau'r dyffrynnoedd yn tueddu i ddod yn fwy serth yn uwch i fyny. Ceir brigiadau creigiog a marian ar ochrau'r dyffrynnoedd, yn enwedig Moel Dimoel. Ceir afonydd a nentydd phentyrrau o gerrig, ac mae eu gwelyau wedi codi, mewn mannau, yn uwch na'r lefel o'u cwmpas. Mae'r anheddiad heddiw'n cynnwys nifer o ffermydd gweithredol canolig eu maint a gwasgaredig a bythynnod eraill, gan gynnwys nifer o dai gwyliau. Mae'n ymddangos bod y ffermydd hynaf ar y prif ffyrdd yn is i lawr yn y dyffryn, ac mae'r ffermydd diweddarach wedi eu lleoli yn eu caeau eu hunain yn uwch i fyny. Ymhlith y ffermydd, mae gan Graig-las ffermdy ac adeiladau allanol o'r 18fed ganrif, mae gan Tan-y-coed ffermdy cerrig o'r 18fed ganrif gydag olion adeiladau allanol cynharach, ac mae gan Rhyd y Felin, Pwll Iago a Blaen-y-cwm adeiladau allanol cerrig o'r 18fed ganrif gyda ffermdy modern, ac mae ffermdy cerrig o'r 18fed ganrif Blaen-y-cwm - sydd bellach yn adfail - yn dal yno. Mae gan Bengwern a Thanyfoel ffermdy ac adeiladau allanol cerrig o ddiwedd y 18fed ganrif neu ddechrau'r 19eg ganrif. Mae bwthyn cerrig o'r 18fed ganrif a siediau tenement cysylltiedig yn Nant-yr-angell. Ffermydd gadawedig o'r 17eg/18fed ganrif gyda ffermdai ac adeiladau allanol cerrig yn Llwyn Onn, Ty Ucha, Ty Issa Cwmllech, Nant y Gwern, Ty'n-y-cablyd. Bwthyn gadawedig ac adfeiliedig o'r 18fed ganrif neu gynt yn ymyl yr eglwys ac i'r dwyrain o Ryd-y-felin. Ty cerrig mawr o'r 17eg/18fed ganrif gyda dreif a gerddi yn Llechwedd-y-garth. Mae'r adeiladau cerrig traddodiadol wedi eu codi'n benaf o lechi a sil a gloddiwyd yn lleol ond mewn ambell achos mae gan y tai a'r ysguborau sylfeini sy'n cynnwys cerrig crynion a gafwyd trwy glirio caeau, sy'n amgrymu'r posibilrwydd fod rhai ohonynt ar un adeg yn adeiladau nenffyrch neu ffrm pren a drowyd yn rhai carreg yn ddiweddarach. Ceir ysguborau ag estyll tywydd ym Mhwll Iago a Thanyfoel. Cofnodwyd elfennau o dai nenffyrch o'r canoloesoedd hwyr yn Nhrefechan a Thy'n-y-cablyd, ac ar un adeg roedd ty ffrm bren yn Nhy Ucha, ond fe'i hailgodwyd cherrig gyda charreg dyddiad, sef 1665. Ambell garafan wyliau.

Ar gyfer pori y defnyddir y tir yn bennaf yn awr, ond mae nifer o linsiedi dyfnion yn enwedig ar y caeau ar lethrau'r dyffryn sy'n dangos bod mwy o aredig yma ar un adeg. Caeau bychain therfynau sydd un ai'n rhedeg i fyny ac i lawr y llechweddau (weithiau'n dilyn nentydd llif cyflym) neu'n dilyn y gyfuchlin, a cheir terfynau hynach ac afreolaidd sy'n dangos bod y tir wedi ei gau yn ystod y canoloesoedd mae'n debyg. Mae enwau'r caeau, eu patrymau a phatrymau perchnogaeth y 19eg ganrif yn awgrymu bod yma gaeau agored creiriol o'r canoloesoedd mewn sawl rhan o'r ardal, gan gynnwys patrwm amlwg o leiniau i'r de o Bwll Iago. Mewn mannau eraill, mae'n debyg bod y patrwm caeau presennol yn dyddio o'r 16eg ganrif i'r 18fed ganrif. Yn gyffredinol, mae gan y caeau ar ochrau'r dyffryn bonciau clirio caregog hyd at tua 1m mewn uchter, gyda gwrychoedd o wahanol rywogaethau gan gynnwys bedwen, derwen, masarnen, onnen a draenen wen. Mae'r gwrychoedd ar ymyl y ffordd wedi eu torri'n isel ac mae eraill wedi gordyfu. Roedd llawer o'r gwrychoedd wedi eu gosod yn ffurfiol a gosodwyd rhai yn ddiweddar. Ceir dolydd isel, llaith chyrs fel arfer, gyda gwrychoedd helyg neu ysgaw sydd wedi gorfdyfu. Yma ac acw ceir waliau sych, cwymp ar hyd terfynau'r caeau isaf neu ar hyd y ffyrdd a'r llwybrau llydan. Gwelir olion terfynau llechi ger Ty Ucha. Ceir ysgaw talach a llwyni ysgaw yn dilyn dyfrffosydd. Mae darnau bychain o goetir derw a bedw hanner naturiol ar rai o'r llethrau serth. Ceir planigfeydd conifferaidd ar y llethrau uchaf ac mae fforestydd conifferaidd ehangach ar y bryniau uwchben. Mae helaethrwydd o gaeau gadawedig ar y llechwedd uwchben Llechwedd-y-garth, sy'n wynebu'r de, ac a gynhwysir yn ardal cymeriad Hafod Hir.

Mae'r ffyrdd troellog modern yn dilyn ceuffyrdd yma a thraw. Ceir pontydd ffordd modern ar draws afonydd a cheuffosydd ar gyfer nentydd ond mewn rhai achosion mae'n ymddangos bod yma gynaliadau hynach, ac mae'r enw Pont Pren Fain yn dangos lle bu pont bren gul gynt.

Mae enw'r fferm Rhyd-y-felin yn awgrymu bod yma felin ar un adeg ond nid oes unrhyw dystiolaeth wedi goroesi.

Cysylltir y dyffryn chwedl Melangell, nawdd santes eglwys Pennant, ar sail traddodiad llafar o'r canoloesoedd o bosibl, ac mae'r chwedl - a geir am y tro cyntaf mewn testun o ddiwedd yr 16eg ganrif - yn cyfeirio ar ei bellter o'r byd. Fel Cwm Blowty, cysylltir y dyffryn champau'r cawr o'r enw Cawr Berwyn, yn enwedig y bryn creigiog amlwg a elwir Moel Dimoel ar ochr ddeheuol y dyffryn.

Ffynonellau

Britnell 1994a; 1994b
Evans 1994
Hancock 1877; 1878; 1879
Lloyd 1934
Pryce 1994
Richards 1934a; 1934b
Silvester 1992

I gael gwybodaeth bellach cysylltwch ag Ymddiriedolaeth Archaeolegol Clwyd-Powys yn y cyfeiriad, hwn neu cysylltwch gwefan Cyngor Cefn Gwlad Cymru ar www.ccw.gov.uk.